O fryniau Caersalem ceir gweled
Mae O fryniau Caersalem ceir gweled yn emyn gan David Charles (1762-1834).
O fryniau Caersalem ceir gweled
Holl daith yr anialwch i gyd,
Pryd hyn y daw troeon yr yrfa
Yn felus i lanw ein bryd:
Cawn edrych ar stormydd ac ofnau
Ac angeu dychrynllyd a'r bedd,
A ninnau'n ddiangol o'u cyrraedd
Yn nofio mewn cariad a hedd.
Cawn esgyn o'r dyrys anialwch,
I'r beraidd Baradwys i fyw;
Ein henaid lluddedig gaiff orphwys,
Yn dawel ar fynwes ein Duw:
Diangfa dragwyddol geir yno,
Ar bechod, cystuddiau a phoen,
A gwledda i oesoedd diderfyn,
Ar gariad annhraethol yr Oen.
Mae ffrydiau gorfoledd yn tarddu,
O ddysglaer orseddfainc y ne';
Ac yno esgynodd yr Iesu,
Ac yno yr eiriol efe;
Y gwaed a foddlonodd gyfiawnder,
Daenellwyd ar orsedd ein Duw,
Sydd yno yn beraidd yn erfyn,
I ni y troseddwyr gael byw.
O fryniau Caersalem caf weled
Holl daith yr anialwch i gyd;
Pryd hyn bydd holl droion Rhagluniaeth
Yn siriol foddloni fy mryd:
caf edrych ar stormydd ac ofnau
Ar angeu dychrynllyd a'r bedd,
A ninnau'n ddiangol o'u cyrraedd,
Yn nofio mewn moroedd o hedd.