Oddi wrthyf fi yn bell na ddos

Mae Oddi wrthyf fi yn bell na ddos yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Oddi wrthyf fi yn bell na ddos,
Tra fo yn agos flinder,
I'm cymorth i, gan nad oes neb
A drotho ei wyneb tyner.


Tithau fy nerth, a'm Harglwydd da,
Nac ymbellha oddi wrthyf;
O! brysia, tydi yw fy mhorth,
A thyrd â chymorth heinyf.


Mynegaf finnau d' enw'n bur
I'm brodyr yn yr orsedd;
Lle mwyha'r gynulleidfa lân,
Dy glod a wna'n gyfannedd.


Trigolion byd a drônt yn rhwydd
At yr Arglwydd, pan gofiant;
A holl dylwythau'r ddaear hon
Ddônt ger ei fron — ymgrymant.


Y rhain a'u had oll yn un fryd,
Gwnant iddo gyd wasanaeth;
A'r rhain i'r Arglwydd drwy'r holl dir
A rifir yn genhedlaeth.