gan Dafydd ap Gwilym

Lle digirif y bûm heddiw
dan fentyll y gwyrddgyll gwiw
yn gwarando ddechrau dydd
y ceiliog bronfraith celfydd
yn canu englyn alathr,
arwyddion a llithion llathr.
Pellennig, pwyll ei annwyd,
pell ei siwrnai’r llatai llwyd.
Yma y doeth o swydd goeth Gaer
am ei erchi o’m eurchwaer,
geiriog, heb un gair gwarant,
sef y cyrch i nentyrch nant.
Morfudd a’i hanfonasai,
Mydr ganiadaeth mab maeth Mai.
Amdano yr oedd gasmai
o flodau mwyn gangau Mai.
ai’I gasul, debygesynt,
o esgyll, gwyrdd fentyll, gwynt.
Nid oedd yna, myn Duw mawr,
Ond aur oll yn do’r allawr.
Mi a glywwn mewm gloywiaith
ddatganu, nid methu, maith,
darllain i’r plwyf, nid rhwyf rhus,
efengyl yn ddifyngus.
Codi ar fryn ynn yna
Afrlladen o ddeilen dda.
Ac eos gain fain fangaw
o gwr y llwyn far ei llaw,
clerwraig nant, i gant a gân
cloch aberth, clau ei chwiban,
a drychafel yr aberth
hyd nen uwchben y berth;
a chrefydd i’n Dofydd Dad
a charegl nwyf a chariad.
Bodlon wyf i’r ganiadaeth,
Bedwlwyn o’r coed mwyn a’i maeth.