Oll synnwyr pen Kembero ygyd/Eaang ywr byd i bawp

Chware ac na vriw Oll synnwyr pen Kembero ygyd

gan William Salesbury

Hael Owain o bwrs y w­lad


EAang ywr byd i bawp
Eddunet herwr hirnos
Ef a ddaw haf ir ci coch
Ef a ddaw rhew y lyffant
Ef aeth hynny ar gyrn a phibeu
Ef a chwery y map noeth ac ny chwery y map newynoc
Ef a wyr dyn pan el at ny wyr pan ddell
Ef wyr y cath pa varyf a lyf
Ef vynner r cath pyscot, ac ny vynnei wlychy i throet
Eiriach law ac nac eiriach droet
Eiriol ni charer ni chyngain
E las a gauas rybydd, ac ny las ai cymerth
Elid yscupor can ddrycdorth
Elid y wrach ir vreu er i genau
Elid bryd yn ol breuddwyt
Elit gwraic yn ol i henllib
Elit ryw ar barth pan yw
Elit llaw can droet
Enw eb senw
Enwoc meichiad oi voch
Enwir divenwir i blant
Ehegr vydd dryglaw i amwyl
Escit drygddyn yn tuy arall
Esmwythaf dim yw methy

E volir pawp wrth i waith
E gaiff dyn dysc oe vebyt hyd i henaint


FAwd pawp yn i dal
Fol pop tlawt
Fordd bell i wr o Benllyn
Fo rac dicter, ac na fo rac drwc arglwydd
Fiaidd pop peth ny charet


GAdael y nos ddywaythaf yn olaf
Gair gwr o castell
Gair gwraic val gwynt yn va­wadaw
Gelyn i ddyn i dda
Gellwng drygwr i yscupor gwrda
Gochel tauern ac na ochel ildio
Goddiweddit hwyr vuan
Goval dyn, deo ae gweryd
Gogany r bwyt ae vwyta

Golwc deo ar adyn
Golwc serchoc syber vydd
Gorau can vy mam i lladd
Gorau ywr gwarau tra ater
Gorau enw Mi piau
Goreu gwrthwynep, gwrthwy­nep etewyn
Goreu gwrthwynep gwrthwy­nep kwys
Gordmodd bw ar ebol
Grawn cupydd a ys glwth
Gwac tuy eb vap
Gwae a dro o glun i glun ac ny veddo peth i hun
Gwae a vynn mefyl et pechat
Gwae a vo i vefyl yn i vonwes
Gwae a gawdd Deo, ac nis cred
Gwae a wyl i arglwydd beunyd
Gwae a wnel da i ddioc
Gwae ouerwr yn cynayaf
Gwae a gaffo drygair yn ie­uank
Gwae ieuank a edduno henaint

Gwae wr a gaffo dryg wraic
Gwaythaf ir yd ryfel teisban
Gwaythaf ystor, stor o verch
Gwaethwaeth, val map cafr
Gwas da a gaiff i le
Gwatwar dydd am waith y nos
Gwaith nos, dydd ai dangys
Gwayw yncalon can hiraeth
Gwala gweddw gwraic vnben
Gweddill map iach
Gweddw crefft eb i dawn
Gweddw pwyll eb amynedd
Gwelius nid diddolur
Gwelet deubeth or vn
Gwelet i clust ae lygat
Gwell aros, no mefyl gerddet
Gwell am y paret a derwydd nac am y tan a diriait
Gwell bedd na buchedd anghe­uol
Gwell eidiō gwerth nac vn pryn
Gwell y ddyn y drwc, a wyr nar drwc nys gwyr

Gwell i wraic y pyscotwr nac i wraic y gwynvydwr
Gwell can hwyr na chan voreu
Gwell gochell mefyl na e ddial
Gwelly gwr a ddeuth ympen y vlwyddyn nar gwr ny ddeuth byth
Gwell gwae vi na gwae ni
Gwell gwichio or coludd na chochi or ddeurudd
Gwell gwegil car, nac wynep e­stran
Gwell gwr na gwyr
Gwell y tynn gwraic na Raff
Gwell hen ddlet na hen ala­nas
Gwell hir weddtot na drwc wra
Gwell car yn llys nac aur ar vys
Gwell kyngor hen na i vayddy
Gwell clwt na thwll

Gwell coginaeth na brēhinaeth
Gwell map ieuank doeth na brenhin hen ynvyd
Gwell mayn garw am attalio nar maen llyfn am gellyngo
Gwell marw no mynych ddifr­od
Gwell naac, no gau addewit
Gwell nerth dwywrach nac vn
Gwell penloyn yn llaw, na hwy­ad yn awyr
Gwell pren, na dyn kyhuddgar
Gwell trann Ofyn, na ran Kary
Gwell vn gair ym blaen, na dan yn ol
Gwell vn keidwad, na dau ymlidiad
Gwell vn Hwde, no dau Ti gai
gwell ychydic gan rat, no llawer gan Afrat
Gwell ynckyscot y gawnen, nac eb ddim
Gwell ym blayn yr Iyrchot, nac yn ol yr Hyddot
Gwell y wialen a blycko na hon a dorro

Gwell yw drygsaer na drwg of
Gwell yw drygsaer na drwc daliwr
Gwell ywr ki a rodio nar ci a ei­steddo
Gwell yw toliaw na huriaw
Gwell yw Deo na drwc obaith
Gwell yw Deo n gar, na llu y ddaiar
Gwyrthvawr pop odidoc
Gwerthy cic twrch a phryny cic hwch
Gwneuthyr deuddrwc or vn
Gurthod gohadd, a dyuot i west
Gyr vap, cat nac
Gyrry bran i geiso tir
Gyrry y cyn a gerddo.