Oll synnwyr pen Kembero ygyd/VVilliam Salesbury wrth y darlleydd Camberaec­gar

Oll synnwyr pen Kembero ygyd Oll synnwyr pen Kembero ygyd

gan William Salesbury

Abyl i pop peth ae bodlono

VVilliam Salesbury wrth y darlleydd Camberaec­gar.

WRth ryw drawsdrei­glo dysymmwth ar vy lly­freu golegur: e ddamwny­niadd y myuy caffael Copi o ddiarebion Camberaec, y ddaroedd y myuy y daer-copio am llaw vy hunan o vn o lyfreu. Gruffyth Hira­ethoc, prif prydydd o Wynedd. O bleit tu a thair blynedd weithan i Kalan-Mai diwethaf, y dygwyddadd arno gyttall cydymddaith fordd a myuy o Cymbry hyd yma. Ac yno y brith letre­teis copio hyn o ddiariebion oe lyfyr ef megys y doedeis yr awrhon ym blaen­llaw. Ac o llatreteis nyd gwaeth y lyfer ef ddim (o bleit e roesadd i venffyc ei ddarllen ac ei deimlo eissoes) ac nyd an­llai niuer y diarebyon anyd ynt vwy: eb law cahael trwy r llatrat yma meuvy, mil o Cymbry ddysceidaeth, llesahad, a diddanwch o ywrthaw: Pwy rei (a nys darvu yddyn ddigenetly yn rybell) a ddoedant heuyd Hawdd amor etto i Gruffyth Hiraethoc dros y ddiarebion Ac och ddeo (meddaf vi) na byddei cyn­niuer ar a vedd oll Cembry o lyfreu or iaith (rei y vei gwiw) wedy r lladrata or modd hynny. Ac e vyddei haws i Cem­bro ddeall y pregethwr, wrth pregethy gair Deo. E vyddei haws o lawer, it prechethwr traythy gair Deo yn ddeal­lus, Ac a vyddei haws i wr dyscedic o Cambro wedy bod yn hir allan oe wlad, ac anghynefino at iaith, cyfieithy iaith arall, ar iaith einym. Ac am hynny ato­lwg y chwy nyd er vy mwyn i, a nyd er mwyn Deo, nyd er pleser na serch arno vi, anyd er carat ar ddeo, er lles ych eneit­ieu ych hunein, er tragyvythawl glod ywch (y sawl ae gwnel) a dianck o yw­rth poeneu yffernal, pop vn o hanawch ys ydd yn meddy nac y perchenogy lly­freu n y byd o iaith Camberaec, atto­lwg ew cludo at pwy ryw sawl Gym­bry pynac a vo hyspys genwch i bod yn darbod yn naturial tros ymgeledd gw­ladwrieth yr vnryw iaith. Oh y pa peth ydd yngeneis i am wladwriaeth, can na ys gwyr Kymbro heddyo o pa han yw gwladwriaeth. Ond etwa er­uyn ac atolwg ychwy gludo ych llyfreu (bid wyn dda bid yn ddrwc) at y ryw ymgleddgar wladwyr a hynny. O bleit megys y meidyr y wenynen hela mel ar yr vn llyseun ac yr hela y prycopyn wenwyn: velly y meidrant wythe wue­uthy defnydd da melyswiw, or llyfyr gwaythaf ac or araith vustlaf ac ouer­af y sydd ar ych elw mewn escriuen. I ba veth y gedwch ich llyfreu lwydo me­wn coggleu, a phryfedy mewn ciste, ae darguddio rac gweled o neb, a nid chw­ychwy ech hunain? O bleit o ran ych bod chwi yn darguddio hen lyfreu ych iaith, ac yn enwedic y rei or yscrythur lan, nyd byw r Cembro er dyscedicket vo, a veidyr iawn draythy r yscrythur lan y chwy yn Camberaec, can y breg­nach ar y priniaith ydd ych chwi yr oes hon yn gyffredin. A ydych chwi yn tybi­eit nat rait amgenach eirieu, na mwy amryw ar amadroddion y draythy dy­sceidaeth, ac y adrodd athrawaeth a chelfyddodeu, nag sydd genwch chwi yn arueredic wrth siarad beunydd yn pry­ny agwerthy a bwyta ac yfed? Ac od ych chwi yn ty byeit hynny voch tuyller A chymerwch hyn yn lle rybydd y cenyf vi: a nyd achubwch chwi a chweirio a pherfeithio r iaith kyn daruod am y to ys ydd heddio, y bydd ryhwyr y gwaith gwedy. Ac a ny bydd dysc, gwybodaeth doethineb. a dywolwch mewn iaith, pa well hi na sirmwnt adar gwylltion, ne ruat aniueilieit a bwystuiloedd? O ble­it e veidyr yr adar ar aniveileit, trwy eu siarat ae bugat, ddyall y gylydd yn hys­pys ym pop chwedyl a vo yn perthyn ynghylch i trwyddet ai hymborth a hanas i cyrph: ac a wddant ym-blaen llaw yn well nag y gwyddoch chwi, pa ryw ardymmer vydd ar yr hin, a llawer o ryw wybyddieth a hynny. Ef wyr lla­wer Nasion y saith gelfyddyt, or ny chlypu er oed o ywrth Christ. Ny wydd­och chwi er ech ehud cymmendot, nag vn gelfyddyt perfeith, na dim yn iawn ddilwgyr o fydd Christ. Ond gwrande­wch chwi etto pa peth a ddywedaf ui wrthych chwi, y sawl ny bo gobeith y­wch ar ddyscy saesnec ne iaith arall y bodysc ynthei: Gwrandewch (meddaf) pa ddywaewyf wrthych: A ny vynwch vynet yn waeth nag aniueilieit (y rain uy anet y ddyall mal dyn) mynuch ddysc yn ych iaith: a ny vyunwch vod yn v­wy annaturial na nasion y dan haul, hoffwch ych iaith ac ae hoffo. A ny vy­nwch ymado yn dalgrwn dec a fydd Christ, a ny vynwch yn lan fyth na bo ywch ddim a wneloch ac ef, ac any vyn­nwch trosgofi ac ebryfygy i ewyllys ef y gyd achlan, mynwch yr yscrythur lan yn ych iaith, mal ac y bu hi y gan ych de­dwydd henafieit yr hen Urytanueit. Ei­thyr gwedy wynt wy, pan ddechreod ych Rieni chwi, ae gohelyth wynt, (mal ydd hyspysa hen Cronicls) ddiyst yry a diurawy am yr yschrythur lan, a gada­el i llyfreu hi y orwedd yn gwrachot lly­chlyt mewn congleu didreigl ddyn, ac ystewy a moliant Deo, a hoffy cloduory eu enw ehunain: yd aeth Deo ac a bar­add yddynt gael i galw yn aliwns ac yn estron genetl yn y ganedic wlat ehunain ac a baradd yddynt gasay a fieiddio ia­ith i mammeu, rac dyscy o hanynt drw­yddhi y iawn adnabot ef, a rac bot trwy hynny yn catwedic. A llena weddill yr hen vellith ddeo er yn oes Kad-waladr vendigeit. Ond o mynwch ymwrthot ar hir vaith velltith hono, gestyngwch ar dai glinieu ych calon y erchi gras ar ddeo. Pererindotwch yn droednoeth, at ras y Brenhin ae Gyncor y ddeisyf cael cennat y cael yr yscrythur lan yn ych ia­ith, er mwyn y cyniuer ohanoch or nyd yw n abyl; nac mewn kyfflypwriaethy ddyscy Sasnaec. Ond pe bysei rei om gwlad mor vwynion a gady ar vy elw yr eino vyhun, mi a wnethwn (a gat­wydd) o vudd ac o les kyffredyn mewn suwt betheu a vedryswn a ryw Cem­bro arall. Ond yr owrhon can yddint vy anreithio am espeilio mor llwyrgwbl. yn lle gweithret ny d allaf vi. hayach ond ewyllysy twrn da im gwlad, ac er­uyn y ddeo ddanfon yspryt gwell yn ca­loneu vecgwrthnebwyr. Ac am hyn o weithret sef am gyffredino hyn o ddia­rebion, ny ddylaf vi ddim angwanec diolch genwch mwy nag vn a godei y gwerchyr ne gayad o yar saic ne phial a ddygsit geyr ych bron. Eithyr (pe vei na thal na diolch yn yr oes heddy am vath petheu) e ddylye Gruffyth Hirae­thoc (pwy trwy ddyual y afrifed a thro­lythyr a poenws yn clafcy, yn cynull ac yn helkyd yr oll ddiarebion hyn yr vnl­le) gahel y ryw ddiolch ac a hayddei vwn a vyddei yn kyrchy at traws byt, ac yn arwein pop ryw oreusaic ac ew do dy yn rat geyr ych bron. Bychan ac o­uer genwch chwi ywaith ef ar hyn yma o orchwyl, tu ac at perfeithio r iaith. Ond im tyb i, nyd bychan o gymporth tu ac at adeilat tuy, yw cludo y sylueini, ae goet, ae gwnio, ae gody, ae roddy dan y wydd. Ac atolwc (o chreffwch yn dda) pa peth amgenach yw diarebion mewn iaith, na sylueini, na gwadne, na distie, na resi, na chyple a thrawste, ua thuyla­the a nenbrenni mewn tuy? A nyd yr vn nerth yw diarebion y gynal yr iaith, a r escyrn y gynnal y corph? A nyd yr vn pryduerthwch yw diarebion mewn ia­ith, ar ser yr fyruauen? Ac a nyd yr vn fy nyt yw diarebion mewn iaith a gēme, a main gwyrthuawr ymplith caregos fathredic? Je pa beth yw diarebion a nyd ryw wreichion o anueidrawl ddoe­thineb Deo, y ar ddargos gwneythyr dyn gynt ar lun y antraethawl ddelw ef? Ac y vyrhay, pa peth amgenach me­ddaf yw diarebion, anyd dywediadeu byrrion synnwyrol kyngorus o rei ny chahad vn er oed yn palledic: yn y rhein yr ymgyffred ac y cynnwysir oll synw­yr a doethineb yr iaith ne r nasion ae dy­chymygawdd yn gyntaf. Ac am hyny y galweis y llyfer hwn o ddiarebion Cam berace, yn synnwyr pen Cembro. Mi a alleswn (ac ny besei rybell chwaith o ywrth y testyn) y alw yn Eneit yr iaith ne yn Meirion Camberaec: anyd bot yn cyssonach y cenyf vi yr enw arall. Er hynny y gyt, a bydd anuoddus na chyr­tith y can nep yr enw, newidet yn y ba­tydd escop. Hefyd a bydd vn ddiareb o hanynt mor tywyll (yn aill ai y can he­neint yr iaith, ai o ran llediaith y vro, ai o neullturwydd synnwyr y dychymy gydd kyntaf. ai o cam traethiad tauod yr andyscedic, ae ynte o ba ryw achos pynac arall) gouyunwch yr pen awdur hwn a lavuriadd yn y peth: ac nyd an­kyffelyp vyddwch y gahel gwybyddi­eth deonglus a synnwyr ddeallus y can thaw. O bleit megys (od yspiwch yn dda) y darparws ef ynddyscedic wrth, gynull y diarebion hyn oll, e gesot wy mewn gwedd ac ordr tra threfnus. volly may n ddiogel, na bu ef mor anynat nac mor sceulus nad ymchwetlws e yn vanolgraff ympale, a phwy, a pha am­ser y traethwyt pop vn o naddynt: ac ia­wn hanas gyd a hynny. Ac etwa vyth, rhac y chwy tybieit, vot gwaith y Kem bro gwladwraidd hwn ar hyn orchwyl mor wael, mor ddisynnwyr, ac mor an­wyw ac na hayddei vnwaith gramersi. Gwybyddwch chwi yn ddinam yr hen vrytanieit dyscedic trauailio ynghy­lch yr vnryw waith. Megis y gwnaeth gwedill yr Athraon dyscedic pwy gy­nullwyt y wneythy Kyfraith Hoel dda. A megys ac y gwnaeth y dy­scedic vardd pwy a gant Englynion yr eiry: ac Eneruin Gwowdrydd pwy gant Englynion y misoedd, y reyn oll sydd yn llawn diarebion, eithyr we­eu plethy mor vwyn ac mor gelfyddy­dys a synnwyreu sathredigion (mal yn wyddor ar draethawd ir popul anlly­thyrennawc) ac na wyr nemor o ddyn vaint o ystryriol dywysogaeth coffadu­riareth sydd ynthynt. Uelly y gwnaeth gwr dyscedic (a elwir John Heywod) yn Sasnec er mwyn y Sason gwyr y wlat ef. Eithyr Polydorus Uergilius gwr a han yw or Ital sef o wlat Ruue­in ac vn or dyscedickaf heddy o wyr llen Lloect, (kyd nad da i air i Cembro) ea glascadd lawer o ddiarebion yn Ltatin ir vnlle. Either Erasmus Roteroda­mus yr athro dyscedickaf, huotlaf, ac awdurusaf yn Cred oll or a vu in oes ni ac ys llawer oes or blayn, efe a clascadd nyd cant, nyd mil, nyd lleng, nyd myrdd nyd Riallu, ac nid buna anyd caterua vawr o ddiarebion Groec a Llatin, ac ae kyfansoddes yn vnllyfr, megys ac y gwnaeth en bardd ni yma. Ac a dyby­gwch chwi y byddei gwyr kyn pwyllo­cket a reini, kyn ddyscedicket a rein, a chyn arbennicket a hwn, mor ddiwaith a phoeni yn cwlymmy mytroed godi­doc, ac yn escriueny llyfreu lluosawc, a ny bysei yddynt a rac wybot a deall ym blaenllaw vod dirvawr profit, budd anueidrawl, a lleshad afriuet yn tyfy yr darllēodron ae ymaruerynt? Ac welly os ynuyd y rein ackw, ynfyd yw hwn: ie ac as doethiō y rein ackw, paam nad doeth hwn, ac ynte yn dylyn yr vn athr­awaeth ac wyntwy? Pop oes a adaw­odd Maugant, Merddin Embris, a Thaliesin ef a Merddin wyllt eu ddis­cipl, ac Ystuduach vardd yn ddoethion yn ddyscedic ac yn gymen. A may o wa ith y bardd hwn, amryw vydroedd ei­thyr yn Cemberaec yn cystal eu deu­nydd ae dyual, a nyd bot yn well eu cyt­can, ac yn vanylach y gerdd na yr eino yr hen Brytanait y pwyllwyt o hanynt vchot: kyt byddeitra can moledic eu gw aith. Ac os ie, paam o ddieithyr ych bod yn aniueilieit, na ddiolchwch y ddeo vod yn ych oes y ryw athro kelfyddus y addurnaw ych iaith? Ny bu ac nyd yw prydyddion ereill anyd yn cany dernyn o gywydd (i bwy bynac vo) o chwant derbyn: lle nyd yw ef yu vnic ae awe­nyddgerdd ysprytol yn moly pendeui­gion gwledydd, o ran eu bonedd dile­dryw, ae rinweddeu ardderchawc: ei­ther bod hefyd yn helpy, yn kymmorth ac yn achup yr iaith rac lledle anyscora­wl, a diuancoll tragyuythawl. Ac am hynny, o gedwch chwi yn ddiddarwbot am dano, a gedwch eb anregy, ei vaw­rhay, at volyanny, pau ddel ar ych tu­edd, nyd han yw ddim honoch or wlad­wriaeth Uritaneidd, ny ddeiridych a­frywoc campe, ae daonus gynneddfe: ac as yr vn tal sydd genwch y odechwr ys­clethan, ac y weithwr gwrddlan. Ac as chwitheu a wnewch ych ran ach dyw­ti, sef yw hyny: kynal o hanoch y dys­cedicuardd hwn ef ae tuylu, mor parche dic anrydeddus, ac y may ef yn darpar peri ych iaith: a bod mor ymgledgdar ddarbodus o hono ef yn ych plith, ac yw ef, nyd yn vnic o hanoch chwir oll wlat or to sydd heddyw, and tros ych plant, ych wyrion, ych gorescenydd, ych gor­cheifn, ach goreiddin, ach gohelyth hyd byd dyddbrawd. Ac os chwchwy hefyd a ddylyuwch pwyll diarebion y llati­nwyr ys ef Honos olit artes ac Uirtus laudata crescit pa yw, Anrhydedd ne va wrhant a vacka gelfyddodeu, A Rin­wedd o chanmolit a gynydda: ef allei y kynnyrchei ac y llewychei mwy o ddys ceidaeth dda, ac o gelfyddodeu at arben­nic a gwybyddieth ysprytal yn ych mysc rac llaw, trwy nerth Deo goru­chaf. Ac velly bo, ydd archet pop Cem­bro Camberaec gar. O ddeo na allei pop dyscedic ddoedyt am ei iaith mal y dyuod Dauid ap Gwilim am Uoru­ydd: nid amgen,

Cof am gariad taladwy
Ni ddyly hi y mi mwy.