Owen R Lewis (Glan Cymerig) Perl y Plant 1910
← | Owen R Lewis (Glan Cymerig) Perl y Plant 1910 gan William Lewis (Gwilym Berw) |
→ |
Y PERL.
MR. O. R. LEWIS, "GLAN CYMERIG."
GWN yn dda ddigon y bydd darllenwyr PERL Y PLANT, o'r Golygydd i lawr at y darllenwr ieuangaf oll, yn llawenychu weled y darlun uchod o 'Glan Cymerig.' Cân lawer, a chân yn dda. Cân auaf a haf; 'Gwyl Fair' a Gwyl Fihangel. Yn wir, dyry gân bob mis, ac yn amlach na hyny. Difyr i ddarllenwyr y PERL fydd cael ychydig o'i hanes. Mwy, bydd yn lles iddynt. Mae hanes gwr da, megis enaint gwerthfawr, yn perarogli bywydau eraill. Nid rhyfedd ei fod yn fardd, ac yn fardd da. Ganwyd ef ger Tremadog, yn Eifionydd. 'Does unman fel Eifionydd, am fagu beirdd. Dyna fro Dewi Wyn, Pedr Fardd, Eben Fardd, Robert ap Gwilym Ddu, Ellis Owen, Ioan Madog, a Gwilym Eryri. Yno hefyd y clywid Nodau soniarus Sion Wyn.' Wel dyna lle magwyd Glân Cymerig nes oedd yn hogyn deg oed. Y pryd hwnw symudodd ei rieni sef Isaac ac Ann Lewis, i fyw i Rhos-y-gwaliau ger y Bala. O ganol murmur afon 'Cymerig,' y cerddai bob bore i Ysgol Ramadegol y Bala. Yn yr ysgol hon bu yn cyd-ddysgu a'r diweddar Thomas Ellis, Cynlas, cyn aelod seneddol Meirion, O. M. Edwards, Rhydychain, a'i frawd E. Edwards, Aberystwyth. Nid pob bardd Cymraeg gafodd gystal addysg a 'Glan Cymerig.' Ceisia ef ddweyd iddo adael ei holl Ladin ar ol yn yr ysgol. A chaniatau hyny, na chwyned ddim; dyna'r golled leiaf yn y farchnad. Tua'g ugain mlynedd yn ol priododd, a byth er hyny yn Nhref y Bala y trig, mor ddibryder a dedwydd ag ungwr yn y dref. Mae yn fardd cadeiriol; a medd amryw dlysau arian ac aur. Ei hoffion yw cân, cwn, cathod, blodau a pharabl adar. Dyna sydd yn cyfrif am ei ddawn i ganu i blant. Mae yn Eglwyswr pypyr. Bob amser wrth ei fodd yn gweithio er hyrwyddo llwyddant yr Eglwys. Y sel a'r gweithgarwch hwn barodd. i'w gyd-Eglwyswyr ei ddewis yn Warden er's rhai blynyddau. Lleygwyr o'i fath ef yw angen mawr yr Eglwys ym mhobman,
Nid diogwyr yn digio,
Gweithwyr tawel fel y fo.
Mae hefyd yn gredwr yng ngallu a dylanwad y Wasg. Yng ngrym y gredo hono yr ysgrifena i'r HAUL, Y LLAN, Y PERL, a'r CYFAILL EGLWYSIG. Gwyn fyd na cheid rhagor o leygwyr ac offeiriaid i wneyd yr un peth. Heblaw bod yn Eglwyswr a bardd; mae hefyd yn nofelydd gwych. Efe ysgrifenodd 'Aeres yr Hendre Du' i'r Cymru; a 'Gwylliaid Cochion Mawddwy'i gyhoeddiad arall. Hwyrach ŵyr dyn, mai y peth nesaf fydd nofelig ddifyr a sionc i BERL Y PLANT. Bu am flynyddau yn aelod o'r "Cynghor Dinesig," ac efe yw ysgrifenydd Cymdeithas Geidwadol' y rhan hon o'r Sir. Flynyddau yn ol, cyhoeddodd lyfr swllt o'i ganeuon. Eiddunaf iddo fywyd, iechyd, a hamdden i wasanaethu ei Eglwys a'i genedl am lawer o flynyddoedd.
Yn wyn ei fyd, a glân ei foes,—pur hir
Parhaed fel mae eisoes.
A dianair dreulied einioes,
Yn ŵr da iawn ar hyd ei oes.
Abergynolwyn.GWILYM BERW.
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.