Ym Mhriodas Noel a Nia Davies Pam

gan Robin Llwyd ab Owain

Ar Enedigaeth Heledd Haf
Cerddlun wedi'i fframio, Mehefin, 1982; cyhoeddwyd gyntaf yn Y Bedol, Mehefin 1982). Ffynhonnell: barddoniaeth.com; gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr. Cyhoeddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.

Rhyw ddieithr wer a ddaeth ar hyd
Storiau byw ffenestri'r byd,

Gan haenu'i gen ar y gweinion gwiw
A chwyro'i lwyd ar bob chwarel liw.

Ond rhag unoliaeth ein dynoliaeth ni
Y bwthyn yw'r hyn a adleisia'n cri

Drwy warchod hen ryfeddod drud
Storiau byw ffenestri'r byd.

A rhodia'r iaith i droed y rhiw
I gadw'r llwyd o'r gwydyr lliw.