Patrymau Gwlad/Ar Ynys Iâ
← Y Penllâd | Patrymau Gwlad gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Y Prif Ddirgelwch → |
AR YNYS IÂ
(I Wleidyddwr)
Er ffrindiau sy'n ei adael o
Gan hedeg ymaith mewn ynfydrwydd
I'r Chwith neu'r Dde, fel adar to,
A'u hwyneb adref o'r enbydrwydd;
Saif wrtho'i hun ar ynys iâ
A'r poethder yn ei chyflym doddi;
Ydy' o ar ddiflannu? Na,
Rhy heini fydd er hyn i'w foddi.