Patrymau Gwlad/Ieuan Brydydd Hir
← Carpe Diem | Patrymau Gwlad gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Thomas Stephens → |
IEUAN BRYDYDD HIR
WIBIOG etifedd awen fyw ei wlad
A garodd dramwy drwy gyfnodau pell,
Lloffion o gynaeafau oesoedd gwell
Ydoedd ei unig olud a'i fwynhad.
Croesodd werinol drothwy tŷ ei dad,
A gwybu ffrewyll aml ystorom hell,
Ond cwmni'r anfarwolion yn ei gell
A leddfai siom, a thlodi, a thristad.
Dal gwg o draw ar blant athrylith wir
A wnai yr Esgyb Eingl, rhwysfawr eu gwedd
Yng Nghymru gynt, a throi ar grwydr o'i thir
Yn ddall i'w ddoniau, Ieuan Brydydd Hir.
Heddiw y crwydriad yn ei fro a fedd
Glod a diwyro barch, a daear bedd.