Patrymau Gwlad/Wil a'i God

Chware Teg i Iolo Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Calendr Meinwen

WIL A'I GOD

E FARW Wil, cefnoca'r fro—a gadael
Y god a oedd ganddo,
A daeth bagad yma, do,
O'i dylwyth i gyd-wylo.

Ar ei elor oer wylant—ac ar fin
Gro'i fedd ocheneidiant,
Ond, rhwng dyfnion gŵynion gant
Ei goden a lygadant.

I elw ei rym Wil a rodd—a'i hir oes
Ddi—wraig a gysegrodd
I'w ddilyn, ac addolodd
Y garn o aur a grynhôdd.

Am ei god pa ymgydio!—a'i dylwyth
Yn dal i ymruthro
Ym modd y Fall am eiddo
'R enwog Wil, druan ag o!


At hyn, fel barcutanod—ar antur
A wyntia furgynnod,
Ym merw gwanc am aur y god
Daw'r anniwall dwrneiod.

O aeth mawr y tylwyth, mwy—pa lefain!
Gyrr plufwyr bras arlwy—
Annidwyll hil ofnadwy—
A'r god o aur gyda hwy.



O hyd 'e lŷn dylanwad—Wil a'i aur
Er eu blin ddiflaniad
Yng nghweryl ac anghariad
Chwerw ei lwyth hyd ochr y wlad.

Nodiadau

golygu