Patrymau Gwlad/Y Bardd
← O'r Ffau | Patrymau Gwlad gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Tremio i Maes → |
Y BARDD
Ni threcha llymder na thrwch holl amdo
Niwlog y dyffryn ei lygad effro,
Ond nwyd ei enaid a naid ohono;
Pwy na'i gwêl? Awen wemp yn goleuo;
Bardd a'i annedd bridd heno-megis rhith,
A thanau athrylith yn ei threulio.