Peraidd ganodd sêr y bore
← Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd | Peraidd ganodd sêr y bore gan Morgan Rhys |
Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
196[1] Genedigaeth y Ceidwad..
87. 87.47.
1 PERAIDD ganodd sêr y bore
Ar enedigaeth Brenin nef;
Doethion a bugeiliaid hwythau
Teithient i'w addoli Ef:
Gwerthfawr drysor!
Yn y preseb Iesu a gad.
2 Dyma Geidwad i'r colledig,
Meddyg i'r gwywedig rai;
Dyma Un sy'n caru maddau
I bechaduriaid mawr eu bai:
Diolch iddo
Byth am gofio llwch y llawr.
Morgan Rhys, Sir Gaerfyrddin (?1705-1779}
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 196, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930