Pererindod Heddwch/Taith yr Anialwch
← Y Ffydd a Ffeithiau Rhyfel | Pererindod Heddwch gan George Maitland Lloyd Davies |
Heddwch Fersai → |
PENNOD II
TAITH YR ANIALWCH
Y Ffordd Arall. Datgysylltiad. Yr Heddychwyr. Y Senedd Ryddfrydol. Heddychwyr Cymru. Anturiaeth y Cymod. Y Creaduriaid. Sosialaeth a Heddwch. Llonyddwch Llŷn. Llysoedd Barn. Dan y Ddeddf.
Y GENHADAETH HEDD
YSGRIFENNAIS a ganlyn ar lun profiad o bererindod bersonol, dan yr argyhoeddiad na cheir gwir heddwch heb gyfeillgarwch, ac na cheir cyfeillgarwch ond trwy gyfuniad a chyffyrddiad personol. Nid digon gan ddyn "egwyddorion cyffredinol" y pen, heb deimladau'r galon, a gweithrediadau a gwrthdrawiadau bywyd. Nid anghofiaf fod y gwirioneddau mwyaf wedi eu cyfleu i ddynion ar lun storïau, damhegion a hanesion, a ddangosai fywyd ar ei hynt, a phersonoliaeth yn ei waith. Modd bynnag ni ddysgais fawr mewn ysgol, ac nid oes gennyf na dull na dawn ysgolheigion. Yr addysg orau a gefais oedd atgofion amlochrog fy nhad a'm mam, sgwrs aelwydydd, cartrefi a chyfeillach, a chymdeithas y saint o lawer llun a lle.
Y FFORDD ARALL
Nid Doethion y Dwyrain yn unig a orfodwyd i ddychwelyd i'w gwlad "ar hyd ffordd arall" wedi gweled y Mab, a deall cenadwri Duw. Fe ddywedir bod pob dyn, rhywdro a rhywfodd yn ei fywyd, yn cyfarfod Crist ar Ffordd Damascus. Felly finnau. Cyn y rhyfel yr oeddwn yn gyfaill ac yn gydweithiwr a'r Arglwydd Davies Llandinam yn ei gynllun- iau eang i wella cyflwr Cymru. Ymdaflodd eisoes i ymdrech genedlaethol yn erbyn y Pla Gwyn, trwy hyrwyddo sefydliadau ac ysbytai arbennig ar hyd a lled y wlad i wella'r cleifion ac i chwilio achosion y darfodedigaeth alaethus yng Nghymru. Cafwyd yn fuan nad diffyg yn y cyfansoddiad dynol oedd yr achos mawr tu ôl i'r clefyd, ond diffyg awyr iach a thai iach. Wedi cwrs o adferiad hir a chostus mewn sanatoriwm dychwelai'r claf i'r tŷ slymaidd neu afiach, a chlafychai drachefn. Felly gofynnodd i mi gydweithredu ag ef a cheisio myned at wreiddyn y drwg trwy adeiladu nifer o faesdrefi (Garden Villages) yng Nghymru er mwyn egluro i'r wlad beth oedd yn bosibl ac yn ymarferol i godi tai rhad, iach a heulog a chyfleus a hardd. Cawsom wasanaeth gwŷr dyheig fel Syr Raymond Unwin a T. Alwyn Lloyd a ddaeth yn bensaer i'r Welsh Town Planning and Housing Trust. Adeiladwyd yn ystod y blynyddoedd rai miloedd o dai heirdd a threfnus i weithwyr mewn maesdrefi yn Wrecsam, Rhiwbina, y Barri, Burry Port, Llanidloes, Machynlleth, a llawer man yn Lloegr. Yr oedd ffordd- lydan gwasanaeth gwlad felly yn agored led y pen, gyda chefnogaeth teulu dyngarol a chyfoethog, a chyfarwyddyd a chydweithrediad rhai o wŷr enwog Cymru—megis Arglwydd Kenyon, Arglwydd Treowen, Syr Stafford Howard a Syr Lleufer Thomas, ac eraill a gymerai olwg eang ar drefn a chynhaliaeth yr anturiaeth.
Cefais hefyd bob croeso a chymorth, trwy Syr Herbert Lewis a Syr Hugh Owen, gan Weinidogaeth y Llywodraeth Leol. Teimlais, wrth weled y pentrefi hardd yn codi, a gerddi digonol a choedydd prydferth o'u hamgylch, fy mod yn cyffwrdd realiti yng Nghymru, ac yn gosod sylfeini'r ddinasyddiaeth newydd. Yr oeddwn hefyd yn Lieutenant yn Nhiriogaethwyr yr R.W.F., yn hela llwynogod, yn aelod eglwysig, ac ar delerau da â'r byd. Yna treiglodd ffrwd y bywyd personol dros fy ffordd lydan; yfais o'i dyfroedd, cloffais rhwng dau feddwl, clafychais gan benbleth, chwiliais yn ddyfnach i ogofeydd cymhellion a bywyd nes cyrraedd y tywyllwch eithaf. Ac yn y fan honno y daeth goleuni Crist a darganfyddiad o'i eiriau mai amod ei ddisgyblaeth oedd ufudd-dod: "Os cerwch fi cedwch fy ngorchmynion"-nid teimlad, na chyffes, na phroffes, na gwaith. Gwybod a gweithredu oedd trefn addysg y byd. Gweithredu a gwybod oedd trefn yr Efengyl: "Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys Ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth." Ac, o beth i beth, deuthum o anobaith a thywyllwch i oleuni gyda hyn-megis "angor yr enaid"-mai cariad personol Crist oedd yn cadw ac yn cymodi, ac mai cyfeillgarwch personol, ac nid clod nac anghlod y byd, oedd yn cyfrif yn y pen draw. Pan welais gyntaf yn 1915 ddatganiad Brawdoliaeth y Cymod mai cariad, fel y'i dehonglwyd ym mywyd a marwol aeth y Gwaredwr, ydoedd yr unig ffordd i gael gwir fuddugoliaeth ar drygioni, ysgrifennais am fanylion pellach, euthum i Gynhadledd y Frawdoliaeth, cynigiais fyned gyda Maud Royden ac eraill mewn carafan i gyhoeddi'r Genhadaeth Hedd; ond cyn i mi gyrraedd, daeth y newydd fod y dorf yn Nuneaton wedi llosgi'r garafan a churo'r cenhadon. Felly nid oedd dim i'w wneuthur ond cynnig fy ngwasanaeth iddynt mewn rhyw ffordd arall.
DATGYSYLLTU
Yr argyfwng a barodd imi yn derfynol ddatgysylltu fy hun o'm swydd a'm gwaith adeiladol ydoedd ffarwelio â'm brawd a'm cefndyr a oedd yn swyddogion yn yr R.W.F. yn Rushden ac yn ymadael am y Dardanelles. Dywedai fy nghefnder wrthyf, wedi hir ymgom yn yr hwyr, na welem ein gilydd eto, a'i fod wedi cael breuddwyd hynod, flynyddoedd yn ôl, mai marw ar faes rhyfel a fyddai ei dynged. "A theimlaf rywsut ei fod yn wrong i gyd; ond ni chefnaf ar y bechgyn." Dywedais innau os ydoedd ef am adael y cwbl er mwyn y deyrnas na allwn innau lai na gwneuthur rhywbeth cyffelyb dros Deyrnas Dduw. Atebodd yntau, "Os na bydd neb arall, mi fydda' i yn eich deall." Yn y llythyr olaf a gefais oddi wrtho dywedodd ei fod yn gweddïo am i mi gael nerth i ddilyn fy nghenhadaeth hedd, ac yr oedd hyn bellach megis sacrament â'r meirw.
Nid hawdd ydoedd datgysylltu â chyfeillion swydd a gwaith. Yr oeddwn yn ysgrifennydd i dair o gymdeithasau adeiladu, ac yr oedd ar eu byrddau wŷr milwrol fel Arglwydd Kenyon ac Arglwydd Treowen, hen gadfridog oedd yn methu à deall safle Heddychwr. Ymwelais â Chyrnol David Davies, oedd gyda Bataliwn yr R.W.F. yn Llandudno, i ymddiswyddo o'm gwaith. Cefais ginio gydag ef a swyddogion y fataliwn ac yna trafodaeth hir hyd yn hwyr y nos am fy mhenderfyniad i ymroi i waith heddwch. Dadleuai yntau y cytunai â mi fod angen y fath genhadaeth cyn y rhyfel, ac y deuai yntau gyda mi wedi'r rhyfel, ond ffwlbri glân ydoedd yng nghanol rhyfel. Gofynnai paham na allwn ddal at fy swydd ddyngarol pan oedd ef yn barod i fentro ei fywyd yn Ffrainc. Atebais na ddylasai omedd i mi unrhyw aberth dros Deyrnas Dduw yn ôl fy nirnadaeth ohoni. Felly, ac nid heb ofid, y bu datgysylltu â gwaith diddorol ac â chyfeillion personol. Y ddau a'm deallodd orau ydoedd yr annwyl Syr Lleufer Thomas a Syr Stafford Howard. Daeth yr olaf yn unswydd i Gaerdydd i geisio fy narbwyllo, a threuliasom oriau yn ei ystafell yn y Park Hotel. Dywedai fod ei frawd yn Llysgennad yn Sweden ac yn gwybod am gynlluniau'r Almaen, a'i fod yntau'n credu hefyd nad oedd ond ffordd Crist amdani yn y diwedd, wedi i ni roi "curfa dda iddynt" i ddysgu'r wers. Modd bynnag, trodd y ddadl yn seiat brofiad; dywedodd wrthyf am droeon ei yrfa, am ei briodas hapus, am ei ferch fach a ddysgai Gymraeg. Yn y diwedd dywedodd na fynasai er dim fy mherswadio yn erbyn fy ngweledigaeth; siarsiodd fi, os byddwn mewn unrhyw angen neu anhawster, beidio â phetruso gofyn am ei gymorth neu ei gyfarwyddyd. Pan gofiais ei fod o dras uchaf y Saeson, yn ŵyr i'r Dug Norfolk, yn dirfeddiannwr mawr ac yn gyn-aelod o'r Llywodraeth, ni allwn beidio â rhyfeddu mor debyg oedd gwŷr gwir fawr i wŷr bach cartrefol y werin. Y dynion canol, yn aml. "y gwas pan llywodraetho," sydd yn ymchwyddo ac yn ymbellau yn rhinwedd ei swydd a'i safle.
YR HEDDYCHWYR
Ym mlynyddoedd cyntaf y rhyfel, ychydig oedd y rhai a broffesai "ffordd fwy rhagorol" na rhyfel. Yr oedd dylanwad y Wasg, fel ym mhob rhyfel, yn cuddio pob rhinwedd o eiddo'r gwrthwynebwyr ac yn bloeddio pob bai. Tri aelod yn unig o'r Llywodraeth Ryddfrydol a ymddiswyddodd yn hytrach na chefnogi rhyfel—Arglwydd Morley, Syr Charles Trevelyan a John Burns; agnosticiaid, heb broffesu Crist, oedd y tri, fel y mab hwnnw a ddarluniwyd yn y ddameg ac a ddywedodd, "Nid af; ond efe a aeth." Yn niwedd 1914 cyfarfu nifer o weinidogion a chrefyddwyr o bob enwad yn Llandudno i geisio mewn cyfyng-gyngor y "ffordd amgenach." Yr oeddynt yn Eglwyswyr, yn Anghydffurfwyr ac yn Grynwyr. Yn eu plith yr oedd y Cymro, y Parch. Richard Roberts (llywydd Eglwys Unedig Canada wedi hynny), a phenodwyd ef yn ysgrifennydd i'r frawdoliaeth fechan a ffurfiwyd. Lledaenodd Brawdoliaeth y Cymod wedi hynny, ac ar ôl y rhyfel bu'n lefain yn eglwysi'r Cyfandir a'r Unol Daleithiau. Mewn amser daeth rhai o'r aelodau cyntaf yn adnabyddus iawn—megis George Lansbury, Richard Roberts, Leyton Richards, a ddaeth yn weinidog Carrs Lane, Birmingham; Dr. Henry Hodgkin, ysgrifennydd cyntaf Cyngor Eglwysi Crist yn Sina. Ond ym mlynyddoedd y rhyfel bu'n rhaid wynebu gwg yr eglwysi, a rheg y Wasg, ac weithiau ruthriadau'r dorf ddrwgdybus. Cofiaf gynhadledd yn Nhŷ'r Crynwyr yn Llundain, a milwyr a morwyr yn dringo dros y pyrth i ruthro ar y cyfarfod dan anogaeth papurau fel John Bull, o eiddo Bottomley a Northcliffe. Apêl George Lansbury am ffyddlondeb i Grist, a thawelwch rhyfedd yr hen Grynwyr, a'n cadwodd yn ddianaf nes egluro i'r milwyr wir natur y cyfarfod. Dringasant oll yn ôl a bu eu heglurhad yn foddion i chwalu'r dorf nwydwyllt.
Yn gynnar yn 1915 cynigiais innau fy ngwasanaeth i'r Frawdoliaeth a gweithredais fel cyd-ysgrifennydd â Richard Roberts. Gwelsom yn gynnar fod rhwygiadau'r eglwys yn Ewrop yn adlewyrchiad o rwygiadau'r eglwysi gartref yn ei sectau gelyniaethus ar ôl helynt y Datgysylltiad, a bod arnom angen oll am ras ac amynedd i ddeall a dysgu'r ddisgyblaeth gatholig yn ein plith ein hunain. Ymysg y pleidiau politicaidd, yr I.L.P. yn unig, dan arweiniad gwŷr crefyddol fel Keir Hardie a Bruce Glasier, oedd yn gwrthwynebu y rhyfel ar dir brawdoliaeth y gweithwyr. Ffurfiwyd hefyd y No Conscription Fellowship, dan arweiniad Clifford Allen (wedi hynny Arglwydd Allen), i gynrychioli Gwrthwynebwyr Cydwybodol o bob math, yn grefyddwyr, Sosialwyr a Chomiwnyddion.
Y SENEDD RYDDFRYDOL
Yn y Senedd, nid oedd ond dyrnaid o Heddychwyr sicr, er i'r Blaid Ryddfrydol ddod yn orchfygol yn 1906, trwy arweiniad Pasiffistiaid fel Campbell Bannerman a Lloyd George yn Rhyfel De Affrica. Cofiaf fy ngwahodd i ginio yn y Tŷ Cyffredin i gyfarfod rhai o'r aelodau a allasai wrthwynebu'r Mesur Gorfodaeth Milwrol yn 1916. Cloffi rhwng dau feddwl yr oedd y Prif Weinidog Asquith a Syr John Simon ar y pryd. Eglurodd yr hen wron John Dillon nad oedd gan yr Aelodau Gwyddelig gyfrifoldeb ond am ei rwystro yn Iwerddon, ac nad oedd ganddo ffydd o gwbl yn niplomyddiaeth gudd Prydain. Dywedai J. H. Thomas ei fod wedi cyfarfod yr Arglwydd Lansdowne, ac iddo ddweud wrtho fod Churchill wedi dod yn glir o'r fagl, ei fod yntau wedi llusgo'r Llywodraeth i helynt ofer y Dardanelles, am y dywedasai'r Prif Weinidog yn y Senedd, "Cyn i un o'r gynnau danio, yr oedd y Cabinet wedi cymryd cyfrifoldeb llwyr am y Dardanelles. "Ond," meddai Thomas, "pa bryd cyn i'r gynnau danio'—ychydig oriau?" "Clyfar iawn," ebe Lansdowne. Yn ddiweddarach disgrifiwyd yr anturiaeth ofer gan Churchill, "I recommended the Dardanelles expedition as a legitimate war gamble." Ond yno y collwyd 150,000 o Brydeinwyr, fy nghyfaill pennaf, a lluoedd o Gymry gwladaidd. Wrth wrando ar gossip gwleidyddol o'r fath a dod allan o'r ystafell gydag Allen, dywedais wrtho, "Y mae'n dda gennyf ddod allan i'r awyr agored." Atebodd yntau, "Yr wyf yn cydweled â chwi yn hollol; nid oes unrhyw obaith inni yma am nad oes ganddynt egwyddor sylfaenol; rhaid inni ymddiried yn ein hadnoddau ein hunain." Fel ffaith, credaf mai cyfeillgarwch yr Arglwyddes Otteline Morel a'r Prif Weinidog Asquith a fu'n foddion i liniaru y Mesur Gorfodol, a derbyn gwelliannau Philip Snowden ar gyfer y Gwrthwynebwyr Cydwybodol, a hynny mewn Senedd a'u mwyafrif yn Rhyddfrydwyr ac Anghydffurfwyr! Brawd yr Arglwyddes, yr Arglwydd Henry Bentinck, ac yntau'n fab i'r Dug o Portland, a fu'n un o'r ychydig leisiau cyson dros haelioni a thegwch. Felly, o bob enwad a dosbarth y casglwyd yr ychydig weddill a wrthwynebodd neu a geisiodd liniaru drygau y rhyfel yn y maes gwleidyddol.
HEDDYCHWYR Cymru
Nid oedd Cymru heb ei Heddychwyr yn y dyddiau hynny. Yr oedd gwŷr adnabyddus yn y Gogledd, megis y Dr. Puleston Jones, y Dr. Cernyw Williams, y Prifathrawon Tom Rees a John Morgan Jones, yr Athro T. Gwynn Jones, y Barnwr Bryn Roberts, ac eraill, yn ddi-dderbyn-wyneb yn eu Pasiffistiaeth, a chafwyd Seiat Heddychwyr fyth-gofiadwy o'r arweinwyr yn Abermaw yn gynar yn 1916. Yn eu plith hefyd yr oedd yr hynod John Morgan Jones o Ferthyr, ysgolhaig ac athronydd a phroffwyd nas cydnabuwyd yn ei ddydd. Cofiaf yn niwedd 1915 fyned i annerch cyfarfod ym Merthyr. Yn Llundain a Lloegr prin oedd y cynulliadau cyhoeddus dros heddwch; arfer heddychwyr a disgyblion Tywysog Tangnefedd oedd cyfarfod o'r neilltu ac yn aml "cau y drysau rhag ofn yr Iddewon." Ond ym Merthyr fe'm synnwyd wrth weled cyfarfod o ddwy fil o bobl yn gwrando'n astud dan lywyddiaeth J.M., a eglurai ei fod yno, nid fel gŵr plaid, ond fel gweinidog Crist. Wedi hynny bu Merthyr fel Mecca i bererinion heddwch megis Ramsay Macdonald, Ponsonby, Trevelyan, ac eraill na allent ddweud eu cenadwri mewn mannau eraill o'r wlad. Yr oedd Keir Hardie, yr A.S. dros Ferthyr, yn Heddychwr o argyhoeddiad dwfn, fel ei ragflaenydd Henry Richard, A.S. Torrwyd calon Hardie o'r diwedd pan floeddiwyd ef i lawr gan y dorf yn ei etholaeth ef ei hun yn Aberdâr. Cyffesodd cyn ei farw, "Yn fynych yr wyf yn glaf o galon â gwleidyddiaeth a phopeth a berthyn iddi. Pe bawn ugain mlynedd yn iau credaf y gadawswn gartref, gwraig a phlant, i bregethu holl Efengyl Iesu Grist." Trodd y dorf yn fuan ar ôl ei farwolaeth i ddilyn disgyblion Keir Hardie, ond troisant wedyn gyda hwy i ymladd y rhyfel dosbarth, ac wedyn i gefnogi'r rhyfel presennol. Fel yr aeth y rhyfel yn ei flaen, carcharwyd miloedd o Wrthwynebwyr Cydwybodol am fethu cael eu cydnabod gan y Tribiwnlysoedd, neu am anufuddhau i delerau eu dyfarniad. Cefais innau fy eithrio'n llwyr gan y llys cyntaf yn Llundain: fe'm dedfrydwyd i wneuthur gwaith anfilwrol gan Lys yr Apêl; a'm rhyddhau i waith dan Gymdeithas y Cyfeillion gan y Llys Uchaf.
ANTURIAETH Y CYMOD
Yn nechrau'r flwyddyn 1916 fe'm gwahoddwyd i anturiaeth y cymod ynglŷn â throseddwyr ieuainc o'r carchardai, sef ceisio ffordd amgenach i'w diwygio na charchar a chosb ofer. Yr oedd carchardai'r wlad ar y pryd yn llawn o droseddwyr ieuainc. Trosglwyddwyd inni nifer o lanciau anhydrin a merched gwyllt gan y Barnwr cyfiawn hwnnw Syr Edward Clarke Hall; y mae peth hanes yr anturiaeth a'n ffordd gyda throseddwyr i'w gael yn ei lyfr, The State and the Child, ac hefyd yn The Young Delinquent gan yr Athro Cyril Burt, cynghorydd mewn seicoleg i Bwyllgor Addysg Llundain. Felly, nid gwrthwynebu rhyfel oedd yr unig gam oedd yn agored i Heddychwyr, ond ceisio wynebu pob cam oedd yn ein cyrraedd tuag at ryddhad plant dynion o achosion gelyniaeth, sef trosedd, a dial ofer, oedd yn drygu cymdeithas gartref a thramor. Cefais ymgom faith â C. Russell, Prif Swyddog y Swyddfa Gartrefol ynglŷn â throseddwyr ieuainc. Wedi rhyw dair awr o hanes a phrofiad, dywedodd "Os ydych chwi yn iawn, y mae holl gyfundrefn carchardai Prydain yn groes i ddeddfau seicoleg." Atebais nad oeddym ninnau yn iawn, ond fod dysgeidiaeth Crist ynglŷn ag argyhoeddiad a dychweliad y troseddwr yn seicoleg dwfn, deallus ac ymarferol.
Nid oes gofod yma i ddisgrifio helynt ein bywyd beunyddiol mewn ffermdy yn y wlad gyda dwsin o droseddwyr ieuainc nwydwyllt. Gwelsom ysbeidiau o ymladdfeydd, o ddiogi, o ddwyn ac o ddianc am ddiwrnodíau; ond rywsut llwyddasom i gadw ysbryd y teulu a gwelsom y naill a'r llall yn torri trwodd ac yn newid eu meddwl a'u ffordd o fyw. Nid oedd na chosb na chaethiwed, na bygwth na phregeth yn yr anturiaeth, eithr rhyddid llwyr a dull o fyw oedd yn eu harwain, drwy brofiad o'u hanrhefn eu hunain, i droedigaeth meddwl. Y mae hanes anturiaeth gyffelyb i'w weled yn y Little Commonwealth gan yr Americanwr Homer Lane, un o'r dynion mwyaf yn anturiaeth ryfeddaf ei genhedlaeth (yn ôl ei gyfaill Arglwydd Lytton) ynglŷn â phwnc sylfaenol cymdeithas, sef "Pa fodd i drin y troseddwr?'
Y CREADURIAID
Ar ddiwedd yr anturiaeth gyda'r troseddwyr euthum fel bugail defaid a gwas ffarm i Lŷn.
Wedi byw mewn pwyllgorau a thrafodaethau politicaidd a chrefyddol yn Llundain, a dod wyneb-yn-wyneb â llygriad yr ieuenctid gan fywyd y slymiau yno, yr oedd bywyd bugail yn Llŷn, yng nghanol creaduriaid gwlad a ffarm, yn foddion gras. Awn gyda'r ci, cyn glasu o'r dydd, ac ar draws yr eira yn y Gwanwyn, i chwilio am fy mhraidd. Cefais hwynt yn aml yn llechu rhag y gwynt oer ac yn chwilio am flewyn glas ym môn y cloddiau, ac yn fynych wedi eu dal gan ganghennau'r mieri. Gwingasant mewn dychryn wrth i mi nesáu, a'm cyllell yn fy llaw, ac yna gorweddasant yn llonydd mewn braw. Wedi torri'r mieri a'u gollwng yn rhydd, synasant am wyrth oedd yn rhy ryfedd i'w deall gwlanog hwy. Weithiau cefais oenig yn brefu wrth ochr ei fam farw, ac wrth i mi ei gario yn fy mreichiau i'r ysgubor, a'i ddysgu i yfed llefrith cynnes, a chlywed wedyn ei fref groesawus wrth fy nisgwyl, codai hen reddfau cyntefig dyn wrth ofalu am greaduriaid gwan a gwirion. Dysgwyd fi yn fuan mor anodd ydoedd dal dafad neu oen ar eu pennau eu hunain, ac mor hawdd ydoedd eu gyrru i'r fan a fynnwn ond iddynt heidio i braidd dan gyfarthiad y ci. Rhyw greadigaeth newydd ydoedd yr oen llywaeth, heb fod yn perthyn i'r haid, heb ofn na bugail na chi, am ei fod wedi ei fagu â'r llaw, ac mewn awyrgylch cartref. Deuai yn hy i'r gegin a chwarae ei branciau fel plentyn. Deallais yn awr yn well ergyd neges y proffwyd Nathan i'r Brenin Dafydd am yr oen llywaeth. Dysgais hefyd fod ffordd i lywodraeth calon y ci. Gwyddwn ychydig am "iwsio" ceffyl yn hytrach na'r "torri i mewn" didrugaredd; blinwyd fi'n aml flynyddoedd cynt gan galedwch marchogion ac amaethwyr tuag at y creaduriaid oedd dan eu llywodraeth unbenaethol. Dysgais orfod cadw fy nhymer gyda'r ci, a dod yn y diwedd yn ben ffrindiau. Ymhen deng mlynedd ymwelais eto â'r ffarm, ac wrth i ni gael te yn y parlwr, sleifiodd yr hen gi i'r cysegr a than y bwrdd, a theimlais ei drwyn oer ar, fy llaw, a'i dafod yn ei llyfu. Cymerais ddiddordeb mawr yn y "rasus cŵn" fel y gelwid hwynt, ac yn nawn gwŷr gwladaidd oedd wedi dysgu'r grefft o'u disgyblu mewn ffordd rasol. Cefais dystiolaeth gan fwy nag un o'r rhai mwyaf deheuig yng Ngogledd Cymru, mai disgyblu meddwl a thymer y bugail yw'r cam cyntaf yn y ddisgyblaeth. Cefais, ymhen blynyddoedd, lythyr pwysig oddi wrth y cyfaill hoffus L. J. Humphreys, Rhos Lefain, Towyn, a oedd yn ŵr blaen yng nghyfarfodydd cystadlu y cŵn defaid. Y mae ei brofiad ymarferol mor eang, a'i athrawiaeth mor hynod, yn wyneb credo gyffredinol yr oes mewn cosb a gorfodaeth, mewn ysgol a byd, fel y dyfynnaf yn helaeth ohono am driniaeth y bwystfil sydd yn gefnder i'r blaidd":
"Ystyr hyfforddi yw datblygu dealltwriaeth ci. Nid yw hyn yn golygu gwneuthur peiriant o gi, i gyflawni beth bynnag a ddywedir wrtho, ond cael gan y ci i sylweddoli ei fod yn berson, gyda'i feddwl ei hun a gallu i ymresymu, sydd yn ei alluogi i ddeall sefyllfa ac i weithredu yn ôl hynny. Y wers gyntaf yw dysgu iddo ei fod yn gyfaill i'w feistr ac nid yn anifail; a gwneir hynny nid trwy ddicter a chosb ond trwy ddealltwriaeth a charedigrwydd. Y mae rhywfaint o gosb yn hyfforddiant pob ci; mewn gwirionedd cosbir ef bob tro y bydd yn cyfeiliorni, ond nid gan ei feistr ond ganddo ef ei hun. Y mae ci yn byw i blesio ei feistr ac yn gwybod yn union pan fyddo wedi methu. Y mae atal gair caredig ei feistr yn ddigon o gosb iddo. Y mae'n bwysig i gi gael deall bob tro y metha, a bod cyfeiliornad un dydd yn gyfeiliornad bob dydd. Nid yw perthynas chwareus ac annwyl yn lleihau dim ar ufudd-dod na deall y ci, os meithrinir ef yn iawn. Os yn chwarae, chwaraewch; os gweithio, gweithiwch, ac wrth weithio sicrhewch ufudd-dod. Triniwch eich ci yr un fath bob amser; ni wna y tro i fod yn fanwl iawn un dydd ac yn llac y nesaf. Fe gyll y ci ei ffydd ynoch yn fuan. Y mae'r ci a iawn-hyfforddwyd yn deimladwy iawn i feddwl a thymer ei hyfforddwr. Fel y bo dyn, felly ei anifail hefyd. Ni sylweddolwyd hyd yn ddiweddar fod gan gi alluoedd cynhenid, ac mai'r unig ffordd i'w addysgu'n iawn yw datblygu y rhai hyn fel y gall gydweithredu a gweithredu'n annibynnol ar ei feistr fel bo'r amgylchiadau yn gofyn. Mewn gair, y mae gan gi reswm a gallu i'w ddefnyddio, a champ y bugail yw ei gael dan reolaeth heb bylu'r gallu hwn. Rhaid cael ci o dan reolaeth, ond trwy ddealltwriaeth ac nid trwy orfodaeth. Gwna'r bwystfil pennaf hyn o ofn y canlyniadau, ond gweithredu rhag ofn cosb a wna, ac nid cydweithrediad ewyllys. Rhaid i'r bugail ennill calon ei gi, a chael ei ymddiriedaeth, ac yna fe ddaw i ufuddhau o gariad ac nid o ofn, ac unig nod ei fywyd fydd gwneud ei orau i'w feistr. Ymddiriedaeth sydd yn creu ufudd-dod ewyllysgar, cydweithrediad a ffyddlondeb. Hyn a wna'r ci yn bartner ac nid yn beiriant."
Caraswn i'r geiriau uchod gael eu hargraffu ar femrwn hardd ym mhob ysgol, ac ym mhob llys a charchar, ie, ac ym mhob Prifysgol, rhag i ddynion syrthio yn ôl ar hen esgus sâl dros fygythiad a chosb a dial-na ellir newid y natur ddynol. Pa les yw bloeddio am Hunan-reolaeth i Gymru gan wŷr na allant reoli eu tymer wrth guro a chramio plant Cymru yn y tipyn llywodraeth ddynol sydd tan eu hawdurdod?
SOSIALAETH A HEDDWCH
Yr unig newyddiaduron yng Nghymru a ddaliodd at eu tystiolaeth dros heddwch oedd Y Dinesydd yn y Gogledd a'r Darian a'r Merthyr Pioneer yn y De. Synnais pan yn bugeilio yn Llŷn fod, papur mor uchel ei ddelfrydau â'r Dinesydd, ac mor gartrefol ei arddull Gymreig, yn dal ei dir. Ar y cyfle cyntaf euthum i Gaernarfon i weld y Golygydd, John Huw Williams. Ni phallodd fy mharch iddo a'n cyfeillgarwch ar hyd y blynyddoedd. Cefais ei hanes o beth i beth, ei fod yn ddisgybl i Tolstoi ac i Keir Hardie. Mentrodd ei fywoliaeth wrth ddechrau cyhoeddi papur er budd ei gydweithwyr. Daliodd i ddweud ei argyhoeddiad wrthynt, fod yn rhaid wrth wreiddiau cartrefol a chymdogaethol i heddwch a chyfiawnder. Hawdd ydoedd i Sosialwyr ddweud y drefn am ddrygau rhyfel a chyfalafiaeth, ond anodd ydoedd dal i ddweud am y drefn i waredu'r werin rhag yr un drygau yn eu plith eu hunain, yr ymddiried yn y nerth a'r llu Llafurol, y swydd, a'r arian, ac ysbryd y dorf. Pan welais ef gyntaf yr oedd yn rhygnu byw ar ryw bunt yn yr wythnos, ac yn gweithio deuddeng awr yn y dydd ar waith golygydd, argraffydd a threfnydd. Medrais hel gan gyfeillion 600p. yn rhodd i gadw'r papur ar ei draed. Daliodd i ysgrifennu ei argyhoeddiadau am grefydd a gwleidyddiaeth "at iws gwlad," ac yn arddull Senedd y Pentref; cynorthwywyd ef gan ysgrifau doniol a dawnus y bardd J. T. W., Pistyll, a gyfunai diwylliant gwerin pen Llŷn, gweledigaeth graff a naturioldeb dirodres. (Cyhoeddais dipyn o atgofion am J.T.W. a pheth o'i brydyddiaeth yn Yr Ail Bistyll). Yr oedd Y Dinesydd yn eithaf tebyg i ddull a dawn Lansbury's Weekly, a aberthwyd er budd y Daily Herald, ond collwyd y cyffyrddiad personol a chrefyddol wedi hynny. Cofiaf fod mewn cyfarfod o arweinwyr y Blaid Lafur yng Ngogledd Cymru pan ganmolwyd Y Dinesydd a gwaith ei Olygydd gan E. T. John, A.S., a ddaethai i'r Blaid Lafur ac a oedd yn Heddychwr. Cododd y Golygydd cartrefol, oedd wedi dal pwys a gwres y dydd pan aeth arweinwyr Llafur gyda lli y rhyfel, a dywedodd yn syml, "Pan sonwich chwi am y tipyn papur acw, 'rwy'n teimlo'n union fel tasech chwi'n siarad am un o'r plant acw; ac wrth i chwi ei ganmol, ni choeliech chwi mor agos yw'r dagrau." Gan fod y chwarelwyr bellach yn ennill cyflogau da, a miloedd yn eu cronfeydd, meiddiais ysgrifennu at gyfrinfeydd eu Hundeb i erfyn arnynt gynorthwyo papur swyddogol eu hundeb eu hunain, a gysegrwyd gan y fath ffyddlondeb ac aberth personol at eu gwasanaeth. Ymhen amser cyfrannwyd rhai cannoedd gan y chwarelwyr, a chyflwynwyd Y Dinesydd i gwmni newydd dan reolaeth nifer o wŷr amlwg yn y Blaid Lafur.
Ond, er fy mawr syndod a'm siom, gollyngwyd yr hen beilot ganddynt dros ochr y llong, a hwyliwyd y papur bellach i gyfeiriad y Trade Winds poblogaidd oedd yn dechrau llenwi hwyliau'r Blaid Lafur, a chollwyd y neges ysbrydol. Ni bu'r Dinesydd bellach yn hir cyn myned yn llongddrylliad; ond achubwyd y peilot i ddilyn ei weinidogaeth bersonol a dyngarol yn y Mudiad Dirwest. Collodd ei swydd, ond cadwodd ei dystiolaeth a'i weledigaeth a pharch ei gyfeillion, fel y gwnaeth ei wroniaid Keir Hardie a George Lansbury, pan yn gwrthod myned gyda lli Llafur. Methodd hefyd Y Darian ddewr yn y De, er holl ymdrech ac aberth y Parch. Tywi Jones i gynnal papur Cymreig anenwadol yn Neheudir Cymru. Yn awch y cyhoedd am bapur ceiniog, oedd yn llawn o hysbysiadau a darluniau, ac yn barod i ddilyn pob awel dysgeidiaeth boblogaidd, collwyd hefyd y Merthyr Pioneer a Lansbury's Weekly a'r Nation. Rhyfedd yw meddwl bod y Daily Herald bellach yn eiddo i gwmni cyfalafol fel Odhams Press ac Arglwydd Southwood, yr Iddew, yn gadeirydd iddo. Mor araf y daw'r werin i sylweddoli y gellir prynu arian yn ddrud, a'i wario'n gynnil ar bapurau a werthir er mwyn elw a chylchrediad ac nid er mwyn dal "y gwir yn erbyn y byd."
Cofiaf hefyd yn 1917 fyned i Gynhadledd yr I.L.P. yng Nghonwy a chyfarfod nifer o arweinwyr y blaid yno. Anerchwyd y cyfarfod gan yr hynod J. Bruce Glasier, cyfaill mynwesol J. Keir Hardie, a llenor y mudiad. Magwyd ef yn Uchel Diroedd Sgotland yn Galfinydd, ond yn ei waith dros weriniaeth a dynoliaeth torrodd ymaith oddi wrth hualau cyfundrefn eglwys a meddwl a aeth yn galed ac yn gul yn Sgotland. Dywedodd yn ei araith, ymysg pethau eraill, pe cynigid iddo holl fanteision Sosialaeth i'r wlad, ar yr amod ei fod yn caniatau cymryd un bywyd dynol, gwrthodasai'r cynnig, am mai ystyr ei Sosialaeth ydoedd cysegredigrwydd y bersonoliaeth ddynol. Synnais glywed y fath ddelfryd yn y fath le. Yn y drafodaeth dywedais innau ychydig am fy narganfyddiadau y llynedd o'r "daioni gwreiddiol" ymhlith troseddwyr ieuainc slymiau Llundain. Gofynnwyd i mi annerch y gynhadledd ar hyn yn y prynhawn; wedi gwneuthur hyn, a chael fy nghroesholi am awr, ymddangosai diddordeb neilltuol yn y pwnc. Yr oedd Pasiffistiaeth yr I.L.P. yn golygu moddion gwleidyddol gwahanol i ryfel; ac nid oedd gorfodaeth deddf na thorf yn lân o ddiystyrru personoliaeth; felly yr oedd triniaeth bersonol o'r troseddwr mewn ffordd arall yn myned at wreiddyn mater tangnefeddiaeth mewn gwleidyddiaeth. Treuliais ddwy awr wedyn yng nghwmni Bruce Glasier a Margaret Bondfield, a chlywais hanes ei bererindod ysbrydol ef. Dywedai ei fod, yn nyddiau ei Sosialaeth Marxaidd, yn gwrthod cyhoeddi barddoniaeth werinol ac enw Duw ynddo, am y credai ei fod yn ofergoeledd; ond yr oedd wedi teithio ymhell wedi hynny, ac wedi darllen yn fanwl y Testament Newydd ers blynyddoedd. Teimlai fod arnom oll angen ffydd yn y ffaith bod Duw yn Dad, a gallai feddwl nad chwedl o gwbl ydoedd hanes cerddediad Pedr ar y dyfroedd dan arch Crist. Credai fod pwerau dihysbydd yn ein cyrraedd yn yr Efengyl ond ein bod wedi eu hesgeuluso yn ein crefydd gyfundrefnol. Cafodd waeledd hir a phoenus wedi hynny, ond daliodd drwy'r cwbl yn llawen a ffyddiog yn Nuw. Ar ei wely angau adolygodd Socialism and Strikes, a ysgrifenasai fel ffrwyth blynyddoedd o waith ym meysydd Llafur. Credai fod moddion y streic yn y pen draw mor aneffeithiol à moddion rhyfel, oherwydd ei fod yn hawlio cyfiawnder ag un llaw, ac yn bygwth gwneuthur colled a cham ar y llaw arall; felly yr oedd ofn a rhagfarn a rhyfel dosbarth a rhyfel cartref i'w ddisgwyl. Credai y dylai'r werin fynd i'r maes yn hollol ddiarfau, ond â gwir a chyfiawnder ei chwyn, hyd oni fegid cydwybod yn y farn gyhoeddus. Dengys ei lyfr The Meaning of Socialism ddelfrydau uchaf y Sosialaeth ysbrydol, ac erys yn gofgolofn i arloeswr gwrol ac ysbrydol ryw ddydd, wedi i'r werin gael ei darbwyllo o fethiant y nerth a'r llu gwleidyddol. Cofiaf ymgom â Ramsay Macdonald, pan oedd yn Brif Weinidog, am yr hyn a adroddais o gyffes ffydd Bruce Glasier. "Ydyw, y mae'n wir," meddai, "ond y mae'n rhaid i chwi drosi'r gwirioneddau hyn i'r werin mewn ffordd y gallant eu deall." Gwendid Macdonald efallai oedd dal y delfrydau hyn yn ei ben yn hytrach nag yn ei galon, a methu dod yn nes na hyd braich at ei gymrodyr o'i blaid ei hun, a diweddu ei oes yn unig yn arweinydd ymhlith y Philistiaid.
LLONYDDWCH LLŶN
Rhyw nefoedd fechan ydoedd bywyd gwlad a bugeilio defaid, gwaith caled, gorchwyl tawel a bwyd ffarm, wedi dwndwr Llundain ac anarchiaeth wyllt bywyd y troseddwyr ieuainc. Mor braf ar lethrau'r bryniau oedd clywed yn nechrau haf:
Bref côr yn brefu cariad,
Neb yn medru brefu brad
a gweled drama natur yn ymagor, wedi eira hir y gaeaf a'r gwanwyn glân hyd at wenith gwyn y cynhaeaf. Yr oedd prinder cysuron a blinder corff yn rhyw gysur ynddynt eu hunain yn wyneb dioddefaint dynion a rhaib ryfel ac ariangarwch y dyddiau hynny. Mor wahanol hefyd ydoedd bywyd ffarm a chymdeithas gwerinos gwlad dawel i ddadwrdd torfeydd a threiswyr byd. Cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder ydoedd cwmni'r annwyl Puleston ym Mhwllheli ac ambell seiat gydag ef a'r Parch. Conwy Pritchard a'r dyrnaid Heddychwyr yno. Cofiaf annerch cyfarfod cyhoedd- us digon tawel yno, a chlywed wedyn fod rhai o'r dorf oedd yno wedi bwriadu ei dorri i fyny. Fel Keir Hardie yn y De, bu Puleston ar fin torri ei galon wrth weled enciliad byd ac Eglwys, ac ambell awr yn deisyfu cael marw wrth weled cymrodyr a chymdogion wedi ymollwng gyda'r lli i ryfel a dial, a dicter wrth y rhai oedd yn dal yn eu proffes o ffordd yr Efengyl tuag at droseddwyr.
Ond yr oedd cri hen famau gwlad am eu bechgyn cyn dristed á bref y defaid a'r ŵyn wrth gael eu hysgaru, ac yn ormod i ddyn fedru aros yn nhawelwch bryniau Llŷn. Euthum un diwrnod, mewn ofn a gwendid, i Ffair Pwllheli i geisio datgan fy nghenadwri heddychol. Ymddangosai'r dorf, a oedd yn prynu a gwerthu, yn ddifater ddigon, a'r ugeiniau o filwyr a morwyr yno, a'r plismyn awdurdodol yn fygythiol; ond cefais wrandawiad astud ac yr oedd ambell filwr yn estyn ei law ac yn gwasgu'n gynnes wrth i mi ymwthio wedyn trwy'r dorf. Felly euthum o bentref i bentref trwy Lŷn am wythnos, ac er fy syndod, cefais fod gwerin gwlad yn teimlo'r un gofid à minnau am gyfiawnder ffordd rhyfel, a chefais fwy o groeso nag o fygythiadau.
Yn Aberdaron, wedi i mi annerch y pentrefwyr oddi ar risiau'r hen Gegin Fawr, daeth gŵr o Sais ymlaen gan ddywedyd yn awdurdodol, "I am the A.D.C. to the G.O.C. Western Command. I'll have you in clink for this." Euthum gydag ef i'r Hotel a chymerodd fy enw; eglurais wrtho, os oedd yn ddyletswydd arno fy nghyhuddo o dan y "King's Regulations," pob peth yn dda, ond fod gennyf finnau hefyd fy Mrenin a gorchymynion Crist. Tawelodd gryn dipyn yn yr ymgom ac ni chlywais ddim ymhellach. Ond wedi dychwelyd i'r awyr agored gwelais ddyrnaid o'm hen gyfeillion—Huw Felin, Wil Gegin ac craill—wedi casglu a chynhyrfu ac yn bygwth rhoi y Sais dros ei ben yn yr afon. Bu raid i mi egluro yn daer wrthynt y byddai hynny'n groes i'm holl syniadau; ond ni allwn beidio â theimlo'n gynnes atynt am eu hawydd amddiffynnol.
Y LLYSOEDD BARN
Wedi dychwelyd i'r ffarm o'm taith drwy Lŷn, wele lythyr oddi wrth Lywydd y Prif Lys, yr Ardalydd Salisbury, yn fy ngwahodd i ymweled ag ef i egluro fy mhenderfyniad i bregethu heddwch. Ar y ffordd i Lundain euthum i Lan- drindod i gynhadledd o heddychwyr Cymru, ond ni, chafodd na Puleston na minnau ddweud gair gan floeddiadau'r gynulleidfa barchus a lanwai'r capel. Gan yr Arglwydd Salisbury cefais y cwrteisi mwyaf a thynerwch tadol ac ymgom fynwesol. Enwodd Epistol Pawl at Philemon yn anfon ei gyfaill Onesimus yn ôl ato i gaethwasiaeth i egluro pwysigrwydd ufuddhau i ddeddf y wlad. Atebais innau nad oedd gennyf wrthwynebiad yn y byd i waith fferm ond ei fod yn bwysicach i ufuddhau i Dduw nag i ddynion. Cymhellodd fi o'r diwedd i apelio eto i'r llys am ryddid i'm cenhadaeth. Gwneuthum hynny ar y sail bod Brenin ac Eglwys yn ddiweddar wedi cymell "cenhadaeth o edifeirwch i'r genedl, a'm bod innau eisoes yn dechrau edifarhau o ffordd gelyniaeth ac anufudd-dod, ac yn ceisio gan ddynion gymod â Duw ac â dyn. Bûm wedyn am ddwyawr ger bron y llys yn dweud fy mhrofiad ac yn ateb cwestiynau teg a chwrtais. Gofynnwyd i mi ai gwleidyddol neu ynteu crefyddol oedd fy nghenadwri; atebais innau mai crefyddol ydoedd yn ei hanfod, ond fod ganddi ganlyniadau gwleidyddol anocheladwy. O'r diwedd, gohiriwyd yr achos nes byddai'r holl lys yn bresennol. Clywais wedyn i'r achos gael ei gyflwyno i'r Cabinet Rhyfel, a bod Arglwydd Milner, yr hen filitarwr gynt yn rhyfel De Affrica, o blaid, a Lloyd George yn erbyn, cydnabod rhyddid llwyr i gydwybod. Felly, mewn amser, daeth fy rhyddid i ben. Gwyswyd fi yn hynod o garedig gan hen sergeant y plismyn ym Methesda i'r llys ym Mangor. Rhyfedd ydoedd gweled Ustus o glerigwr yn cydweled i'm cyflwyno i'r fyddin, a'r hen wleidyddwr, y Barnwr Bryn Roberts, yn gwrthod eistedd ar yr achos, ac wedi'r praw yn myned a mi yn ei fraich i gael cinio mewn gwesty. Yn y Swyddfa Filwrol yn Wrecsam cefais groeso a chwrteisrwydd gan y prif swyddogion a hen gydnabod milwrol. Wedi fy ngharcharu am fis yn y guardroom yn y barracks, cefais gwmni annisgwyl y Parchedigion E. K. Jones a Wyre Lewis pan ar fy mhrawf ger bron y Llys Milwrol; gan y Llys Milwrol cefais ddwy flynedd o lafur caled. Y pethau olaf a gofiaf, wrth ymadael o'r barracks am Wormwood Scrubbs ydoedd cwrteisrwydd yr hen gyrnol, a charedigrwydd y sergeant yn rhoi i mi deisen a bobwyd imi gan ei wraig cyn imi ddiflannu i gysgod carchardai a gwersyll am yn agos i ddwy flynedd.
DAN Y DDEDDF
Ysgydwyd fy llaw yn gynnes gan ddau filwr yr osgordd a ddaeth gyda mi o Wrecsam at ddrws carchar Wormwood Scrubbs, a dymunent Iwc dda i mi yn galonnog. Wedi agor y naill ddrws haearn ar ôl y llall gan un o'r ceidwaid, a rhes o allweddau yn rhwym wrth ei wregys, a gweled yr adeilad anferth, mentrais ddweud wrtho, "Y mae'n lle mawr iawn." Cyfarthodd yn ôl, "Caewch eich ceg." Gwthiodd fi i gell wag, a bûm yno am awr neu fwy, nes archwyd fi i ystafell arall i'm dadwisgo, a'm golchi, a'm gwisgo yn nillad y confict, gyda marciau'r broad arrow drosti, a hosannau na buasent erioed yn efeilliaid, ac esgidiau a wisgwyd o'r blaen gan lawer hen bererin; yna fe'm harweiniwyd i'm celi fy hun. Y rhybudd cyntaf ar gerdyn Rheolau'r Carchar ydoedd y gair "Distawrwydd"; am ryw reswm neu gilydd gorfodid carcharorion, am y pythefnos cyntaf o'u carchariad, gysgu ar blanciau moel. Wedi cysgu, clywais yn gynnar yn y bore sŵn clychau, a chodais i ddisgwyl gorchymyn. Agorwyd drws y gell led modfedd a chlywais sŵn traed oddi allan. Wedi chwarter awr o ddisgwyl, agorwyd y drws gan geidwad, a gyfarthodd yn y modd mwyaf bygythiol, "Ewch ar eich gliniau, sgwriwch y llawr." Gwneuthum yn ôl ei arch, ond clywn y gwaed yn curo yn fy nhalcen gan y sarhad a'r bygythio direswm. Yna cofiais lythyr a gelais oddi wrth fy mrawd oedd yn gapten yn y fyddin, "Fe'ch temtir gan sarhad swyddogion byddin a charchar, i 'ddicter cyfiawn'; gwyliwch rhag hynny yn fwy na'r diafol. Ceisiwch gael hyd i'r 'dyn' sydd ym mhob swyddog; buasai'n well gennyf golli popeth nag i chwi golli eich ffydd." Ond, meddyliwn na ddylasai dyn gael sarhau eraill fel hyn, a'u bygwth heb achos. Modd bynnag, pan ddaeth y ceidwad 'drachefn, yn brygowtha ac yn bygwth, dywedais wrtho yn dawel, "Os mynnwch i mi wneud rhywbeth, eglurwch hynny, a mi a'i gwnaf o galon; ond yn sicr chwi gewch fwy allan o ddynion trwy gwrteisrwydd a charedigrwydd na thrwy fygythiadau fel hyn." Agorodd ei enau mewn syndod, a meddyliais ei fod am fy llyncu'n fyw, ond atebodd yn eithaf siful, "Wel, os na fydd pethau yn cael eu gwneud yn iawn, caf finnau fy meio gan y Prif Geidwad." Felly deallais fod "Meistr ar Feistr Mostyn" yma fel mewn mannau eraill, ac o hynny allan ymddygodd yn eithaf cwrtais. Drwg carchar Wormwood Scrubbs oedd ei berffeithrwydd fel cyfundrefn beiriannol; yr oedd dan arolygiaeth hen gyrnol milwrol oedd mor llym gyda'r ceidwaid nes codi ofn nerfus arnynt drwy'r carchar. Pan fyddem yn cerdded am awr o ymarferiad bob dydd yn iard y carchar gosodid dau neu dri o'r ceidwaid ar ben pileri bychain i'n gwylied rhag i ni sibrwd gair wrth ein gilydd. Golwg ddwl a sur oedd ar wyneb y rhan fwyaf o'r carcharorion, ond gwelais un â gwên siriol ar ei wyneb yn wastad; llwyddais i gael gair ag ef yn nhŷ'r baddon ryw brynhawn. Cymro o Gorseinion ydoedd, wedi ei "achub gan ras" fel yr eglurai, ac yn gyfaill i Evan Roberts. Daethom yn gyfeillion cynnes wedi hynny, ac yr oedd ei wên siriol fel drych yn adlewyrchu pethau gwell na'n cyflwr presennol. Cefais ymweliad cysurlawn unwaith yno gan y Parch. Peter Hughes Griffiths. Cyn ymadael am garchar arall gofynnais am gael gweled y Llywodraethwr. Dywedais wrtho fy mod yn teimlo ei bod yn ddyletswydd arnaf i'w atgofio bod car- chariad ynddo'i hun yn gosb ddigonol, ac nad oedd na deddf na gras yn bwriadu cosb bellach o fygythiadau a sarhad gan y swyddogion. Atebodd fod gennyf hawl i gyhuddo unrhyw geidwad am annynoliaeth. Dywedais innau na fynaswn gyhuddo neb, ond fod y ceidwaid hwythau hefyd yn byw dan ofn cerydd, a bod y cwbl yn gwenwyno ysbryd y carchar ac yn peri poen a phoenedigaeth nerfus i gannoedd. Dywedais wrtho am fy anturiaeth innau gyda'r troseddwyr a gyflwynwyd i ni gan Syr Edward Clarke Hall. Ni laciodd yn ei olwg galed, ond sylwais fod yr Is-lywodraethwr yn gwrando'n astud, a gwenodd yn siriol arnaf pan euthum allan.
Yng Ngharchar Knutsford gwelais wedd arall ar bethau. Y cynllun yno ydoedd gwersyll gwaith gyda rhyddid i ymddiddan, a rheolaeth a threfn, a hawl i fyned allan i'r dref wedi gorffen oriau'r gwaith. Yr oedd yr amrywiaeth fwyaf ymhlith y carcharorion—Iddewon, Pabyddion ac aelodau o bob enwad a phlaid. Ni wyddwn o'r blaen mor lluosog ydoedd y sectau crefyddol a gwleidyddol. Yr oedd yr I.B.S.A. (Tystion Jehofah) a'r Plymouth Brothers yn dadlau'n ffyrnig am ystyr llythyren yn yr un Beibl; y gwŷr Pentecostal yn ymgreinio ac yn siarad mewn tafodau dieithr mewn ystafell ar wahan; y Seventh Day Adventists yn gwrthod rhyfela ar y Saboth ac yn credu mai cyfeiliornad sylfaenol yr Eglwys ydoedd cadw'r dydd cyntaf, yn lle'r seithfed dydd o'r wythnos, fel Saboth. Gwelais Nazareaid, Iddewig a Christionedig, a ddaliasant yn llythrennol, mewn gair a gweithred, at y gorchymyn i beidio â thorri gwallt na barf. Chwarddwyd am bennau'r sectau hyn gan wyr y pleidiau Sosialaidd Marxaidd; ond yr oeddynt hwythau hefyd yn llawn sectau. Ym- osodwyd ar yr I.L.P. gan yr S.L.P. a'r S.P.G.B., ac ar y ddau gan y Comiwnyddion, ac ar y cwbl gan yr Anarchistiaid, na ddioddefent neb i fod yn farnwr nac yn rhannwr arnynt. Darbwyllwyd dyn dipyn gan y profiad hwn rhag credu y cawsid na chyfiawnder na heddwch wrth wisgo label plaid a sect, ac wrth esgymuno'r sectau eraill.
Cynhaliai'r Crynwyr eu cyfarfodydd mewn distawrwydd, gyda rhyddid seiat i bawb ddweud eu barn a'u profiad, ac yr oedd eu cyrddau fel ynysoedd tangnefedd yn y berw. Sylwais fod rhyw debygrwydd meddwl rhwng llawer o'r Comiwnyddion a'r Ail-ddyfodiaid, yn eu hannioddefgarwch, a'u gwrthwynebiad i unrhyw ymdrech i wella pethau yn awr; yr oedd y naill yn gobeithio am chwyldro y Deg Lleng o angylion yn yr awyr, a'r llall am chwyldro y deg lleng o'r Fyddin Goch ar y ddaear; ond trais a grym oedd moddion y ddau yn y pen draw.
Cofiaf Iddew ieuanc disglair, Isidore Berkov, a eisteddai wrth fy mwrdd. Cynhyrfwyd ef un bore gan bellebr, a dangosodd ef i mi. "Cedwch at y busnes crefyddol er mwyn yr hen bobl. Minnie." Dyna ocdd y neges. Eglurodd i mi fod ei rieni yn Nasareaid selog, a'i daid yn Rabbi enwog yn Rwsia! "Disgwyliant i mi adael i'm barf dyfu, gwisgo phylacterau, a gweddïo at y dwyrain sawl gwaith yn y dydd. Ond fel ffaith, agnostig wyf, ac yn cyfrif y cwbl yn ofergoeledd, ond pa beth a wnaf; yr wyf yn caru fy rhieni, ac yn gofidio rhoddi poen iddynt. Pa beth a wnaf ond dweud celwydd i'w cysuro?"
Gofynnais iddo onid oedd yn bosibl iddo ddweud wrthynt ei fod yn parchu pethau trymion y gyfraith, sef "gwneuthur cyfiawnder a hoffi trugaredd," a rhoddais iddo stori Tolstoi, "Lie bo cariad yno y mae Duw hefyd." Ysgydwai ei ben. "Ni ddeallwch draddodiad yr Iddewon uniongred; ofer hollol yw sôn am bethau o'r fath ar draul cadw at lythyren y Ddeddf." Ymhen misoedd wedi hynny, cefais lythyr caredig oddi wrtho yn adrodd ei fod wedi meddwl llawer am stori Tolstoi a'i fod yn arferiad gan yr Iddewon alw'n "Rabbi" y gŵr a ddysgai iddynt wirionedd newydd, "Felly terfynaf fy llythyr, 'Rabbi, Shalom'."
Yng Ngharchar Dartmoor fe ddywedwyd fod dros hanner cant o sectau ac o bleidiau wedi eu cofrestru ymhlith y mil o Wrthwynebwyr Cydwybodol a oedd yno. Cafwyd rhyw fath ar undeb yn erbyn y Llywodraeth, a chydweithrediad digonol i ddarpar bwyd a chadw trefn, ond fawr ymhellach. Torrwyd yr United Front, a fygythiodd streic oherwydd rhyw gam, gan y gwahaniaethau; bellach blinodd y mwyafrif ar ddadleuon gwleidyddol ac egwyddorion cyffredinol, a dechreuasant gyfeillachu'n bersonol, ar draws ffiniau plaid ac enwad, mewn modd rhyfedd iawn. Man dedwyddaf a dwysaf Dartmoor i mi oedd gardd y carchar ar ganol y rhosydd mawnog, lle claddwyd y carcharorion o Ffrainc ac America a fu farw yno yn yr hen ryfeloedd. Maddeuwyd bai y gelyn ers llawer blwyddyn, a chodwyd ar y lawnt werdd gofgolofn iddynt gyda'r geiriau Dulce et decorum est pro patria mori[1]. Eisteddais yno lawer tro, wrth fachlud haul, i fyfyrio troad rhod teyrnasoedd y daear, y rhyfeloedd a'r sôn am ryfeloedd, a diwedd dial dyn ar ddyn.
Un o'r pethau mwyaf dynol a duwiol a welais yn nhrefn y carchardai oedd y caniatad i hen droseddwr gadw llygod mawr fel pets. Gwelais hwynt lawer tro yn yr iard yn chwarae wrth draed hen droseddwr, ac, ar chwibaniad, yn rhedeg i fyny ar hyd-ddo ac i'w lloches yn ei boced. Cofiaf geidwad yn Dartmoor yn adrodd fel y bu i hen gonfict, oedd yno am ei oes, ddod â'i lygoden yn ei boced i'w waith ar y rhosdir. Yr oeddynt yn torri ffos; tynnodd y troseddwr ei gôt, a gosododd hi ar ochr y ffos; ond wrth godi carreg fawr fe gwympodd rywsut ar ei gôt; edrychodd mewn braw am ei lygoden, a chafodd hi wedi ei lladd. Eisteddodd ac wylodd fel plentyn—wedi colli'r unig greadur a'i hoffodd ac a ymddiriedodd ynddo. Pwy, yn wir, a ddiystyro "ddydd y pethau bychain" a gymero Duw i gadw tosturi a thynerwch yn fyw yng nghalon dyn? Yng Ngharchar Birmingham yr oedd yn y gell nesaf hen filwr a ddysgodd imi greffi Morse Code y carcharorion i siarad â'i gilydd, trwy guro ar y parwydydd. Euthum yn ddeheuig iawn ar y grefft. Clywais ganddo ei fod wedi ei glwyfo ddwywaith yn y rhyfel a'i wenwyno gan nwy. Felly cafodd le fel cogydd mewn gwersyll milwrol gartref. Dywedodd ei fod wedi yfed dau lasiad o gwrw yn y cantîn rywdro, ac oherwydd effaith y nwy, fe feddwodd; fe'i cafodd ei hun bore drannoeth yn y Guard Room am ei fod wedi taro'r corporal. Eglurodd wrth y sergeant major na wyddai ddim amdano, ac nad oedd ganddo yr un gweryl â'r corporal. Gwenodd y sergeant major a dywedodd, "Deudwch y cwbl, a chwi gewch ryw saith niwrnod o C.B." Pan wysiwyd ef gerbron y Llys Milwrol, dywedodd ei stori yn hyderus ddigon, ond brawychwyd ef pan ddarllenwyd y ddedfryd, "Deunaw mis o lafur caled!" "Os daw rhyfel eto," meddai, "ar ochr y German yr ymladdaf."
Y peth a'm blinodd fwyaf yno oedd gwasanaeth crefyddol y carchar. Hyrddiwyd ni yn gannoedd i'r capel, clowyd y drysau, ac eisteddai'r swyddogion ar gadeiriau uchel yma ac acw, i'n hwynebu a'n gwylio rhag i ni sibrwd gair wrth ein gilydd. Oer a diystyr oedd y cyfarchiad "Annwyl gariadus frodyr" dan y fath amgylchiadau, a'r rhigl-wasanaeth ffurfiol. Methais gael heddwch calon, a phenderfynais wneuthur gwrthdystiad yn erbyn y fath lygriad o "wasanaeth grefyddol" a gwneuthur tystiolaeth i'r gwir. Ond euthum mor nerfus yng ngwasanaeth y bore nes methu cael anadl na nerth i siarad, a thynnu'r lle ar fy mhen, a chael fy nghyfrif yn granc neu yn wallgof. Ond yng ngwasanaeth y prynhawn, mewn ysbaid o ddistawrwydd, medrais ddweud yn glyw- adwy, "Cofiwch, frodyr, fod Crist yn gofyn i ni faddau a thosturio wrth ein gilydd, ac nid i gosbi a charcharu ein gilydd." Bu syndod drwy'r lle, ond teimlais ollyngdod calon, a chlywais y carcharorion yn ail-adrodd fy ngeiriau wrth ei gilydd drwy'r ffenestri. Yn y bore archwiliwyd fi gan y meddyg, a chyhuddwyd fi ger bron y Llywodraethwr.
"A oes gennych rywbeth i'w ddweud?" meddai.
Atebais, "Dim, ond ei fod yn wir."
"Does a wnelo hyn ddim â'r mater; chwi allasech godi cynnwrf drwy'r carchar."
Yna dedfrydodd fi i gell y gosb, ac i'm cadw bellach rhag myned i gapel, nac i ymarferiad yn iard y carchar. Cell y gosb oedd y lle isaf yn y carchar—lle tywyll ac oer. Bara a dwfr oedd y bwyd, a phigo oakum (tynnu hen raff dar galed oddi wrth ei gilydd) oedd y gwaith. Cymerwyd fy hances oddi arnaf rhag i mi ymgrogi; ond i'r gwrthwyneb, teimlais ryw ollyngdod calon rhyfeddol, a medrais ganu'n rhydd gan wybod na allent wneud fawr mwy ond fy nghrogi. Cofiaf pan oeddwn yno, glywed curiad distaw ar y drws, ac wedyn llais yn sibrwd, "Y mae crac yng ngwydr eich ffenestr, a daw darn ohono yn rhydd, a rhof ddarnau o fara drwy'r twll." Ni welais fyth wyneb y cyd-garcharor trugarog, ond cawsom lawer sgwrs ddistaw drwy'r twll yn y ffenestr. Wedi dychwelyd i'm cell gyffredin, teimlais fod ofn a chosb yn llygru holl gymdeithas y carchar ac yn magu twyll ac ystryw- iau ar bob llaw, wrth geisio sibrwd a chynllunio â'n gilydd. Gofynnais am gael gweled y Llywodraethwr, a dywedais wrtho fy nheimlad, ac na allwn bellach geisio cuddio cyd-ymddiddan; ac felly y bwriadwn ymddwyn yn agored a naturiol, heb amarch iddo ef na'r swyddogion, ond er mwyn achub fy nynoliaeth. Atebodd yn sarrug, "Chwi a gymerwch y canlyniadau." Trannoeth, yn y gwaith, tra oedd y ceidwad a'n gwyliai yn troi yn sydyn ar ei sawdl a cheisio dal y rhai oedd yn sibrwd, troais a siaradais yn agored â'm cyd-garcharor. Gwysiwyd fi drachefn gerbron y Llywodraethwr, a chefais ddau ddiwrnod yng nghell y gosb, ond erbyn hyn yr oedd y gosb wedi colli ei grym. Digwyddodd hynny droeon.
Un nos Sadwrn oer cyn y Nadolig, a'r eira yn disgyn y tu allan, agorwyd drws cell y gosb, a daeth Ustus Heddwch i mewn. Dywedodd yn gwrtais wrthyf iddo glywed fy mod dan gosb, ac na theimlai yn esmwyth i fyned i'w gartref heb ofyn i mi ail-ystyried fy anufudd-dod i reol y carchar, a cheisio ymdaflu yn erbyn cyfundrefn mor gadarn. Diolchais iddo am ei hynawsedd, ond eglurais fy mod eisoes wedi ystyried y cam yn bwyllog ac yn bryderus. Yna dywedodd, "A gaf fi ofyn fel ffafr bersonol i chwi ei ail-ystyried?" Atebais innau fod ei ddull gwrtais o ofyn yn ei wneuthur yn anodd iawn dal, oni bai fy mod yn ei ystyried yn ddyletswydd. Yna safodd a dywedodd, "A gaf fi ysgwyd llaw â chwi?" Yn wir, anodd oedd cadw'r dagrau yn wyneb cyfarchiad mor frawdol a chyfaddefiad o'r undeb dynol oedd rhyngom. Diolchais iddo o galon; ni wyddwn ei enw, ac ni welais ei wyneb mwy, ond yr oedd ei ddynoliaeth hael yn agor y galon a'r gell led y pen.
Gwysiwyd fi yn y diwedd i ymddangos ger bron yr Ustusiaid, a gwyddwn mai ganddynt hwy oedd hawl y gosb eithaf, sef fflangellu. Wrth sefyll ger y barrau haearn gyda'r Prif Geidwad, dywedodd wrthyf, "Paham na allwch fod fel y lleill? Ni waeth gen' i pe baech yn siarad, ond i chwi beidio â gwneud hynny yn fy ngwydd i."
Atebais, "Onid ydych i gyd yng ngharchar yma; ni fynnwch wneuthur drwg i mi, na'r ceidwaid eraill; ond y maent hwy yn eich ofni chwi, a chwithau yn ofni'r Llywodraethwr, ac yntau'n ofni rhywun arall." Wedi egluro fy nhrosedd gerbron yr Ustusiaid, cyfeiriais at y ffaith, y digwyddais ddarllen amdani ym Mywyd Richard Cobden gan John Morley, fod penodiad yr Ustusiaid wedi ei drefnu gan Fesur Diwygiad y Carchardai a gyflwynwyd i'r Senedd gan eu cyd-ddinesydd enwog Joseph Chamberlain. Y bwriad ydoedd diogelu'r carchardai rhag annynoliaeth. Dywedais fod gorfodaeth o ddistawrwydd llwyr am fisoedd lawer, ar gannoedd o ddynion, yn annynoliaeth ddofn, ac yn magu ystrywiau a thwyll, ac yn llygru ysbryd a moes y carcharorion o ddydd i ddydd.
Gofynnodd y Cadeirydd, "Onid gwell a mwy synhwyrol a fyddai i chwi ufuddhau i'r drefn yn awr, ac wedi eich rhyddhau geisio diwygio y rheol?"
Atebais na allwn ymysgwyd o'r ddyletswydd i wneuthur yr hyn oedd yn fy nghyfle yn awr, er mor fychan ydoedd, ac erfyn arnynt hwythau ei ystyried yn ddwys a gweithredu yn ôl eu hawl.
Atebodd y Cadeirydd gyda gwên, "Sut y gwyddoch nad ydym yn gweithredu?"
"Os felly," meddwn, "cyrhaeddwyd fy amcan."
Y mae rheol annynol distawrwydd carchardai bellach wedi ei ddiwygio ers llawer dydd, a chlywais mai Ustusiaid Birmingham oedd yr arloeswyr wrth ddod â'r mater ger bron y Swyddfa Gartref. Nid post hoc propter hoc,[2] yw hyn wrth gwrs, ond "aml gnoc a dyrr y garreg."
DYDDIAU'R GAETHIWED
Wedi bod am fisoedd yng ngharchardai Wormwood Scrubbs, Knutsford a Dartmoor, symudwyd nifer ohonom i wersyll gwaith ar y ffordd fawr yn Llanwrda. Wrth deithio trwy orsaf Caerdydd gwelais wyneb hen gyfaill a adwaenwn, a chipiais foment o'r tren i ysgwyd llaw ag ef. Synnodd fy ngweled a gofynnodd, "O ba le y deuthoch?" Atebais mai o garchar Dartmoor. Yna trodd at y wraig oedd yn siarad ag ef a dywedodd, "Yr ydych yn adnabod eich gilydd." A Dame Margaret Lloyd George ydoedd. Ond yr oedd mor siriol ag y gwelais hi lawer tro wedyn, ac yn llawn o garedigrwydd. Yn Llanwrda, yr oedd swyddog o'r Swyddfa Gartref, hen sergeant major, yn ein gwylio; "cartrefol" a fuasai'r gair olaf i ddisgrifio'r gwersyll. Cysgasom naw mewn pabell, a gweithiasem am ddeng awr yn y dydd am bedwar swllt yn yr wythnos o gyflog ar drwsio'r ffordd fawr a thorri cerrig. Yn ein cwmni yr oedd Sosialwyr, Comiwnyddion, Ysgotiaid, Saeson, ac efrydwyr y Weinidogaeth. Sgotyn o'r Ucheldiroedd oedd yn coginio i ni mewn dull na welsai neb ei debyg ond efô ei hun. Yn sicr, cawsai ei ddiarddel o'i swydd oherwydd y mynych gwyno am flas y bwyd oni bai ei fod yn rhoddi ei gopa gwalltog coch trwy ddellt y babell a dweud yn ei acen ddwys, "Os bydd gan unrhyw foneddwr gŵyn yn erbyn y bwyd, yr wyf yn barod i ddadlau'r mater gydag ef y tu cefn i'r cook-house." Etholwyd fi'n gadeirydd, wedi i mi egluro'n gyntaf mai fy mholisi a fyddai trin pob dyn fel cyfaill nes iddo droi yn elyn, ac wedyn ei drin fel cyfaill. Etholwyd is-gadeirydd i'm cadw yn fy lle, sef Atheist amlwg, darlithydd i'r Rationalist Association, gŵr yr oedd crefydd gyfundrefnol fel cadach coch i darw iddo, er nad oedd nepell o'r Deyrnas yn ei ddelfrydau am degwch, a gonest- rwydd, a dyletswydd. Y pechod a oedd yn barod i amgylchu Heddychwyr o'r fath oedd grwgnach a thuchan am iawnderau, a bygwth streic am hyn neu'r llall. Yr oedd pledio heddwch a chyfiawnder cyffredinol yn haws na'u gwneuthur a'u gweithredu ar fwyd mor wael, gwaith mor hir, a thâl mor fychan. Nid oedd ein ceidwad, dan y Swyddfa Gartrefol, yn ddirwestwr amlwg, ac felly cafodd y troseddwyr eraill rywfaint o gysgod gan ei wendid amlwg a'i drosedd ef ei hunan.
Cofiaf un digwyddiad syml a fu'n garreg filltir i mi mewn profiad. Gwelais mewn map o'r ardal yr enw Rhos-y-bedw, Llan-y-crwys, a daeth atgof fel fflach o hen atgofion fy nhad. Prentisiwyd fy nhaid, David Davies, i ffyrm o Grynwyr yn Llundain, marsiandwyr a'r India. Yr oedd ganddo gefnder o'r un enw yn Llundain, a oedd yn feddyg i'r teulu brenhinol, ac a fu'n garedig wrtho pan yn llanc. Yr oedd gan y meddyg fab a ddaeth yn enwog fel Llywodraethwr y Punjab. Gwelais ddarluniau Syr David Davies a Syr Robert Henry Davies yn y Llyfrgell Genedlaethol. A Rhos-y-bedw oedd eu treftadaeth. Breuddwydiasom, yn ôl arfer bechgyn, y gallasai'r etifeddiaeth ddod rhywsut rywfodd i'm tad. Ac wele y lle yn awr wrth law! Wedi torri'r cerrig trwy'r bore y Sadwrn, ymolchais yn yr afon a cherddais am y lle. Yr oedd y llwch yn drwch ar y ffordd, a'r daith yn hir ac unig. Wedi cyrraedd yr ardal, holais ryw amaethwr am Ros-y-bedw. Dangosodd y Plas yn y pellter, ond dywedodd fod y Sgweiar newydd werthu'r ystad ac wedi myned i Loegr i fyw. Cyrhaeddais y Plas, a oedd yn wag, a gwelais yr hen binwydd hardd o'i gwmpas yn cael eu torri i lawr. Euthum yn siomedig i'r Llan i geisio beddau'r teulu, ond eglwys newydd a mynwent newydd oedd yno. Trois i'r gwesty hynafol am gwpaned o de cyn cychwyn yn ôl o'm siwrnai seithug. Wrth gerdded yn unig a thrist yn nhawelwch y wlad daeth ton o deimlad wrth feddwl mor ddiflanedig ydoedd breuddwydion dyn ac anian; yr oedd torri'r coed yn newid wyneb y wlad ar bob llaw. Wrth gyrraedd Bwlch Cefn Sarn, gwelais olau coch yn y gwyll, ac wedi cyrraedd y fan, canfûm deulu o Sipsiwn yn gwersyllu gyda'u ceffylau a'u cŵn, ac yn eistedd ogylch tân coed. Cyferchais hwynt, a holwyd fi a oeddwn yn cerdded ymhell. Wedi ateb, dyma wahoddiad am gwpanaid o de a brechdan. Eisteddais yn y cylch gan fwyta ac yfed o'u hymborth hael. Holwyd fi ymhellach am fy nhaith a'r gwersyll yn Llanwrda. Eglurais ein bod wedi dod o garchar.
"Beth a wnaethoch?" ebe'r hen ŵr yn ddidaro.
Dywedais fy mod yn anghredu mewn rhyfel ac yn credu yn ffordd Crist o gael heddwch ar y ddaear, a'm bod wedi dal i ddweud hynny.
"A mi roisant chwi yn y carchar am hynny—y cnafon drwg."
Yna aeth i sôn am eu bywyd crwydrol hwythau. "Y tlawd, yw ffrind y tlawd," meddai, "y mae'r ffermwyr bychain yn eithaf caredig; y ffermwyr mawr sydd yn chwibanu ar y cŵn pan welant ni; a sut y buasai arnom ni heb frawdoliaeth ymysg dynion."
Bûm yno wrth y tân am awr neu fwy, a'r nos wedi disgyn o'n hamgylch, a llewyrch y tân coch yn gwrido wynebau'r bechgyn a'r genethod ac yn fflachio ar lygaid y cŵn. Teim lais a dywedais y caraswn ddod gyda hwy ar eu taith. "Ie, dowch yn wir," ebe un o'r bechgyn," a mi ddysgwn ni i chwi ddal cwningod a llyswennod; ac mi ddysgwch chwithau rywbeth i ninnau."
O'r diwedd codais i ffarwelio â'r teulu croesawus. Daeth y lleuad allan yn arianog o gefn cwmwl, ac wrth fy nhraed gwelais ôl troed plentyn yn llwch y ffordd fawr, ac fel fflach teimlais fod y plentyn nefol wrth law, a'm teulu, yn ôl yr ysbryd, wrth ymyl y ffordd. Felly teithiais adref i'r gwersyll yn llawen fel gŵr yn llawn o win newydd.
Ymhen rhyw ddeng mlynedd wedi hyn fe'm gwahoddwyd i annerch Cynhadledd y Cymdeithasau Cenhadol yng Ngholeg Llanbedr. Yr oedd Esgob Tŷ Ddewi yno a nifer o Ganoniaid a phregethwyr, yn frawdol a charedig, ond teimlais rywsut hiraeth am gysegrfan cyfeillach y ffordd fawr, a dihengais o'r gynhadledd a cherdded i'r Bwlch Cefn Sarn ac eisteddais am awr o gymun wrth lecyn gwersyll y Sipsiwn. Yr oedd llwch hen danau'r fforddolion yno o hyd, ac yr oedd tân atgof yn gynnes yn fy nghalon.