Pererindod Heddwch (testun cyfansawdd)

Pererindod Heddwch

gan George Maitland Lloyd Davies

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Pererindod Heddwch

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
George Maitland Lloyd Davies
ar Wicipedia





PERERINDOD HEDDWCH

GAN

GEORGE M. LL. DAVIES




LLYFRAU PAWB

DINBYCH



Argraffiad Cyntaf—Gorffennaf 1943



Argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych

THE MALTHOUSE WICK

Dwy aden colomen pe cawn
Mi hedwn, mi grwydrwn ymhell;
I gopa Bryn Nebo mi awn
I olwg ardaloedd sydd well;
A'm golwg tu arall i'r dŵr,
Mi dreuliwn fy nyddiau i ben,
Dan ganu wrth gofio y Gŵr
Fu farw dan hoelion ar bren.

—THOMAS WILLIAMS Bethesda'r Fro.

Pan fyddo awyr glir
Rwy'n gweld trwy ddrych di-freg
Rhai mannau o Salem dir
A'm hetifeddiaeth deg,
A'r olwg hon trwy gwrs fy mhaith
Ddwg f'enaid llaith i fynd yn llon.

—DAFYDD JONES o Gaio.


RHAGAIR

YSGRIFENNAIS y tudalennau a ganlyn wedi clywed hanes trafodaeth Sasiwn Bryncrug, a darllen am yr anghydfod meddwl a barn yng nghylchoedd crefyddol a gwleidyddol Cymru ar ryfel. Credais y gallasai adrodd rhai o ffeithiau a phrofiadau chwarter canrif fod o gymorth i'r rhai a gais drafodaeth frawdol ar gyfeiriadau a cham-gyfeiriadau'r Genhadaeth Hedd a broffeswn fei Cymry a chrefyddwyr mewn Eisteddfod a Sasiwn. Meddyliaf am gyfeillion personol yn y rhyfel olaf a'r rhyfel presennol sy'n disgwyl inni chwilio'n ddwys am ffordd o waredigaeth. Ni welsant efallai, ym mhenbleth y dewis personol a wthiwyd arnynt gan yr argyfwng ofnadwy, yr un ffordd ond ymladd hyd fuddugoliaeth. Meddyliaf hefyd am gyfeillion eraill, na allent gymryd rhan o gydwybod mewn rhyfel ac a geisiodd, mewn cyfyng gyngor, ffyrdd eraill o wasanaeth ac o genhadaeth hedd. Cofiaf fod fy mrodyr fy hun, a rhai o'm cyfeillion pennaf, wedi gwasanaethu'r wlad mewn byddin a llynges, a hynny heb wanhau dim ar ein parch a'n serch at ein gilydd. Credaf fod brawdoliaeth o'r fath yr un mor angenrheidiol a phosibl, wrth "ddryllio canolfur y gwahaniaeth" rhyngom mewn seiat a chyfeillach, a bod cymod a rhwymyn yng Nghrist a'i ysbryd i'w cael rhwng Gras a Gwirionedd. Eisoes y mae Archesgob ac arweinwyr Anghydffurfiaeth, yn rhyfelwyr ac yn heddychwyr, wedi ymuno mewn apêl arnom i ymgynnull ym mhob ardal i wynebu yr anawsterau a'r gwahaniaethau hyn, er gwaethaf cloddiau terfyn enwad a phlaid. "Mewn gweddi, gwasanaeth ac astudiaeth ynghyd ceisiwn ddangos, er mwyn ein brodyr a'n byd, ehangder y frawdoliaeth a grëir gan Grist." Ceisio cyfeiriadau newydd i feddwl a gweithred yr hen Genhadaeth Hedd, a chyfaddef camgymeriadau lawer, yw amcan hyn o hanes taith y pererin.

G.M.LL.D.

PENNOD I

Y FFYDD A FFEITHIAU RHYFEL

Cloffi rhwng dan feddwl. Crefydd a Chasineb. Y Farn Gyhoeddus. Rhyfeloedd Eraill. Cyfiawnhad Rhyfel. Cyfrifoldeb am y Rhyfel Diwethaf. Llygriad y Ffynhonnau. Y Gweddill Heddychol. Costa: Rhyfel. Y Ffeithiau Celyd. Costau Arfogaethau. Costau Dynol. Costau Moesol.

MEWN trafodaeth yng Nghymdeithasfa'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mryncrug, yn Ebrill 1942, ar berthynas yr Eglwys a Rhyfel tynnwyd min cyfeiriad cyn-Gomisiwn y Sasiwn at ryfel, fel moddion "hanfodol ddrwg a chroes i ysbryd a dysgeidiaeth Crist." Yn y gwelliant a basiwyd gan y Sasiwn, cyfeiriwyd at ryfel fel canlyniad i achosion arbennig—megis rhaib a rhwysg a balchder a chenfigen cenedl, oedd hefyd yn gweithio ym mywyd beunyddiol eu haelodau, mewn awydd bod ar y blaen, cael mwy nag eraill, a dial. Daliai'r Prifathro Phillips fod y gwelliant yn gweddu i bechaduriaid yn llawer gwell na'r datganiad gwreiddiol. Yn natganiadau blaenorol y Gymdeithasfa—yn y Rhos yn 1923 ac yn Pendleton yn 1938, penderfynwyd:


"Ein bod' fel Cymdeithasfa unwaith eto yn datgan yn bendant ein hargyhoeddiad dwfn fod rhyfel yn groes i ysbryd a dysgeidiaeth Crist ac yn ymrwymo i barhau i oleuo ein haelodau gyda golwg ar hyn, a'n bod yn penderfynu y bydd inni fel Cymdeithasfa wrthwynebu rhyfel ym mhob ryw fodd ac yn galw ar ein Henaduriaethau, ein heglwysi a'n haelodau i benderfynu'n gyffelyb."

Yn Pendleton yn 1928 ychwanegwyd y gair "pob" o flaen y gair "rhyfel" a phasiwyd hyn trwy fwyafrif.

Felly ni thorrwyd rhyfel yn y bôn gan y Gymdeithasfa ddiwethaf, fel moddion cymwys i sicrhau cyfiawnder, ond yn ei ganghennau arbennig a dyfo'n wyllt megis o gymhellion ac amcanion gau. Yn wir, datganwyd seicoleg achosion a moddion rhyfeloedd yn eithaf eglur gan yr Apostol Iago:

"O ba le y daw rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? Onid oddi with hyn, sef eich melys-chwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau . . . canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg a phob gweithred ddrwg. Eithr y doethineb sydd oddi uchod yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlawn, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, di-duedd a diragrith; a ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch gan y rhai sydd yn gwneuthur heddwch."

Am droseddau eraill—megis meddwdod, godineb a llofruddiaeth y mae'r Eglwys yn eithaf pendant yn ei chondemniad, nid o'r achosion yn unig ond o'r effeithiau hefyd. Ac y mae'r un Apostol yn rhybuddio rhag y duedd oesol sydd ynom i gondemnio rhai troseddau o gyfraith Crist ar draul bychanu eraill:

"Compounding for the sins we are inclined to
By damning those we have no mind to.
"

Gofynna'r Hen Gorff, er enghraifft, adduned o lwyrymwrthodiad â gwin gan weinidogion a swyddogion; ac y mae Eglwys Loegr yn llwyr-wahardd ysgar-briodas. "Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. Canys y neb a ddywedodd 'Na odineba' a ddywedodd hefyd 'Na ladd'."

Felly gan fod Cymdeithasfaoedd gynt wedi ymrwymo "i barhau i oleuo ein haelodau a gwrthwynebu rhyfel (boed achos neu effaith) ym mhob ryw fodd, ac yn galw ar Henaduriaethau eglwysi ac aelodau wneuthur yn gyffelyb," priodol yw chwilio'n ddwys ym mhob Sasiwn a seiat i achosion, moddion a dibenion y mawrddrwg hwn, nid yn unig er mwyn ein hachub ein hunain, ond er mwyn achub y byd a'n brodyr o'u pechod a'u poen. Nid digon gadael drwg a da moddion rhyfel yn gwestiwn pen-agored i'r ieuainc, ac weithiau benderfynu "gwrthwynebu pob ffurf ar ryfel," a phryd arall hyrwyddo Ymgyrch Arfau, ac anfon y bechgyn drwy dân Moloch y rhyfel. Ymgais yw'r tudalennau a ganlyn i gasglu rhai o'r ffeithiau pwysicaf ynglŷn â moddion a chanIyniadau y rhyfel olaf, ac achosion y rhyfel presennol er mwyn "goleuo" crefyddwyr Cymreig. Dyfynnwyd yn helaeth o dystiolaeth gwladweinwyr a chadlywyddion enwog, yn hytrach na chrefyddwyr ac athronwyr, fel o enau dau neu dri o dystion cymwys y cadarnheir pob gair am natur a hanes eu maes eu hunain.

CREFYDD A CHASINEB

Yn Synod ddiwethaf Caergaint eglurodd yr Archesgob anhawster a chyfrifoldeb yr Eglwys i gadw cytbwysedd; ar y naill law, i gefnogi a chryfhau ffyddlondeb y bobi i ymladd hyd fuddugoliaeth, ac ar y llall, i'w gwaredu rhag ildio i nwydau rhyfel ac anghymwyso'r genedl i ddefnyddio'r fuddugoliaeth er clod Duw, a chael eu hysgaru oddi wrth ei amcan cariadus. Pasiwyd gan y Synod wrthdystiad cryf yn erbyn y casineb a'r dialgarwch a ymddangosai yn y wasg (22 Mai 1942).

Yr un diwrnod, yn Nhŷ'r Arglwyddi, ceisiwyd gan Arglwydd Vansittart gyfiawnhau Cytundeb Heddwch Fersai a'r dial ar bobl yr Almaen; atebwyd ef gan Arglwydd Cranborne, ar ran y Llywodraeth, ei fod yn cytuno â'r Arglwydd Vansittart fod Cytundeb Fersai wedi trin yr Almaen yn ysgafn, a bod cyfiawnder i'w weinyddu ar yr euog yn ôl telerau Siarter Iwerydd. Golyga hyn oll angen gwyliadwriaeth disgyblion Crist a abertha y plant i amddiffyn gwlad a chrefydd ym mrwydr y Llywodraeth, rhag bod moddion ac amcanion llywodraethau yn bradychu amodau sylfaenol y Ffydd. Gair penagored iawn yw y gair "cyfiawnder." Cwynai Wordsworth, tros ganrif yn ôl: "Claf yw daer a nef pan sonia gwlad a theyrnas am gyfiawnder."

Y FARN GYHOEDDUS

Wrth gymell arfau Cesar, a chyfiawnder Cesar, yr ydym yn apelio at Gesar; ac at Gesar y mae'n rhaid myned am hanes gwleidyddol ac achosion y rhyfel presennol, neu ynteu syrthio yn ôl ar rywbeth mwy peryglus nag anffaeledigrwydd Pab, sef anffaeledigrwydd Llywodraeth y dydd, a'r peth oriog hwnnw a elwir y "farn gyhoeddus."

Pawb yn y clyw yn byw a bod
Ar rywbeth ddwedo'r Papur
.

Sylfaen y farn gyhoeddus a'r wybodaeth boblogaidd am achosion y rhyfel a chyfiawnder y gwledydd yw'r wasg ddyddiol a barn arweinwyr y pleidiau: ac yn nydd llifogydd. rhyfel, cymysglyd iawn yw lliw y dyfroedd hyn. Yn ôl un Prif Weinidog, gwendid ein gweriniaeth yw "ei barn fyr olwg a ffurfir yn frysiog ac a fynegir yn rymus heb sail ddigonol o fyfyrdod neu wybodaeth" (Iarll Baldwin, 4 Tachwedd 1939). Yn ôl Prif Weinidog arall, y mae achosion cuddiedig ac amcanion dwylo dynion tu cefn i'r "farn gyhoeddus":

"Ffurfir a datgenir y farn gyhoeddus gan beirianwaith. Gwna newyddiaduron beth wmbredd o waith meddwl y gŵr a'r wraig gyffredin. Porthant hwy a'r fath ffrwd barhaol o opiniynau safonol, a llif o newyddion a theimladau, fel nad oes nac angen nac amser ganddynt am fyfyrdod personol. Y mae hyn oll yn rhan o broses addysgol anferth. Ond addysg yw sydd yn myned i mewn trwy un glust ac allan drwy'r llall. Y mae yn gyffredinol a hefyd yn arwynebol. Cynhyrcha nifer anferth o ddinasyddion safonedig, wedi eu gwisgo âg opiniynnau, rhagfarnau a theimladau a berthyn i'w dosbarth neu i'w plaid.... Nid yw'r duedd hon at ddylanwadu ar y dorf a mygu'r opiniwn unigol yn amlycach yn un maes o weithrediadau dynol nac ym maes rhyfel. Yn yr Armagedon yr aethom drwyddi yn ddiweddar gwelwyd difodiant llwyr ar arweiniad personol. Y rhyfel mwyaf a'r gwaethaf ydoedd, y mwyaf dinistriol, ac mewn llawer modd y mwyaf didrugaredd."

—WINSTON CHURCHILL (Thoughts & Adventures).

Nid yw meddiant y papurau gan arglwyddi'r Wasg bellach yn ddirgelwch. Cyhoeddwyd gan Arglwydd Camrose yn 1939 hanes perchenogaeth Gwasg Llundain. Ef ei hun a reola'r Daily Telegraph. Prynwyd meddiant y Times gan Major Astor oddi ar deulu Arglwydd Northcliffe. Arglwydd Beaverbrook yw perchennog y Daily Express a'r Evening Standard. Arglwydd Southwood yw llywydd cwmni y Daily Herald. Arglwydd Rothermere ydoedd perchennog y Daily Mail, yr Evening News a'r Sunday Despatch. Arglwydd Kemsley yw cadeirydd yr Allied Newspapers sydd yn llywodraethu un papur dyddiol a thri phapur Sul. Diwedda pamffledyn Arglwydd Camrose gyda'r geiriau:

"Yn y dyddiau hyn y mae yn dda i'r cyhoedd gael gwybod eiddo pwy yw'r golygiadau a ddatgenir gan y gwahanol bapurau."

—(London Newspapers, 1939).

Bechgyn cyffredin, gynt o Ferthyr Tydfil, oedd dau o'r arglwyddi hyn, gyda dawn prynu a gwerthu. Bellach â eu barn a'u rhagfarn ledled y deyrnas bob dydd, tra mae'r eglwysi a'u holl weinidogion yn methu cyrraedd ond y ddegfed ran o'r cyhoedd, unwaith mewn wythnos, i draethu Gair a barn Arglwydd yr holl ddaear. Yn wyneb rhybudd Mr. Churchill a datguddiad Arglwydd Camrose, buddiol yw ystyried yn ddwys wreiddiau'r "farn gyhoeddus" rhag i bropaganda gwlad a phlaid lygru barn, a gras, a gwirionedd Crist. Anhraethol bwysig, yn llifeiriant y farn gyhoeddus, yw cofio rhybudd Crist: "Paham na fernwch chwi, ie ohonoch eich hunain, y pethau sydd gyfiawn?"

RHYFELOEDD ERAILL

Y ffaith gyntaf i'w chofio yw nad Hitler na'r Almaen yw achos pob drwg a rhyfel. Yn y rhyfel olaf onid oedd y Twrc yn elyn, a Siapan a'r Eidal mewn cynghrair â ni. Ddwy flynedd yn ôl onid Ffrainc oedd i'w hymrwymo â ni mewn cyfamod tragwyddol? Flwyddyn yn ôl y troisom o elyniaeth i gyfeillgarwch â Rwsia. Cyn y rhyfel olaf yr oeddym ddwywaith ar fin rhyfel â Rwsia ac unwaith ar fin rhyfel â'r America. Ac onid oedd gelyniaeth chwerw ac ymbleidiaeth ffyrnig yn y wlad hon cyn ac wedi'r rhyfel olaf? Yn Lloegr trefnwyd "cload-allan" o'r holl weithwyr adeiladu drwy'r Deyrnas i ddod mewn grym yn Awst 1914. Yn Iwerddon yr oedd miloedd o Babyddion y De a Phrotestaniaid y Gogledd mewn cyflawn arfogaeth i ryfel cartref. Yng Nghymru ym mhob tref a phentref yr oedd capel ac eglwys yng ngyddfau ei gilydd, ac yn hawlio neu yn rhwystro gorfodaeth y Ddeddf ar Fater Datgysylltiad a Dadwaddoliad. Meithrinfa i ysbryd rhyfel oedd y rhyfeloedd cartrefol hyn, yn ôl adroddiad Comisiwn Syr Lleufer Thomas yn 1917 am achosion cynnen yn y De.

Yn wir, yn ôl rhai o gynrychiolwyr pwysicaf Prydain yng Nghynghrair y Cenhedloedd, megis Syr Eric Drummond, yr Ysgrifennydd Cyffredinol, a Mrs. H. M. Swanwick, cynrychiolydd y Llywodraeth yn 1924 a 1929 yn Genefa, o nwyd a rhagfarn ac anwybodaeth y dorf anwadal a'u harweinwyr oedd yn chwarae ar eu hatgasedd y cododd llawer o anawsterau y Cynghrair!

"Yr anhawster yw, i'r bobl gael gwybod pris echryslawn y fuddugoliaeth. Y mae rhyfel yn digalonni rheswm ac yn calonogi casineb, ofn a rhaib, yn enwedig ym mysg llywodraethwyr a fentrodd eu cwbl ar fuddugoliaeth, ac ymhlith ysgrifenwyr a siaradwyr a wnaeth, trwy eu geiriau, y ffordd yn ôl i edifeirwch yn galed. Fe'm hargyhoeddwyd fod chwant rhyfel yn un o'r rhai cryfaf a mwyaf cymhleth o'n chwantau. Fe welwyd hynny yn agos yng ngweithredoedd ffiaidd y Black and Tans yn yr Iwerddon, ac yn Ne Affrica o bell, pan losgwyd ffermydd, ie a dodrefn a Beiblau y Boeriaid gan ein milwyr nwydwyllt, a llawysgrifau pwysig yr enwog Olive Schreiner. Chwant arglwyddiaethu yw, a chasineb at arglwyddiaeth eraill arnom ninnau, ynghyd â chwantau cenfigen ac eiddigedd. Y mae pob gwladwriaeth yn canmol ysbryd yr haid gartref ac yn ei ffieiddio draw. Mwynheir megis rhinwedd rhyw 'ddicter cyfiawn' a'r ymorchestu a'r canmoliaeth o wrhydri, a chwaraeir ar ofnau'r dorf nes iddynt flino neu ymwylltio. Ac yn y cwbl y mae'r Wasg yn ymdrybaeddu ac yn ymgyfoethogi. Ofer yw ceisio heddwch wrth uno'r Pwerau ynghyd, a gadael y nwydau hyn heb eu cyffwrdd, nes cael eu deffro i ryfel newydd dan enw newydd."

H. M. SWANWICK (The Roots of Peace).

CYFIAWNHAD RHYFEL

Cadarnheir dadansoddiad cynrychiolwyr Prydain gan gyffes agored un o gadfridogion yr Almaen, a gyhoeddwyd ledled y wlad hon yn y rhyfel diwethaf. Dyma ciriau'r Cadfridog von Bernhardí:

"Sylfaenir moesoldeb Cristnogol yn wir ar gyfraith cariad. 'Car dy Dduw uwchlaw popeth a'th gymydog fel ti dy hun. Ni all y gyfraith hon hawlio awdurdod ym mherthynas gwlad a gwlad oherwydd y buasai hynny'n arwain i wrthdrawiad dyletswyddau. Buasai unrhyw gariad at wlad arall fel y cyfryw yn golygu diffyg cariad at ei gyd-wladwyr ei hun. Buasai'r fath gynllun o wleidyddiaeth yn sicr o gamarwain dynion. Personol a chymdeithasol yw moeseg Cristnogaeth, ac ni all yn ei natur fod yn wleidyddol. Y mae'r dyhead am ddileu rhyfel yn hollol groes i'r deddfau mawr cyffredinol sydd yn rheoli bywyd oll. Angen bywydegol o'r pwys mwyaf yw rhyfel."

Diddorol yw cymharu geiriau diweddaraf Hitler i genedl yr Almaen:

"Ymgyrch i benderfynu parhad ein bodolaeth neu ynteu distryw ein pobl yw'r ymgyrch a orfodwyd arnom gan yr un gelynion ag yn 1914. Barnwr cyfiawn yw Duw; ond ein tasg ni yw gwneuthur ein dyletswydd modd y gallon ymddangos yn deilwng ger Ei fron yn ôl Ei ddeddfau o'r ymgyrch am fodolaeth."

(Times, 1 Chwefror, 1943).

A rhag ein bod yn diolch i Dduw nad oeddym fel yr Almaenwr hwn, cymharwn gyffes ffydd crefyddwr a chadfridog enwog arall, sef y Prif Gadfridog Arglwydd Roberts:

"Gallwn ofidio fod yr hyn a clwir yn rym bwystfilaidd yn brif anghenraid i lwyddiant masnachol. Ond felly y bu erioed, felly y mae, ac felly y bydd yn wastad. Cofiwch na chynhyrfir cenhedloedd yn unig gan gymhellion a welir, ond gan bwerau dall ac elfennol, economaidd, cymdeithasol a chnawdol; ymleddir yn wastad ymgyrch guddiedig, a thywyll yw'r gwreiddiau. Cadw pethau fel y maent—hyn a ddylai fod ein dymuniad cyntaf, unig ac olaf yn Ewrop. Nid oes angen lledaenu ein Hymerodraeth; y mae'n ddigon anferth fel y mae. Dymunwn fyw mewn heddwch a chariad â phob cenedl, ac yn llawen ceisio heddwch a'i ddilyn. Ond yr unig ffordd i sicrhau heddwch yw paratoi am ryfel."

(Imperial Defence).

"Tery yr Almaen pan dery awr yr Almaen ac y mae'n bolisi rhagorol. Y mae yn bolisi, neu fe ddylasai fod, i bob cenedl a fyn chwarae rhan fawr mewn hanes. Pa fodd y sylfaenwyd Ymerodraeth Prydain? Rhyfel a sylfaenodd yr Ymerodraeth hon—rhyfel a buddugoliaeth. Pan gymhellwn yr Almaen—ninnau sy'n feistri trwy ryfel ar drydedd ran o'r byd—i ddiarfogi, i leihau ei llynges neu ei byddin, y mae'r Almaen yn naturiol yn gwrthod, ac yn cyfeirio, nid heb gyfiawnder, at y ffordd y dringodd Lloegr, â chleddyf yn ei llaw, i'w huchelder, ac yn datgan yn agored, neu dan len iaith diplomyddiaeth, mai ar hyd y ffordd honno y bwriada'r Almaen esgyn hefyd. Pwy ohonom sydd yn gwybod am orffennol ein cenedl a phob cenedl a barodd ddisgleirdeb i'w henw yn hanes dynion a all ystyried datganiad un o'u rhai mwyaf, flwyddyn a hanner yn ôl, neu y Cadfridog Bernhardi dri mis yn ôl, gydag unrhyw deimladau ond parch."

(Message to the Nation, 1912).

CYFRIFOLDEB AM Y RHYFEL DIWETHAF

Heb fyned ymhellach o safbwynt dynion mor amlwg ac enwog i olrhain hanes cynlluniau'r polisi a broffeswyd ganddynt, gellir enwi ymysg achosion y rhyfel y cytundeb cyfrinachol â Ffrainc i adael rhyddid i ni lywodraethu'r Aifft am bris rhyddid i Ffrainc feddiannu Morocco. Tynnwyd ni at fin rhyfel yn 1912 gan ddatguddiad y cynllwynio hyn (gweler Ten Years Secret Diplomacy, E. D. Morel); hefyd fod ein gwlad wedi ymrwymo wrth Ffrainc trwy ddealltwriaeth ddirgel na wyddai ond tri o'r Cabinet amdano yn nechrau 1914 (gweler Hanes Bywyd y Cadfridog French ac Arglwydd Loreburn). Ond digon efallai i'r amcan presennol fydd cyffes dau o Brif Weinidogion y buddugoliaethwyr eu hunain:

"Po fwyaf y bydd i ddyn archwilio mewn tawelwch ddigwyddiadau Gorffennaf 1914 mwyaf yr argreffir ar ei feddwl enciliad y llywodraethwyr mewn enw o'r Ymerodraethau ymosodol fel y nesaent at y dibyn, a hefyd y gyrru didrugaredd o'r peiriant milwrol tu ceín i'r delwau dychrynedig hyn. Llithrasant i ryfel, neu, yn hytrach, stagro a baglu a wnaethant, efallai trwy ffolineb, ac fe fuasai trafodaeth, yn ddiamau gennyf, wedi ei rwystro."

D. LLOYD GEORGE (Where Are We Going?)

"Gorfodir fi, gan ymchwil onest a thrwyadl o'r holl ysgrifau diplomyddol a'r holl gytundebau a'r perthynasau cyn y rhyfel, i ddatgan yn ddifrifol na orffwys cyfrifoldeb am y rhyfel ar un genedl yn unig o'r gwledydd gorchfygedig. Pan oedd ein gwledydd yn yr ymladdfa â gelyn peryglus, ein dyletswydd ydoedd cadw morale ein pobl i fyny, a lliwio ein gwrthwynebwyr yn y lliwiau tywyllaf, gan osod ar eu hysgwyddau yr holl fai a'r cyfrifoldeb."

SIGNOR NITTI (Wreck of Europe).

LLYGRIAD Y FFYNHONNAU

Cyfeiriwyd eisoes, a chyfeirir eto, at ddylanwad ofnadwy y Wasg. Penodwyd Arglwydd Northcliffe yn Gyfarwyddwr Propaganda yng ngwledydd y gelynion. Crewyd a chyhoeddwyd yn y Wasg gartref hanesion mwyaf gwrthun am erchyllterau ac anfadweithiau'r gelynion a oedd yn hollol gelwyddog, a chelwyd pob hanes am weithredoedd trugarog. O'r holl hanesion erchyll am anfadwaith llynges danfor yr Almaen yn tanio ar forwyr diamddiffyn mewn cychod, tystiodd yr Is-lyngesydd Americanaidd Sims fod y rhan fwyaf yn hollol gelwyddog, ac na wyddai ef ond am un achos o'r fath. Gwelir hanes cywilyddus y propaganda bwriadol hwn, er mwyn codi dychryn a dicter a chynhyrfu dial, yn llyfr yr Arglwydd Ponsonby, Falsehood in Wartime. Cyrhaeddodd yr enllib cyson a'r nwyd dialgar i bob cylch ac i bob gwlad, heb eithrio'r eglwysi Cristnogol. Cyhoeddwyd yn Ffrainc wedi'r rhyfel lyfr pwysig gyda'r teitl trawiadol "Brad y Clerigwyr i ffieiddio y rhai, yn glerigwyr, meddylwyr ac athronwyr a cheidwaid y ffydd, oedd yn cael tâl a pharch a bywoliaeth am gadw'r gwirionedd cyffredinol a chatholig, ond eto a oedd yn barod i wyro barn i ateb gofynion nwydau plaid a chenedl. Dyma dystiolaeth y gŵr Catholig enwog a'r gohebydd milwrol a welodd feysydd-gwaed y rhyfeloedd ar hyd y rhyfel:

"Credaf fod clerigwyr pob cenedl, oddigerth ychydig o'r rhai gwrol a chysegredig, wedi darostwng eu ffydd, sydd yn Efengyl o gariad, i ffiniau cenedl. Yr oeddynt yn wladgarwyr cyn eu bod yn offeiriaid, ac yr oedd eu gwladgarwch weithiau mor gyfyng, cul a gwaedlyd, ag eiddo'r bobl oedd yn edrych atynt am wirionedd a goleuni. Yr oeddynt yn aml yn fwy mileinig cyfyng a dialgar, na'r milwyr a ymladdodd. Erbyn hyn, fe wyddom fod y milwyr o'r Almaen ac Awstria, o Ffrainc, o'r Eidal a Phrydain, yn glaf o weled y lladd diddiwedd ymhell cyn diwedd y rhyfel, ac y buasent yn fodlon ar heddwch llawer tecach na'r hyn a fu, pe cymerid pleidlais yn y ffosydd. Ond yr oedd Archesgob Caergaint ac Esgob Cologne a'r clerigwyr a lefarodd o lawer pulpud mewn llawer cenedl o dan Groes Crist yn parhau i brocio tân casineb ac yn cymell y byddinoedd i ddal ymlaen i ymladd dros 'achos cyfiawnder,' 'amddiffyniad eu gwlad neu gyfiawnder Cristnogol' hyd yr eithaf chwerw. Gofid yw ysgrifennu'r fath eiriau, ond gan fy mod yn ysgrifennu'r llyfr hwn yn enw'r gwir, costied a gostio, gadawaf iddynt sefyll."

SYR PHILIP GIBBS (Realities of War).

GWEDDILL HEDDYCHOL YR EGLWYS

Ymysg yr ychydig y cyfeiriwyd atynt gan Syr Philip Gibbs a geisiodd gadw'n eglur dystiolaeth y proffwydi a'r Efengyl trwy gwrs y rhyfel yr oedd y Prifathro John Skinner, gŵr enwog fel ysgolhaig a diwinydd. Pan holwyd yng Nghymdeithasfa Eglwys Bresbyteraidd Lloegr paham yr oedd cynifer o efrydwyr Coleg Westminster, Caergrawnt, yn Heddychwyr cododd yr hen wron i egluro:

"Dywed rhai ohonoch mai bai John Skinner yw; dywed eraill mai bai John Oman yw, ond credaf eich bod yn gwybod yn eich calonnau mai bai Iesu Grist ydyw."

Tystiolaethodd ei olynydd, y Prifathro John Owen, mai'r eglurhad a gafodd gan wŷr ieuainc talentog a disglair a rwystrwyd gan y rhyfel rhag myned i weinidogaeth yr Eglwys ydoedd a ganlyn:

"Eu bod wedi colli eu ffydd yn yr Eglwys fel cynrychiolydd y math ar ffydd y daethant i'w meddiannu fel moddion i ennill unrhyw fuddugoliaeth wrol ac ysbrydol. Gallesid cyfleu eu hagwedd tuag at ryfel a'r eglwysi gan gwestiwn swyddog yn y fyddin oedd yn aelod o Eglwys Loegr, 'Beth a wnaeth yr Eglwysi i rwystro'r rhyfel? Beth a wnaethant i ddiogelu ein delfrydau ynddo? Beth a wnaethant i sicrhau heddwch wedi'r rhyfel?"

Gellid dangos ing a siom y milwyr drwy adrodd geiriau a llythyrau llawer un ohonynt. Dyma lythyr a ysgrifennwyd gan filwr ieuanc o Gymro, mab y Parch. David Lloyd Jones, Llandinam, cyn iddo gael ei ladd gan y Twrciaid ym mrwydr Bae Suvla, Awst 1915:

"Y mae cri heddiw am ddynion ac am arfau. Oni ddaw rhywun ymlaen i geisio gyda'r un ynni am lanhad o fywyd ysbrydol y genedl a am dorri ymaith yn llwyr â llwybrau a'n harweiniodd at y fath drychineb ofnadwy? Onid oes angen angerddol arnom am ddychwelyd at egwyddorion cyntaf ein ffydd, heb eu newid i foddhâu dadwrdd gwasg anffyddiol Hiraetha dyn am gael edrych at yr Eglwys am arweiniad ond y mae hyd yn oed yr Eglwys wedi ymrannu yn ei hagwedd at yr ymryson presennol A gred unrhyw Gristion gonest y bydd i broblemau bywyd gael eu penderfynu gan nerth arfau? Nid trwy lu ac nid trwy nerth ond trwy fy Ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd.' Er mwyn tosturi cedwch un golau clir yn ddisglair yn y nos ofnadwy hon. Yn sicr, saif Crist, fel erioed, yn golofn dragwyddol o heddwch ac o ewyllys da tuag at ddynion."

(CAPTEN EDWARD LLOYD JONES, R.W.F., 1915).

COSTAU RHYFEL

Cyfiawnheir pob rhyfel yn y dechrau gan ei ddibenion uchel, nes dyfod y pris ofnadwy, y moddion erchyll, a'r gwreiddiau cuddiedig i'r golwg. Ond nid ym merw'r drin, nac yn y papurau dyddiol, y gwelir yr hanes yn deg, ond wedi'r methiant, ac yn wyneb y dioddefaint a phan fyddo casineb yn dechrau cilio, a rheswm yn codi ei ben, a thosturi yn colli ei dagrau. Dyma gri angerddol milwr a bardd Cymreig yn y rhyfel olaf:

Mae son drwy'r papurau bellach "Daeth buddugoliaeth a hedd" Hwy'n siarad am fuddugoliaeth, a minnau yn siarad am fedd. A welsant hwy bris yr ennill? A welsant yr aberth drud? A welsant y lloer a gusana'r gwefusau oerion, mud? A welsant y clefyd creulawn? A welsant newyn y dref? A welsant fwg cartrefi llosg yn esgyn at orsedd nef? A welsant y breuddwyd am Gymru, cymoedd a llynnoedd glas? A'r deffro yng nghanol distryw o safn y magnelau cras? A welsant wallgofrwydd y clwyfog a gwymp ym merw'r drin? A welsant grychau casineb yn rhewi'n ddu ar ei fin? A welsant y gruddiau gwelwon a fathrwyd dan gammau'r meirch? A welsant y bedd di-enw? A welsant y cyrff di-eirch? Fe gawsom y fuddugoliaeth, ond dwedwch wrth Brydain y pris; Dywedwch o flwyddyn i flwyddyn, dywedwch o fis i fis: Dywedwch o'r wasg ac o'r pulpud; dywedwch yn ysgol y plant, Dywedwch ym mwthyn y bryniau, dywedwch ym mhlastai y pant.

—CYNAN (Buddugoliaeth).

Y FFEITHIAU CELYD

Cyhoeddwyd astudiaeth fanwl o achosion a chostau a chanlyniadau'r rhyfel gan yr Americanwr enwog Kirkby Page, dan nawdd Cyngor Eglwysi'r America, gyda rhagair gan y Dr. Fosdick. O'r llyfr hwnnw fe ddyfynnir y ffeithiau a ganlyn:

COSTAU ARFOGAETHAU Y RHYFEL

Gwariwyd yn y deuddeng mlynedd cyn y rhyfel diwethaf ar arfogaethau:

Gan yr Almaen, Awstria a'r Eidal   . . .   1,383,000,000p.
Gan Rwsia, Ffrainc a Phrydain   . . .   2,360,000,000p.

heb gyfrif costau rhyfel De Affrica, sef 178,000,0cop. At hyn rhaid cyfrif costau y rhyfel a ymladdwyd rhwng 1914 a 1918 mewn arian a gwerth bywydau ac eiddo, sef 67,589,000,000p.

Y COSTAU DYNOL

Lladdwyd milwyr   . . .   10,000,000
Tybiwyd eu lladd   . . .   3,000,000
Dinasyddion meirw   . . .   13,000,000
Clwyfwyd   . . .   20,000,000
Carcharorion   . . .   3,000,000
Amddifaid   . . .   9,000,000
Gweddwon   . . .   5,000,000
Ffoaduriaid   . . .   10,000,000

Nid rhyfedd i'r Dr. Fosdick yn ei Ragair i'r llyfr gyffesu:

"Ond gwelaf hyn yn glir, mai rhyfel yw'r pechod cymdeithasol mwyaf, a'r mwyaf dinistriol, sydd yn gorthrymu'r ddynoliaeth heddiw, ei fod yn llwyr ac yn anfeddyginiaethol anghristionogol, bod y drefn filwrol yn golygu'r cwbl nad olygai'r lesu, ac yn golygu dim o'r hyn olygodd Ef; ei fod yn wadiad mwy haerllug o bob athrawiaeth Gristnogol o Dduw ac o ddyn nag eiddo holl atheisiaid y ddaear. Gwelaf nad yw'r cwerylon rhwng ffwndamentalwyr a modernwyr, uchel-eglwyswyr ac isel-eglwyswyr ond yn degymu'r mintys a'r cwmin, oni bydd i'r Eglwys ddelio â'r prif-gwestiwn hwn—Crist yn erbyn rhyfel."

KIRKBY PAGE (War).

Y COSTAU MOESOL

Yn ôl cyn-Brif Weinidog yr Eidal (Signor Nitti):

"Bychan oedd y colliadau mewn eiddo a bywyd dynol o'u cymharu â'r tanseilio a fu ar foesau a gostwng safonau diwylliant a gwareiddiad."

Tystiodd Prif Weinidog arall:

"Fe dducpwyd ynghyd holl erchyllterau'r oesau, ac fe wthiwyd iddynt, nid yn unig byddinoedd ond poblogaethau cyfan. .. Ad-dalwyd pob anfadwaith yn erbyn dynoliaeth a deddf cenhedloedd gan ddial ar radd ehangach a hwyach. . . Pan ddiweddodd y cwbl, dirdyniaeth a chanibaliaeth oedd yr unig foddion nas defnyddiwyd gan y gwladwriaethau gwareiddiedig, diwylliedig a Christionedig."

WINSTON CHURCHILL (The World Crisis).

Heblaw y dinistr, y newyn a'r heintiau a heuwyd ar hyd Ewrop, disgrifia ymchwiliad Kirkby Page anfadwaith y Wasg a'r propaganda celwyddog yn hau casineb ledled y ddaear, ac fel y llygrwyd barn ac y carcharwyd miloedd yn yr America am argyhoeddiadau a oedd yn groes i farn y dorf a'r dydd. Dywed i buteindra gynyddu'n aruthrol ac yn ddi- gywilydd-dengwaith mwy o buteiniaid y stryd yn Llundain, a'r un modd ym Mharis a Berlin. A meddwdod yn gyffelyb. Difethwyd hefyd ffydd dynion mewn gair gwlad- weinwyr a chytundebau gwledydd. Bradychwyd y cytundeb i amddiffyn Belg gan yr Almaen yn 1914; ac ymhen pum mlynedd bradychodd y buddugoliaethwyr addewid a thel- erau heddwch yr Arlywydd Wilson ar sail ei 14 Pwynt o amodau Heddwch cyfiawn.

Cymhariaeth gartrefol Puleston am fai ac am feddwdod y cenhedloedd oedd ei stori am holi'r hwsmon gan ei weinidog a'i ateb a'i gyfiawnhad: "Tri ohonom oedd yn y dafarn, ac un ohonom yn flaenor, a glasiad am lasiad ddarfu ni ei yfed, ond fi feddwodd." Onid wrth ganu "Deutschland Uber Alles" neu "Brittania Rules the Waves" ac ymffrostio mewn nerth byddin a llynges y daeth meddwdod diod gadarn y nerth a'r llu i'r Cenhedloedd?

Y gwahaniaeth proffesedig rhyngom a llywodraethau anffyddol Rwsia a'r Almaen yw ein bod fel gwlad a theyrnas yn honni blaenoriaeth mewn crefydd, a dynoliaeth mewn gwleidyddiaeth.

PENNOD II

TAITH YR ANIALWCH

Y Ffordd Arall. Datgysylltiad. Yr Heddychwyr. Y Senedd Ryddfrydol. Heddychwyr Cymru. Anturiaeth y Cymod. Y Creaduriaid. Sosialaeth a Heddwch. Llonyddwch Llŷn. Llysoedd Barn. Dan y Ddeddf.

Y GENHADAETH HEDD

YSGRIFENNAIS a ganlyn ar lun profiad o bererindod bersonol, dan yr argyhoeddiad na cheir gwir heddwch heb gyfeillgarwch, ac na cheir cyfeillgarwch ond trwy gyfuniad a chyffyrddiad personol. Nid digon gan ddyn "egwyddorion cyffredinol" y pen, heb deimladau'r galon, a gweithrediadau a gwrthdrawiadau bywyd. Nid anghofiaf fod y gwirioneddau mwyaf wedi eu cyfleu i ddynion ar lun storïau, damhegion a hanesion, a ddangosai fywyd ar ei hynt, a phersonoliaeth yn ei waith. Modd bynnag ni ddysgais fawr mewn ysgol, ac nid oes gennyf na dull na dawn ysgolheigion. Yr addysg orau a gefais oedd atgofion amlochrog fy nhad a'm mam, sgwrs aelwydydd, cartrefi a chyfeillach, a chymdeithas y saint o lawer llun a lle.

Y FFORDD ARALL

Nid Doethion y Dwyrain yn unig a orfodwyd i ddychwelyd i'w gwlad "ar hyd ffordd arall" wedi gweled y Mab, a deall cenadwri Duw. Fe ddywedir bod pob dyn, rhywdro a rhywfodd yn ei fywyd, yn cyfarfod Crist ar Ffordd Damascus. Felly finnau. Cyn y rhyfel yr oeddwn yn gyfaill ac yn gydweithiwr a'r Arglwydd Davies Llandinam yn ei gynllun- iau eang i wella cyflwr Cymru. Ymdaflodd eisoes i ymdrech genedlaethol yn erbyn y Pla Gwyn, trwy hyrwyddo sefydliadau ac ysbytai arbennig ar hyd a lled y wlad i wella'r cleifion ac i chwilio achosion y darfodedigaeth alaethus yng Nghymru. Cafwyd yn fuan nad diffyg yn y cyfansoddiad dynol oedd yr achos mawr tu ôl i'r clefyd, ond diffyg awyr iach a thai iach. Wedi cwrs o adferiad hir a chostus mewn sanatoriwm dychwelai'r claf i'r tŷ slymaidd neu afiach, a chlafychai drachefn. Felly gofynnodd i mi gydweithredu ag ef a cheisio myned at wreiddyn y drwg trwy adeiladu nifer o faesdrefi (Garden Villages) yng Nghymru er mwyn egluro i'r wlad beth oedd yn bosibl ac yn ymarferol i godi tai rhad, iach a heulog a chyfleus a hardd. Cawsom wasanaeth gwŷr dyheig fel Syr Raymond Unwin a T. Alwyn Lloyd a ddaeth yn bensaer i'r Welsh Town Planning and Housing Trust. Adeiladwyd yn ystod y blynyddoedd rai miloedd o dai heirdd a threfnus i weithwyr mewn maesdrefi yn Wrecsam, Rhiwbina, y Barri, Burry Port, Llanidloes, Machynlleth, a llawer man yn Lloegr. Yr oedd ffordd- lydan gwasanaeth gwlad felly yn agored led y pen, gyda chefnogaeth teulu dyngarol a chyfoethog, a chyfarwyddyd a chydweithrediad rhai o wŷr enwog Cymru—megis Arglwydd Kenyon, Arglwydd Treowen, Syr Stafford Howard a Syr Lleufer Thomas, ac eraill a gymerai olwg eang ar drefn a chynhaliaeth yr anturiaeth.

Cefais hefyd bob croeso a chymorth, trwy Syr Herbert Lewis a Syr Hugh Owen, gan Weinidogaeth y Llywodraeth Leol. Teimlais, wrth weled y pentrefi hardd yn codi, a gerddi digonol a choedydd prydferth o'u hamgylch, fy mod yn cyffwrdd realiti yng Nghymru, ac yn gosod sylfeini'r ddinasyddiaeth newydd. Yr oeddwn hefyd yn Lieutenant yn Nhiriogaethwyr yr R.W.F., yn hela llwynogod, yn aelod eglwysig, ac ar delerau da â'r byd. Yna treiglodd ffrwd y bywyd personol dros fy ffordd lydan; yfais o'i dyfroedd, cloffais rhwng dau feddwl, clafychais gan benbleth, chwiliais yn ddyfnach i ogofeydd cymhellion a bywyd nes cyrraedd y tywyllwch eithaf. Ac yn y fan honno y daeth goleuni Crist a darganfyddiad o'i eiriau mai amod ei ddisgyblaeth oedd ufudd-dod: "Os cerwch fi cedwch fy ngorchmynion"-nid teimlad, na chyffes, na phroffes, na gwaith. Gwybod a gweithredu oedd trefn addysg y byd. Gweithredu a gwybod oedd trefn yr Efengyl: "Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys Ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth." Ac, o beth i beth, deuthum o anobaith a thywyllwch i oleuni gyda hyn-megis "angor yr enaid"-mai cariad personol Crist oedd yn cadw ac yn cymodi, ac mai cyfeillgarwch personol, ac nid clod nac anghlod y byd, oedd yn cyfrif yn y pen draw. Pan welais gyntaf yn 1915 ddatganiad Brawdoliaeth y Cymod mai cariad, fel y'i dehonglwyd ym mywyd a marwol aeth y Gwaredwr, ydoedd yr unig ffordd i gael gwir fuddugoliaeth ar drygioni, ysgrifennais am fanylion pellach, euthum i Gynhadledd y Frawdoliaeth, cynigiais fyned gyda Maud Royden ac eraill mewn carafan i gyhoeddi'r Genhadaeth Hedd; ond cyn i mi gyrraedd, daeth y newydd fod y dorf yn Nuneaton wedi llosgi'r garafan a churo'r cenhadon. Felly nid oedd dim i'w wneuthur ond cynnig fy ngwasanaeth iddynt mewn rhyw ffordd arall.

DATGYSYLLTU

Yr argyfwng a barodd imi yn derfynol ddatgysylltu fy hun o'm swydd a'm gwaith adeiladol ydoedd ffarwelio â'm brawd a'm cefndyr a oedd yn swyddogion yn yr R.W.F. yn Rushden ac yn ymadael am y Dardanelles. Dywedai fy nghefnder wrthyf, wedi hir ymgom yn yr hwyr, na welem ein gilydd eto, a'i fod wedi cael breuddwyd hynod, flynyddoedd yn ôl, mai marw ar faes rhyfel a fyddai ei dynged. "A theimlaf rywsut ei fod yn wrong i gyd; ond ni chefnaf ar y bechgyn." Dywedais innau os ydoedd ef am adael y cwbl er mwyn y deyrnas na allwn innau lai na gwneuthur rhywbeth cyffelyb dros Deyrnas Dduw. Atebodd yntau, "Os na bydd neb arall, mi fydda' i yn eich deall." Yn y llythyr olaf a gefais oddi wrtho dywedodd ei fod yn gweddïo am i mi gael nerth i ddilyn fy nghenhadaeth hedd, ac yr oedd hyn bellach megis sacrament â'r meirw.

Nid hawdd ydoedd datgysylltu â chyfeillion swydd a gwaith. Yr oeddwn yn ysgrifennydd i dair o gymdeithasau adeiladu, ac yr oedd ar eu byrddau wŷr milwrol fel Arglwydd Kenyon ac Arglwydd Treowen, hen gadfridog oedd yn methu à deall safle Heddychwr. Ymwelais â Chyrnol David Davies, oedd gyda Bataliwn yr R.W.F. yn Llandudno, i ymddiswyddo o'm gwaith. Cefais ginio gydag ef a swyddogion y fataliwn ac yna trafodaeth hir hyd yn hwyr y nos am fy mhenderfyniad i ymroi i waith heddwch. Dadleuai yntau y cytunai â mi fod angen y fath genhadaeth cyn y rhyfel, ac y deuai yntau gyda mi wedi'r rhyfel, ond ffwlbri glân ydoedd yng nghanol rhyfel. Gofynnai paham na allwn ddal at fy swydd ddyngarol pan oedd ef yn barod i fentro ei fywyd yn Ffrainc. Atebais na ddylasai omedd i mi unrhyw aberth dros Deyrnas Dduw yn ôl fy nirnadaeth ohoni. Felly, ac nid heb ofid, y bu datgysylltu â gwaith diddorol ac â chyfeillion personol. Y ddau a'm deallodd orau ydoedd yr annwyl Syr Lleufer Thomas a Syr Stafford Howard. Daeth yr olaf yn unswydd i Gaerdydd i geisio fy narbwyllo, a threuliasom oriau yn ei ystafell yn y Park Hotel. Dywedai fod ei frawd yn Llysgennad yn Sweden ac yn gwybod am gynlluniau'r Almaen, a'i fod yntau'n credu hefyd nad oedd ond ffordd Crist amdani yn y diwedd, wedi i ni roi "curfa dda iddynt" i ddysgu'r wers. Modd bynnag, trodd y ddadl yn seiat brofiad; dywedodd wrthyf am droeon ei yrfa, am ei briodas hapus, am ei ferch fach a ddysgai Gymraeg. Yn y diwedd dywedodd na fynasai er dim fy mherswadio yn erbyn fy ngweledigaeth; siarsiodd fi, os byddwn mewn unrhyw angen neu anhawster, beidio â phetruso gofyn am ei gymorth neu ei gyfarwyddyd. Pan gofiais ei fod o dras uchaf y Saeson, yn ŵyr i'r Dug Norfolk, yn dirfeddiannwr mawr ac yn gyn-aelod o'r Llywodraeth, ni allwn beidio â rhyfeddu mor debyg oedd gwŷr gwir fawr i wŷr bach cartrefol y werin. Y dynion canol, yn aml. "y gwas pan llywodraetho," sydd yn ymchwyddo ac yn ymbellau yn rhinwedd ei swydd a'i safle.

YR HEDDYCHWYR

Ym mlynyddoedd cyntaf y rhyfel, ychydig oedd y rhai a broffesai "ffordd fwy rhagorol" na rhyfel. Yr oedd dylanwad y Wasg, fel ym mhob rhyfel, yn cuddio pob rhinwedd o eiddo'r gwrthwynebwyr ac yn bloeddio pob bai. Tri aelod yn unig o'r Llywodraeth Ryddfrydol a ymddiswyddodd yn hytrach na chefnogi rhyfel—Arglwydd Morley, Syr Charles Trevelyan a John Burns; agnosticiaid, heb broffesu Crist, oedd y tri, fel y mab hwnnw a ddarluniwyd yn y ddameg ac a ddywedodd, "Nid af; ond efe a aeth." Yn niwedd 1914 cyfarfu nifer o weinidogion a chrefyddwyr o bob enwad yn Llandudno i geisio mewn cyfyng-gyngor y "ffordd amgenach." Yr oeddynt yn Eglwyswyr, yn Anghydffurfwyr ac yn Grynwyr. Yn eu plith yr oedd y Cymro, y Parch. Richard Roberts (llywydd Eglwys Unedig Canada wedi hynny), a phenodwyd ef yn ysgrifennydd i'r frawdoliaeth fechan a ffurfiwyd. Lledaenodd Brawdoliaeth y Cymod wedi hynny, ac ar ôl y rhyfel bu'n lefain yn eglwysi'r Cyfandir a'r Unol Daleithiau. Mewn amser daeth rhai o'r aelodau cyntaf yn adnabyddus iawn—megis George Lansbury, Richard Roberts, Leyton Richards, a ddaeth yn weinidog Carrs Lane, Birmingham; Dr. Henry Hodgkin, ysgrifennydd cyntaf Cyngor Eglwysi Crist yn Sina. Ond ym mlynyddoedd y rhyfel bu'n rhaid wynebu gwg yr eglwysi, a rheg y Wasg, ac weithiau ruthriadau'r dorf ddrwgdybus. Cofiaf gynhadledd yn Nhŷ'r Crynwyr yn Llundain, a milwyr a morwyr yn dringo dros y pyrth i ruthro ar y cyfarfod dan anogaeth papurau fel John Bull, o eiddo Bottomley a Northcliffe. Apêl George Lansbury am ffyddlondeb i Grist, a thawelwch rhyfedd yr hen Grynwyr, a'n cadwodd yn ddianaf nes egluro i'r milwyr wir natur y cyfarfod. Dringasant oll yn ôl a bu eu heglurhad yn foddion i chwalu'r dorf nwydwyllt.

Yn gynnar yn 1915 cynigiais innau fy ngwasanaeth i'r Frawdoliaeth a gweithredais fel cyd-ysgrifennydd â Richard Roberts. Gwelsom yn gynnar fod rhwygiadau'r eglwys yn Ewrop yn adlewyrchiad o rwygiadau'r eglwysi gartref yn ei sectau gelyniaethus ar ôl helynt y Datgysylltiad, a bod arnom angen oll am ras ac amynedd i ddeall a dysgu'r ddisgyblaeth gatholig yn ein plith ein hunain. Ymysg y pleidiau politicaidd, yr I.L.P. yn unig, dan arweiniad gwŷr crefyddol fel Keir Hardie a Bruce Glasier, oedd yn gwrthwynebu y rhyfel ar dir brawdoliaeth y gweithwyr. Ffurfiwyd hefyd y No Conscription Fellowship, dan arweiniad Clifford Allen (wedi hynny Arglwydd Allen), i gynrychioli Gwrthwynebwyr Cydwybodol o bob math, yn grefyddwyr, Sosialwyr a Chomiwnyddion.

Y SENEDD RYDDFRYDOL

Yn y Senedd, nid oedd ond dyrnaid o Heddychwyr sicr, er i'r Blaid Ryddfrydol ddod yn orchfygol yn 1906, trwy arweiniad Pasiffistiaid fel Campbell Bannerman a Lloyd George yn Rhyfel De Affrica. Cofiaf fy ngwahodd i ginio yn y Tŷ Cyffredin i gyfarfod rhai o'r aelodau a allasai wrthwynebu'r Mesur Gorfodaeth Milwrol yn 1916. Cloffi rhwng dau feddwl yr oedd y Prif Weinidog Asquith a Syr John Simon ar y pryd. Eglurodd yr hen wron John Dillon nad oedd gan yr Aelodau Gwyddelig gyfrifoldeb ond am ei rwystro yn Iwerddon, ac nad oedd ganddo ffydd o gwbl yn niplomyddiaeth gudd Prydain. Dywedai J. H. Thomas ei fod wedi cyfarfod yr Arglwydd Lansdowne, ac iddo ddweud wrtho fod Churchill wedi dod yn glir o'r fagl, ei fod yntau wedi llusgo'r Llywodraeth i helynt ofer y Dardanelles, am y dywedasai'r Prif Weinidog yn y Senedd, "Cyn i un o'r gynnau danio, yr oedd y Cabinet wedi cymryd cyfrifoldeb llwyr am y Dardanelles. "Ond," meddai Thomas, "pa bryd cyn i'r gynnau danio'—ychydig oriau?" "Clyfar iawn," ebe Lansdowne. Yn ddiweddarach disgrifiwyd yr anturiaeth ofer gan Churchill, "I recommended the Dardanelles expedition as a legitimate war gamble." Ond yno y collwyd 150,000 o Brydeinwyr, fy nghyfaill pennaf, a lluoedd o Gymry gwladaidd. Wrth wrando ar gossip gwleidyddol o'r fath a dod allan o'r ystafell gydag Allen, dywedais wrtho, "Y mae'n dda gennyf ddod allan i'r awyr agored." Atebodd yntau, "Yr wyf yn cydweled â chwi yn hollol; nid oes unrhyw obaith inni yma am nad oes ganddynt egwyddor sylfaenol; rhaid inni ymddiried yn ein hadnoddau ein hunain." Fel ffaith, credaf mai cyfeillgarwch yr Arglwyddes Otteline Morel a'r Prif Weinidog Asquith a fu'n foddion i liniaru y Mesur Gorfodol, a derbyn gwelliannau Philip Snowden ar gyfer y Gwrthwynebwyr Cydwybodol, a hynny mewn Senedd a'u mwyafrif yn Rhyddfrydwyr ac Anghydffurfwyr! Brawd yr Arglwyddes, yr Arglwydd Henry Bentinck, ac yntau'n fab i'r Dug o Portland, a fu'n un o'r ychydig leisiau cyson dros haelioni a thegwch. Felly, o bob enwad a dosbarth y casglwyd yr ychydig weddill a wrthwynebodd neu a geisiodd liniaru drygau y rhyfel yn y maes gwleidyddol.

HEDDYCHWYR Cymru

Nid oedd Cymru heb ei Heddychwyr yn y dyddiau hynny. Yr oedd gwŷr adnabyddus yn y Gogledd, megis y Dr. Puleston Jones, y Dr. Cernyw Williams, y Prifathrawon Tom Rees a John Morgan Jones, yr Athro T. Gwynn Jones, y Barnwr Bryn Roberts, ac eraill, yn ddi-dderbyn-wyneb yn eu Pasiffistiaeth, a chafwyd Seiat Heddychwyr fyth-gofiadwy o'r arweinwyr yn Abermaw yn gynar yn 1916. Yn eu plith hefyd yr oedd yr hynod John Morgan Jones o Ferthyr, ysgolhaig ac athronydd a phroffwyd nas cydnabuwyd yn ei ddydd. Cofiaf yn niwedd 1915 fyned i annerch cyfarfod ym Merthyr. Yn Llundain a Lloegr prin oedd y cynulliadau cyhoeddus dros heddwch; arfer heddychwyr a disgyblion Tywysog Tangnefedd oedd cyfarfod o'r neilltu ac yn aml "cau y drysau rhag ofn yr Iddewon." Ond ym Merthyr fe'm synnwyd wrth weled cyfarfod o ddwy fil o bobl yn gwrando'n astud dan lywyddiaeth J.M., a eglurai ei fod yno, nid fel gŵr plaid, ond fel gweinidog Crist. Wedi hynny bu Merthyr fel Mecca i bererinion heddwch megis Ramsay Macdonald, Ponsonby, Trevelyan, ac eraill na allent ddweud eu cenadwri mewn mannau eraill o'r wlad. Yr oedd Keir Hardie, yr A.S. dros Ferthyr, yn Heddychwr o argyhoeddiad dwfn, fel ei ragflaenydd Henry Richard, A.S. Torrwyd calon Hardie o'r diwedd pan floeddiwyd ef i lawr gan y dorf yn ei etholaeth ef ei hun yn Aberdâr. Cyffesodd cyn ei farw, "Yn fynych yr wyf yn glaf o galon â gwleidyddiaeth a phopeth a berthyn iddi. Pe bawn ugain mlynedd yn iau credaf y gadawswn gartref, gwraig a phlant, i bregethu holl Efengyl Iesu Grist." Trodd y dorf yn fuan ar ôl ei farwolaeth i ddilyn disgyblion Keir Hardie, ond troisant wedyn gyda hwy i ymladd y rhyfel dosbarth, ac wedyn i gefnogi'r rhyfel presennol. Fel yr aeth y rhyfel yn ei flaen, carcharwyd miloedd o Wrthwynebwyr Cydwybodol am fethu cael eu cydnabod gan y Tribiwnlysoedd, neu am anufuddhau i delerau eu dyfarniad. Cefais innau fy eithrio'n llwyr gan y llys cyntaf yn Llundain: fe'm dedfrydwyd i wneuthur gwaith anfilwrol gan Lys yr Apêl; a'm rhyddhau i waith dan Gymdeithas y Cyfeillion gan y Llys Uchaf.

ANTURIAETH Y CYMOD

Yn nechrau'r flwyddyn 1916 fe'm gwahoddwyd i anturiaeth y cymod ynglŷn â throseddwyr ieuainc o'r carchardai, sef ceisio ffordd amgenach i'w diwygio na charchar a chosb ofer. Yr oedd carchardai'r wlad ar y pryd yn llawn o droseddwyr ieuainc. Trosglwyddwyd inni nifer o lanciau anhydrin a merched gwyllt gan y Barnwr cyfiawn hwnnw Syr Edward Clarke Hall; y mae peth hanes yr anturiaeth a'n ffordd gyda throseddwyr i'w gael yn ei lyfr, The State and the Child, ac hefyd yn The Young Delinquent gan yr Athro Cyril Burt, cynghorydd mewn seicoleg i Bwyllgor Addysg Llundain. Felly, nid gwrthwynebu rhyfel oedd yr unig gam oedd yn agored i Heddychwyr, ond ceisio wynebu pob cam oedd yn ein cyrraedd tuag at ryddhad plant dynion o achosion gelyniaeth, sef trosedd, a dial ofer, oedd yn drygu cymdeithas gartref a thramor. Cefais ymgom faith â C. Russell, Prif Swyddog y Swyddfa Gartrefol ynglŷn â throseddwyr ieuainc. Wedi rhyw dair awr o hanes a phrofiad, dywedodd "Os ydych chwi yn iawn, y mae holl gyfundrefn carchardai Prydain yn groes i ddeddfau seicoleg." Atebais nad oeddym ninnau yn iawn, ond fod dysgeidiaeth Crist ynglŷn ag argyhoeddiad a dychweliad y troseddwr yn seicoleg dwfn, deallus ac ymarferol.

Nid oes gofod yma i ddisgrifio helynt ein bywyd beunyddiol mewn ffermdy yn y wlad gyda dwsin o droseddwyr ieuainc nwydwyllt. Gwelsom ysbeidiau o ymladdfeydd, o ddiogi, o ddwyn ac o ddianc am ddiwrnodíau; ond rywsut llwyddasom i gadw ysbryd y teulu a gwelsom y naill a'r llall yn torri trwodd ac yn newid eu meddwl a'u ffordd o fyw. Nid oedd na chosb na chaethiwed, na bygwth na phregeth yn yr anturiaeth, eithr rhyddid llwyr a dull o fyw oedd yn eu harwain, drwy brofiad o'u hanrhefn eu hunain, i droedigaeth meddwl. Y mae hanes anturiaeth gyffelyb i'w weled yn y Little Commonwealth gan yr Americanwr Homer Lane, un o'r dynion mwyaf yn anturiaeth ryfeddaf ei genhedlaeth (yn ôl ei gyfaill Arglwydd Lytton) ynglŷn â phwnc sylfaenol cymdeithas, sef "Pa fodd i drin y troseddwr?'

Y CREADURIAID

Ar ddiwedd yr anturiaeth gyda'r troseddwyr euthum fel bugail defaid a gwas ffarm i Lŷn.

Wedi byw mewn pwyllgorau a thrafodaethau politicaidd a chrefyddol yn Llundain, a dod wyneb-yn-wyneb â llygriad yr ieuenctid gan fywyd y slymiau yno, yr oedd bywyd bugail yn Llŷn, yng nghanol creaduriaid gwlad a ffarm, yn foddion gras. Awn gyda'r ci, cyn glasu o'r dydd, ac ar draws yr eira yn y Gwanwyn, i chwilio am fy mhraidd. Cefais hwynt yn aml yn llechu rhag y gwynt oer ac yn chwilio am flewyn glas ym môn y cloddiau, ac yn fynych wedi eu dal gan ganghennau'r mieri. Gwingasant mewn dychryn wrth i mi nesáu, a'm cyllell yn fy llaw, ac yna gorweddasant yn llonydd mewn braw. Wedi torri'r mieri a'u gollwng yn rhydd, synasant am wyrth oedd yn rhy ryfedd i'w deall gwlanog hwy. Weithiau cefais oenig yn brefu wrth ochr ei fam farw, ac wrth i mi ei gario yn fy mreichiau i'r ysgubor, a'i ddysgu i yfed llefrith cynnes, a chlywed wedyn ei fref groesawus wrth fy nisgwyl, codai hen reddfau cyntefig dyn wrth ofalu am greaduriaid gwan a gwirion. Dysgwyd fi yn fuan mor anodd ydoedd dal dafad neu oen ar eu pennau eu hunain, ac mor hawdd ydoedd eu gyrru i'r fan a fynnwn ond iddynt heidio i braidd dan gyfarthiad y ci. Rhyw greadigaeth newydd ydoedd yr oen llywaeth, heb fod yn perthyn i'r haid, heb ofn na bugail na chi, am ei fod wedi ei fagu â'r llaw, ac mewn awyrgylch cartref. Deuai yn hy i'r gegin a chwarae ei branciau fel plentyn. Deallais yn awr yn well ergyd neges y proffwyd Nathan i'r Brenin Dafydd am yr oen llywaeth. Dysgais hefyd fod ffordd i lywodraeth calon y ci. Gwyddwn ychydig am "iwsio" ceffyl yn hytrach na'r "torri i mewn" didrugaredd; blinwyd fi'n aml flynyddoedd cynt gan galedwch marchogion ac amaethwyr tuag at y creaduriaid oedd dan eu llywodraeth unbenaethol. Dysgais orfod cadw fy nhymer gyda'r ci, a dod yn y diwedd yn ben ffrindiau. Ymhen deng mlynedd ymwelais eto â'r ffarm, ac wrth i ni gael te yn y parlwr, sleifiodd yr hen gi i'r cysegr a than y bwrdd, a theimlais ei drwyn oer ar, fy llaw, a'i dafod yn ei llyfu. Cymerais ddiddordeb mawr yn y "rasus cŵn" fel y gelwid hwynt, ac yn nawn gwŷr gwladaidd oedd wedi dysgu'r grefft o'u disgyblu mewn ffordd rasol. Cefais dystiolaeth gan fwy nag un o'r rhai mwyaf deheuig yng Ngogledd Cymru, mai disgyblu meddwl a thymer y bugail yw'r cam cyntaf yn y ddisgyblaeth. Cefais, ymhen blynyddoedd, lythyr pwysig oddi wrth y cyfaill hoffus L. J. Humphreys, Rhos Lefain, Towyn, a oedd yn ŵr blaen yng nghyfarfodydd cystadlu y cŵn defaid. Y mae ei brofiad ymarferol mor eang, a'i athrawiaeth mor hynod, yn wyneb credo gyffredinol yr oes mewn cosb a gorfodaeth, mewn ysgol a byd, fel y dyfynnaf yn helaeth ohono am driniaeth y bwystfil sydd yn gefnder i'r blaidd":

"Ystyr hyfforddi yw datblygu dealltwriaeth ci. Nid yw hyn yn golygu gwneuthur peiriant o gi, i gyflawni beth bynnag a ddywedir wrtho, ond cael gan y ci i sylweddoli ei fod yn berson, gyda'i feddwl ei hun a gallu i ymresymu, sydd yn ei alluogi i ddeall sefyllfa ac i weithredu yn ôl hynny. Y wers gyntaf yw dysgu iddo ei fod yn gyfaill i'w feistr ac nid yn anifail; a gwneir hynny nid trwy ddicter a chosb ond trwy ddealltwriaeth a charedigrwydd. Y mae rhywfaint o gosb yn hyfforddiant pob ci; mewn gwirionedd cosbir ef bob tro y bydd yn cyfeiliorni, ond nid gan ei feistr ond ganddo ef ei hun. Y mae ci yn byw i blesio ei feistr ac yn gwybod yn union pan fyddo wedi methu. Y mae atal gair caredig ei feistr yn ddigon o gosb iddo. Y mae'n bwysig i gi gael deall bob tro y metha, a bod cyfeiliornad un dydd yn gyfeiliornad bob dydd. Nid yw perthynas chwareus ac annwyl yn lleihau dim ar ufudd-dod na deall y ci, os meithrinir ef yn iawn. Os yn chwarae, chwaraewch; os gweithio, gweithiwch, ac wrth weithio sicrhewch ufudd-dod. Triniwch eich ci yr un fath bob amser; ni wna y tro i fod yn fanwl iawn un dydd ac yn llac y nesaf. Fe gyll y ci ei ffydd ynoch yn fuan. Y mae'r ci a iawn-hyfforddwyd yn deimladwy iawn i feddwl a thymer ei hyfforddwr. Fel y bo dyn, felly ei anifail hefyd. Ni sylweddolwyd hyd yn ddiweddar fod gan gi alluoedd cynhenid, ac mai'r unig ffordd i'w addysgu'n iawn yw datblygu y rhai hyn fel y gall gydweithredu a gweithredu'n annibynnol ar ei feistr fel bo'r amgylchiadau yn gofyn. Mewn gair, y mae gan gi reswm a gallu i'w ddefnyddio, a champ y bugail yw ei gael dan reolaeth heb bylu'r gallu hwn. Rhaid cael ci o dan reolaeth, ond trwy ddealltwriaeth ac nid trwy orfodaeth. Gwna'r bwystfil pennaf hyn o ofn y canlyniadau, ond gweithredu rhag ofn cosb a wna, ac nid cydweithrediad ewyllys. Rhaid i'r bugail ennill calon ei gi, a chael ei ymddiriedaeth, ac yna fe ddaw i ufuddhau o gariad ac nid o ofn, ac unig nod ei fywyd fydd gwneud ei orau i'w feistr. Ymddiriedaeth sydd yn creu ufudd-dod ewyllysgar, cydweithrediad a ffyddlondeb. Hyn a wna'r ci yn bartner ac nid yn beiriant."

Caraswn i'r geiriau uchod gael eu hargraffu ar femrwn hardd ym mhob ysgol, ac ym mhob llys a charchar, ie, ac ym mhob Prifysgol, rhag i ddynion syrthio yn ôl ar hen esgus sâl dros fygythiad a chosb a dial-na ellir newid y natur ddynol. Pa les yw bloeddio am Hunan-reolaeth i Gymru gan wŷr na allant reoli eu tymer wrth guro a chramio plant Cymru yn y tipyn llywodraeth ddynol sydd tan eu hawdurdod?

SOSIALAETH A HEDDWCH

Yr unig newyddiaduron yng Nghymru a ddaliodd at eu tystiolaeth dros heddwch oedd Y Dinesydd yn y Gogledd a'r Darian a'r Merthyr Pioneer yn y De. Synnais pan yn bugeilio yn Llŷn fod, papur mor uchel ei ddelfrydau â'r Dinesydd, ac mor gartrefol ei arddull Gymreig, yn dal ei dir. Ar y cyfle cyntaf euthum i Gaernarfon i weld y Golygydd, John Huw Williams. Ni phallodd fy mharch iddo a'n cyfeillgarwch ar hyd y blynyddoedd. Cefais ei hanes o beth i beth, ei fod yn ddisgybl i Tolstoi ac i Keir Hardie. Mentrodd ei fywoliaeth wrth ddechrau cyhoeddi papur er budd ei gydweithwyr. Daliodd i ddweud ei argyhoeddiad wrthynt, fod yn rhaid wrth wreiddiau cartrefol a chymdogaethol i heddwch a chyfiawnder. Hawdd ydoedd i Sosialwyr ddweud y drefn am ddrygau rhyfel a chyfalafiaeth, ond anodd ydoedd dal i ddweud am y drefn i waredu'r werin rhag yr un drygau yn eu plith eu hunain, yr ymddiried yn y nerth a'r llu Llafurol, y swydd, a'r arian, ac ysbryd y dorf. Pan welais ef gyntaf yr oedd yn rhygnu byw ar ryw bunt yn yr wythnos, ac yn gweithio deuddeng awr yn y dydd ar waith golygydd, argraffydd a threfnydd. Medrais hel gan gyfeillion 600p. yn rhodd i gadw'r papur ar ei draed. Daliodd i ysgrifennu ei argyhoeddiadau am grefydd a gwleidyddiaeth "at iws gwlad," ac yn arddull Senedd y Pentref; cynorthwywyd ef gan ysgrifau doniol a dawnus y bardd J. T. W., Pistyll, a gyfunai diwylliant gwerin pen Llŷn, gweledigaeth graff a naturioldeb dirodres. (Cyhoeddais dipyn o atgofion am J.T.W. a pheth o'i brydyddiaeth yn Yr Ail Bistyll). Yr oedd Y Dinesydd yn eithaf tebyg i ddull a dawn Lansbury's Weekly, a aberthwyd er budd y Daily Herald, ond collwyd y cyffyrddiad personol a chrefyddol wedi hynny. Cofiaf fod mewn cyfarfod o arweinwyr y Blaid Lafur yng Ngogledd Cymru pan ganmolwyd Y Dinesydd a gwaith ei Olygydd gan E. T. John, A.S., a ddaethai i'r Blaid Lafur ac a oedd yn Heddychwr. Cododd y Golygydd cartrefol, oedd wedi dal pwys a gwres y dydd pan aeth arweinwyr Llafur gyda lli y rhyfel, a dywedodd yn syml, "Pan sonwich chwi am y tipyn papur acw, 'rwy'n teimlo'n union fel tasech chwi'n siarad am un o'r plant acw; ac wrth i chwi ei ganmol, ni choeliech chwi mor agos yw'r dagrau." Gan fod y chwarelwyr bellach yn ennill cyflogau da, a miloedd yn eu cronfeydd, meiddiais ysgrifennu at gyfrinfeydd eu Hundeb i erfyn arnynt gynorthwyo papur swyddogol eu hundeb eu hunain, a gysegrwyd gan y fath ffyddlondeb ac aberth personol at eu gwasanaeth. Ymhen amser cyfrannwyd rhai cannoedd gan y chwarelwyr, a chyflwynwyd Y Dinesydd i gwmni newydd dan reolaeth nifer o wŷr amlwg yn y Blaid Lafur.

Ond, er fy mawr syndod a'm siom, gollyngwyd yr hen beilot ganddynt dros ochr y llong, a hwyliwyd y papur bellach i gyfeiriad y Trade Winds poblogaidd oedd yn dechrau llenwi hwyliau'r Blaid Lafur, a chollwyd y neges ysbrydol. Ni bu'r Dinesydd bellach yn hir cyn myned yn llongddrylliad; ond achubwyd y peilot i ddilyn ei weinidogaeth bersonol a dyngarol yn y Mudiad Dirwest. Collodd ei swydd, ond cadwodd ei dystiolaeth a'i weledigaeth a pharch ei gyfeillion, fel y gwnaeth ei wroniaid Keir Hardie a George Lansbury, pan yn gwrthod myned gyda lli Llafur. Methodd hefyd Y Darian ddewr yn y De, er holl ymdrech ac aberth y Parch. Tywi Jones i gynnal papur Cymreig anenwadol yn Neheudir Cymru. Yn awch y cyhoedd am bapur ceiniog, oedd yn llawn o hysbysiadau a darluniau, ac yn barod i ddilyn pob awel dysgeidiaeth boblogaidd, collwyd hefyd y Merthyr Pioneer a Lansbury's Weekly a'r Nation. Rhyfedd yw meddwl bod y Daily Herald bellach yn eiddo i gwmni cyfalafol fel Odhams Press ac Arglwydd Southwood, yr Iddew, yn gadeirydd iddo. Mor araf y daw'r werin i sylweddoli y gellir prynu arian yn ddrud, a'i wario'n gynnil ar bapurau a werthir er mwyn elw a chylchrediad ac nid er mwyn dal "y gwir yn erbyn y byd."

Cofiaf hefyd yn 1917 fyned i Gynhadledd yr I.L.P. yng Nghonwy a chyfarfod nifer o arweinwyr y blaid yno. Anerchwyd y cyfarfod gan yr hynod J. Bruce Glasier, cyfaill mynwesol J. Keir Hardie, a llenor y mudiad. Magwyd ef yn Uchel Diroedd Sgotland yn Galfinydd, ond yn ei waith dros weriniaeth a dynoliaeth torrodd ymaith oddi wrth hualau cyfundrefn eglwys a meddwl a aeth yn galed ac yn gul yn Sgotland. Dywedodd yn ei araith, ymysg pethau eraill, pe cynigid iddo holl fanteision Sosialaeth i'r wlad, ar yr amod ei fod yn caniatau cymryd un bywyd dynol, gwrthodasai'r cynnig, am mai ystyr ei Sosialaeth ydoedd cysegredigrwydd y bersonoliaeth ddynol. Synnais glywed y fath ddelfryd yn y fath le. Yn y drafodaeth dywedais innau ychydig am fy narganfyddiadau y llynedd o'r "daioni gwreiddiol" ymhlith troseddwyr ieuainc slymiau Llundain. Gofynnwyd i mi annerch y gynhadledd ar hyn yn y prynhawn; wedi gwneuthur hyn, a chael fy nghroesholi am awr, ymddangosai diddordeb neilltuol yn y pwnc. Yr oedd Pasiffistiaeth yr I.L.P. yn golygu moddion gwleidyddol gwahanol i ryfel; ac nid oedd gorfodaeth deddf na thorf yn lân o ddiystyrru personoliaeth; felly yr oedd triniaeth bersonol o'r troseddwr mewn ffordd arall yn myned at wreiddyn mater tangnefeddiaeth mewn gwleidyddiaeth. Treuliais ddwy awr wedyn yng nghwmni Bruce Glasier a Margaret Bondfield, a chlywais hanes ei bererindod ysbrydol ef. Dywedai ei fod, yn nyddiau ei Sosialaeth Marxaidd, yn gwrthod cyhoeddi barddoniaeth werinol ac enw Duw ynddo, am y credai ei fod yn ofergoeledd; ond yr oedd wedi teithio ymhell wedi hynny, ac wedi darllen yn fanwl y Testament Newydd ers blynyddoedd. Teimlai fod arnom oll angen ffydd yn y ffaith bod Duw yn Dad, a gallai feddwl nad chwedl o gwbl ydoedd hanes cerddediad Pedr ar y dyfroedd dan arch Crist. Credai fod pwerau dihysbydd yn ein cyrraedd yn yr Efengyl ond ein bod wedi eu hesgeuluso yn ein crefydd gyfundrefnol. Cafodd waeledd hir a phoenus wedi hynny, ond daliodd drwy'r cwbl yn llawen a ffyddiog yn Nuw. Ar ei wely angau adolygodd Socialism and Strikes, a ysgrifenasai fel ffrwyth blynyddoedd o waith ym meysydd Llafur. Credai fod moddion y streic yn y pen draw mor aneffeithiol à moddion rhyfel, oherwydd ei fod yn hawlio cyfiawnder ag un llaw, ac yn bygwth gwneuthur colled a cham ar y llaw arall; felly yr oedd ofn a rhagfarn a rhyfel dosbarth a rhyfel cartref i'w ddisgwyl. Credai y dylai'r werin fynd i'r maes yn hollol ddiarfau, ond â gwir a chyfiawnder ei chwyn, hyd oni fegid cydwybod yn y farn gyhoeddus. Dengys ei lyfr The Meaning of Socialism ddelfrydau uchaf y Sosialaeth ysbrydol, ac erys yn gofgolofn i arloeswr gwrol ac ysbrydol ryw ddydd, wedi i'r werin gael ei darbwyllo o fethiant y nerth a'r llu gwleidyddol. Cofiaf ymgom â Ramsay Macdonald, pan oedd yn Brif Weinidog, am yr hyn a adroddais o gyffes ffydd Bruce Glasier. "Ydyw, y mae'n wir," meddai, "ond y mae'n rhaid i chwi drosi'r gwirioneddau hyn i'r werin mewn ffordd y gallant eu deall." Gwendid Macdonald efallai oedd dal y delfrydau hyn yn ei ben yn hytrach nag yn ei galon, a methu dod yn nes na hyd braich at ei gymrodyr o'i blaid ei hun, a diweddu ei oes yn unig yn arweinydd ymhlith y Philistiaid.

LLONYDDWCH LLŶN

Rhyw nefoedd fechan ydoedd bywyd gwlad a bugeilio defaid, gwaith caled, gorchwyl tawel a bwyd ffarm, wedi dwndwr Llundain ac anarchiaeth wyllt bywyd y troseddwyr ieuainc. Mor braf ar lethrau'r bryniau oedd clywed yn nechrau haf:

Bref côr yn brefu cariad,
Neb yn medru brefu brad

a gweled drama natur yn ymagor, wedi eira hir y gaeaf a'r gwanwyn glân hyd at wenith gwyn y cynhaeaf. Yr oedd prinder cysuron a blinder corff yn rhyw gysur ynddynt eu hunain yn wyneb dioddefaint dynion a rhaib ryfel ac ariangarwch y dyddiau hynny. Mor wahanol hefyd ydoedd bywyd ffarm a chymdeithas gwerinos gwlad dawel i ddadwrdd torfeydd a threiswyr byd. Cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder ydoedd cwmni'r annwyl Puleston ym Mhwllheli ac ambell seiat gydag ef a'r Parch. Conwy Pritchard a'r dyrnaid Heddychwyr yno. Cofiaf annerch cyfarfod cyhoedd- us digon tawel yno, a chlywed wedyn fod rhai o'r dorf oedd yno wedi bwriadu ei dorri i fyny. Fel Keir Hardie yn y De, bu Puleston ar fin torri ei galon wrth weled enciliad byd ac Eglwys, ac ambell awr yn deisyfu cael marw wrth weled cymrodyr a chymdogion wedi ymollwng gyda'r lli i ryfel a dial, a dicter wrth y rhai oedd yn dal yn eu proffes o ffordd yr Efengyl tuag at droseddwyr.

Ond yr oedd cri hen famau gwlad am eu bechgyn cyn dristed á bref y defaid a'r ŵyn wrth gael eu hysgaru, ac yn ormod i ddyn fedru aros yn nhawelwch bryniau Llŷn. Euthum un diwrnod, mewn ofn a gwendid, i Ffair Pwllheli i geisio datgan fy nghenadwri heddychol. Ymddangosai'r dorf, a oedd yn prynu a gwerthu, yn ddifater ddigon, a'r ugeiniau o filwyr a morwyr yno, a'r plismyn awdurdodol yn fygythiol; ond cefais wrandawiad astud ac yr oedd ambell filwr yn estyn ei law ac yn gwasgu'n gynnes wrth i mi ymwthio wedyn trwy'r dorf. Felly euthum o bentref i bentref trwy Lŷn am wythnos, ac er fy syndod, cefais fod gwerin gwlad yn teimlo'r un gofid à minnau am gyfiawnder ffordd rhyfel, a chefais fwy o groeso nag o fygythiadau.

Yn Aberdaron, wedi i mi annerch y pentrefwyr oddi ar risiau'r hen Gegin Fawr, daeth gŵr o Sais ymlaen gan ddywedyd yn awdurdodol, "I am the A.D.C. to the G.O.C. Western Command. I'll have you in clink for this." Euthum gydag ef i'r Hotel a chymerodd fy enw; eglurais wrtho, os oedd yn ddyletswydd arno fy nghyhuddo o dan y "King's Regulations," pob peth yn dda, ond fod gennyf finnau hefyd fy Mrenin a gorchymynion Crist. Tawelodd gryn dipyn yn yr ymgom ac ni chlywais ddim ymhellach. Ond wedi dychwelyd i'r awyr agored gwelais ddyrnaid o'm hen gyfeillion—Huw Felin, Wil Gegin ac craill—wedi casglu a chynhyrfu ac yn bygwth rhoi y Sais dros ei ben yn yr afon. Bu raid i mi egluro yn daer wrthynt y byddai hynny'n groes i'm holl syniadau; ond ni allwn beidio â theimlo'n gynnes atynt am eu hawydd amddiffynnol.

Y LLYSOEDD BARN

Wedi dychwelyd i'r ffarm o'm taith drwy Lŷn, wele lythyr oddi wrth Lywydd y Prif Lys, yr Ardalydd Salisbury, yn fy ngwahodd i ymweled ag ef i egluro fy mhenderfyniad i bregethu heddwch. Ar y ffordd i Lundain euthum i Lan- drindod i gynhadledd o heddychwyr Cymru, ond ni, chafodd na Puleston na minnau ddweud gair gan floeddiadau'r gynulleidfa barchus a lanwai'r capel. Gan yr Arglwydd Salisbury cefais y cwrteisi mwyaf a thynerwch tadol ac ymgom fynwesol. Enwodd Epistol Pawl at Philemon yn anfon ei gyfaill Onesimus yn ôl ato i gaethwasiaeth i egluro pwysigrwydd ufuddhau i ddeddf y wlad. Atebais innau nad oedd gennyf wrthwynebiad yn y byd i waith fferm ond ei fod yn bwysicach i ufuddhau i Dduw nag i ddynion. Cymhellodd fi o'r diwedd i apelio eto i'r llys am ryddid i'm cenhadaeth. Gwneuthum hynny ar y sail bod Brenin ac Eglwys yn ddiweddar wedi cymell "cenhadaeth o edifeirwch i'r genedl, a'm bod innau eisoes yn dechrau edifarhau o ffordd gelyniaeth ac anufudd-dod, ac yn ceisio gan ddynion gymod â Duw ac â dyn. Bûm wedyn am ddwyawr ger bron y llys yn dweud fy mhrofiad ac yn ateb cwestiynau teg a chwrtais. Gofynnwyd i mi ai gwleidyddol neu ynteu crefyddol oedd fy nghenadwri; atebais innau mai crefyddol ydoedd yn ei hanfod, ond fod ganddi ganlyniadau gwleidyddol anocheladwy. O'r diwedd, gohiriwyd yr achos nes byddai'r holl lys yn bresennol. Clywais wedyn i'r achos gael ei gyflwyno i'r Cabinet Rhyfel, a bod Arglwydd Milner, yr hen filitarwr gynt yn rhyfel De Affrica, o blaid, a Lloyd George yn erbyn, cydnabod rhyddid llwyr i gydwybod. Felly, mewn amser, daeth fy rhyddid i ben. Gwyswyd fi yn hynod o garedig gan hen sergeant y plismyn ym Methesda i'r llys ym Mangor. Rhyfedd ydoedd gweled Ustus o glerigwr yn cydweled i'm cyflwyno i'r fyddin, a'r hen wleidyddwr, y Barnwr Bryn Roberts, yn gwrthod eistedd ar yr achos, ac wedi'r praw yn myned a mi yn ei fraich i gael cinio mewn gwesty. Yn y Swyddfa Filwrol yn Wrecsam cefais groeso a chwrteisrwydd gan y prif swyddogion a hen gydnabod milwrol. Wedi fy ngharcharu am fis yn y guardroom yn y barracks, cefais gwmni annisgwyl y Parchedigion E. K. Jones a Wyre Lewis pan ar fy mhrawf ger bron y Llys Milwrol; gan y Llys Milwrol cefais ddwy flynedd o lafur caled. Y pethau olaf a gofiaf, wrth ymadael o'r barracks am Wormwood Scrubbs ydoedd cwrteisrwydd yr hen gyrnol, a charedigrwydd y sergeant yn rhoi i mi deisen a bobwyd imi gan ei wraig cyn imi ddiflannu i gysgod carchardai a gwersyll am yn agos i ddwy flynedd.

DAN Y DDEDDF

Ysgydwyd fy llaw yn gynnes gan ddau filwr yr osgordd a ddaeth gyda mi o Wrecsam at ddrws carchar Wormwood Scrubbs, a dymunent Iwc dda i mi yn galonnog. Wedi agor y naill ddrws haearn ar ôl y llall gan un o'r ceidwaid, a rhes o allweddau yn rhwym wrth ei wregys, a gweled yr adeilad anferth, mentrais ddweud wrtho, "Y mae'n lle mawr iawn." Cyfarthodd yn ôl, "Caewch eich ceg." Gwthiodd fi i gell wag, a bûm yno am awr neu fwy, nes archwyd fi i ystafell arall i'm dadwisgo, a'm golchi, a'm gwisgo yn nillad y confict, gyda marciau'r broad arrow drosti, a hosannau na buasent erioed yn efeilliaid, ac esgidiau a wisgwyd o'r blaen gan lawer hen bererin; yna fe'm harweiniwyd i'm celi fy hun. Y rhybudd cyntaf ar gerdyn Rheolau'r Carchar ydoedd y gair "Distawrwydd"; am ryw reswm neu gilydd gorfodid carcharorion, am y pythefnos cyntaf o'u carchariad, gysgu ar blanciau moel. Wedi cysgu, clywais yn gynnar yn y bore sŵn clychau, a chodais i ddisgwyl gorchymyn. Agorwyd drws y gell led modfedd a chlywais sŵn traed oddi allan. Wedi chwarter awr o ddisgwyl, agorwyd y drws gan geidwad, a gyfarthodd yn y modd mwyaf bygythiol, "Ewch ar eich gliniau, sgwriwch y llawr." Gwneuthum yn ôl ei arch, ond clywn y gwaed yn curo yn fy nhalcen gan y sarhad a'r bygythio direswm. Yna cofiais lythyr a gelais oddi wrth fy mrawd oedd yn gapten yn y fyddin, "Fe'ch temtir gan sarhad swyddogion byddin a charchar, i 'ddicter cyfiawn'; gwyliwch rhag hynny yn fwy na'r diafol. Ceisiwch gael hyd i'r 'dyn' sydd ym mhob swyddog; buasai'n well gennyf golli popeth nag i chwi golli eich ffydd." Ond, meddyliwn na ddylasai dyn gael sarhau eraill fel hyn, a'u bygwth heb achos. Modd bynnag, pan ddaeth y ceidwad 'drachefn, yn brygowtha ac yn bygwth, dywedais wrtho yn dawel, "Os mynnwch i mi wneud rhywbeth, eglurwch hynny, a mi a'i gwnaf o galon; ond yn sicr chwi gewch fwy allan o ddynion trwy gwrteisrwydd a charedigrwydd na thrwy fygythiadau fel hyn." Agorodd ei enau mewn syndod, a meddyliais ei fod am fy llyncu'n fyw, ond atebodd yn eithaf siful, "Wel, os na fydd pethau yn cael eu gwneud yn iawn, caf finnau fy meio gan y Prif Geidwad." Felly deallais fod "Meistr ar Feistr Mostyn" yma fel mewn mannau eraill, ac o hynny allan ymddygodd yn eithaf cwrtais. Drwg carchar Wormwood Scrubbs oedd ei berffeithrwydd fel cyfundrefn beiriannol; yr oedd dan arolygiaeth hen gyrnol milwrol oedd mor llym gyda'r ceidwaid nes codi ofn nerfus arnynt drwy'r carchar. Pan fyddem yn cerdded am awr o ymarferiad bob dydd yn iard y carchar gosodid dau neu dri o'r ceidwaid ar ben pileri bychain i'n gwylied rhag i ni sibrwd gair wrth ein gilydd. Golwg ddwl a sur oedd ar wyneb y rhan fwyaf o'r carcharorion, ond gwelais un â gwên siriol ar ei wyneb yn wastad; llwyddais i gael gair ag ef yn nhŷ'r baddon ryw brynhawn. Cymro o Gorseinion ydoedd, wedi ei "achub gan ras" fel yr eglurai, ac yn gyfaill i Evan Roberts. Daethom yn gyfeillion cynnes wedi hynny, ac yr oedd ei wên siriol fel drych yn adlewyrchu pethau gwell na'n cyflwr presennol. Cefais ymweliad cysurlawn unwaith yno gan y Parch. Peter Hughes Griffiths. Cyn ymadael am garchar arall gofynnais am gael gweled y Llywodraethwr. Dywedais wrtho fy mod yn teimlo ei bod yn ddyletswydd arnaf i'w atgofio bod car- chariad ynddo'i hun yn gosb ddigonol, ac nad oedd na deddf na gras yn bwriadu cosb bellach o fygythiadau a sarhad gan y swyddogion. Atebodd fod gennyf hawl i gyhuddo unrhyw geidwad am annynoliaeth. Dywedais innau na fynaswn gyhuddo neb, ond fod y ceidwaid hwythau hefyd yn byw dan ofn cerydd, a bod y cwbl yn gwenwyno ysbryd y carchar ac yn peri poen a phoenedigaeth nerfus i gannoedd. Dywedais wrtho am fy anturiaeth innau gyda'r troseddwyr a gyflwynwyd i ni gan Syr Edward Clarke Hall. Ni laciodd yn ei olwg galed, ond sylwais fod yr Is-lywodraethwr yn gwrando'n astud, a gwenodd yn siriol arnaf pan euthum allan.

Yng Ngharchar Knutsford gwelais wedd arall ar bethau. Y cynllun yno ydoedd gwersyll gwaith gyda rhyddid i ymddiddan, a rheolaeth a threfn, a hawl i fyned allan i'r dref wedi gorffen oriau'r gwaith. Yr oedd yr amrywiaeth fwyaf ymhlith y carcharorion—Iddewon, Pabyddion ac aelodau o bob enwad a phlaid. Ni wyddwn o'r blaen mor lluosog ydoedd y sectau crefyddol a gwleidyddol. Yr oedd yr I.B.S.A. (Tystion Jehofah) a'r Plymouth Brothers yn dadlau'n ffyrnig am ystyr llythyren yn yr un Beibl; y gwŷr Pentecostal yn ymgreinio ac yn siarad mewn tafodau dieithr mewn ystafell ar wahan; y Seventh Day Adventists yn gwrthod rhyfela ar y Saboth ac yn credu mai cyfeiliornad sylfaenol yr Eglwys ydoedd cadw'r dydd cyntaf, yn lle'r seithfed dydd o'r wythnos, fel Saboth. Gwelais Nazareaid, Iddewig a Christionedig, a ddaliasant yn llythrennol, mewn gair a gweithred, at y gorchymyn i beidio â thorri gwallt na barf. Chwarddwyd am bennau'r sectau hyn gan wyr y pleidiau Sosialaidd Marxaidd; ond yr oeddynt hwythau hefyd yn llawn sectau. Ym- osodwyd ar yr I.L.P. gan yr S.L.P. a'r S.P.G.B., ac ar y ddau gan y Comiwnyddion, ac ar y cwbl gan yr Anarchistiaid, na ddioddefent neb i fod yn farnwr nac yn rhannwr arnynt. Darbwyllwyd dyn dipyn gan y profiad hwn rhag credu y cawsid na chyfiawnder na heddwch wrth wisgo label plaid a sect, ac wrth esgymuno'r sectau eraill.

Cynhaliai'r Crynwyr eu cyfarfodydd mewn distawrwydd, gyda rhyddid seiat i bawb ddweud eu barn a'u profiad, ac yr oedd eu cyrddau fel ynysoedd tangnefedd yn y berw. Sylwais fod rhyw debygrwydd meddwl rhwng llawer o'r Comiwnyddion a'r Ail-ddyfodiaid, yn eu hannioddefgarwch, a'u gwrthwynebiad i unrhyw ymdrech i wella pethau yn awr; yr oedd y naill yn gobeithio am chwyldro y Deg Lleng o angylion yn yr awyr, a'r llall am chwyldro y deg lleng o'r Fyddin Goch ar y ddaear; ond trais a grym oedd moddion y ddau yn y pen draw.

Cofiaf Iddew ieuanc disglair, Isidore Berkov, a eisteddai wrth fy mwrdd. Cynhyrfwyd ef un bore gan bellebr, a dangosodd ef i mi. "Cedwch at y busnes crefyddol er mwyn yr hen bobl. Minnie." Dyna ocdd y neges. Eglurodd i mi fod ei rieni yn Nasareaid selog, a'i daid yn Rabbi enwog yn Rwsia! "Disgwyliant i mi adael i'm barf dyfu, gwisgo phylacterau, a gweddïo at y dwyrain sawl gwaith yn y dydd. Ond fel ffaith, agnostig wyf, ac yn cyfrif y cwbl yn ofergoeledd, ond pa beth a wnaf; yr wyf yn caru fy rhieni, ac yn gofidio rhoddi poen iddynt. Pa beth a wnaf ond dweud celwydd i'w cysuro?"

Gofynnais iddo onid oedd yn bosibl iddo ddweud wrthynt ei fod yn parchu pethau trymion y gyfraith, sef "gwneuthur cyfiawnder a hoffi trugaredd," a rhoddais iddo stori Tolstoi, "Lie bo cariad yno y mae Duw hefyd." Ysgydwai ei ben. "Ni ddeallwch draddodiad yr Iddewon uniongred; ofer hollol yw sôn am bethau o'r fath ar draul cadw at lythyren y Ddeddf." Ymhen misoedd wedi hynny, cefais lythyr caredig oddi wrtho yn adrodd ei fod wedi meddwl llawer am stori Tolstoi a'i fod yn arferiad gan yr Iddewon alw'n "Rabbi" y gŵr a ddysgai iddynt wirionedd newydd, "Felly terfynaf fy llythyr, 'Rabbi, Shalom'."

Yng Ngharchar Dartmoor fe ddywedwyd fod dros hanner cant o sectau ac o bleidiau wedi eu cofrestru ymhlith y mil o Wrthwynebwyr Cydwybodol a oedd yno. Cafwyd rhyw fath ar undeb yn erbyn y Llywodraeth, a chydweithrediad digonol i ddarpar bwyd a chadw trefn, ond fawr ymhellach. Torrwyd yr United Front, a fygythiodd streic oherwydd rhyw gam, gan y gwahaniaethau; bellach blinodd y mwyafrif ar ddadleuon gwleidyddol ac egwyddorion cyffredinol, a dechreuasant gyfeillachu'n bersonol, ar draws ffiniau plaid ac enwad, mewn modd rhyfedd iawn. Man dedwyddaf a dwysaf Dartmoor i mi oedd gardd y carchar ar ganol y rhosydd mawnog, lle claddwyd y carcharorion o Ffrainc ac America a fu farw yno yn yr hen ryfeloedd. Maddeuwyd bai y gelyn ers llawer blwyddyn, a chodwyd ar y lawnt werdd gofgolofn iddynt gyda'r geiriau Dulce et decorum est pro patria mori[1]. Eisteddais yno lawer tro, wrth fachlud haul, i fyfyrio troad rhod teyrnasoedd y daear, y rhyfeloedd a'r sôn am ryfeloedd, a diwedd dial dyn ar ddyn.

Un o'r pethau mwyaf dynol a duwiol a welais yn nhrefn y carchardai oedd y caniatad i hen droseddwr gadw llygod mawr fel pets. Gwelais hwynt lawer tro yn yr iard yn chwarae wrth draed hen droseddwr, ac, ar chwibaniad, yn rhedeg i fyny ar hyd-ddo ac i'w lloches yn ei boced. Cofiaf geidwad yn Dartmoor yn adrodd fel y bu i hen gonfict, oedd yno am ei oes, ddod â'i lygoden yn ei boced i'w waith ar y rhosdir. Yr oeddynt yn torri ffos; tynnodd y troseddwr ei gôt, a gosododd hi ar ochr y ffos; ond wrth godi carreg fawr fe gwympodd rywsut ar ei gôt; edrychodd mewn braw am ei lygoden, a chafodd hi wedi ei lladd. Eisteddodd ac wylodd fel plentyn—wedi colli'r unig greadur a'i hoffodd ac a ymddiriedodd ynddo. Pwy, yn wir, a ddiystyro "ddydd y pethau bychain" a gymero Duw i gadw tosturi a thynerwch yn fyw yng nghalon dyn? Yng Ngharchar Birmingham yr oedd yn y gell nesaf hen filwr a ddysgodd imi greffi Morse Code y carcharorion i siarad â'i gilydd, trwy guro ar y parwydydd. Euthum yn ddeheuig iawn ar y grefft. Clywais ganddo ei fod wedi ei glwyfo ddwywaith yn y rhyfel a'i wenwyno gan nwy. Felly cafodd le fel cogydd mewn gwersyll milwrol gartref. Dywedodd ei fod wedi yfed dau lasiad o gwrw yn y cantîn rywdro, ac oherwydd effaith y nwy, fe feddwodd; fe'i cafodd ei hun bore drannoeth yn y Guard Room am ei fod wedi taro'r corporal. Eglurodd wrth y sergeant major na wyddai ddim amdano, ac nad oedd ganddo yr un gweryl â'r corporal. Gwenodd y sergeant major a dywedodd, "Deudwch y cwbl, a chwi gewch ryw saith niwrnod o C.B." Pan wysiwyd ef gerbron y Llys Milwrol, dywedodd ei stori yn hyderus ddigon, ond brawychwyd ef pan ddarllenwyd y ddedfryd, "Deunaw mis o lafur caled!" "Os daw rhyfel eto," meddai, "ar ochr y German yr ymladdaf."

Y peth a'm blinodd fwyaf yno oedd gwasanaeth crefyddol y carchar. Hyrddiwyd ni yn gannoedd i'r capel, clowyd y drysau, ac eisteddai'r swyddogion ar gadeiriau uchel yma ac acw, i'n hwynebu a'n gwylio rhag i ni sibrwd gair wrth ein gilydd. Oer a diystyr oedd y cyfarchiad "Annwyl gariadus frodyr" dan y fath amgylchiadau, a'r rhigl-wasanaeth ffurfiol. Methais gael heddwch calon, a phenderfynais wneuthur gwrthdystiad yn erbyn y fath lygriad o "wasanaeth grefyddol" a gwneuthur tystiolaeth i'r gwir. Ond euthum mor nerfus yng ngwasanaeth y bore nes methu cael anadl na nerth i siarad, a thynnu'r lle ar fy mhen, a chael fy nghyfrif yn granc neu yn wallgof. Ond yng ngwasanaeth y prynhawn, mewn ysbaid o ddistawrwydd, medrais ddweud yn glyw- adwy, "Cofiwch, frodyr, fod Crist yn gofyn i ni faddau a thosturio wrth ein gilydd, ac nid i gosbi a charcharu ein gilydd." Bu syndod drwy'r lle, ond teimlais ollyngdod calon, a chlywais y carcharorion yn ail-adrodd fy ngeiriau wrth ei gilydd drwy'r ffenestri. Yn y bore archwiliwyd fi gan y meddyg, a chyhuddwyd fi ger bron y Llywodraethwr.

"A oes gennych rywbeth i'w ddweud?" meddai.

Atebais, "Dim, ond ei fod yn wir."

"Does a wnelo hyn ddim â'r mater; chwi allasech godi cynnwrf drwy'r carchar."

Yna dedfrydodd fi i gell y gosb, ac i'm cadw bellach rhag myned i gapel, nac i ymarferiad yn iard y carchar. Cell y gosb oedd y lle isaf yn y carchar—lle tywyll ac oer. Bara a dwfr oedd y bwyd, a phigo oakum (tynnu hen raff dar galed oddi wrth ei gilydd) oedd y gwaith. Cymerwyd fy hances oddi arnaf rhag i mi ymgrogi; ond i'r gwrthwyneb, teimlais ryw ollyngdod calon rhyfeddol, a medrais ganu'n rhydd gan wybod na allent wneud fawr mwy ond fy nghrogi. Cofiaf pan oeddwn yno, glywed curiad distaw ar y drws, ac wedyn llais yn sibrwd, "Y mae crac yng ngwydr eich ffenestr, a daw darn ohono yn rhydd, a rhof ddarnau o fara drwy'r twll." Ni welais fyth wyneb y cyd-garcharor trugarog, ond cawsom lawer sgwrs ddistaw drwy'r twll yn y ffenestr. Wedi dychwelyd i'm cell gyffredin, teimlais fod ofn a chosb yn llygru holl gymdeithas y carchar ac yn magu twyll ac ystryw- iau ar bob llaw, wrth geisio sibrwd a chynllunio â'n gilydd. Gofynnais am gael gweled y Llywodraethwr, a dywedais wrtho fy nheimlad, ac na allwn bellach geisio cuddio cyd-ymddiddan; ac felly y bwriadwn ymddwyn yn agored a naturiol, heb amarch iddo ef na'r swyddogion, ond er mwyn achub fy nynoliaeth. Atebodd yn sarrug, "Chwi a gymerwch y canlyniadau." Trannoeth, yn y gwaith, tra oedd y ceidwad a'n gwyliai yn troi yn sydyn ar ei sawdl a cheisio dal y rhai oedd yn sibrwd, troais a siaradais yn agored â'm cyd-garcharor. Gwysiwyd fi drachefn gerbron y Llywodraethwr, a chefais ddau ddiwrnod yng nghell y gosb, ond erbyn hyn yr oedd y gosb wedi colli ei grym. Digwyddodd hynny droeon.

Un nos Sadwrn oer cyn y Nadolig, a'r eira yn disgyn y tu allan, agorwyd drws cell y gosb, a daeth Ustus Heddwch i mewn. Dywedodd yn gwrtais wrthyf iddo glywed fy mod dan gosb, ac na theimlai yn esmwyth i fyned i'w gartref heb ofyn i mi ail-ystyried fy anufudd-dod i reol y carchar, a cheisio ymdaflu yn erbyn cyfundrefn mor gadarn. Diolchais iddo am ei hynawsedd, ond eglurais fy mod eisoes wedi ystyried y cam yn bwyllog ac yn bryderus. Yna dywedodd, "A gaf fi ofyn fel ffafr bersonol i chwi ei ail-ystyried?" Atebais innau fod ei ddull gwrtais o ofyn yn ei wneuthur yn anodd iawn dal, oni bai fy mod yn ei ystyried yn ddyletswydd. Yna safodd a dywedodd, "A gaf fi ysgwyd llaw â chwi?" Yn wir, anodd oedd cadw'r dagrau yn wyneb cyfarchiad mor frawdol a chyfaddefiad o'r undeb dynol oedd rhyngom. Diolchais iddo o galon; ni wyddwn ei enw, ac ni welais ei wyneb mwy, ond yr oedd ei ddynoliaeth hael yn agor y galon a'r gell led y pen.

Gwysiwyd fi yn y diwedd i ymddangos ger bron yr Ustusiaid, a gwyddwn mai ganddynt hwy oedd hawl y gosb eithaf, sef fflangellu. Wrth sefyll ger y barrau haearn gyda'r Prif Geidwad, dywedodd wrthyf, "Paham na allwch fod fel y lleill? Ni waeth gen' i pe baech yn siarad, ond i chwi beidio â gwneud hynny yn fy ngwydd i."

Atebais, "Onid ydych i gyd yng ngharchar yma; ni fynnwch wneuthur drwg i mi, na'r ceidwaid eraill; ond y maent hwy yn eich ofni chwi, a chwithau yn ofni'r Llywodraethwr, ac yntau'n ofni rhywun arall." Wedi egluro fy nhrosedd gerbron yr Ustusiaid, cyfeiriais at y ffaith, y digwyddais ddarllen amdani ym Mywyd Richard Cobden gan John Morley, fod penodiad yr Ustusiaid wedi ei drefnu gan Fesur Diwygiad y Carchardai a gyflwynwyd i'r Senedd gan eu cyd-ddinesydd enwog Joseph Chamberlain. Y bwriad ydoedd diogelu'r carchardai rhag annynoliaeth. Dywedais fod gorfodaeth o ddistawrwydd llwyr am fisoedd lawer, ar gannoedd o ddynion, yn annynoliaeth ddofn, ac yn magu ystrywiau a thwyll, ac yn llygru ysbryd a moes y carcharorion o ddydd i ddydd.

Gofynnodd y Cadeirydd, "Onid gwell a mwy synhwyrol a fyddai i chwi ufuddhau i'r drefn yn awr, ac wedi eich rhyddhau geisio diwygio y rheol?"

Atebais na allwn ymysgwyd o'r ddyletswydd i wneuthur yr hyn oedd yn fy nghyfle yn awr, er mor fychan ydoedd, ac erfyn arnynt hwythau ei ystyried yn ddwys a gweithredu yn ôl eu hawl.

Atebodd y Cadeirydd gyda gwên, "Sut y gwyddoch nad ydym yn gweithredu?"

"Os felly," meddwn, "cyrhaeddwyd fy amcan."

Y mae rheol annynol distawrwydd carchardai bellach wedi ei ddiwygio ers llawer dydd, a chlywais mai Ustusiaid Birmingham oedd yr arloeswyr wrth ddod â'r mater ger bron y Swyddfa Gartref. Nid post hoc propter hoc,[2] yw hyn wrth gwrs, ond "aml gnoc a dyrr y garreg."

DYDDIAU'R GAETHIWED

Wedi bod am fisoedd yng ngharchardai Wormwood Scrubbs, Knutsford a Dartmoor, symudwyd nifer ohonom i wersyll gwaith ar y ffordd fawr yn Llanwrda. Wrth deithio trwy orsaf Caerdydd gwelais wyneb hen gyfaill a adwaenwn, a chipiais foment o'r tren i ysgwyd llaw ag ef. Synnodd fy ngweled a gofynnodd, "O ba le y deuthoch?" Atebais mai o garchar Dartmoor. Yna trodd at y wraig oedd yn siarad ag ef a dywedodd, "Yr ydych yn adnabod eich gilydd." A Dame Margaret Lloyd George ydoedd. Ond yr oedd mor siriol ag y gwelais hi lawer tro wedyn, ac yn llawn o garedigrwydd. Yn Llanwrda, yr oedd swyddog o'r Swyddfa Gartref, hen sergeant major, yn ein gwylio; "cartrefol" a fuasai'r gair olaf i ddisgrifio'r gwersyll. Cysgasom naw mewn pabell, a gweithiasem am ddeng awr yn y dydd am bedwar swllt yn yr wythnos o gyflog ar drwsio'r ffordd fawr a thorri cerrig. Yn ein cwmni yr oedd Sosialwyr, Comiwnyddion, Ysgotiaid, Saeson, ac efrydwyr y Weinidogaeth. Sgotyn o'r Ucheldiroedd oedd yn coginio i ni mewn dull na welsai neb ei debyg ond efô ei hun. Yn sicr, cawsai ei ddiarddel o'i swydd oherwydd y mynych gwyno am flas y bwyd oni bai ei fod yn rhoddi ei gopa gwalltog coch trwy ddellt y babell a dweud yn ei acen ddwys, "Os bydd gan unrhyw foneddwr gŵyn yn erbyn y bwyd, yr wyf yn barod i ddadlau'r mater gydag ef y tu cefn i'r cook-house." Etholwyd fi'n gadeirydd, wedi i mi egluro'n gyntaf mai fy mholisi a fyddai trin pob dyn fel cyfaill nes iddo droi yn elyn, ac wedyn ei drin fel cyfaill. Etholwyd is-gadeirydd i'm cadw yn fy lle, sef Atheist amlwg, darlithydd i'r Rationalist Association, gŵr yr oedd crefydd gyfundrefnol fel cadach coch i darw iddo, er nad oedd nepell o'r Deyrnas yn ei ddelfrydau am degwch, a gonest- rwydd, a dyletswydd. Y pechod a oedd yn barod i amgylchu Heddychwyr o'r fath oedd grwgnach a thuchan am iawnderau, a bygwth streic am hyn neu'r llall. Yr oedd pledio heddwch a chyfiawnder cyffredinol yn haws na'u gwneuthur a'u gweithredu ar fwyd mor wael, gwaith mor hir, a thâl mor fychan. Nid oedd ein ceidwad, dan y Swyddfa Gartrefol, yn ddirwestwr amlwg, ac felly cafodd y troseddwyr eraill rywfaint o gysgod gan ei wendid amlwg a'i drosedd ef ei hunan.

Cofiaf un digwyddiad syml a fu'n garreg filltir i mi mewn profiad. Gwelais mewn map o'r ardal yr enw Rhos-y-bedw, Llan-y-crwys, a daeth atgof fel fflach o hen atgofion fy nhad. Prentisiwyd fy nhaid, David Davies, i ffyrm o Grynwyr yn Llundain, marsiandwyr a'r India. Yr oedd ganddo gefnder o'r un enw yn Llundain, a oedd yn feddyg i'r teulu brenhinol, ac a fu'n garedig wrtho pan yn llanc. Yr oedd gan y meddyg fab a ddaeth yn enwog fel Llywodraethwr y Punjab. Gwelais ddarluniau Syr David Davies a Syr Robert Henry Davies yn y Llyfrgell Genedlaethol. A Rhos-y-bedw oedd eu treftadaeth. Breuddwydiasom, yn ôl arfer bechgyn, y gallasai'r etifeddiaeth ddod rhywsut rywfodd i'm tad. Ac wele y lle yn awr wrth law! Wedi torri'r cerrig trwy'r bore y Sadwrn, ymolchais yn yr afon a cherddais am y lle. Yr oedd y llwch yn drwch ar y ffordd, a'r daith yn hir ac unig. Wedi cyrraedd yr ardal, holais ryw amaethwr am Ros-y-bedw. Dangosodd y Plas yn y pellter, ond dywedodd fod y Sgweiar newydd werthu'r ystad ac wedi myned i Loegr i fyw. Cyrhaeddais y Plas, a oedd yn wag, a gwelais yr hen binwydd hardd o'i gwmpas yn cael eu torri i lawr. Euthum yn siomedig i'r Llan i geisio beddau'r teulu, ond eglwys newydd a mynwent newydd oedd yno. Trois i'r gwesty hynafol am gwpaned o de cyn cychwyn yn ôl o'm siwrnai seithug. Wrth gerdded yn unig a thrist yn nhawelwch y wlad daeth ton o deimlad wrth feddwl mor ddiflanedig ydoedd breuddwydion dyn ac anian; yr oedd torri'r coed yn newid wyneb y wlad ar bob llaw. Wrth gyrraedd Bwlch Cefn Sarn, gwelais olau coch yn y gwyll, ac wedi cyrraedd y fan, canfûm deulu o Sipsiwn yn gwersyllu gyda'u ceffylau a'u cŵn, ac yn eistedd ogylch tân coed. Cyferchais hwynt, a holwyd fi a oeddwn yn cerdded ymhell. Wedi ateb, dyma wahoddiad am gwpanaid o de a brechdan. Eisteddais yn y cylch gan fwyta ac yfed o'u hymborth hael. Holwyd fi ymhellach am fy nhaith a'r gwersyll yn Llanwrda. Eglurais ein bod wedi dod o garchar.

"Beth a wnaethoch?" ebe'r hen ŵr yn ddidaro.

Dywedais fy mod yn anghredu mewn rhyfel ac yn credu yn ffordd Crist o gael heddwch ar y ddaear, a'm bod wedi dal i ddweud hynny.

"A mi roisant chwi yn y carchar am hynny—y cnafon drwg."

Yna aeth i sôn am eu bywyd crwydrol hwythau. "Y tlawd, yw ffrind y tlawd," meddai, "y mae'r ffermwyr bychain yn eithaf caredig; y ffermwyr mawr sydd yn chwibanu ar y cŵn pan welant ni; a sut y buasai arnom ni heb frawdoliaeth ymysg dynion."

Bûm yno wrth y tân am awr neu fwy, a'r nos wedi disgyn o'n hamgylch, a llewyrch y tân coch yn gwrido wynebau'r bechgyn a'r genethod ac yn fflachio ar lygaid y cŵn. Teim lais a dywedais y caraswn ddod gyda hwy ar eu taith. "Ie, dowch yn wir," ebe un o'r bechgyn," a mi ddysgwn ni i chwi ddal cwningod a llyswennod; ac mi ddysgwch chwithau rywbeth i ninnau."

O'r diwedd codais i ffarwelio â'r teulu croesawus. Daeth y lleuad allan yn arianog o gefn cwmwl, ac wrth fy nhraed gwelais ôl troed plentyn yn llwch y ffordd fawr, ac fel fflach teimlais fod y plentyn nefol wrth law, a'm teulu, yn ôl yr ysbryd, wrth ymyl y ffordd. Felly teithiais adref i'r gwersyll yn llawen fel gŵr yn llawn o win newydd.

Ymhen rhyw ddeng mlynedd wedi hyn fe'm gwahoddwyd i annerch Cynhadledd y Cymdeithasau Cenhadol yng Ngholeg Llanbedr. Yr oedd Esgob Tŷ Ddewi yno a nifer o Ganoniaid a phregethwyr, yn frawdol a charedig, ond teimlais rywsut hiraeth am gysegrfan cyfeillach y ffordd fawr, a dihengais o'r gynhadledd a cherdded i'r Bwlch Cefn Sarn ac eisteddais am awr o gymun wrth lecyn gwersyll y Sipsiwn. Yr oedd llwch hen danau'r fforddolion yno o hyd, ac yr oedd tân atgof yn gynnes yn fy nghalon.

PENNOD III

HEDDWCH FERSAI

Llythyr Arglwydd Lansdowne. Gobeithion Heddwch. Y "Fourteen Points." Y Cadoediad. Yr Etholiad Cyffredinol. Y Gynhadledd Heddwch. Newyn yr Almaen. Cyngor Lloyd George. Cwyn y Gorchfygedig. Gorfodi'r Cytundeb. Adladd yr Heddwch. Northcliffe.

LLYTHYR YR ARGLWYDD LANSDOWNE

YN y cyfamser cynhyrfwyd y byd politicaidd gan ymgais am heddwch drwy gymod yn Nhachwedd 1917 gan neb llai na'r Ardalydd Lansdowne, cyn-Weinidog Tramor Prydain. Cyhoeddodd lythyr yn y Daily Telegraph, a wrthodwyd gan y Times, ar Amcanion Rhyfel y Cynghreiriaid. Tywalltwyd ar y llythyr a'i awdur gan Wasg Northcliffe y sarhad mwyaf, gan ei ddisgrifio fel peace at any price, ac esgymunwyd yr Ardalydd "yn swyddogol," yn ôl ei ddisgrifiad ei hun, gan y Blaid Geidwadol. Datguddiwyd ymhen blynyddoedd gan ei fab fod cynnwys ei lythyr wedi ei anfon i'r Cabinet yn gyfrinachol yn Rhagfyr 1916, a bod Arglwydd Grey wedi bwriadu i Dŷ'r Arglwyddi ei drafod yn ddirgel, ond cwympodd y Llywodraeth Ryddfrydol yn fuan a daeth Llywodraeth y Glymblaid yn ei lle. Mwy na hynny, cyn i'r llythyr ymddangos yn y Wasg yr oedd Arglwydd Balfour wedi ei weled ac yn fodlon ar ei gyhoeddi. Perwyl y llythyr oedd bod y rhyfel wedi parhau yn rhy hir a bod gwareiddiad a dynoliaeth yn galw am ei ddibennu. Yr oedd hufen y ddynoliaeth yn cael ei golli, a'r dioddefaint yn lledaenu at filiynau o ddynion gwrol a difai. Yr oedd y galwadau am heddwch buddugoliaethus a thelerau caled i'w gorfodi ar y gorchfygedig yn chwarae i ddwylo'r gelynion. Credai y buasai gwerinoedd yr Almaen ac Awstria yn barod i afael ar unwaith mewn cynnig gweddol deg ac y buasai'r cynnig yn gosod pwys anwrthwynebol ar eu llywodraethau. Dywedwyd wrth eu pobl gan eu llywodraethau ein bod am eu difetha a'u gostwng, a dryllio eu hysbryd, a gorfodi math estron o lywodraeth, a'u hesgymuno o fasnach y byd. Ni ddywedwyd, efallai, y fath bethau gan ein Llywodraeth, ond yr oedd erthyglau ein Gwasg yn ei gwneud yn hawdd i Lywodraeth yr Almaen ledaenu syniadau o'r fath. Rhaid oedd darbwyllo gwerin yr Almaen o'r ofnau a'r bygythion hyn, a datgan telerau teg a chyfiawn i heddwch. Dyna oedd neges y llythyr.

Cyfododd y llythyr storm o enllib yng Ngwasg Northcliffe—y Times a'r Daily Mail a phapurau eraill, yn erbyn syniadau oedd, ynddynt eu hunain, yn rhesymol, Cristnogol a cheidwadol, gan wladweinydd o'r pwys a'r profiad mwyaf. Yr oedd ysfa'r Wasg a'r werin am waed a dial wedi meddwi'r genedl, ac nid oedd wrthglawdd yn yr eglwysi i'r diluw du. Felly plygwyd i'r storm o enllib, a pharhaodd y rhyfel am flwyddyn yn ychwaneg gyda'r canlyniad o ingoedd a newyn i filiynnau yn ddiwahaniaeth, hyd onid arweiniodd o'r diwedd i ryfel newydd.

Gwerthfawrogwyd llythyr Arglwydd Lansdowne gan wŷr cyfrifol fel C. P. Scott, golygydd y Manchester Guardian. Dywed ei fywgraffydd:

"Cymerodd Lansdowne y cam dewraf yn y rhyfel. Yr oedd ei lythyr fel araith Campbell Bannerman ar 'foddion barbareiddiwch' pan oedd pwerau llethol o deimlad y dorf yn gormesu gwŷr cyhoeddus. Yr oedd dylanwadau y rhyfel yn difoesoli ein bywyd cyhoeddus a'n Gwasg yn amlwg iawn. Ni bu enllib erioed mwy anystyriol, anrheswm erioed mor wyllt, a drwgdybiaeth erioed mor greulon."

C. P. SCOTT.

GOBEITHION HEDDWCH

Cofnododd C. P. Scott ambell ymgom â Lloyd George yn y dyddiau hynny a ddengys fel yr oedd yntau ac aelodau'r Cabinet yn cloffi rhwng dau feddwl ynghylch heddwch trwy gymod neu trwy fuddugoliaeth. Adroddai eiriau Lloyd' George wrth frecwast yn Rhagfyr 1917:

"Y mae cryn dipyn o deimlad yn y Cabinet Rhyfel i gyfeiriad heddwch —nid yw Balfour yn gwrthwynebu ac y mae Milner yn fwy tueddol i heddwch na neb. Nid yw Carson mor dreisiol o bell ag yr ymddengys, ond pan yw'n gwneud areithiau. . . . Rhaid i mi eich rhybuddio fy mod mewn tymer basiffistaidd iawn. Gwrandewais neithiwr mewn cinio i Phillip Gibbs ar ei ddychweliad o faes y rhyfel, ar ddisgrifiad mor angerddol a difrifol ar beth a olygai'r rhyfel mewn gwirionedd ag a glywais erioed. Effeithiodd yn ddwfn ar gynulleidfa o wleidyddwyr a newyddiadurwyr celyd. Pe byddai'r bobl yn gwybod y gwir, fe atelid y rhyfel yfory. Ond wrth gwrs ni wyddant ac ni allant wybod. . . . Y pethau a anfonir i'r Wasg yw darluniau dêl a phawb yn gwneuthur gwrhydri. Y mae'r peth yn ddychrynllyd a thu hwnt i'r natur ddynol ei ddioddef, a theimlaf na allaf fyned ymlaen â'r busnes gwaedlyd; buasai'n well gennyf ymddiswyddo."

Cofiaf ymgais gan nifer ohonom, Puleston ac eraill, yn Sasiwn y Methodistiaid yng Nghaernarfon yn 1917 i annog yr Eglwys i erfyn am heddwch trwy gymod. Cefais wrandawiad teg, a phasiwyd pleidlais gymedrol, er bod nifer o'r henuriaid a'r pregethwyr poblogaidd yn wrth-heddychwyr. Gresyn ydoedd meddwl bod gwleidyddwyr fel Lloyd George yn cyfaddef yn y dirgel, a Cheidwadwyr fel Arglwydd Lansdowne yn cyhoeddi o bennau'r tai, farn aeddfetach am ddrwg rhyfel ar y pryd na llais ac argyhoeddiad y Cenhadon Hedd; pe buasent wedi cadw eu ffydd a dal i gyhoeddi cyngor Crist, a gwahoddiad Duw, "Deuwch, ymresymwn ynghyd; pe byddai eich pechodau fel ysgarlad," pwy a ŵyr na buasent wedi bod yn gymorth i ffydd y Cymro cyfnewidiol a oedd yn Brif Weinidog y wlad, ac wedi arbed siom y milwyr yn yr Eglwys, a'u gwared rhag edrych bellach at y pleidiau Sosialaidd a Chomiwnyddol am sail heddwch a chyfiawnder ar y ddaear? Yn Rwsia difethwyd Llywodraeth gymedrol Kerensky oherwydd ei orfodi gan Brydain Ffrainc i barhau i ryfela os ydoedd am gael cymorth arian- nol y Cynghreiriaid. Erfyniodd arnynt liniaru tipyn ar eu "Hamcanion Rhyfel" er mwyn achub ei wlad a'i Wladwriaeth; yr oedd colliadau Rwsia eisoes yn agos i 4,000,000 0 filwyr ac ni fynasent ymladd drachefn; ond ofer a fu erfyniad Kerensky i'r Cynghreiriaid a chwympodd ei Lywodraeth ger bron Lenin a Trotsky, a addawent heddwch yn gyntaf peth i'r werin yn ei thryblith. Gwrthodwyd hefyd gais Ramsay Macdonald a Philip Snowden i fynd i Gynhadledd Sosialaidd yn Stockholm i gyfarfod arweinwyr Sosialwyr gwerinol o'r Almaen i ddechrau trafodaeth ar heddwch.

Y "FOURTEEN POINTS"

Wedi dilorni pob cais am drafod heddwch gan y Wasg fel "tric heddwch" neu "peace offensive," cyhoeddwyd yng Ngorffennaf 1918 Fourteen Points yr Arlywydd Wilson o egwyddorion heddwch teg. Dywedodd Lloyd George y diwrnod canlynol y gallasai'r Almaen "gael heddwch yfory" ar y telerau hyn. Atebwyd hyn drachefn gan y Kaiser ym Medi 1918, a ddywedodd fod yr Almaen eisoes yn barod i estyn llaw heddwch ond

"Y cymerai ddau i wneuthur heddwch, a wynebir ni gan benderfyniad ein gelynion i'n distrywio a gwrthod hawl bodolaeth i'r Almaen."

Atebwyd hyn y diwrnod canlynol gan Lloyd George mewn araith yn datgan fod yn rhaid argraffu "Buddugoliaeth" ar arian heddwch onide fe allasai golli ei werth. Ofer a fu gwahoddiad Llywodraeth Awstria i'r Pwerau gyfarfod i drafod heddwch. Yn Hydref 1918, penodwyd Canghellor newydd i'r Almaen, y Tywysog Max o Baden, Cristion o gymeriad uchel. Anfonodd yn ddi-oed at yr Arlywydd Wilson gais i drafod heddwch ar sail y 14 Pwynt. Gydag eithriad y Daily News, yr oedd yr holl Wasg ddyddiol am wrthod y cais; "ymostyngiad diamodol" oedd eu telerau, a rhybuddiwyd y wlad drachefn rhag "triciau'r Almaen" gan Churchill. Yn y cyfamser lledaenodd chwyldroadau yn Awstria, yr Almaen a Thwrci. Ym mis Tachwedd cyhoeddodd yr Arlywydd neges i'r Almaen fod y Cynghreiriaid yn fodlon ar gadoediad i wneuthur heddwch ar amodau y 14 Pwynt gydag eithriad o ryddid y moroedd, ac o'r iawndal a ddisgwylid gan y gelynion am y niwed i boblogaeth siful y Cynghreiriaid. Pwysleisiodd papurau ystyriol, fel y Manchester Guardian a'r Daily News, bwysigrwydd y 14 Pwynt. Ofnent seicoleg ryfel pumped into the minds of the multitude by the lurid incitements of a somewhat irresponsible Press. Cyfeiriwyd at Arglwydd Northcliffe gan y Daily News fel gŵr who imperils grave situations with irresponsible sensationalism, a dywedwyd mai trueni oedd fod gŵr o'r fath yn gyfrifol am bropaganda Prydain yng ngwledydd y gelyn.

O'r diwedd arwyddwyd y Cadoediad a'i delerau gan y Cadfridogion, yn wyneb protest gref cynrychiolwyr yr Almaen, yn yr un cerbyd-rheilffordd, a than yr un sarhad a chywilydd ag a brofodd cynrychiolwyr Ffrainc yn 1940 a oedd dan orfod i wynebu Hitler a swyddogion milwrol buddugoliaethus yr Almaen.

Mawr fu'r canu clychau ym Mhrydain wedi'r Cadoediad. Gwahoddwyd y Senedd i wasanaeth o ddiolchgarwch; darllenodd yr Archesgob eiriau Eseia Ixi.:

"Efe a'm hanfonodd i rwymo dolur y torcalonnus, i gyhoeddi rhyddid i'r caethion ac agoriad carchar i'r rhai a rwymwyd. Cyfodent yr hen ddiffeithleoedd a hwy a atgyweiriant y dinasoedd a ddifethwyd."

Y CADOEDIAD

Gosodwyd telerau'r Cadoediad gan y swyddogion milwrol. Hawliwyd o'r Almaen 5,000 o ynnau mawr, 30,000 o ynnau peiriant, 2,000 o awyrblanau, 5,000 o beiriannau rheilffordd; 150,000 o wagenni rheilffordd, a 5,000 o gerbydau modur, ac yn ddiweddarach lynges a llongau’r Almaen. Daliwyd y Gwarchae (blockade) mewn grym er gwaethaf taer rybudd llywodraeth newydd a gwerinol yr Almaen fod perygl newyn enbyd, a rhybudd Wilson fod Awstria a'r Almaen mewn anarchiaeth, a rhybudd y Manchester Guardian fod bwydo'r bobl yn anhepgorol i drefn a heddwch. Oherwydd prinder y peiriannau a'r wagenni rheilffordd a drosglwyddwyd i Ffrainc, anodd ydoedd i'r Almaen ddosbarthu'r bwyd a oedd eisoes yn y wlad; gwaharddwyd hwy rhag pysgota ar y môr. Sylwodd y Times, a oedd dan awdurdod Northcliffe, nad oedd gan y Cynghreiriaid unrhyw fwriad o gwbl i liniaru'r dirwasgiad a'i fod yn brif arf i sicrhau arwyddo "heddwch cyfiawn." Cyfiawnhawyd hyn gan y Wasg yn gyffredinol, a gorfoleddodd rhai o bapurau Northcliffe ym manylion y darfodedigaeth, typhus a dysentry a oedd yn ysgubo'r wlad ac yn difetha cenhedlaeth y plant a'r ieuainc. Ni laciwyd dim ar laddfa'r diniwed hyd oni dderbyniodd y Prif Weinidog, ym Mawrth 1919, bellebr oddi wrth y Cadfridog Plumer o Cologne yn hysbysu, ar ran y Fyddin Brydeinig yno, ac yn cwyno "mor ddrwg ydoedd yr effaith ar y Fyddin Brydeinig wrth weled dioddefaint gwragedd a phlant yr Almaen."

YR ETHOLIAD CYFFREDINOL

Yn y cyfamser cafwyd Etholiad Cyffredinol ym Mhrydain. Cafwyd cefnogaeth, os nad gorfodaeth, i arweinwyr y Glymblaid, gan Arglwydd Northcliffe a'i bapurau, wrth apelio at reddfau isel y dorf am fuddugoliaeth newydd yn yr etholiad, sef ar y pleidiau Rhyddfrydol a Llafur. Gwrthwynebwyd yr Arlywydd Wilson hefyd gan blaid Roosevelt, ac eraill oedd dros ddial a difetha'r Almaen. Yn ystod yr etholiad, cafwyd canmoliaeth fyddarol yng Nghaergrawnt i ymffrost Syr Eric Geddes wrth gynulleidfa barchus: We will get out of Germany all you can squeeze out of a lemon and a bit more. We will squeeze her until you can hear the pips squeak. Yn ôl y Times, yr ymgeisydd oedd yn ymrwymo i "grogi'r Cesar a gwneuthur i'r Almaen dalu" oedd yn deilwng i ennill sedd yn y Senedd; ac wedi'r etholiad dywedai'r un papur fod "pob dyn, pob plaid a ddaeth dan ymyl cysgod cwmwl Pasiffistiaeth wedi talu'r pris." Dirywiodd y Blaid Ryddfrydol enwog gynt yn y Senedd i 37 o aelodau.

Y GYNHADLEDD HEDDWCH

Cyfarfu Cynhadledd Heddwch y buddugoliaethwyr gyntaf yn Ionawr 1919, ym Mharis, dan lywyddiaeth yr Arlywydd Poincare. Ffurfiwyd Cyngor o ddeg, ond y "Pedwar Mawr" oedd Wilson, Lloyd George, Clemenceau, ac Orlando; hwy a llawer is-bwyllgor a oedd yn gwneuthur y gwaith ymarferol. Ym Mhwyl ac yn Rwsia yr oedd rhyfeloedd cartref, ac anarchiaeth yng ngwledydd y gorchfygedig. Pan areithiodd Wilson am ei gynllun o Gynghrair y Cenhedloedd, codwyd disgwyliadau uchel, ac ar Chwefror 8, cynigiwyd ffurf o gyfansoddiad y Cyfamod. Dan law y pum Gallu buddugoliaethus, yn y cyfamser, yr oedd y Pwyllgor Gweithredol.

NEWYN YR ALMAEN

Ym Mhrydain yr oedd ambell newyddiadur fel y Daily News a'r Manchester Guardian yn dal i gyhoeddi manylion am y newyn ar y Cyfandir; ond ar y cyfan anwybyddwyd y cwynion gan y Wasg. Mawrth 3, 1919, dywedodd Mr. Churchill wrth y Senedd:

"Yr ydym yn dal i orfodi'r blocád gydag ynni, ac y mae'r Almaen yn agos iawn at newyn. Dengys yr holl dystiolaeth a gefais gan swyddogion y Swyddfa Ryfel a anfonwyd dros yr Almaen (1) y prinderau mawrion a ddioddefir gan bobl yr Almaen; (2) bod perygl cwymp holl gyfundrefn gymdeithasol a chenedlaethol yr Almaen dan bwysau newyn a diffyg ymborth."

Yr un diwrnod cyhoeddodd Mr. Churchill y byddai angen gwario 440,000,000p. ar y Fyddin Brydeinig y flwyddyn honno, sef deuddeg gwaith gymaint â chyn y rhyfel, a gorfodwyd yr Almaen i gyfyngu ei byddin i gan mil o wŷr arfog. Erfyniodd yr Almaen yn daer am addewid o fwydydd, os oedd raid iddi drosglwyddo ei llongau i'r buddugoliaethwyr. Dadl y Times ar hyn ydoedd, "Os yw'r Almaen mor agos at newyn hi a ildia i'n gofynion." Yr unig brotest o bwys ydoedd protest y fyddin Brydeinig a welodd ingoedd gwragedd a phlant Cologne bob dydd. Wrth ddarllen neges y Cadfridog Plumer, dywedodd Mr. Lloyd George wrth y Cynghrair: "Foneddigion, ni ellwch ddweud bod y Cadfridog Plumer yn pro-German." O'r diwedd, ofnai'r Ffrancwyr rhag i newyn ac anarchiaeth drosglwyddo'r wlad i'r Bolshefiaid. Yn ôl y Daily News ar y pryd:

"Nid oes amheuaeth am y ffeithiau. Y mae'r amgylchiadau dychrynllyd yn yr Almaen yn hollol hysbys i Lywodraethau'r Cynghrair oddi wrth adroddiad swyddogol a benodwyd ganddynt. Y mae'r genedl yn marw o'r newyn sydd wedi ei orfodi arnynt am fisoedd wedi'r Cadoediad. Y mae'n weddol sicr bod mwy o'r boblogaeth siful wedi marw o'r canlyniadau nag a laddwyd ar feysydd y rhyfel. Mewn rhai mannau y mae 90 yn y cant o beiriannau'r rheilffordd wedi eu cymryd oddi arnynt (8 Mawrth).

O'r diwedd penderfynwyd gollwng bwydydd iddynt, ar y telerau eu bod yn talu amdanynt 11,000,000p. mewn aur, ac yn trosglwyddo llynges yr Almaen. Yn Ebrill 1919 codwyd y gwarchae hefyd ar y gwledydd niwtral, Holand, Denmarc, Sweden, Norwy ac Yswisdir, ar yr amod nad oeddynt i allforio nwyddau i'r Almaen.

Yn yr Unol Daleithiau yr oedd yr Arlywydd Wilson wedi erfyn yn daer ar iddynt gyflawni y delfrydau a'r addewidion a gyhoeddwyd fel amcanion crwsâd America wrth fyned i ryfel, ond codwyd gwrthwynebiad cryf gan yr Wrthblaid. Yn y cyfamser, cwympodd Llywodraeth Hungari dan ym- osodiad y Bolshefiaid chwyldroadol. Yn y Balcanau yr oedd Groeg yn lledaenu ei thiriogaethau ar draul ei chymdogion, yr Eidal am feddiannu Fiume, a Siapan rannau helaeth o Sina. Ofnai cynrychiolydd y Manchester Guardian ar y pryd rhag i'r Gynhadledd Heddwch

"ddiweddu mewn cytundebau nas cedwir gan neb. Y mae'r gwylwyr yma yn myned i'w gwelyau noson ar ôl noson yn glaf gan anobaith neu lid."

CYNGOR MR. LLOYD GEORGE

Ym Mawrth 1919 anfonodd Mr. Lloyd George Femorandwm Cyfrinachol i Lywodraethau'r Cynghreiriaid gyda'r rhybuddion a ganlyn:

"Chwi ellwch amddifadu'r Almaen o'i thiriogaethau, gostwng ei byddin i nifer heddgeidwaid gwlad, a'i llynges i eiddo Gallu o'r bumed radd. Er hynny, yn y diwedd, os bydd hi'n teimlo iddi gael ei thrin yn annheg yn 1919, fe geisia foddion i gael iawn gan ei gorchfygwyr. Dibynna cadwraeth heddwch ar symud achosion y dicter a fo'n cynhyrfu ysbryd gwladgarwch, cyfiawnder a thegwch nes unioni'r cam. Ni faddeuir ac nid anghofir anghyfiawnder ac ymffrost a ddangosir ar awr y fuddugoliaeth. Am y rhesymau hyn, yr wyf yn gwrthwynebu'n gryf drosglwyddo ychwaneg o'r Almaenwyr o lywodraeth yr Almaen i reolaeth rhywun arall. Y mae cynigiad Comisiwn Pwyl am inni ddodi dwy filiwn o Almaenwyr dan reolaeth pobl o grefydd wahanol, sydd heb ddangos erioed allu hunan-lywodraeth sefydlog, yn sicr, yn ôl fy marn i, o arwain yn hwyr neu yn hwyrach i ryfel yn Nwyrain Ewrop. Buaswn felly yn gosod ar flaen yr heddwch, unwaith y derbynnir ein telerau, ac yn enwedig yr iawndal, y bydd inni agor iddi farchnadoedd a nwyddau crai ('raw materials') y byd ar delerau hafal â ni ein hunain ac y gwnawn bob peth posibl i alluogi gwerin yr Almaen i godi ar ei thraed drachefn."

SIGNOR NITTI (Peaceless Europe).

Mewn canlyniad i'r datganiad dewr a phroffwydol hwn, codwyd storm ym Mhrydain dan gymhelliad papurau Northcliffe a Bottomley, ac anfonwyd pellebr wedi ei arwyddo gan 203 (fe ddywedodd y Daily Express 370) o Aelodau Seneddol y Glymblaid i wrthdystio, a galwyd y Prif Weinidog yn ôl at addewidion yr etholiad, a gwneuthur i'r Almaen dalu "holl gostau" y rhyfel. Ymhlith arwyddwyr y gwrthdystiad yr oedd gwŷr mor amlwg fel crefyddwyr â Syr Samuel Hoare a'r Major Edward Wood (Arglwydd Halifax yn awr). Cyn i'r ultimatum yma gyrraedd, yr oedd Lloyd George wedi ymuno gyda Wilson i wrthwynebu rhai o ofynion mwyaf afresymol Ffrainc a'r Eidal. Protestiai Wilson fod y 14 Pwynt yn cael eu hanwybyddu; ar un adeg galwodd am ei long-ryfel, y George Washington, i'w gludo yn ôl o'r gynhadledd i'r America. Ond yr oedd Clemenceau fel adamant gan wybod mor ansefydlog oedd safle Wilson a Lloyd George, oherwydd gwrthbleidiau eu gwledydd eu hunain.

Gorfoleddai Northcliffe yn y Times am fod neges y 203 A.S. wedi cadw Lloyd George at ei orchwyl a'i addewidion yn yr etholiad a rhag ei bolisi "ansicr ac ansefydlog." Hawliodd y Times iawndal am bob colled o bob math a phensiynau i filwyr y rhyfel oddi ar yr Almaen. Archwyd Llywodraeth Werinol yr Almaen i arwyddo'r Cytundeb Ebrill 25. Ar fin yr amser, ciliodd cynrychiolwyr yr Eidal o'r Gynhadledd fel gwrthdystiad am wrthod eu cais am Fiume, darn o Iwgo Slafia, ac o Dalmatia. Dadlennwyd ganddynt fod Cytundeb cyfrinachol y Cynghreiriaid wedi addo hyn i'r Eidal yn nechrau'r rhyfel er ei fod yn hollol groes i amcanion cyhoeddedig y rhyfel, sef amddiffyn cenhedloedd bychain. Cadwyd cynrychiolwyr yr Almaen mewn gwesty arbennig a weiren bigog o'i amgylch. Yn y Gynhadledd, Mai 7, gosodwyd hwynt i eistedd wrth fwrdd ar wahan. Dywedwyd wrthynt gan Clemenceau fod telerau'r heddwch mewn llyfr a drosglwyddwyd iddynt i'w arwyddo; ni chaniateid trafodaeth a gosodwyd 15 niwrnod o ras cyn ei arwyddo.

CWYN Y GORCHFYGEDIG

Dyma rannau o ateb y Count Brockdorf-Rantzau ar ran yr Almaen:

"Foneddigion, teimlwn gyfrifoldeb dwys y dasg aruchel o ddod â heddwch parhaol i'r byd. Nid ydym dan rith unrhyw anwybodaeth am faint ein gorchfygiad ac am ddiffyg ein gallu, Gwn fod gallu arfau'r Almaen wedi ei dorri. Gwyddom allu'r casineb a gyfarfyddwn yma, a chlywsom angerdd y gofyniad y bydd i'r buddugoliaethwyr fynnu i ni dalu fel y gorchfygedig, a chosbi y rhai a haedda eu cosbi. Hawliwyd gennym gyffesu mai nyni'n unig sydd euog o'r rhyfel. Buasai'r fath gyffes yn fy ngenau yn gelwydd. Yr ydym yn bell o ymwrthod â'n rhan am gyfrifoldeb am y rhyfel mawr ac am y ffordd y'i gweinyddwyd. Bu agwedd llywodraethau blaenorol yr Almaen yng Nghynhadledd Heddwch yr Hague, ei weithredoedd a'i wallau yn y deuddeng niwrnod trychinebus yng Ngorffennaf 1914, yn sicr yn cyfrannu i'r galanastra, ond gwadwn yn gryf fod yr Almaen, a oedd yn credu ei bod yn ymladd mewn hunan- amddiffyniad, yn euog yn unig.... Y mae'r farn gyhoeddus yng ngwledydd ein gwrthwynebwyr yn diasbedain gyda'r troseddau y dywedir i'r Almaen eu cyflawni yn ystod y rhyfel; ond yn y dull o wneuthur rhyfel nid yr Almaen yw'r unig un sydd euog. Gall nad oes esgus i anfad- waith mewn rhyfel ond fe'i gwneir yn yr ymdrech am fuddugoliaeth, ac wrth amddiffyn bodolaeth y genedl fe ollyngir nwydau sydd yn pylu cydwybod y bobloedd. Ond fe laddwyd mewn gwaed oer gannoedd o filoedd o wŷr anymladdol a drengodd er Tachwedd 11 o achos y dirwasgiad, wedi i'n gwrthwynebwyr orchfygu a sicrhau buddugoliaeth. Meddyliwch am hynny pan soniwch am euogrwydd a chosb. Ni ellir datgan mesur euogrwydd y rhai a gymerodd ran ond gan ymchwil ddiduedd ger bron llys niwtral. Erfyniwn am y fath ymchwil. Ond nid ydym yn hollol heb amddiffyn. Chwychwi eich hunain a ddaeth a chynghrair i ni, yr hawl a sicrhawyd gan y Cytundeb, gan egwyddorion yr heddwch. Yn yr amser rhwng Hydref 5 a Thachwedd 5, gwrth-dyngodd Llywodraethau y Cynghreiriaid heddwch o drais ac ysgrifennwyd 'Heddwch Cyfiawnder' ar eu baneri. Ar Hydref 5 cynigiodd Llywodraeth yr Almaen egwyddorion Arlywydd yr America fel sail heddwch, a Tachwedd 5 datganodd Mr. Lansing fod Pwerau y Cynghreiniaid yn cytuno ar y sail hwn, gyda dau cyfnewidiad. Daeth egwyddorion yr Arlywydd Wilson felly yn ymrwymol i'r ddwyblaid i'r rhyfel-chwychwi a ninnau a'n Cynghreiriaid. Cyrhaeddir nod Cynghrair y Cenhedloedd yn unig i'r rhai sydd ag ewyllys da trwy ager ei byrth yn llydan, ac yna yn unig y sicrheir nad ofer a fu marwolaeth y rhai a gwympodd. Y mae'r heddwch na ellir ei amddiffyn yn enw cyfiawnder ger bron y byd yn galw am wrthwynebiadau newydd. Ni all neb ei arwyddo gyda chydwybod dda oherwydd na ellir ei gyflawni."

Canmolwyd y telerau heddwch gan y Wasg a chan arweinwyr crefyddol a gwleidyddol yn y wlad hon, oddigerth ambell un fel Philip Snowden, A.S., a ddywedodd ar y pryd:

"Dylasai'r Cytundeb foddhau gwylliaid, Imperialwyr a militarwyr. Dyrnod angeuol yw i'r rhai a ddisgwyliodd i ddiwedd y rhyfel ddod â heddwch. Nid Cytundeb Heddwch mohono ond datganiad newydd o ryfel. Bradwriaeth yw o weriniaeth ac o'r rhai a gwympodd yn y rhyfel. Datguddia wir amcanion y Cynghreiriaid."

Ofnai'r Daily News ein bod "yn lladd yr ŵydd ac yn disgwyl am yr wyau aur" gan ein bod yn hawlio arian a llongau'r Almaen, traean o'i glo, a thair ran o bedair o'i haearn, a'u gosod dan orfod i gymryd nwyddau Ffrainc yn ddi-doll, ond i oddef i Ffrainc godi unrhyw doll. Gosodwyd 2,000,000 o Almaenwyr dan iau Pwyl a 3,000,000 o Awstriaid dan Tsieco-Slofacia.

Cododd adwaith mawr yn yr Unol Daleithiau, a galwyd gan Ryddfrydwyr yno am i'r America wrthod arwyddo'r Cytundeb a Chyfamod Cynghrair y Cenhedloedd ar y tir ei fod yn troseddu'r egwyddorion a gyhoeddwyd yn ei henw ac yn safoni trosedd a cham gwrth-ryddfrydol.

Gwrthdystiwyd hefyd yn naturiol gan bapurau Sosialaidd a gwerinol yr Almaen, megis Vorwarts:

"Y mae heddwch o'r fath yn ceisio difodi ein cenedl nid ag arfau ond gan gaethwasiaeth economaidd fwystfilaidd."

Yn enwedig gwrthdystiwyd yn erbyn cyflwyno i Ffrainc 140,000 o wartheg godro tra cedd miliynau o'r plant yn newynu. Yn ôl y Manchester Guardian ar y pryd:

"Ni all gweithiwr wneud diwrnod o waith ar y bwyd a dderbyn. Y mae'r darfodedigaeth a chlefydau o'r fath yn cynyddu'n arswydus. Y mae'r plant mewn cyflwr truenus. Y mae llawer o'r babanod a aned yn y blynyddoedd diwethaf heb brofi llaeth erioed."

GORFODI'R CYTUNDEB

Mai 14 cyfarfu'r Prif Gyngor Economaidd, dan lywyddiaeth yr Arglwydd Robert Cecil, a chyhoeddwyd ganddo fod yr holl drefniant yn barod i orfodi'r dirwasgiad manylaf os byddai i'r Almaen wrthod arwyddo'r Cytundeb Heddwch. Gwrthododd Clemenceau liniaru dim ar y telerau, er bod Lloyd George yn awyddus i ildio i rai o erfyniadau'r Almaen. Anfonwyd llongau awyr dros yr Almaen; paratowyd y Llynges; daliwyd y llongau bwyd rhag hwylio i'r Almaen. Cynghorwyd Senedd yr Almaen gan y cynrychiolwyr i beidio ag arwyddo'r cytundeb fel yr oedd; ond penderfynwyd gan y mwyafrif ei dderbyn gan fod y werin newynog yn galw am heddwch ar unrhyw delerau. Cwympodd y Llywodraeth a chariwyd o'r diwedd fesur i arwyddo'r Cytundeb gan 237 pleidlais yn erbyn 138, a chan wrthod cydnabod y frawddeg a ddywedai mai'r Almaen yn unig oedd yn gyfrifol am y rhyfel. Rhybuddiwyd hwynt y byddai'r byddinoedd yn symud trannoeth onid arwyddid y Cytundeb yn ddi-oed. Neges olaf Llywodraeth yr Almaen, Mehefin 24, ydoedd:

"Yn ildio i rym gorlethol, ond heb roddi i fyny ein hargyhoeddiad o anghyfiawnder digyffelyb telerau'r heddwch, datgana Llywodraeth Werinol yr Almaen ei bod yn barod i arwyddo'r telerau heddwch a orfodir gan Lywodraethau'r Cynghreiriaid."

Nid heb ymdrech gan Lloyd George a Wilson am ryw fath ar gyfiawnder a thrugaredd yr arwyddwyd y Cytundeb, ond treisiwyd hwynt gan ysbryd y dorf a'r Wasg i dderbyn polisi dial Clemenceau. Yn wir, fe ddywedodd y gwladweinydd a'r Ffrancwr M. Painleve y gwirionedd sylfaenol mewn braw- ddeg wrth gyfaill o Sais:

"Ni a wyddom, chwi a minnau, fel dynion diwylliedig, na all Ffrainc ymadfer o'r rhyfel nes iddi faddau i'r Almaen, ond y mae hyn yn wirion- edd rhy anodd heddiw i werin Ffrainc."

(Bywyd C. P. Scott).

Ni ddisgwylid i anffyddiaeth gwerin Ffrainc ddatgan ffydd sylfaenol crefydd Crist, ond gofid yw meddwl nad ddatgan- wyd ef gan Eglwysi Crist ym Mhrydain. Fel yn hanes rhyfel De Affrica, yr oedd Cadfridogion fel Kitchener yn fwy mawrfrydig na'r Wasg neu'r werin neu'r Eglwys. Dywedodd y Prif Gadfridog Haig fod "heddwch o gymod" yn anhepgorol. Tystiai Prif Gadfridog arall, Syr Ian Hamilton, Llywydd y Lleng Brydeinig, wrth ddadorchuddio colofnau i'r bechgyn, mai "tric twrne" oedd cytuno i'r 14 Pwynt yn y Cadoediad a'u bradychu yn y Cytundeb Heddwch. "Fersai andwyol," meddai, "yr un gair ynddo i ddatgan tiriondeb Lloegr; i ddangos bod eich bechgyn chwi a fu farw yn amgenach na'r Ymherodron hynny; yr un arwydd, sydd mor gyffredin ymhlith bechgyn ysgol, o'r gorchfygwr yn estyn ei law."

Ym mywgraffiad C. P. Scott, golygydd y Manchester Guardian, fe ddisgrifir yn fanwl hanes cyfrinachol y gŵr a'r cyfaill cywir hwnnw i "achub enaid Lloyd George" rhag cael ei foddi gan ddilyw torf a Gwasg baganaidd; eithr wedi iddo ymollwng i dderbyn cymorth Northcliffe a hwylio ar nwydau'r Wasg yn yr etholiad, ni ellid osgoi'r Niagra. Yn ôl y Cyrnol House, dirprwywr arbennig yr Unol Daleithiau, yr oedd y sefyllfa yn anobeithiol wedi'r etholiadau:

"Collais ers talm bob gobaith am gael yr heddwch y mae'r byd yn ei ddeisyfu. Y cwestiwn yn awr yw cael y gorau a allwn neu ynteu atal y peiriant a mentro tryblith. Gwnaed y drwg yn yr etholiadau yn America ac yn Lloegr. Nerthwyd y pwerau adweithiol yn y fath fodd nes rhoddi rhwystrau ar ein llwybr ym mhob troad.

C. P. SCOTT.

Gwrthdystiwyd yn ofer gan J. M. Keynes, cynrychiolydd swyddogol Trysorlys Prydain yn Fersai, yn erbyn rhaib annynol a ffol y mesurau economaidd:

"Ffaith anghyffredin ydoedd mai problem sylfaenol economaidd, Ewrop yn newynu ac yn andwyo ger bron ein llygaid, oedd yr un cwestiwn nad oedd modd deffro diddordeb y 'Pedwar Mawr' iddo. . Am y polisi o ostwng yr Almaen i gaethwasiaeth am genhedlaeth, o ddiraddio miliynau o fywydau dynol, ac o amddifadu cenedl gyfan o hapusrwydd, dylasai hyn fod yn wrthun ac yn ffiaidd, hyd yn oed pe byddai'n bosibl, a phe bai iddo ein cyfoethogi ninnau, a phe na byddai iddo hau dirywiad holl fywyd gwareiddiedig Ewrop.

"Fe'i pregethir gan rai yn enw Cyfiawnder." Yn nigwyddiadau mawrion hanes dyn, ac yn natblygiad cymhleth tynged cenhedloedd, nid yw cyf- iawnder yn beth mor syml. A phe byddai, nid awdurdodir cenhedloedd gan na chrefydd na moesau naturiol i ymweled â phlant eu gelynion gamwri eu rhieni a'u llywodraethwyr.

"Yr iawndal ydoedd prif-wibdaith y Pedwar Mawr i faes economaidd, a phenderfynwyd ef fel problem diwinyddiaeth, gwleidyddiaeth, ystrywiau etholiadau, ac o bob safbwynt ond dyfodol Gwladwriaethau yr oedd eu tynged yn eu dwylo . . . Ni bydd i ddynion drengi'n dawel bob amser, canys y mae newyn, sydd yn dod â difaterwch ac anobaith i rai, yn gyrru tymherau eraill i ansefydlogrwydd nerfus ac i wallgofrwydd anobaith. Ac fe all y rhain yn eu cyfyngder ddymchwel gweddillion trefn a boddi gwareiddiad ei hun yn eu hymdrech orffwyllog i ddigoni angen gorlethol yr unigolyn. Dyna'r perygl a ddylasai grynhoi ynghyd ein holl adnoddau, a'n gwroldeb a'n delfrydau.

(Economic Consequences of the Peace: Tachwedd 1919).

ADLADD YR HEDDWCH

Nid hir y bu'r buddugoliaethwyr heb brofi gwirionedd yr ychydig o broffwydi economaidd a gwleidyddol nas boddwyd gan ddilyw dial y Wasg a'r dorf. Yn wir yr oedd yr anarchiaeth economaidd a moesol yn achos, nid yn unig i ddiffodd gobeithion ac amcanion y Gwerin Lywodraethau newydd yn Awstria a'r Almaen, ond i ddatblygu Comiwnyddiaeth a Ffasgaeth eithafol. Ymledodd ysbryd trais yn agos ac ymhell -yn Iwerddon agos fel yn America. "Sylweddolais," meddai C. P. Scott, "fod holl bolisi y 14 Pwynt wedi eu gollwng yn llwyr gydag ymoddef eu hawdur.

Nid hir y bu'r canlyniadau gwleidyddol ac economaidd heb ddisgyn ar Gymru. Difodwyd ymron yr hen Ryddfrydiaeth a fu mor uchel ei delfryd ac mor llwyr ei buddugoliaeth yn 1906 yn yr adweithiad i Ryfel De Affrica. Erbyn 1921 disgynnodd canlyniadau'r heddwch drud ar gymoedd y De. Tynnwyd nawdd a rheolaeth y Llywodraeth o'r pyllau glo a gadwodd elw uchel a chyflog o gyfartaledd 5p yn yr wythnos i'r glowyr; disgynnodd yr elw a'r cyflog yn ebrwydd. Y canlyniad oedd y streic fawr ofer yn 1921 i geisio osgoi'r cwymp anocheladwy a esgorodd ar ddeunaw mlynedd o golled a thlodi ac anghyflogaeth anghyffelyb, a'r ecsodus o 400,000 o waed ifanc y De i Loegr. Amhosibl hefyd ydoedd cysoni dial ac iawndal y buddugoliaethwyr, a gorfodi'r Almaen i drosglwyddo ugain miliwn o dunelli o lo yn flynyddol i Ffrainc a'r Eidal, heb i hynny ddifetha prif farchnadoedd pyllau glo y Rhondda. Mewn amser, dechreuwyd cyfaddef hyn gan rai o brif benaethiaid byd masnach ei hun. Dyma eiriau Mr. Reginald McKenna, Llywydd y Midland Bank:

"Ni a gollwn fwy yn ein gwlad gan fodolaeth 2,000,000 o wŷr di-waith nag a dderbyniwn gan werth iawndal yr Almaen mewn deng mlynedd ar hugain. Pan welwn y pethau hyn dechreuwn amau ai er lles i'r Deyrnas Unedig y bydd talu'r iawndal, ac os telir a allai droi yn felltith yn hytrach na bendith? Am y rhan sydd yn ddyledus i ni, nid wyf yn gobeithio y telir ef, ond pe byddai yn fy ngallu mi a'i difodwn."

(Commercial Club, Chicago, 1922).

Dywedodd yr un gŵr mewn man arall ein bod

"yn dechrau gweled yng nghynnydd ein hanghyflogaeth bod maddau i'r gelyn, nid yn unig yn Gristnogaeth dda, ond yn fusnes da yn y diwedd."

Erbyn 1925 yr oedd cyflwr truenus y glowyr yn bygwth cynnwrf drachefn am fod y cyflogwyr yn ceisio gorfodi gostyngiad pellach yn y cyflogau bychain. Penodwyd gan y Llywodraeth Comisiwn Ymchwil, dan lywyddiaeth yr economydd enwog, Syr Josiah Stamp. Wrth iddo groesholi Syr Evan Williams, llywydd Cyflogwyr y Pyllau Glo, am sail ei obaith i'r diwydiant wella wrth ostwng y cyflogau, atebwyd iddo: "Hyn yn syml; y mae costau cynhyrchu yn llai ac oriau gweithio yn hwy yn yr Almaen." Yna, meddai Syr Josiah Stamp, "Onid ydych yn gorfodi'r Almaen drwy rym politicaidd i weithio oriau hir?" (25 Gorffennaf 1925).

Wrth geisio osgoi canlyniadau polisi'r dial a'r iawndal ar weithwyr truain y pyllau glo, cwblhawyd difethiant y Rhondda gan helynt ofer a hir yn 1926, a bygythiwyd sylfeini'r Wladwriaeth gan y Streic Gyffredinol a achoswyd gan gydymdeimlad â'r glowyr. Er hyn oll, nid aeth y meddygon at wreiddyn y drwg, sef anghyfiawnder ac anfoesoldeb sylfaenoi Heddwch Fersai. Rhybuddiwyd y byd yn wir gan y bancwyr cydwladol yn 1926, a chan athrawon Prifysgol Columbia mewn datganiad pwysig. Aeth yr enwog Syr George Paish, cyn-Gynghorydd y Trysorlys, yma ac acw drwy'r wlad i geisio deffro'r cyhoedd i ganlyniadau arswydus yr iawndal a'r dyledion:

"Yr oeddym yn haeru heddiw y dylasai'r Almaen werthu swm anferth o nwyddau er mwyn yr iawndal, ond yr effaith oedd gostwng pris y nwyddau hynny. Nid oedd ein gwladweinwyr yn dweud dim amdano; eto yr oedd yn gwneuthur difrod anferth i ni i gyd. Rhaid oedd dringo o'r sefyllfa y'n gosodwyd ynddi gan y rhyfel a pholisi'r gwladweinwyr, onid ê byddai newyn, a chyfyngder mawr a chwyldroad."

(Rhagfyr 1927).

Dangosais i Syr George Paish bamffled a ysgrifennais beth amser yn gynt dan yr enw "Reparations and Industrial Ruin" i geisio galw sylw at y canlyniadau economaidd yn Ne Cymru, yr achosion moesol a gwleidyddol yn Heddwch Fersai i helyntion Ewrop. Dywedodd yntau ei fod wedi digalonni wrth geisio deffro'r cyhoedd i'r peryglon hyn, a gofynnodd a welwn ryw fodd i berswadio esgob neu wlad- weinydd i astudio'r mater ac i argyhoeddi'r bobl o'u perygl? Anfonais y pamffled at berchenogion y pyllau glo a adwaenwn, ac at esgobion a chlerigwyr a allasai oleuo'r eglwys; ond yr oedd helynt cyfnewidiad y Llyfr Gweddi Cyffredin yn llenwi meddwl yr eglwys ar y pryd. Ysgrifennais at Mr. Lloyd George a chefais wahoddiad i drafod y mater gydag ef; dywedodd fod ganddo feddwl uchel o Syr George Paish, ac er ei fod yn cael ei alw yn "hen Jeremeia," yr oedd Jeremeia yn wir broffwyd. Yna dywedodd ei fod yntau o blaid difodi dyled yr Almaen ond i'r America faddau i ni! Gofynnais iddo, onid oedd maddeuant yn ofyniad anhepgorol yn y byd moesol, a phe buasai i ni fentro i'r tir yna a maddau ein rhan ni o'r dyledion, onid oedd yn bosibl y buasai eraill yn dilyn ein hesiampl? Atebodd:

"Y mae rhywbeth yn hynny. Bargeinwyr caled yw'r Americanwyr, ond pan welont rywun yn gwneuthur y Big Thing daw rhyw awydd ynddynt i fyned ymhellach. Ceisiwch gael yr hen Archesgob i godi'r mater trwy'r eglwysi fel mater o faddeuant."

Yn rhyfedd ddigon, dyna ydoedd sylw Arglwydd D'Abernon, llysgennad Prydain yn Berlin, na byddai i'r iawndal gael ei setlo ond trwy "genhadaeth trwy'r eglwysi." Ond parhaodd yr eglwysi'n fud a byddar i achos ac effaith gwrthgiliad y genedl o egwyddor sylfaenol gweddi pob Cristion, "Maddau i ni ein dyledion fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr," a thaliad drud dioddefaint y De oedd pris ein difaterwch ac anwybodaeth o natur rhyfel a dial.

Mor ddiweddar â 1929, yn adroddiad blynyddol Cwmni y Powell Dyffryn Steam Coal, y pwysicaf yng Nghymru, fe esboniwyd y golled o 231,000p. ar waith y flwyddyn yn y geiriau a ganlyn:

"Elfen bwysig arall sydd wedi peri cynnydd anferth i'n hanawsterau yw cwestiwn yr iawndal. Y mae'n ffaith nas cydnabyddir yn ddigonol fod y trefniadau am iawndal mewn nwyddau wedi niweidio'n ddirfawr ddiwydiannau'r wlad hon. O'r holl ddiwydiannau, y fasnach lo a ddioddefodd fwyaf, ac o'r holl feysydd glo, De Cymru a orfu ddwyn y rhan fwyaf o'r baich, gan fod glo iawndal yr Almaen wedi treiddio i farchnadoedd a dderbyniai gynt y rhan fwyaf o'u cyflenwad glo o Ddeheudir Cymru."

Rhyfedd hefyd ydyw cofio bod y "deyrnas, y nerth a'r gogoniant" yn nwylo Cymro yn ystod y rhyfel, ac arglwyddiaeth cyfoeth y pyllau glo yn y dyddiau hynny yn eiddo i grefyddwyr Cymreig, a bod y naill a'r llall yn cael parch Sasiynau heb unrhyw rybudd iddynt am beryglon y "nerth a'r llu," na chyfarwyddyd yn y rhyfel dosbarth a andwyodd fywyd gwerin Cymru. Yn y dirwasgiad economaidd a'r rhyfel mewn diwydiannaeth yng Nghymru y magwyd gwŷr eithafol y Dde a'r Aswy; o'r un achosion ac anobaith, y chwe miliwn o wŷr di-waith yn yr Almaen, y cyfodwyd "gwylliaid" y Blaid Naziaidd.

NORTHCLIFFE

Un o'r dylanwadau mwyaf dirywiol ar y "farn gyhoeddus" ydoedd Gwasg Northcliffe, a fu'n brif foddion i wyro barn yn rhyfel De Affrica, ac i ddifetha amcanion teg Lloyd George i wneuthur heddwch cyfiawn yn Fersai. Pan gyhoeddwyd pamffled W. T. Stead gyda'r teitl "A laddaf fi fy mrawd-y Boer?" sylw un o'r papurau ydoedd, "Gwnaf, ac mor ddideimlad a phe lladdaswn lygoden fawr yn cario'r pla." Cyd-genedl Botha a Smuts oedd y Boeriaid, a bu farw 20,000 o'u gwragedd a'u plant yn ein "Concentration Camps."

Sylw y diweddar Brif Weinidog Arglwydd Salisbury am ei wasg geiniog a'i bapurau lluniau oedd "fod Harmsworth eisoes wedi dyfeisio papur i'r rhai na allent feddwl, ac wedi hynny i'r rhai na allent ddarllen." Bachgen tlawd o Iwerddon ydoedd, a lwyddodd yn ei flynyddoedd cynnar gyda phapurau fel y Sunday Companion, Puck, The Girls' Friend a Comic Cuts. Cipiodd lwyddiant trwy ei ddawn ddigywilydd i chwarae ar deimladau arwynebol plant dynion. Erbyn y rhyfel olaf, yr oedd yn rheoli y Times a'r Daily Mail a phapurau eraill. Y mae ei hanes i'w gael gan hen Olygydd y Daily Mail, dan y teitl My Northcliffe Diary (Tom Clarke).

Yn Awst 1914 dywedodd wrtho, "Beth yw hyn a glywais am anfon Byddin Brydeinig i Ffrainc? Ffwlbri yw. Nid â'r un milwr yno gyda'm caniatad. Dywedwch hynny yn y papur yfory." Ym Medi 1914 ei gri oedd: "Geilw'r genedl am Arglwydd Kitchener"; ym Mai 1915, "Rhaid i Kitchener fynd," ac yn yr un mis, "Yn sicr daeth yn bryd i ni baratoi nwy i gynorthwyo ein hymdaith i'r Almaen." Pan fynnodd gael gwared ag Asquith yn 1916, dywedodd, "Ceisiwch ddarlun o Lloyd George yn gwenu, a thano 'Gwnewch yn Awr,' a'r darlun hyllaf sydd bosibl o Asquith, a thano Arhoswch a Gwelwch'." Cyn pen yr wythnos ysgrifennodd erthygl, dan y pennawd "Arglwydd Northcliffe ar Lloyd George," wedi ei hysgrifennu i "80,000,000 o ddarllenwyr" i'w hanfon i bapurau America a Chanada. Dywedodd fod Lloyd George "yn myned yn rhy gyfeillgar â Winston Churchill; ni faddeuaf iddo am amryfusedd Antwerp a Gallipoli." Yn 1917 ysgrifennodd, "Y mae gormod o lawer o drafod heddwch yn y papurau; y mae'n creu awyrgylch heddwch. Ni all heddwch fod eto." Penodwyd ef yn Weinidog Propaganda; yr oedd ei gyflog o'r papurau yn 25,000p. yn y flwyddyn. Pan ymddangosodd apêl Arglwydd Lansdowne am gyhoeddi telerau heddwch yn 1917, yr oedd effaith dirywiad y Wasg yn amlwg yn ein bywyd cyhoeddus. "Ni bu enllib erioed mor haerllug, a direswm erioed mor wyllt, drwgdybiaeth erioed mor greulon" (Bywyd C. P. Scott). Wedi iddo lwyddo yn ei fwriad i gael Lloyd George yn Brif Weinidog yn 1916, teimlai fod ganddo hawl arno, a mynnodd gael myned i Fersai yn un o gynrychiolwyr Prydain. Yn ôl adroddiad Tom Clarke o'r hanes mewnol, a gafodd gan Lloyd George: "Pan ofynnodd Northcliffe i mi ei osod ar y Dirprwyaeth Heddwch dywedais wrtho am 'fynd i uffern.' Torrais oddi wrth Northcliffe. Gwrthodais yn llwyr ei oddaf yn y Gynhadledd Heddwch. Dioddefais ef am bedair blynedd. Yr oedd yn rhaid torri ag ef pan fyn- nodd orchymyn i mi. Fel Prif Weinidog, ni allwn oddef hynny. Credai Northcliffe y gallai lywodraethu'r wlad. Yr oedd ei farwolaeth yn ergyd drom i Poincare." Yr oedd ei benarglwyddiaeth yr un mor llym a chreulon a mympwyol gyda'i wasanaethyddion ei hun, a'i bolisi yn hollol ddiegwyddor. Pan gododd streic ymhlith gweithwyr y Pearl Insurance Co. am isrif cyflog, addawodd y Daily Mail gyfrannu 1,000p. yn yr wythnos at gronfa'r streic. Dywedodd wrth Tom Clarke: "Ni wêl rhai pobl beth mor fawr sydd yn hyn fy machgen i; y maent yn brin o weledigaeth. Yr ydym yn ennill ymddiriedaeth Llafur wrth gefnogi'r dynion hyn."

Pan aeth Ffrainc i'r Ruhr gyda'i byddinoedd duon, ac yn hollol groes i'r Cytundeb Heddwch, slogan y Daily Mail ydoedd Hats off to France. Felly y cyflawnwyd cwrs ofnadwy'r baganiaeth modern; gellid defnyddio geiriau'r Salmydd amdano:

"Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd. Buain yw eu traed i dywallt gwaed. Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd a ffordd tangnefedd ni adnabuant."

Terfynodd megalomania y gŵr hwn mewn gwallgofrwydd. Ei neges olaf drwy'r teliffon i swyddfa'r Daily Mail ydoedd: "Y mae'r meddygon yn fy ngwylio, dywedant fy mod yn mynd yn wallgof; anfonwch eich reporter gorau am y stori."

Nodiadau golygu

  1. Melys a theg yw marw dros eich gwlad
  2. ar ôl hyn (felly) oherwydd hyn
 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.