Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Carnhuawc
← Cariad Duw | Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1 golygwyd gan John Thomas (Eifionydd) |
Carw, Y → |
Carnhuawc, yr hwn a amddiffynodd ei wlad yn ngwyneb
ymosodiad arni gan un Simon.
Codir ef hyd y nefoedd:—ei enw
Fydd anwyl byth bythoedd:
Ond enw'r Sais—os Sais oedd—
Yn is, is, ä'n oesoesoedd.
Hugh Hughes (Huw Derfel), Pendinas, Llandegai.