Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Castell Rhuthyn
← Carw, Y | Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1 golygwyd gan John Thomas (Eifionydd) |
Cawrdaf → |
Castell Rhuthyn
Yr haul estyn ar ei lasdo,—ei lon
Oleuni wrth deithio;
A'r ddiboen chwa gerdd heibio
Sy'n falch o'i gusanu fo!
Elias Jones (Llew Hiraethog)