Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cleddyf, Y
← Cledd i fy mron claddu fy mrawd | Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1 golygwyd gan John Thomas (Eifionydd) |
Cloch y Llan → |
Cleddyf, Y
Llym Gledd! dialedd a'i dilyn:— ei lwybr
Sydd le braw a dychryn:
Gwneud gloddest ar gnawd glewddyn
Yfed gwaed—yw ei fyd gwyn!
Thomas Jones (Taliesin o Eifion)