gan y "Ffug-Daliesin"

Golychaf wledic pendeuic gwlat ri
py ledas y·pennaeth dros traeth mundi
bu kyweir karchar gweir yg kaer sidi.
trwy ebostol pwyll a phryderi.
Neb kyn noc ef nyt aeth idi
yr gadwyn trom/las kywirwas ae ketwi.
A rac preidu annwfyn tost yt geni.
Ac yt urawt parahawt yn bardwedi.
Tri lloneit prytwen yd aetham ni idi
nam seith ny dyrreith o gaer sidi.
Neut wyf glot geinmyn cerd ochlywir
yg kaer pedryuan pedyr ychwelyt
yg kynneir or peir pan leferit.
O anadyl naw morwyn gochyneuit.
Neu peir pen annwfyn pwy y vynut
gwrym am y oror a mererit
ny beirw bwyt llwfyr ny ry tyghit
cledyf lluch lleawc idaw rydyrchit.
Ac yn llaw leminawc yd edewit.
A rac drws porth vffern llugyrn lloscit.
A phan aetham ni gan arthur trafferth lethrit
nam seith ny dyrreith o gaer vedwit.
Neut wyf glot geinmyn kerd glywanawr
yg kaer pedryfan ynys pybyrdor
echwyd a·muchyd kymyscetor
gwin gloyw eu gwirawt rac eu gorgord.
Tri lloneit prytwen yd aetham ni ar vor
nam seith ny dyrreith o·gaer rigor.
Ny obrynafi lawyr llen llywyadur
tra chaer wydyr ny welsynt wrhyt arthur.
Tri vgeint canhwr a seui ar y mur
oed anhawd ymadrawd ae gwylyadur
tri lloneit prytwen yd aeth gan arthur.
nam seith ny dyrreith o gaer golud.
Ny obrynaf y lawyr llaes eu kylchwy
ny wdant wy py dyd peridyd pwy
py awr ymeindyd y ganet cwy.
Pwy gwnaeth ar nyt aeth doleu defwy
ny wdant wy yr ych brych bras y penrwy
seith vgein kygwng yny aerwy.
A phan aetham ni gan arthur auyrdwl gofwy
nam seith ny dyrreith o gaer vandwy.
Ny obrynafy lawyr llaes eu gohen
ny wdant py dyd peridyd pen
Py awr ymeindyd y ganet perchen
Py vil a gatwant aryant y pen
Pan aetham ni gan arthur afyrdwl gynhen
nam seith ny dyrreith o gaer ochren.
Myneich dychnut val cunin cor.
o gyfranc udyd ae gwidanhor.
Ae vn hynt gwynt ae vn dwfyr mor.
Ae vn vfel tan twrwf diachor.
Myneych dychnut val bleidawr
o gyfranc udyd ae gwidyanhawr
ny wdant pan yscar deweint agwawr
neu wynt pwy hynt pwy y rynnawd
py va diua py tir a plawd
bet sant yn·diuant a bet allawr.
Golychaf y wledic penefic mawr
na bwyf trist crist am gwadawl.


Ffynhonnell: Llyfr Taliesin