Profiadau Pellach/Cenadaethau Personol a Chrefyddol

Profiadau Pellach Profiadau Pellach

gan George Maitland Lloyd Davies

Y Cyfeillion


CENADAETHAU PERSONOL A CHREFYDDOL

Iwerddon. Y Cyfeillion. Cenhadaeth Gartref. Cymod mewn Diwydiant. Diwydiant Adeiladu. O Dan y Ddeddf. Cenhadaeth yng Nghernyw. Y Cyfandir. Yr Almaen. Ein Cyfrifoldeb am Ewrop. Apel Cymdeithas y Cyfeillion. Cynhadledd Heddwch. Y Senedd. Addysg. Addysg Grefyddol. Addysg a Bywyd. Yr Hen Archesgob. Gwersyll y Bechgyn. Rhyfel yng Nghymru. Ymbleidiaeth Torf. Cynhadledd Oberammergau. Yr Eglwys. Tom Nefyn. Coleg Woodbrooke. Y Weinidogaeth.

IWERDDON

PRIN yr arwyddwyd Cytundeb Fersai cyn codi o chwyldroad a rhyfel yn Iwerddon. Wedi i'r Llywodraeth lethu ysgarmes ramantus gwrthryfel plaid fechan y Sinn Fein yn Nulyn yn 1916, lledaenwyd gorfodaeth grym drwy Iwerddon; carcharwyd miloedd o wŷr dieuog, hyd oni thyfodd anarchiaeth a gwrthryfel trwy'r wlad. Cofiaf imi weled yng Ngharchar Birmingham ugeiniau o garcharorion Gwyddelig, ac yn eu plith yr hen wron tawel, Count Plunkett. Ffurfiwyd byddin arbennig y Black and Tans at y gorchwyl o lethu'r gwrthryfel; llosgwyd pentrefi, a ffatrïoedd ymenyn yr amaethwyr, a dialwyd mwrdwr gan fwrdwr; dihangodd gwragedd a phlant y pentrefwyr yn fynych i gysgu i'r mynyddoedd rhag ofn y dialydd gwaed. Wedi'r Etholiad Cyffredinol yn 1918, sefydlodd y Sinn Fein Lywodraeth a byddin annibynnol yn ôl esiampl Protestaniaid Ulster. Yr oedd gweithredoedd y Black and Tans, dan Brif Weinidog a Chadfridog Cymreig (y Cadfridog Tudor) fel eiddo gwylliaid y Cyfandir, a throwyd y Cadfridog Crozier yn Heddychwr selog gan yr hyn a welodd yn Iwerddon. Nid oedd hyn oll yn adlewyrchu'n ffafriol ar ein proffes yn y rhyfel i ymladd am ryddid i'r cenhedloedd bychain, a daliodd yr Eglwys yr un mor ddi-weledigaeth yn y rhyfel cartref ag ydoedd yn y Rhyfel Mawr. Yn 1920 cyfarfum yn ddirgelaidd yn Iwerddon â ffoadur Gwyddelig, Desmond Fitzgerald, a fu wedyn yn Weinidog Tramor i Lywodraeth y Sinn Fein. Cefais wybod trwyddo delerau heddwch ei blaid, sef yr hyn a elwid yn Dominion Home Rule; ond, wedi cloffi rhwng dau feddwl, cwympodd y Prif Weinidog i du grym a goruchafiaeth drachefn. Credais y buasai cenadwri a chefnogaeth yr eglwysi yn atgyfnerthiad i'w ffydd, yn enwedig "awel o Galfaria fryn" o'i wlad ei hun. Euthum gyntaf i Gymanfa Gyffredinol Presbyteriaid Sgotland. Yn Edinburgh cynhaliwyd cyfarfod mawr a anerchwyd gan H. W. Nevinson a'r Arglwyddes Aberdeen, a fu yn Nulyn gynt gyda'i gŵr, a oedd yn Arglwydd Raglaw y Brenin. Dywedodd yr hen arglwyddes fod milwyr ac arfau yn tyrru i Iwerddon, ac mor fawr oedd ei phryder rhag i anfadwaith gael ei gyflawni; daeth hithau'n unswydd o Iwerddon i geisio deffro'r wlad i erchyllterau y rhyfel yno. Cyfaill pennaf yr Efengylydd a'r gwyddonydd yr Athro Henry Drummond ydoedd yr arglwyddes, ac yr oedd yn dirion a thrugarog ac yn llawn serch at Iwerddon. Cynigiwyd a phasiwyd yn y cyfarfod cyhoeddus yn Edinburgh apêl at y Gymanfa Gyffredinol, a oedd yn eistedd ar y pryd, yn erfyn arnynt ddefnyddio eu dylanwad i atal y difrod a'r dialedd yn Iwerddon. Cefais ymgom hir â'r arglwyddes a'i gŵr am Iwerddon; prin y gallai gredu y byddai i'r Prif Weinidog fentro ffordd arall, ac yr oedd ei phryder a'i gofid yn fawr. Cyfarfûm â hi nifer o weithiau yn y misoedd canlynol a chefais lythyrau oddi wrthi am flynyddoedd. Erys ei choffadwriaeth yn wynfydedig fel Cristion tyner ac fel hen fam yn Israel. Bu am flynyddoedd wedyn yn llywydd ar Gyngor Cyd-genedlaethol y Gwragedd, ac yn fawr ei pharch ar y Cyfandir fel yn ei gwlad ei hun. Euthum o Edinburgh i Borthmadog am fod Lloyd George yn ŵr gwadd i'r Sasiwn yno. Bwriadwn apelio ato'n gyhoeddus yn ei wlad ei hun a cherbron crefyddwyr Cymreig am anturio'r "ffordd arall" yn Iwerddon. Ond wrth eistedd yn y galeri a gwrando arno'n astud, er fy mawr syndod, cefais fy hun yn cydweled yn hollol â'r hyn a ddywedai, sef nad dyletswydd yr eglwysi oedd gwneuthur protest yn unig, na chymryd plaid, ond yn hytrach galw'r ddwyblaid ddig i dir uwch yr Efengyl. Gadewais i'r Prif Weinidog wybod hanes ymddiddan cyfrinachol a fu yr wythnos honno rhwng cyfaill o Grynwr a Heddychwr, a de Valera, a oedd yn ffoadur ar y pryd rhag y milwyr Seisnig.

Dyma rai o eiriau'r Cymro enwog i'r Sasiwn a haedda ystyriaeth am fod cynrychiolydd Cesar teyrnas y byd hwn yn apelio at gynrychiolwyr Crist:

"Na foed i ni syrthio i bechod parod y dallbleidiwr gan gymryd arnom fod pob brwydr boliticaidd yn frwydr rhwng dynion da a dynion drwg. Yr un yw swydd uchel yr Eglwys mewn perthynas â gwleidyddiaeth ag ydyw mewn perthynas â busnes neu a rhyw wedd arall ar egnïon cymdeithas sef dysgu, cyfeirio a glanhau'r gydwybod ddynol. . . Geill pleidiau a phartïon gael eu ffurfio yn y Cynghrair; a rhyw ddydd a ddaw, pan fo'r mwyafrif ar un ochr a'r gallu mwyaf ar yr ochr arall, dichon y ceir gweled na wnaeth dadleuon Cynghrair y Cenhedloedd amgen na pharatoi'r ffordd i'r gwrthdrawiad mwyaf a welodd y byd erioed. Rhaid creu barn gyhoeddus iach drwy'r holl fyd dros heddwch ac yn erbyn creulondeb rhyfel. Trist yw meddwl ynglŷn â'r Rhyfel Mawr diweddar fod y cenhedloedd a ymladdai yn erbyn ei gilydd yn genhedloedd Cristionogol mewn enw, ac na ddarfu i ddylanwad Roll eglwysi cred ynghyd oedi y rhyfel am gymaint ag un awr ac na chanwyd clychau heddwch un awr ynghynt drwy unrhyw ddylanwad a ddaeth o'r eglwysi. ... Rhaid cael rhywbeth a ddylanwada ar galon y bobl. Rhaid deffro cydwybod y bobl fel y casânt y syniad o dywallt gwaed ac y cyfrifont ryfel yn bechod yn erbyn dynoliaeth. Gwaith yr eglwysi a'r cynhadleddau yw creu awyrgylch iach o blaid heddwch ac yn erbyn rhyfel, gan adael i wladweinwyr profedig benderfynu ar y moddion gorau a'r mwyaf effeithiol i sicrhau heddwch a brawdgarwch ymhlith y cenhedloedd. . . Gall, a dylai, yr Eglwys ddysgu ac ail-ddysgu, cymell ac ail-gymell dyletswydd y ddwy blaid i feithrin mwy o ysbryd cariad ac ewyllys da a mwy o barodrwydd i geisio sylweddoli safbwynt y gwrthwynebydd, i ymarfer dioddefgarwch, ac i wneuthur i eraill fel y dymunent i eraill wneuthur iddynt hwythau."

(15 Mehefin, 1922).

Ceisiais wedyn, yn Sasiwn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ganiatad i erfyn arnynt godi eu llais dros gymod, yn ôl awgrym y Prif Weinidog; ond gan nad oedd hyn ar yr agenda, yr oedd rhaid i mi ymfodloni ar ddweud gair yn y fynwent wrthynt pan yn gwasgaru. Euthum ar fy union oddi yno i Lundain i gyfarfod yr Arglwyddes Aberdeen ac eraill, a oedd yn dal yn daer i geisio deffro cydwybod y wlad i'r galanastra yn Iwerddon. O'r cyfarfod anfonwyd dau ohonom i Downing Street gyda'r apêl am i arweinwyr y ddwy blaid gyfarfod ac ymresymu ynghyd. Yr wythnos honno, er ein mawr syndod, anfonwyd gwahoddiad i drafod heddwch gan Lloyd George at de Valera. Trist ydoedd meddwl am ddiffyg tystiolaeth a mentar yr eglwysi Cymreig dros weinidogaeth y Cymod gan mai Cymro oedd y Prif Weinidog. Wedi ymweled â Dulyn, a chael ymgom â de Valera ac arweinwyr eraill, dychwelais gyda'r hanes i Lundain. Yno disgrifiais y sefyllfa i'r hen Archesgob, y Dr. Davidson, a gwrandawodd yn astud. Credai fod ymddygiad y Pab yn wan iawn, na buasai wedi condemnio'r holl lofruddio yn Iwerddon; eglurais wrtho fod y Pab wedi dweud, "Gwaed eich brodyr yr ydych yn ei dywallt," a bod Esgob ac eglwysi Catholig Tuam yn dal mewn gweddi ac erfyniad dwfn am heddwch, Gofynnais iddo yntau erfyn am weddïau a chefnogaeth yr eglwysi i anturiaeth heddwch y Prif Weinidog. Dywedai y gallai'r Anghydffurfwyr ddigio am hynny, ac nad oedd Eglwys Loegr yn unfryd, a bod yn rhaid amddiffyn deddf a threfn. Meiddiais ofyn onid oedd angen Gras yn hytrach na deddf yn awr. "Gwn hynny," meddai, "ond byddai raid i mi ofyn i'r Brenin cyn gwneuthur apêl o'r fath i Gristnogion y wlad, ac y mae yntau'n ddig iawn am y tywallt gwaed, ac yn fodlon mentro myned ei hunan i Iwerddon pe byddai hynny o help." Yn y diwedd ysgrifennodd lythyr personol dwys a da i'r Times yn pwysleisio yr angen am ffydd a gweddi dros ein Llywodraeth yn yr anturiaeth newydd am heddwch.

Diwedd Y stori ydoedd cyfarfyddiad cyntaf Lloyd George a de Valera, ac wedyn trafodaeth faith a dyrys a benderfynnodd, yn ôl cyfaddefiad de Valera ei hun, naw pwynt allan o'r deg yn foddhaol. Y maen tramgwydd olaf ydoedd ffurf llw Aelodau Seneddol Iwerddon o deyrngarwch i'r Brenin. Yr oedd y cynrychiolwyr Gwyddelig yn barod i gydnabod y Brenin, ond nid i dyngu llw o ffyddlondeb ffug i un a ymddangosai ychydig fisoedd cynt yn ormeswr caled. Nid ildiai Toriaid y Glymblaid ar ffurf y llw; rhybuddiwyd llys-genhadon Iwerddon, yn ôl Lloyd George, fod y Cadoediad ar fin terfynu; bygythiwyd hwynt, yn ôl adroddiad y Gwyddelod, y byddai'r rhyfel yn ail-ddechrau yn y man onid arwyddid y Cytundeb a'r llw y noswaith honno. Ac felly, dan orfodaeth amgylchiadau, neu fygythiad canlyniadau, yr arwyddwyd y Cytundeb, heb ryddid ysbryd a heb ras yn yr awr olaf. Gwadwyd awdurdod y llw gan de Valera, oherwydd ei orfodaeth, ac yn fuan diarddelwyd Lloyd George o arweiniad y Glymblaid gan Doriaid Tŷ'r Arglwyddi, am iddo aberthu cymaint o hawliau Prydain. Caled yw dilyn ffordd y Tangnefeddwr a chadw'n boblogaidd â'r byd. Oherwydd i'r Cymro enwog fentro mor bell i geisio heddwch a chytundeb, collodd ei swydd uchel ac ni chafodd swydd fyth wedyn yn Llywodraeth Prydain.

Caled hefyd yw gweled dynion yn drwg-dybio amcanion ei gilydd mewn gwleidyddiaeth. Y gŵr a gymerodd y cam cyntaf i wrthwynebu'r "trafodaethau cywilyddus" â De Valera, fel y galwodd hwynt, ydoedd Arglwydd Salisbury. Anfonais ato ef ar y pryd i ddweud yr hyn a wyddwn am gymhellion a thrafodaethau cais y cymod â'r Gwyddelod. Cefais ateb hir oddi wrtho:

"Chwi apeliwch ataf yn enw'r mwyaf o bob enwau ac nid oes raid i mi ddweud y triniaf eich apêl â'r parch dyfnaf sydd bosibl."

Yna cyfeiriodd yn faith at ei syniadau ar awdurdod y llywodraethwr

"fel awdurdod wedi ei phenodi gan Dduw i'r hwn y mae parch ac ufudd-dod yn ddyledus a than ddyletswydd i gosbi drwgweithredwyr a thrin gwrthryfel fel pechod a throsedd. Ni fynaswn, wrth gwrs, ddweud na ddaw yr amser pan fyddo'n bosibl cyrraedd yr holl amcanion y defnyddir grym er eu mwyn yn awr, trwy ddylanwad—dylanwad a ddibynna, wrth gwrs, ar gariad a ffydd ond yn amlwg ni ddaeth yr amser yn nyddiau Crist, ac yn sicr credaf na ddaeth yr amser eto. Gobeithiaf y teimlwch nad wyf wedi eich ateb heb y parch dwfn a ddymunwn ddangos i'ch argyhoeddiadau."

Tynnodd yn ôl ei rybudd o gerydd ar y Llywodraeth ar y pryd, ond wedi'r cytundeb heddwch ag Iwerddon, ef, yn anad neb, a oedd yn gyfrifol am gwymp Llywodraeth y Glymblaid. Anfonais iddo ymhen rhai blynyddoedd, hanes a ysgrifennais i'r Welsh Outlook yn 1924 o'r cyffyrddiadau personol ag arweinwyr yn y wlad hon ac Iwerddon. Ysgrifennodd yn ôl:

"Er na buom yn aelodau o'r un blaid wleidyddol, eto, efallai yn ysbryd llawer o'r hyn a ysgrifenasoch, fe'n galluogwyd i werthfawrogi y cymhellion a reolodd y naill a'r llall; gyda'r cywirdeb llawnaf gallaf ddweud y bu o ddiddordeb mawr i mi yn bersonol fod ar delerau'r gyfathrach gyda chwi a ffynnodd pan gyfarfuasem gyntaf. Am hynny, darllenais yr hanes dramatig a anfonasoch gyda chydymdeimlad â'r wedd ar yr argyfwng Gwyddelig y cysylltwyd chwi mor agos â hi-cydymdeimlad, wrth gwrs, nid â'r polisi a gymellasoch, ond â'r delfrydau uchel a oedd yn eich barn chwi yn ei annog."

Buan y rhannwyd gwerin Iwerddon yn ddwyblaid ddig o achos y llw, a dilynwyd hyn gan ryfel cartrefol andwyol. Dienyddiwyd gwŷr enwog fel Erskine Childers ar y naill law, a saethwyd Michael Collins ar y llaw arall. Yn y diwedd, enillodd plaid de Valera y dydd; difodwyd y llw, a phob hawl lywodraethol gan Brydain; ond ni ddaeth eto yr un gwir heddwch o gymod na gras gydag Iwerddon fel y digwyddodd trwy ras a haelioni Campbell Bannerman yn heddwch De Affrica. Rhyfedd oedd clywed cefnogaeth Syr Austen Chamberlain ar y pryd i'r cytundeb â Iwerddon a'i gyfaddefiad o edifeirwch am bleidleisio yn erbyn cynnig Campbell Bannerman a'i weledigaeth bell wedi rhyfel De Affrica.

Dysgais mor gaeth yw cynrychiolwyr Gweriniaeth i'w nerth a'u llu politicaidd, y farn gyhoeddus gyfnewidiol, a'r Wasg wamal. Felly hefyd yr oedd y swyddogion milwrol hynny a fynnai haelioni a gwir heddwch wedi'r rhyfel yn gaeth i'r gyfundrefn, megis Arglwydd Kitchener yn Ne Affrica, a'r Arglwydd Haig wedi'r rhyfel diwethaf. Bu enghreifftiau trawiadol o hyn yn helynt Iwerddon. Saethwyd Major Compton Smith yno, fel ad-daliad, pan yn garcharor i fyddin Sinn Fein; lladdwyd y Cadfridog Michael Collins gan ei hen gymrodyr gynt; a dienyddiwyd y Major Erskine Childers gan Lywodraeth gyntaf Sinn Fein. Yr oedd Compton Smith yn swyddog yn yr "R.W.F.", ac yn uchel ei barch gan y Cymry a'i gyd-swyddogion, fel y clywais gan un ohonynt, y Parch. Morgan Watkin Williams, M.C., Merthyr. Cyn ei ddienyddio ysgrifennodd y llythyr a ganlyn at ei wraig:

"Saethir fi ymhen yr awr, fy anwylyd. Bydd i'r eiddoch chwi' farw gyda'ch enw ar ei wefusau, eich wyneb o flaen ei lygaid, a bydd farw fel Sais a milwr. Ni allaf ddweud wrthych, fy nghariad, gymaint o beth yw eich gadael chwi ar eich pen eich hunan, ac mor ychydig o beth yw i mi'n bersonol farw. Nid oes arnaf ofn, dim ond y cariad eithaf, mwyaf a thyneraf atoch chwi, a'n hannwyl Anne fach. Gadawaf fy mlwch sigaret i'r Gatrawd, fy medalau i'm tad, a'm horiawr i'r swyddog sydd yn fy nienyddio, am fy mod yn credu ei fod yn foneddwr, ac er mwyn nodi'r ffaith nad wyf yn teimlo'r un malais ato am iddo gario allan y peth a' gred sy'n ddyletswydd arno."

ac i'w Gatrawd:

"Carwn i chwi wybod, fechgyn, fy mwriad i farw fel Royal Welsh Fusilier, gyda gwên a maddeuant i'r rhai sydd yn cario allan y weithred. Carwn i'm marwolaeth leihau, yn hytrach na chynyddu, y chwerwedd sydd rhwng Lloegr ac Iwerddon. Duw a'ch bendithio oll, fy nghymrodyr."

Ar ôl i'r llythyrau hyn ymddangos yn y Wasg, sylw Prif Gadfridog y Gwyddyl ydoedd, "Ni allwn ddal ymlaen i ymladd gwŷr fel Compton Smith."

Gŵr arall a adwaenwn oedd y Major Erskine Childers, a oedd yn nai i gyn-Ganghellor y Trysorlys, yn glerc i bwyll- gorau yn y Senedd, ac yn swyddog yn y llynges yn y Rhyfel Mawr. Gwyddeles oedd ei fam. Yr oedd Childers yn gyfaill agos i de Valera ac yn ysgrifennydd i Ddirprwyaeth Eire yn y Gynhadledd Heddwch. Ond yr oedd yn hollol wrthwynebus iddynt arwyddo'r llw i'r Brenin dan orfodaeth. Wedi hynny, ymunodd â phlaid de Valera yn y rhyfel cartref, a daliwyd ef a'i saethu gan Lywodraeth Cosgrave. Bûm ar ei aelwyd am oriau yn 1921 yn trafod materion heddwch, ynghyd â'r bardd Æ, golygydd yr Irish Statesman. Pan yn ymadael o'r tŷ, dywedodd Æ wrthyf ei fod ar ganol ysgrifennu llyfr yn archwilio sylfeini ysbrydol a moddion heddwch, a'i fod wedi myned i'r dwfn ynddo yn fwy nag yn un llyfr a ysgrifennodd erioed. Cyhoeddwyd y llyfr dan yr enw The Interpreters, gwaith clasurol ac ysbrydol a fydd byw wedi'r genhedlaeth hon. Yr oedd Æ yn heddychwr ac yn gydweithredwr o'i hanfod, ac wedi gwneuthur llawer gyda Syr Horace Plunkett i hyrwyddo cydweithrediad amaethyddol yn Iwerddon. Dyma lythyr olaf Erskine Childers. i'w wraig:

Dywedwyd wrthyf y saethir fi am saith yn y bore ac yr wyf yn berffaith barod. Gwelaf ei fod yn well felly o'r safbwynt uchaf. Y mae gennyf gred yng nghynllun daionus ein tynged, a chredaf fod Duw yn bwriadu hyn fel y gorau i ni, ac i Iwerddon ac i'r ddynoliaeth. Y mae marwolaeth milwr hefyd yn beth mor syml. A fydd i'r genedl ddeall a pharchu cymhellion ein cymrodyr yn ein hachos? Credaf y bydd. Pe bai fodd i mi farw gan wybod y byddai fy marw rywfodd—ni wn sut—ond yn achub bywydau eraill, a rhoi terfyn ar y polisi o ddienyddio. Tawelwch—y mae hwnnw gennyf o'r diwedd mewn modd nad oedd gennyf o'r blaen. Aequanimitas—y fath anfeidroldeb a ddatgan y gair-ffydd, gobaith, sancteiddrwydd, ymostyngiad, ac ewyllys da at bawb. Gwelaf bwerau mawrion yn rhwygo, a hefyd yn rhwymo, ein pobl yn eu profedigaethau. Yr wyf yn marw yn llawn cariad angerddol at Iwerddon. Gobeithiaf y bydd, rhyw ddydd, i'm henw gael ei glirio yn Lloegr. Teimlais yr hyn a ddywedodd Churchill am fy 'nghasineb' a'm 'malais' yn erbyn Lloegr. Mor dda y gwyddai nad oedd yn wir. Pa linell a ysgrifennais erioed i gyfiawnhau'r fath gyhuddiad? Yr wyf yn marw gan garu Lloegr. ac yn gweddïo y bydd iddi newid yn llwyr ac yn derfynol tuag at Iwerddon."

Ysgrifennais at C. P. Scott, y Manchester Guardian, i erfyn arno ddefnyddio ei ddylanwad i rwystro dienyddiad Childers. Atebodd nad oedd yn cydweled â Childers nac yn dymuno ymyrryd yng ngwleidyddiaeth Eire, ond ei fod wedi gwneud ei orau mewn ysgrif yn y Manchester Guardian. Dywedodd yn ei ysgrif nad oedd ganddo hawl i ymyrryd, ond i gyflwyno i'r Gwyddyl ei argyhoeddiad a'i brofiad, sef mai doethineb pennaf gwleidyddiaeth Prydain oedd ei datganiadau o haelfrydedigrwydd, a oddefai i droseddwyr euog amlwg gael maddeuant a myned yn rhydd.

Y mae geiriau cyngor olaf C. P. Scott i lywodraeth newydd Iwerddon yn werth eu hystyried yn ddwys yn nyddiau dial a rhyfel fel profiad un o'r gwŷr cywiraf a dewraf ymhlith y Rhyddfrydwyr a golygydd newyddiadur heb ei fath ym Mhrydain yn ei ddydd:

"Ac eto, fe ddengys hanes oesol werth meddyginiaethol tiriondeb at droseddwyr politicaidd, a hefyd y gwenwyniad-gwaed gwleidyddol sydd rywfodd yn dilyn dienyddiad pa mor eglur bynnag a fo'r achos, pa mor wael bynnag a fo'r tramgwydd, pa mor daer bynnag yr ymddengys yr angen am wneuthur esiampl. Ar ryw ystyr, peth rhad yw i ni ddywedyd hyn. Y mae'r dasg ger bron arweinwyr Iwerddon yn amgenach nag a fu erioed o flaen arweinwyr y genedl, ac nid oes gennym ni panacea i'w gynnig iddynt, ond yn unig ryw deimlad greddfol o gyfeillgarwch sydd yn gwylio eu prawf ofnadwy o dipyn o bellter. Nid oes gennym ddim i'w gyfrannu iddynt ond datganiad o'n teimlad dwfn nad yw holl hanes llywodraethwyr dynion, ie y gorau ohonynt, wedi canfod diwedd yr holl ddaioni a all ddeillio wrth ollwng troseddwyr amlwg ac agored yn rhydd."

Rhyw bum mlynedd yn ôl, pan yn Nulyn, clywais fod gweddw Childers yn dymuno fy ngweled. Yn y prynhawn euthum i'r Abbey Theatre i weled y ddrama angerddol Juno and the Paycock gan Sean O'Casey—darlun deifiol o drychineb personol chwyldroad y Sinn Fein, gyda'i gymhellion cymysg a'i foddion creulon yn enw cenedlaetholdeb. Euthum oddi yno i dŷ Erskine Childers. Gwisgai ei weddw ddillad duon ei galar; eisteddasom am ddwy awr i drafod hen bethau. Cefais fod y storm wedi ei gyrru at loches y graig dragwyddol. Dywedodd am y tro olaf y gwelodd ei gŵr, a'i fod yn sefyll yn y fan yr eisteddwn i, ac yn dweud wrthi yn drist, "Y mae'n rhaid i mi ymuno â hwy" (sef plaid de Valera).

"Erskine," meddai hithau, "wnewch chwi ddim lladd."

Edrychodd yntau yn ôl arni a dywedodd yn araf, fel gŵr yn gwneuthur adduned, "Na, wna' i ddim lladd."

Yn lle'r chwerwedd a welswn ynddi, ynghanol yr ymbleidiaeth yn 1921, yr oedd haelfrydedigrwydd ei gŵr wrth farw wedi ei meddiannu hithau hefyd. Siaradodd am Loegr: "Y mae'r Saeson mor deg wedi iddynt ddeall pethau yn iawn." Dywedodd fod cylchgrawn hen ysgol ei gŵr yn Haileybury wedi cyhoeddi ysgrif hael am Childers fel un o enwogion yr ysgol. Diolchai fod ei meibion yn gwneuthur gwaith cyd-weithredol yn y wlad, yn hytrach na gwaith politicaidd, a soniai am gysur y Groes, a'i ffydd Gatholig. Wrth ymadael â'r weddw hardd ac athrylithgar yn ei gofid personol a'i hunigedd, wedi buddugoliaeth plaid a chenedl, yr oedd fy nghalon yn llawn dagrau, a hefyd o ddiolchgarwch am na rwystrwyd gan ryfel na dial dynion amcanion personol a grasol y Goruchaf yn addysg a pherffeithiad ei blant.

Nodiadau

golygu