Purdeb (Mynyddog)

(Arddull T. Carew).


Y sawl a fynn y rudd sydd goch
A gwefus gwrel, llygad du,
Y gwddw gwyn, y rhosawg foch
I gynneu fflam ei gariad cu,—
Daw amser hen i wywo’r gruddiau,
A diffydd fflam ei lygad yntau.


Ond y meddwl tawel, pur,
Gyda ffyddlon dwyfron lân,
Calon gara fel y dur,
Hyn sy’n cynneu bythol dân;
Lle na cheir hyn, peth eithaf annghall
Yw caru llygad, boch, na grudd, nac arall.