Rhai o Gymry Lerpwl/David Owen Jones
← John Henry Roberts, (Pencerdd Gwynedd) | Rhai o Gymry Lerpwl gan Anhysbys |
David Powell → |
David Owen Jones
Un o fechgyn Penmachno ydyw y Parch. D. O. Jones,—mab i Owen a Jane Jones, Glasgwm Hall. Pan yn fachgennyn, medrai chwareu cystal a'r un, a gallai ddysgu, hefyd, yn gystal, os nad gwell, na'r un o'i gydysgolheigion. Waeth beth a ddywedir am hen ysgolion y llannau a'r pentrefi flynyddau yn ol, y mae aml un sydd wedi dringo i safleoedd uchel erbyn hyn yn dra dyledus iddynt. Yn un o'r rhain y cychwynnodd Mr. Jones—ac oddi yno aeth i ysgol ramadegol Llanrwst, ac wedi hynny i'r Grove School, Gwrecsam, am ddwy flynedd, lle y llwyddodd i basio y "Junior Cambridge a'r Senior Oxford Local Examination," ac nid oedd eto namyn un ar bymtheg oed. Wedi gadael yr ysgol hon, aeth i weini i'r N. & South Wales Bank yn y Drefnewydd. Wesleyaid oedd ei rieni, ac yntau hefyd hyd yn hyn, ond gan nad oedd achos Cymreig yn y Drenewydd, ac nad oedd yn hoffi gyda'r Saeson, ymunodd â'r Anibynwyr Cymreig. Ymhen ychydig, dechreuodd bregethu gyda hwynt. Felly, i'r Anibynwyr y mae y Wesleyaid yn ddyledus am ei godi'n bregethwr, ac i Glanystwyth y maent i ddiolch am ei arwain i'r hen gorlan yn ol. Ond nid yw ef yn ddyn sect, mae yn llydan a goddefgar ei ysbryd, fei cymaint o'n harweinwyr yn Lerpwl. "Yr ydym yn ddyledus i Gymru am ein henwadaeth," meddai, "ond y mae y culni yn graddol gilio." Dengys ei lyfrgell mor gatholig yw ei feddwl. Y mae llyfrgell pregethwr yn dangos y dyn yn well na dim arall. Tybiwn fod llyfrau Mr. Jones yn ei ddangos,—gwelir yn eu mysg waith Hiraethog, Eben Fardd, Islwyn, Lewis Edwards, John Jones Talysarn, ac Owen Thomas. Y mae yn ysgrifennydd rhwydd a phoblogaidd iawn. Nid oes iddo, yn ol trefn ei enwad, arhosiad hir yma. Y mae'n amlwg oddiwrth y cyngor draddododd ar ordeiniad gweinidogion yng nghymanfa Machynlleth yn haf y llynedd fod bywyd o ddefnyduioldeb mawr o flaen. Ond, er y bydd yn rhaid iddo adael Lerpwl, erys ei ddylanwad ar fywyd a meddwl y lliaws gafodd y fraint o ddod i gyffyrddiad ag ef.