Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano
Mae Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano yn emyn gan Howell Elvet Lewis (Elfed) (1860-1953)
- Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano,
- hedd, nefol hedd, a ddaeth drwy ddwyfol loes;
- pan fyddo’r don ar f’enaid gwan yn curo
- mae’n dawel gyda’r Iesu wrth y groes.
- O rho yr hedd na all y stormydd garwaf
- ei flino byth na chwerwi ei fwynhad
- pan fyddo’r enaid ar y noson dduaf
- yn gwneud ei nyth ym mynwes Duw ein Tad.
- Rho brofi’r hedd a wna im weithio’n dawel
- yng ngwaith y nef dan siomedigaeth flin;
- heb ofni dim, ond aros byth yn ddiogel
- yng nghariad Duw, er garwed fyddo’r hin.
- O am yr hedd sy’n llifo megis afon
- drwy ddinas Duw, dan gangau’r bywiol bren:
- hedd wedi’r loes i dyrfa’r pererinion
- heb gwmwl byth na nos, tu hwnt i’r llen.