Rhobat Wyn/Gwas y Neidr
← Ar Ddydd o Awst | Rhobat Wyn gan Awena Rhun |
Cân → |
GWAS Y NEIDR
UN dydd daeth ar ei hedfan heibio i'r tŷ
A gwelodd y rhosynnau uwch y drws;
Gafaelodd am un clwstwr pêr, yn hy,
Ond pwy a feiddiai rwystro'r pryf mawr, tlws?
Ac er im ddychryn beth o'i weled o,
O syllu arno swynwyd fi yn fwy;
Un dim mwy hardd ni allwn ddwyn i go'
Na'r pedair adain aur—yn ddwy a dwy—
Y gwineu-ddu a gwyn am gorff hir, main,
A'r ffluwch o ryfeddodau ar ei gefn.
Cyn imi fentro lladd y gelyn cain,
Edrychais arno'n sugno mêl, drachefn;
A chafodd lonydd yn ei hapus awr
Am fod y rhos ac yntau'n ffrindiau mawr.