Rhodd Mam i'w Phlentyn/Gweddïau

Cynghorion Tad i'w Blant Rhodd Mam i'w Phlentyn

gan John Parry, Caer

Y CREDO.

CREDAF yn Nuw Dad holl-gyfoethog, creawdwr nef a daear.

Ac yn Iesu Grist ei un Mab ef, ein Harglwydd ni; yr hwn a gaed trwy yr Yspryd Glân; a aned o Fair Forwyn; a ddyoddefodd dan Pontius Pilatus; a groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd; a ddisgynodd i uffern; y trydydd dydd cyfododd o feirw; a esgynodd i'r nefoedd : ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Duw Dad holl-gyfoethog; oddi yno y daw i farnu byw a meirw.

Credaf yn yr Yspryd Glân; Yr eglwys lân gatholig; cymun y saint maddeuant pechodau; adgyfodiad y cnawd, a'r bywyd tragywyddol— Amen.

GWEDDI YR ARGLWYDD,

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
Sancteiddier dy enw.
Deled dy deyrnas.
Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd.—Amen.

GWEDDI YN Y BORE

O Arglwydd Dduw trugarog a graslawn: da ydwyt, a daionus a fuost i mi y nos a aeth heibio, a phob amser. Caniata faddeu fy holl pechodau i'th erbyn, a dyro ras i mi ith garu , a'th gwasanaethu y dydd hwn, modd y delwyf yn y diwedd ith deyrnas nefol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. - Amen.

UN ARALL

Arglwydd mawr, cadw ac achub fi y dydd hwn, ynghyd a phob un om teulu , rhag pob pechod; rho i mi nerth a doethineb i ogoneddu dy enw y’mhob amgylchiad. O maddeu fy holl bechod, nertha fi i orchfygu pob gelyn trwy waed yr Oen . Edrych yn raslawn ar bawb sy mewn cyfyngder, a derbyn fy niolch am dy

holl ddaioni yn gymmeradwy yn Iesu Grist.—Amen .

GWEDDI Y NOS

O Arglwydd , mawr fu dy drugaredd ti ag ataf y dydd a aeth heibio, a phob amser ; cynnorthwya fi i roddi fy hunan i’th gadwraeth y nos hon. Derbyn fi i'th ofal tadol, a gwylia o amgylch fy ngorweddfa, fel y byddwyf ddiogel rhag pob perygl , trwy Iesu Grist ein Prynwr a'n Gwaredwr.—Amen


UN ARALL

O Dduw trugarog , maddeu i mi fy holl ynfydrwydd y dydd bwn aeth haibio; bydd yn Geidwad ac yn Noddfa i mi y nos hon. O Arglwydd, amgylcha fi a'm teulu, a'n holl eiddo, a'th ofal tadol a'th garas daru allu; bydd yn gymborth hawdd dy gael i bawb sydd mewn cyfyngder, a derbyn fi yn gymmeradwy, gan faddeu fy holl anwiredd. yn haeddiant Iesu Grist ein Harglwydd.—Amen

GRAS CYN BWYD

Arglwydd, bendithia fy nwyd i fy nghadwyn fyw i'th wasanaethu di, drwy Iesu Grist.GRAS CYN BWYD. Arglwydd, bendithia fy nwyd i fy nghadwyn fyw i'th wasanaethu di, drwy Iesu Grist.—Amen.

UN ARALL

O Arglwydd, sancteiddia y drugaredd hon, ynghyd a'th holl ddaioni, er ein lles ; a ninnau i'th ogoneddu di , trwy Iesu Grist ein Harglwydd.— Amen

GRAS AR OL BWYD

Diolch i ti , O Arglwydd, ein Tad nefol, am fy mwyd a phob trugaredd arall a wyt ti yn ei gyfranu i mi; derbyn fy niolch trwy Iesu Grist.— Amen

UN ARALL

Mawr ddiolchwn i ti , O Arglwydd , am ein hymborth, ac am ei rinweddu ef i'n digoni: rho ras i'w dreulio yn dy wasanaeth, trwy Iesu Grist.— Amen

Argraffwyd gan J.Parry, Caerlleon