gan Ann Griffiths
Rhyfedd, rhyfedd gan angylion,
Rhyfeddod fawr yng ngolwg ffydd,
Gweld Rhoddwr bod, Cynhaliwr helaeth
A Rheolwr pob peth sydd,
Yn y preseb mewn cadachau
A heb le i roi ei ben i lawr,
Ac eto disglair lu'r gogoniant
Yn ei addoli'n Arglwydd mawr.


Pan fo Sinai i gyd yn mygu
A sŵn yr utgorn uwcha' ei radd,
Caf fynd i wledda tros y terfyn
Yng Nghrist y Gair heb gael fy lladd;
Mae ynddo'n trigo bob cyflawnder,
Llond gwagle colledigaeth dyn;
Ar yr adwy rhwng y ddwyblaid
Gwnaeth gymod trwy ei offrymu ei hun.


Efe yw'r Iawn fu rhwng y lladron,
Efe ddioddefodd angau loes,
Efe a nerthodd freichiau ei ddienyddwyr
I'w hoelio yno ar y groes;
Wrth dalu dyled pentewynion,
Ac anrhydeddu deddf ei Dad,
Cyfiawnder, mae'n disgleirio'n danbaid
Wrth faddau yn nhrefn y cymod rhad.


O! f'enaid, gwêl y fan gorweddodd
Pen brenhinoedd, Awdwr hedd,
Y greadigaeth ynddo'n symud,
Yntau'n farw yn y bedd;
Cân a bywyd colledigion,
Rhyfeddod fwya' angylion nef;
Gweld Duw mewn cnawd a'i gydaddoli
Mae'r côr, dan weiddi "Iddo Ef!"


Diolch byth, a chanmil diolch,
Diolch tra bo ynwy' i chwyth,
Am fod gwrthrych i'w addoli
A thestun cân i bara byth;
Yn fy natur wedi ei demtio
Fel y gwaela' o ddynol-ryw,
Yn ddyn bach, yn wan, yn ddinerth,
Yn anfeidrol wir a bywiol Dduw.


Yn lle cario corff o lygredd,
Cyd-dreiddio â'r côr yn danllyd fry
I ddiderfyn ryfeddodau
Iechydwriaeth Calfari;
Byw i weld yr Anweledig,
Fu farw ac sy'n awr yn fyw;
Tragwyddol anwahanol undeb
A chymundeb â fy Nuw.


Yno caf ddyrchafu'r Enw
A osododd Duw yn Iawn,
Heb ddychymyg, llen, na gorchudd,
A'm henaid ar ei ddelw'n llawn;
Yng nghymdeithas y dirgelwch,
Datguddiedig yn ei glwy',
Cusanu'r Mab i dragwyddoldeb
Heb im gefnu arno mwy.

Tarddiadau

golygu