Rhyfedd, rhyfedd gan angylion
← Pechadur aflan yw fy enw | Rhyfedd, rhyfedd gan angylion, gan Ann Griffiths |
Arglwydd Iesu, arwain f'enaid → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
210[1] Duw yn y Cnawd.
87.87. D.
1.RHYFEDD, rhyfedd gan angylion,
Rhyfeddod mawr yng ngolwg ffydd,
Gweld Rhoddwr bod, Cynhaliwr helaeth,
A Rheolwr popeth sydd,
Yn y preseb mewn cadachau,
A heb le i roi'i ben i lawr,
Eto disglair lu'r gogoniant
Yn ei addoli'n Arglwydd mawr.
2.Diolch byth, a chanmil diolch,
Diolch tra fo ynof chwyth,
Am fod gwrthrych i'w addoli,
A thestun cân i bara byth,
Yn fy natur wedi ei demtio
Fel y gwaela' o ddynol-ryw,
Yno'n ddyn, yn wan, yn ddinerth,
Yn anfeidrol fywiol Dduw.
3.Pan fo Sinai i gyd yn mygu,
A sŵn yr utgorn ucha'i radd,
Caf fynd i wledda dros y terfyn,
Yng Nghrist y Gair, heb gael fy lladd ;
Mae ynddo'n trigo bob cyflawnder,
Llond gwagle colledigaeth dyn;
Ar yr adwy rhwng y ddwyblaid
Gwnaeth gymod trwy'i offrymu'i Hun.
Ann Griffiths
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 210, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930