Rhyfedd na buaswn nawr
Mae Dydd y Farn yn emyn gan Dr George Lewis DD (1763 – 1822).
- Rhyfedd na buaswn nawr
- Yn y fflamau,
- Wedi cael fy nhorri i lawr
- Am fy meiau;
- Gan fy mod i heddiw'n fwy,
- Mi rof deyrnged
- O glod a mawl i'm Harglwydd Dduw
- Am fy arbed.
- Rhyfedd yw i Dduw erioed
- Edrych arnaf;
Mawr fy rhwymau i roi clod
- I'r goruwchaf
- Os ca'i 'nwyn i ben fy nhaith
- Yn ddihangol,
- Moli Iesu fydd fy ngwaith
- Yn dragwyddol.