Rhyfeddodau'r Cread/Gwyddoniaeth a Chrefydd
← "Lliw" Sain | Rhyfeddodau'r Cread gan Gwilym Owen (1880 - 1940) |
→ |
RHAN III
GWYDDONIAETH A CHREFYDD
PENNOD XIV
GWYDDONIAETH A CHREFYDD[1]
O ddechrau hanes, y mae syniadau dyn am Dduw wedi eu lliwio'n ddwfn gan syniadau'r oes am y cyrff wybrennol—y sêr, yr haul, a'r planedau. Dywed un awdur (" J.B." y Christian World) yn un o'i ysgrifau:
Gellir olrhain yr enwau Ewropeaidd a chlasurol am Dduw i hen air Sanscrit am "godiad haul." Teml i'r haul yw Stonehenge, ac nid yw'n prif wyliau eglwysig ni y dyddiau hyn ond olion (wedi eu cristioneiddio) o arferion oedd yn bod yn nechrau hanes, a'u ffynhonnell yn symudiad y cyrff wybrennol.
Gŵyr pawb fod ein syniadau presennol am y cread yn wahanol iawn i'r rhai oedd yn ffynnu pan ysgrifennwyd ein Beibl; er hynny, rhaid cydnabod nad yw'n golygiadau diwinyddol a chrefyddol hyd yn hyn wedi llwyr gynefino â'r modd yr edrychir ar y cread a'r cyfanfyd trwy lygad gwyddoniaeth ddiweddar. Ond y mae lle i gredu bod ein harweinwyr crefyddol yn awr yn barod ac yn awyddus i osod ffeithiau a phrofiadau diymwad crefydd oddi mewn i fframwaith newydd y bydysawd rhyfedd a mawreddog y mae darganfyddiadau gwyddoniaeth wedi ei ddatguddio i ni.
Er mwyn deall llinellau fy ymresymiad, gadawer i ni fynd yn ôl rai canrifoedd—dyweder i'r flwyddyn 1500 a.d. Pa beth oedd y syniad cyffredin am y greadigaeth yr adeg honno ac am safle dyn ynddi?
Credid bod y ddaear yn fflat ac wedi ei gosod yn ganolbwynt i'r cread. O amgylch y ddaear, mewn cylchau perffaith, ymlwybrai'r haul, y lleuad a'r planedau, a hefyd y ffurfafen ynghyd a'i theulu lluosog o sêr.
Yn ôl diwinyddiaeth yr oes honno, i fyny " yn yr awyr " yr oedd bro brydferth a elwid y Nefoedd— paradwys i'r da. Islaw y ddaear yr oedd bro arall— Uffern, "lle o boen i gosbi pechod." Mewn gair (fel y dywed y Deon Inge), adeilad o dair llofft, o dri llawr, oedd y cread: y Nefoedd, y Ddaear, ac Uffern. Credid hefyd fod yr haul, y lleuad a'r planedau, yn cael eu harwain yn barhaus gan allu dwyfol yn eu cylchdro o amgylch y ddaear. I'w tyb hwy, yr oedd ymyrraeth wyrthiol â symudiadau'r cyrff wybrennol yn beth eithaf posibl, fel y gellir gweled oddi wrth yr hanesion Beiblaidd am Josua a safiad yr haul: "A'r haul a arhosodd, a'r lleuad a safodd, nes i'r genedl dial ar eu gelynion " (Jos. x, 13). Hefyd, yr hanes tlws am y brenin Hesecïa, a dychweliad cysgod yr haul ddeg o raddau ar y deial (2 Bren. xx, 11).
Eto, credid bod y miloedd gwahanol rywogaethau o anifeiliaid a llysiau wedi eu creu yn hollol fel y maent yn awr, ac yr oedd yr esgob Usher mor sicr o'i bwnc (dri chan mlynedd yn ôl) fel y cyhoeddodd fod dyn wedi ei greu yn y flwyddyn 4004 c.c., ac am naw o'r gloch yn y bore!
Yna, yn y flwyddyn 1609, wele Galileo'n troi ei ddyfais newydd, y telesgôp, tua'r nen, a'r foment honno fe ddiorseddwyd y ddaear o'i safle dybiedig fel canolbwynt y cread, a dechreuodd "gwyddoniaeth." O ddyddiau Galileo fe ehanga gwyddoniaeth derfyngylch ein gwybodaeth, gan ddatguddio i ni Greadigaeth Newydd," fwy mawreddog, fwy rhyfeddol, a llawer mwy urddasol na thair llofft yr hen ddiwinyddiaeth. A chan fod cysylltiad agos rhwng ein syniadau am y cread a'n syniad am Dduw, rhaid i ni, mi gredaf, gytuno â'r hyn a ddywed y gwyddonydd enwog, yr Athro J. Arthur Thomson:
Dywedwn yn bendant mai un gwasanaeth mawr y mae gwyddoniaeth wedi ei wneuthur i ddyn yw rhoddi iddo syniad mwy urddasol am Dduw.
Ond cyn ymdrin gyda pheth manylder â'r syniadau newydd am y cread, gadawer i ni roi braslun byr o'r fframwaith newydd sydd wedi ei ddatguddio i ni gan Wyddoniaeth a'i gymharu â'r hen fframwaith a ddisgrifiwyd uchod.
Nid yw'r ddaear mwyach yn ganolbwynt y cread. I'r gwrthwyneb, planed fach, ddinod, ydyw, yn cylchdroi o amgylch haul sydd filiwn o weithiau'n fwy na hi. Cedwir hi yn ei chylch nid drwy weithrediad dwyfol uniongyrchol, ond gan rym disgyrchiant.
Nid yw'r haul eto ond aelod di-sylw o deulu o ryw 2,000,000,000 o heuliau eraill, a'r cwbl yn ffurfio sistem fawreddog (y Sistem Alactig) a ganfyddir ar noson glir yn croesi'r wybren-y "Llwybr Llaethog." Ac nid yw'n hollol amhosibl bod amryw o'r miliynau hyn o heuliau yn berchen ar blanedau tebyg i'n daear ni ac arnynt, efallai, fodau ymwybodol yn byw, yn pechu ac yn marw—mewn gair, dynion. Mwy na hyn, nid yw'r gyfundrefn yma o sêr ond un o filiynau o gyfundrefnau cyffelyb sydd ynghrog yma ac acw yn y gwagle diderfyn.
Eto, yn ôl gwyddoniaeth ddiweddar, yn lle bod y ddaear wedi ei chreu 6,000 o flynyddoedd yn ôl, fe'i ganwyd hi allan o'r haul eirias oddeutu dwy fil o filiynau o flynyddoedd yn ôl, a hynny, fel yr eglurwyd yn y drydedd bennod, trwy ymweliad damweiniol seren fawr arall—seren a dynnodd dameidiau allan o'r haul, drwy rym disgyrchiant, a'r rhain wedyn, yn eu tro yn oeri a chaledu, gan ffurfio'r naw planed yng Nghysawd yr Haul.
Felly, ar ddydd ei geni, yr oedd y ddaear yn eiriasboeth, ac nid cyn pen miliynau o flynyddoedd yr oedd hi wedi oeri digon i grystyn caled y creigiau ffurfio ar ei hwyneb. Hyd yn oed yn awr, fe bery llawer o'r gwres gwreiddiol hwn yng nghrombil y ddaear, fel y dangosir gan fwg a tharth y llosgfynyddoedd.
Parhau i oeri a wna'r ddaear yn awr, ac oherwydd hynny crebachu a chilio a wna'r croen tenau ar ei hwyneb. A dyna'n hollol yw'r daeargrynfâu sydd mor ddifrifol eu canlyniadau. Nid ymyriad y Brenin Mawr mohonynt.
Wedi i'r ddaear oeri digon, ymddangosodd arni hadau cyntaf ac isaf bywyd, ac o'r rhai hyn, trwy rinwedd egwyddor fawr Datblygiad—a ddarganfuwyd gan Wallace a Darwin—fe gododd, yn nhreigliad yr oesau, amrywiol rywogaethau'r llysiau ac anifeiliaid sydd yn harddu wyneb ein daear, ac yn eu plith dyn. Mewn gair, er amser Darwin, ni a gredwn na chrëwyd dyn mewn un act ar lun a delw Duw, ond yn hytrach mai coron a gogoniant cwrs mawr ddatblygiad yw, ac na raid cywilyddio wrth ddeall bod hynafiaid agos yr hil ddynol yn greaduriaid y goedwig a heb fod yn annhebyg i epa.
Yn olaf, yn lle credu gyda'r hen ddiwinyddion fod diwedd y byd a dydd y farn yn agos, dysgir ni yn awr y gallwn edrych ymlaen at barhad bywyd dyn ar y ddaear am filiynau lawer o flynyddoedd eto, gyda phosibilrwydd o gynnydd materol, meddyliol ac ysbrydol ymhell y tu hwnt i'n breuddwydion. Ond, yn ddi-os, fe ddaw'r diwedd, oblegid y mae'r haul yn graddol oeri, ac fe ddaw'r dydd pan na fydd ei wres yn ddigon, mwyach, i gynnal bywyd dyn ar y ddaear.
Dyna, yn fyr, yw'r ffrâm newydd a ddatguddir gan wyddoniaeth y dyddiau hyn, ac oddi mewn i'r hon y cais ein harweinwyr crefyddol heddiw ffitio'n daliadau diwinyddol a chrefyddol.
Yn fan hon, nid amhriodol fydd gair ar derfynau gwyddoniaeth. Nid oes gan wyddoniaeth ei hun ddim i'w ddywedyd am ffeithiau mawr a sylfaenol crefydd. Ni all gwyddoniaeth brofi'r bod o Dduw. Ac y mae'r un mor wir na all ei wadu. O'r tri gwerth sylfaenol— gwirionedd, prydferthwch a daioni—nid yw gwyddoniaeth yn gofalu ond am un, sef gwirionedd. Nid yw pethau ysbrydol ac esthetig yn rhan o fusnes gwyddoniaeth o gwbl.
Fe gododd yr ymrafaelio anhapus yn y gorffennol rhwng y gwyddonwyr a'r diwinyddion oherwydd bod y naill a'r llall o'r pleidiau'n mentro y tu allan i'w tiriogaeth briodol a chyfreithlon eu hunain. Ceisiodd y gwyddonwyr osod y ddeddf i lawr i'r diwinyddion, ac fe ymosododd y diwinyddion yn fwy ffyrnig fyth ar y gwyddonwyr oherwydd eu syniadau "rhyfygus ac annuwiol." Dylem ddiolch bod y cyfnod alaethus hwn wedi pasio, ni obeithiwn, am byth.
Ac yma, rhwng cromfachau megis, dylem wahaniaethu'n ofalus rhwng diwinyddiaeth a chrefydd ac yn y cysylltiad hwn anodd gwella ar yr hyn a ddywed yr Athro Julian Huxley:
Fe all gwyddoniaeth ddarostwng cyfundrefnau neilltuol o
ddiwinyddiaeth. Fe all ddymchwel hyd yn oed fath arbennig o grefydd os myn y grefydd honno wadu dilysrwydd gwybodaeth wyddonol. Ond ni all ddileu crefydd am na all ladd yr ysbryd crefyddol, oblegid y mae'r ysbryd crefyddol yn gymaint rhan o'r natur ddynol ag yw'r ysbryd gwyddonol.
Nid wyf yn sicr nad oes reswm da dros ddweud bod yr ysbryd crefyddol yn rhan fwy hanfodol o'r natur ddynol nag yw'r ysbryd gwyddonol.
Hyd yn hyn, nid ydym wedi rhoi ond braslun byr, megis, o'r modd yr edrychir ar y cread drwy lygad gwyddoniaeth. Bwriadwn yn awr edrych i mewn i'r mater ychydig yn fwy manwl gan gymryd fel testun frawddeg a geir yn un o erthyglau'r Athro J. Arthur Thomson. Dywed y gwyddonydd hwn:
Fe ddatguddia gwyddoniaeth i ni fydysawd sydd yn gwneuthur
argraff ddofn arnom—ei ehangder, ei natur gymhleth, ei drefnusrwydd a'r egwyddor o ddatblygiad sydd yn rhedeg trwyddo.
Yn awr ni a ddywedwn ychydig ar y cyntaf o'r agweddau hyn, sef mawredd ac ehangder y greadigaeth. Dyma'r hyn a ddysgir i ni gan seryddiaeth—pellterau anfesurol fawr ac oesau maith diderfyn bron. Ac mor iachusol i ysbryd dyn yw myfyrio ar y pethau hyn! Oblegid fe ddysg drwy hynny amgyffred i ryw fesur ei wir safle yn y cynllun mawr, lle y mae " mil o flynyddoedd . . . fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos."
Awn allan, gan hynny, ar noson glir, serennog, a chodwn ein golygon tua'r nen. Gwelwn ruban o oleuni gwan yn croesi'r ffurfafen fel gwregys—y Llwybr Llaethog—neu fel y'i gelwir gan y seryddwyr, y Sistem Alactig. Ac fel yr awgrymwyd eisoes, yr hyn yw y Llwybr Llaethog yw nifer enfawr—miloedd o filiynau—o heuliau, a'r rhan fwyaf ohonynt yn tra rhagori ar ein haul ni mewn gogoniant.
Di-fudd yw ceisio ffurfio syniad am fawredd y gyfundrefn hon yn nhermau milltiroedd. Y mae'r uned yn llawer rhy fach, ac oherwydd hynny defnyddia seryddwyr fel llathen-fesur yr hyn a elwir "blwyddyn oleuni," sef y pellter a dramwyir mewn blwyddyn gan y brys-negesydd goleuni, h.y., chwe miliwn o filiynau o filltiroedd.
Bernir bod ein cyfundrefn sêr ni oddeutu 500,000 o flynyddoedd-goleuni ar ei thraws; felly, wrth fwynhau prydferthwch y ffurfafen, nid ydym yn gweld y sêr fel y maent yn awr, ond fel yr oeddynt (a lle'r oeddynt) gannoedd, ie, filoedd o flynyddoedd yn ôl. A phan astudir y rhai pellaf ohonynt gyda help y telesgôp, canfyddir hwy trwy gyfrwng goleuni a gychwynnodd ar ei siwrnai faith cyn i'r dyn cyntaf ymddangos ar y ddaear.
Ond er mor enfawr yw'r gyfundrefn sêr a adnabyddir fel y Llwybr Llaethog, i'r hwn y perthyn ein haul bach ni ynghyd a'i deulu, ni chynnwys hyn mo'r holl gread. Oblegid fe ddengys y telesgôp cryfaf i ni filoedd, yn wir, filiynau, o wrthrychau golau eraill yn y ffurfafen, a elwir nifylau (nebulae) ac fe wyddom erbyn hyn fod pob un o'r rhai hyn hefyd yn gyfundrefn sêr gyffelyb i'n cyfundrefn "leol" ni, a phob un ohonynt yn cynnwys miliynau o heuliau, neu ddigon o ddefnyddiau i ffurfio miliynau o heuliau yn nhreigliad yr oesau. Bernir bod rhai o'r "ynys-greadigaethau" hyn mor bell nes bod eu goleuni'n cymryd can miliwn o flynyddoedd i'n cyrraedd [Gwêl yr wyneb-ddarlun a'r darluniau eraill o nifylau.]
Fe orwedd y rhan fwyaf o'r cyfanfyd y tu allan a thu draw i'n cyfundrefn sêr ni. A yw'r cread felly'n anfeidrol ddiderfyn? Nac ydyw, medd damcaniaeth Einstein. Sut bynnag am hynny, y mae'n ddigon mawr i beri i ni blygu'n pen mewn gwylder a pharchedig ofn, a'n gorfodi i ddywedyd gyda'r Salmydd:
Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a'r sêr, y rhai a ordeiniaist; pa beth yw dyn i ti i'w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef?
Trown am foment yn awr i'r cyfeiriad gwrthgyferbyniol—i gyfeiriad y bychan. Mor gain, mor gymhleth yw'r cread ym manylion ei adeiladwaith a'i gyfansoddiad! Dywedwyd yn y penodau o'r blaen fod mater yn gyfansoddedig o fân ronynnau a elwir atomau, a bod oddeutu 90 o wahanol fathau ohonynt, megis hydrogen, oxygen, nitrogen, carbon, calcium, haearn, silicon ac ati ac o'r atomau hyn y mae pob peth, byw a marw wedi eu hadeiladu.
Arhosed y darllenydd am foment uwchben y ffaith fod un gronyn bychan o dywod yn cynnwys 1,000,000,000,000,000 o atomau. Mor fychan, gan hynny, yw'r atom! Ond nid yr atomau yw r gronynnau lleiaf yn y greadigaeth, oblegid fe ddengys gwyddoniaeth ddiweddar fod yr holl atomau wedi eu hadeiladu o ronynnau mân o drydan a elwir protonau ac electronau, gronynnau sydd gymaint yn llai nag atom ag yw pryfyn o'i gymharu ag adeilad eang. Ac mor rhyfeddol yw priodoleddau hanfodol y gronynnau trydan hyn, priddfeini'r greadigaeth faterol! Credir eu bod yn difodi ei gilydd yn ffwrnes eiriasboeth yr haul a'r sêr, a'u hynni cynhenid yn troi'n belydriad gwres a goleuni, ac mai oherwydd y ffynhonnell annisgwyliadwy hon y pery'r sêr (a'n haul ni yn eu plith) i dywynnu'n siriol am oesau sydd bron yn ddiderfyn, yn lle oeri a marw ymhen ychydig filiynau o flynyddoedd fel y proffwydodd yr Arglwydd Kelvin cyn i'r pethau rhyfedd hyn gael eu darganfod.
Pan nad yw r gwres yn rhy danbaid, fe ddaw'r electronau a'r protonau at ei gilydd i ffurfio'r atomau materol fel y dywedwyd eisoes, ac ymbrioda'r rhai hyn wedyn i ffurfio r amrywiol sylweddau—pethau cyffredin ein bywyd beunyddiol—dŵr ac awyr, carreg a mŵn. Ac, o dan yr amgylchiadau priodol (beth bynnag fo r rheini) fe ddigwydd peth rhyfeddol a newydd yn hanes rhai o'r sylweddau hyn. Enillant y gallu i dyfu ac atgenhedlu eu rhyw.
Wele'r dirgelwch mawr—bywyd—wedi ymddangos. Sut yn hollol y dechreuodd bywyd ar y ddaear nid yw gwyddoniaeth wedi gallu ateb. Hyd yn hyn rhaid dywedyd na chyfyd bywyd ond o'r lle y mae bywyd eisoes. Gwelir felly fod bwlch pwysig yn rhediad cwrs mawr datblygiad, a defnyddir hyn yn aml fel prawf o'r bod o Dduw—dwyfol ymyriad yn anadlu "anadl einioes" i mewn i ffroenau mater marw. Ceir yr un syniad wedyn yn y bennod odidog honno yn llyfr y proffwyd Eseciel—dameg yr esgyrn sychion:
O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw.
Ond gyda phob gwyleidd-dra, dymunwn ddywedyd nad doeth bod yn rhy bendant a dogmatig hyd yn oed ynglŷn â'r broblem fawr hon. Ni byddai'n ergyd i'm ffydd i o gwbl pe llwyddai dyn ryw ddiwrnod i gynhyrchu bywyd oddi mewn i esgyrn sychion mater marw. Onid yw'n bryd rhoddi heibio gwneuthur Duw'n un i gau'r bylchau yn ein cyfundrefn feddyliol? Hwyrach y teimla rhai o'm darllenwyr fod hyn yn darostwng bywyd ac enaid i lefel gweithrediadau peiriannol noeth. Gwadaf hyn gan ofyn: Onid yw mor gyfreithlon ysbrydoli'r peiriannol ag yw peirianoli'r ysbrydol?
Yr agwedd nesaf ar y cread a bwysleisiwn yw ei drefnusrwydd a'i unoliaeth. Rhoddwyd i ni'r cipolwg cyntaf ar hyn pan ddarganfu Newton ddeddf disgyrchant cyffredin; hynny yw, mai'r un grym a bair i afal syrthio i'r ddaear ag a geidw'r lleuad yn ei chylchdro o amgylch y ddaear, a'r ddaear o amgylch yr haul. Yr un grym sydd yn llusgo'r comedau'n ôl at yr haul, ar ôl teithiau meithion o bump, deg, a chan mlynedd. A'r un ddeddf wedyn sydd yng nghyrrau pellaf y gwagle, lle y canfyddir drwy'r telesgôp nifer o sêr dwbl y ddwy seren yn ymlwybro o amgylch canolbwynt eu pwysau dan ddylanwad eu cyd-atyniad. Mewn gair, nid deddf fach, leol yw deddf disgyrchiant, yn ymwneud yn unig â gwrthrychau ar wyneb y ddaear hon, ond deddf gyffredinol yn gweithredu drwy'r cyfanfyd oll.
Eto, fe astudir gan y gwyddonydd, gyda'i offeryn celfydd y sbectrosgôp, y math o oleuni a anfonir allan gan y gwahanol atomau materol. Y mae i bob atom ei oleuni priodol ei hun, ac fe geir bod atom arbennig yn anfon allan yr un math o oleuni'n hollol, pa un ai yng ngweithdy'r gwyddonydd, ai yn yr haul, ai yn y seren bellaf y bo. Yr un yn hollol yw priodoleddau cynhenid yr atomau pa le bynnag yn y greadigaeth y digwyddont fod.
Gellid ychwanegu nifer fawr o esiamplau eraill i ddangos bod deddfau anianeg yn gyffredin drwy'r greadigaeth. Unoliaeth trefnusrwydd sefydlogrwydd a deddf yw nodau arbennig y cread.
Effeithiodd darganfod hyn yn ddwfn iawn ar athroniaeth a diwinyddiaeth. Cyn darganfod mai deddf sydd ar yr orsedd, fe gredid mai ffawd a mympwy a lywodraethai'r greadigaeth. Dyna oes euraid y dewiniaid a'r swyngyfareddwyr. Mor fawr, onid e, yw'r gwahaniaeth rhwng seryddwr a sêr-ddewin! Ganrif neu ddwy yn ôl, fe edrychid gyda braw ar y comedau, a welir yn sydyn ac annisgwyliadwy yn yr wybren weithiau— rhagarwydd marwolaeth brenhinoedd a chwymp teyrnasoedd. Erbyn hyn y mae iddynt eu lle priodol yng Nghysawd yr Haul, brodyr i'n daear ni, cyrff bychain diniwed yn troi o amgylch yr haul mewn cylchoedd hirgrwn, ac yn ymweled â ni'n rheolaidd o bryd i'w gilydd.
A'r un modd edrychid ar ddiffyg ar yr haul fel prawf o lid dwyfol—Duw'n sorri ac yn cuddio'i wyneb. Ond erbyn hyn fe ŵyr pawb nad yw diffyg ar yr haul yn ddim amgen na gwaith y lleuad yn digwydd mynd rhyngom a'r haul ac yn taflu ei chysgod ar y ddaear. Gellir rhagddywedyd i'r funud pryd y digwydd hyn, hyd yn oed gan mlynedd ymlaen llaw.
Ac felly'n raddol, o gam i gam, fe ddaeth dyn i sylweddoli bod deddf a threfn a rheol yn teyrnasu, ac fe'n gorfodir ni i ymwrthod â'r hen syniad bod Duw byth a hefyd yn ymyrryd yng ngwaith Ei ddwylo. I lawer meddwl duwiolfrydig, y mae'r syniad hwn o deyrnasiad deddfau anochel a di-droi'n-ôl yn dra phoenus. Ond mentraf ddywedyd mai ennill, ac nid colled, yw hyn i wir grefydd. Cyfraniad mawr gwyddoniaeth i'r oes hon yw ei bod wedi'n rhyddhau ni o hualau ofergoeledd—y syniad o Dduw fel swyngyfareddwr mympwyol. Onid yw'n llawer gwell i ni gredu y rheolir y cread gan ddeddf a threfn, gan unoliaeth a phwrpas?
Yn olaf, gwelwn yn amlwg yn y greadigaeth egwyddor datblygiad a chynnydd ym mhob cwr ohoni. Fel y dwysâ'r nifwl mawreddog dan ddylanwad disgyrchiant, felly hefyd y cynydda cyflymder ei dro ar ei echel ac, o ganlyniad, ymrannu'n raddol yn glwstwr miliynau o sêr. Fe â'r sêr wedyn trwy gwrs hirfaith o ddatblygiad. Ar y dechrau, y mae seren yn gymharol oer—pelen o nwy ysgafn, chwyddedig. Wrth grebachu a dwysáu â'r seren yn boethach a disgleiriach. Ymhen amser, cyrhaedda begwn ei gogoniant ac yna dechreua oeri a phylu yn ei disgleirdeb, fel yr agosâ hen ddyddiau. Yn y diwedd corff tywyll, oer, marw, fydd. Y mae'n haul ni eisoes wedi pasio canol oed.
Ar y ddaear, ym myd y planhigyn a'r anifail, y mae'r yrfa ddatblygu yn llyfr agored. Yn goron ar y cwbl gwelwn ddyn sydd, er mor isel ei dras, erbyn hyn wedi ennill iddo'i hun gyneddfau meddyliol a synnwyr moesol. Nid "cywilyddus gwymp" oedd dyfod i "wybod da a drwg " ond esgyniad. Yn sicr, y mae'r egwyddor o gynnydd a datblygiad yn y greadigaeth yn deilwng o'n hedmygedd addolgar ac yn ffynhonnell cysur, oblegid ynddi hi y gorwedd ein gobaith am ddyfodol dynoliaeth.
Yn y fan hon fe ddaw gwyddoniaeth i ben ei thennyn ar yr hyn a all ei ddywedyd. Mud yw ar y cwestiwn: Pa fodd y daeth y cyfanfyd i fod? Beth yw amcan a phwrpas y cwbl? Beth yw gwir safle dyn yn y cynllun, a beth fydd ei dynged? Cofier eto fod i wyddoniaeth ei therfynau. Gwaith y gwyddonydd yw chwilio am y gwirionedd, a disgrifio'r hyn a wêl â'i lygad ac a glyw â'i glust. Trwy ei arbrofion a'i sylwadaeth fe genfydd y ddeddf hon a'r ddeddf arall. Fe ffurfia ddamcaniaethau, ond nid yw ei ddamcaniaethau na'i syniadau yn derfynol. Newidia'i feddwl yn barhaus fel y llwydda i gael golwg well a chliriach ar weithrediadau natur. Ac nid oes arno gywilydd gwneuthur hynny. Cam ymlaen yw hynny ac nid yn ôl, oblegid ei amcan mawr yw cywirdeb cynyddol yn ei ddisgrifiad a'i ddehongliad o'r hyn a wêl.
Nid yw'r gwyddonydd yn honni medru dywedyd beth yw gwir ystyr y cread. Problem i'r athronydd a'r diwinydd yw hon. Ond gellir dywedyd hyn yn ddibetrus: Beth bynnag fydd y syniad am Dduw a enillir gan y ddynoliaeth ryw ddydd, nid bychan na diwerth fydd cyfraniad gwyddoniaeth at buro a dyrchafu'r syniad hwnnw.
Nodiadau
golygu- ↑ Seilir y bennod hon ar anerchiad a draddodwyd gan yr awdur mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghapel Argyle, Abertawe, Mehefin 4, 1931