Rhyfeddodau'r Cread/Natur Sain

Trosglwyddiad Sŵn Rhyfeddodau'r Cread

gan Gwilym Owen (1880 - 1940)

Y Raddfa Gerddorol

PENNOD X I

NATUR SAIN

Ymysg pethau eraill, galwyd sylw yn y bennod o'r blaen at gywreinrwydd nodedig y glust, a'r gallu rhyfedd sydd ganddi i dderbyn tonnau sŵn a'u dehongli fel sain soniarus neu dwrw anhyfryd. Bwriadwn yn y bennod hon edrych yn fwy manwl i natur sain berseiniol ac i rai o'r egwyddorion a orwedd dan gyfansoddiad nodyn cerddorol.

Arbrawf syml a deifl ffrwd o oleuni ar y materion yma yw hwn. Cymryd olwyn gocos debyg i'r rhai a geir mewn cloc a threfnu i'w throi yn gyflym ar ei hechel. Gosod yn awr gerdyn tenau i gyffwrdd yn ysgafn â dannedd yr olwyn, a dechrau ei throi yn araf deg. Clywir cyfres o guriadau yn dilyn ei gilydd yn glir a rheolaidd. O barhau i droi'r olwyn yn gyflymach, gyflymach, fe sylwir bod yr ysbaid byr rhwng y curiadau yn graddol leihau, ac yn fuan y maent megis yn ymdoddi i'w gilydd. Ni ellir mwyach glywed y curiadau unigol—ond clywir sain neu nodyn o gywair tra isel. Fe ddigwydd hyn pan fo cyflymder yr olwyn yn gyfryw ag i gynhyrchu tua 250 guriadau mewn eiliad. Trwy barhau i gyflymu troadau'r olwyn, gellir dangos yn rhwydd fod cywair y sain yn graddol esgyn, a gellir yn y modd hwn, trwy droi'r olwyn yn gyflym, gynhyrchu nodyn o gywair mor uchel fel mai gwich anhyfryd ac ansoniarus a glywir gan y glust. Dysgir oddi wrth yr arbrawf syml hwn, ac arbrofion cyffelyb, nifer o egwyddorion pwysig. Dyma bedwar ohonynt:

1. Yr hyn sydd yn cyfansoddi nodyn perseiniol yw nifer luosog o donnau yn cyrraedd ein clust yn fynych a rheolaidd.
2. Po fynychaf y tonnau, uchaf yw cywair y nodyn.
3. Ni ellir clywed sŵn fel sain gerddorol a pherseiniol oni bydd o leiaf bump ar hugain o donnau yn cyrraedd y glust yn rheolaidd bob eiliad.
4. Os bydd curiadau'r tonnau uwchlaw rhyw 5,000 mewn eiliad, yna gwich anhyfryd a glywir; ac os bydd hynny dros oddeutu 30,000, yna ni chlywir dim. Y mae'r nodyn yn rhy uchel ei gywair i'w ganfod gan y glust ddynol.

Cymerwn y pedair egwyddor uchod yn yr un drefn.

(1) Gallwn yn awr ateb cwestiwn a awgrymwyd yn flaenorol, sef: Beth yw'r gwahaniaeth hanfodol rhwng sŵn melodaidd tant telyn a thwrw anhyfryd trol ar heol garegog? Sylwn ar y tant ar ôl ei daro. Y mae'n ysgogi'n gyflym o un ochr i'r llall yn hollol reolaidd. Y mae'r tonnau a gynhyrchir ganddo yn yr awyr gan hynny yn cyrraedd y glust gyda'r un rheoleidd-dra. Clywir felly sain hyfryd. Ond am dwrw'r drol ar yr heol, nid oes na threfn na rheol o gwbl ynglŷn â'r tonnau sŵn a gynhyrchir ganddi hi, ac felly poenus yw'r effaith ar ein clust. Fel enghreifftiau ychwanegol o'r modd y mae rheoleidd-dra curiadau yn cynhyrchu sain gerddorol, ni a nodwn rai sydd yn gorwedd ychydig y tu allan i gylch cyffredin astudiaeth y cerddor. Er hynny, y maent yn ddiddorol ac addysgiadol.

Diamau fod y darllenydd wedi sylwi na chlywir y gacynen neu'r gwybedyn yn suo ond pan fo'n ehedeg. Y foment y disgynno ar y ddeilen neu ar y ffenestr— diflanna'r sŵn. Y rheswm yw nad gwddf y creaduriaid bychain hyn yw ffynhonnell y sŵn (fel y tybia rhai, efallai) ond yn hytrach, symudiadau cyflym eu hadenydd. Curant eu hadenydd tua chant neu ddau o weithiau mewn eiliad, ac felly clywir nodyn mwy neu lai perseiniol. Nid yw ysgogiadau adenydd adar yn ddigon cyflym a mynych i'r gwahanol guriadau ymdoddi i'w gilydd a ffurfio sain. Yng nghuriadau adenydd y su-aderyn (humming-bird) yn unig y ceir y cyflymder angenrheidiol.

Eto, ceir llyfrau yn aml wedi eu rhwymo mewn lliain rhesog. Pan dynner blaen yr ewin yn gyflym ar draws clawr llyfr o'r fath, fe glywir nodyn sydd â'i gywair yn dibynnu ar gyflymder y bys. Eglurhad cyffelyb sydd i si gown sidan neu siffrwd llodrau cordyrôi. Clywir yr un peth gyda darn o galico os rhwygir ef. Yr hyn a ddigwydd yw bod y llinynnau sydd yn ei gyfansoddi yn cael eu torri yn rheolaidd y naill ar ôl y llall. Clywir mewn canlyniad sain, sydd â'i chywair yn dibynnu ar gyflymder y rhwygiad a lluosogrwydd y llinynnau.

Gyda golwg ar yr ail egwyddor uchod—"po fynychaf y tonnau, uchaf yw cywair y nodyn," sylwer ar y ffeithiau: Cynhyrchir y C canol ar y piano gan oddeutu 260 o guriadau mewn eiliad; y nodyn isaf yn y bas (A) gan 27, a'r nodyn uchaf yn y trebl (A) gan tua 3,500. Yn nodyn uchaf y piccolo ceir tua 4,700 o donnau mewn eiliad. Y tu hwnt i'r mynychder olaf hwn y mae'r nodyn yn rhy fain a gwichlyd i effeithio'n swynol ar y glust, a gellir dywedyd bod holl seiniau cerddoriaeth yn gorwedd rhwng y terfynau o 25 i 5,000 o guriadau mewn eiliad.

Diddorol hefyd yw'r rhestr ganlynol (a roddir gan Blaserna) o derfynau cyffredin lleisiau dynion a merched:

Bass o E = 82 i D = 293
Baritôn o F = 87 i F# = 370
Tenor o A = 109 i A = 435
Contralto o E = 164 i F = 696
Mezzo o F = 174 i A = 870
Soprano o A = 218 i C = 1044

Dyma beth a ddaeth i'm sylw rai blynyddoedd yn ôl, ac sydd yn enghraifft dda o'r bedwaredd egwyddor a roddwyd. Ar ddiwrnod tesog yn yr haf, yr oeddwn yn cyd-gerdded â hen ŵr ar draws cae yn ymyl Borth y Gest, ger Porthmadog. Ni allwn lai na sylwi bod y ceiliogod rhedyn mewn hwyl fawr ac yn llenwi'r awyrgylch â'u gwichiadau aflafar. Ebe fi: "Onid yw'r creaduriaid bach yma bron â byddaru dyn? " Atebodd yr hen ŵr, "Pa greaduriaid?" " Wel, y ceiliogod rhedyn yma sydd wrth y cannoedd o'n cwmpas. Mae eu sŵn yn llenwi'r awyr. "Er fy syndod deëllais fod fy nghydymaith yn hollol fyddar i'r sŵn hwn. Yr oedd cywair eu nodyn yn rhy uchel i fod o fewn terfynau ei glyw ef er bod ei glyw yn berffaith i seiniau cyffredin y llais. Y mae'r hanesyn hwn yn enghraifft dda o'r ffaith fod terfyn uchaf y clyw yn graddol ddisgyn fel y mae henaint yn agosáu. A chyda llaw, diddorol yw sylwi nad â'i lais y cân y ceiliog rhedyn ond â'i goesau! Oblegid trwy rwbio ei goesau danheddog yn ei gilydd y cynhyrcha'r creadur bychan hwn ei sain, ac y sieryd â'i gyfeillion!

Nodiadau

golygu