Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech (1)
Wele goelcerth wen yn fflamio
A thafodau tân yn bloeddio
Ar i'r dewrion ddod i daro,
Unwaith eto'n un.
Gan fanllefau'r tywysogion,
Llais gelynion, trwst arfogion,
A charlamiad y marchogion,
Craig ar graig a grŷn.
Arfon byth ni orfydd,
Cenir yn dragywydd;
Cymru fydd fel Cymru fu,
Yn glodus ym mysg gwledydd.
'Ngwyn oleuni'r goelcerth acw,
Tros wefusau Cymro'n marw,
Annibyniaeth sydd yn galw,
Am ei dewraf dyn.