Roosevelt (Pamffledi Harlech testun cyfansawdd)

Roosevelt (Pamffledi Harlech testun cyfansawdd)

gan Eirene Lloyd Jones

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Roosevelt (Pamffledi Harlech)

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Eirene White
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Franklin D. Roosevelt
ar Wicipedia



ROOSEVELT

GANED Franklin Delano Roosevelt yn y flwyddyn 1882, yn fab bonheddwr-amaethwr cefnog ar lannau'r afon Hudson yn Nhalaith Efrog Newydd. Cafodd ei addysg mewn ysgol ganolraddol, aeth i Brifysgol Harvard, a throes ei fryd at wleidyddiaeth, o bosibl oherwydd bod cefnder pell iddo yn Arlywydd ar y pryd. Eithr Gwladwriaethwr (Republican) ydoedd Theodore Roosevelt, er ei fod yn un goleuedig, bid siwr. Aeth Franklin i mewn i wleidyddiaeth ar yr ochr arall. Yn 1912 gweithiodd dros Woodrow Wilson ar y polisi democrataidd, a bu'n Ysgrifennydd Cynorthwyol i'r llynges drwy'r rhyfel diwethaf. Yn 1920 enwyd Roosevelt fel ymgeisydd am Is-Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau, eithr fe orchfygwyd y Democratíaid ar fater Cynghrair y Cenhedloedd ac ymneilltuodd yntau i fusnes cwmni yswirio. Yn y cyfnod hwn y daeth yr afiechyd hwnnw i'w ran a roddasai derfyn ar waith gŵr llai egniol a phenderfynol nag ef. Tarawyd Roosevelt â pharlys maboed (infantile paralysis) —yr oedd yn ddiffrwyth hollol o'i lwynau i lawr. Yr oedd ei ateb i'w feddyg yn nodweddiadol. "Y mae'n chwerthinllyd dweud wrthyf fi na all dyn yn ei oed orchfygu afiechyd plentyn." Ymladdodd yn erbyn yr afiechyd a'i orchfygu, er mai gydag anhawster mawr y cerdda o hyd. Ymhen ychydig flynyddoedd, yr oedd yn ôl mewn gwleidyddiaeth fel Llywodraethwr Talaith Efrog Newydd, ac yn 1932 etholwyd ef yn Arlywydd yn lle Hoover.

Dywedir yn fynych fod yn Roosevelt lawer o nodweddion Lloyd George. Y mae yr un egni bywydol ynddo, yr un ffrwythlondeb meddwl a pharodrwydd i dderbyn syniadau newydd ac ymddihatru a hen rai; y mae'n mwynhau cwmni pobl ac ymddiddan, y mae ganddo wên barod a llais da a'r ddawn i'w ddefnyddio; nid yw'n esgeulus o'r wasg; gall gasglu o'i gwmpas ganlyniaeth o arbenigwyr a gwŷr selog yn barod i wasanaethu eu 'pennaeth'; nid yw'n aros i ystyried cost ei arbrofion, ac ymhen amser, daw pobl i bendronni uwch y bil. Dechreuodd y ddau fel ei gilydd trwy wrthwynebu'r goludogion o blaid y perchennog bychan; nid oes sicrwydd o gwbl ymhle y diwedda Roosevelt. Ni chafodd Roosevelt yn ei fywyd ei hun unrhyw adfyd economaidd, ond fe briododd ferch yn ymdeimlo'n ddwfn ynghylch anghenion cymdeithasol, a chafodd ddisgyblaeth mewn delfrydiaeth o dan Wilson.

Personoliaeth yr Arlywydd a roes liw ac urddas ar wleidyddiaeth America yn ystod y saith mlynedd diwethaf, ond bu raid iddo weithio o fewn ffrâm y peiriant gwleidyddol. Y mae cyfansoddiad llywodraeth America yn gymhleth, eithr y mae'n ofynnol deall rhyw gymaint arno i amgyffred yn glir bosibiliadau a chyfyngiadau'r gweithgarwch arlywyddol ac yn wir unrhyw weithgarwch gwleidyddol arall.

I. Y CYFANSODDIAD A'R PRIF LYS.

Ymladdodd y gwŷr a ffurfiodd gyfansoddiad America yn erbyn gormes ac awyddent ddiogelu rhagddo yng nghyfansoddiad y wladwriaeth newydd. Gorweddai diogelwch mewn rhannu grym gwleidyddol rhwng y taleithiau unigol a'r Undeb. Rhanasant allu gwleidyddol y Llywodraeth Gyfunol ymhellach yn dair rhan-y deddfwriaethol, y gweithredol a'r cyfreithiol. Rhoddwyd ffurf barhaol i'r rhaniadau hyn. mewn cyfansoddiad ysgrifenedig na ellir ei osgoi yn hawdd na'i ddiwygio. Y mae'r rhaniad hwn o allu gwleidyddol, yn allu taleithiol a gallu cyfunol (federal) yn bwysig, gan ceidw allan o wleidyddiaeth genedlaethol rai materion a ystyrir yn hanfodol yn y rhan fwyaf o'r gwledydd. Dyma yn fyr y galluoedd a roddir i'r llywodraeth gyfunol—rheoli polisi tramor, y fyddin, masnach dramor a rhyng-daleithiol, arian bath a chredit cenedlaethol, gwasanaeth y llythyrdy, casglu'r trethi cyfunol a'u rhannu. I ran y taleithiau unigol y disgyn pob gallu na nodir yn arbennig fel gallu cyfunol. Fel mater o ffaith ystyrir o hyd mai yn y taleithiau unigol y gorffwys penarglwyddiaeth. Trosglwyddodd y taleithiau unigol rai galluoedd i'r llywodraeth gyfunol er hwylustod. Yn ymarferol, fodd bynnag, ar ochr y llywodraeth gyfunol y disgyn mantol y gallu gwleidyddol, eithr nid oes ganddo hyd yn hyn reolaeth uniongyrchol ar bethau fel addysg, tai a deddfwriaeth llafur. Y mae'r pethau hyn, i'r graddau y maent yn gyfansoddiadol o gwbl, yn nwylo'r taleithiau. Cyn y gall weithredu o gwbl yn y cyfryw bethau y mae'n rhaid i'r llywodraeth gyfunol fodloni gofynion y cyfansoddiad trwy ddangos fod y deddfau dywededig er budd cyffredinol yr Unol Daleithiau, neu o'r ochr arall eu bod yn 'rheoli masnach rhyng-daleithiol. Fe arwain y cyntaf i ymryson diderfyn ynghylch perthynas budd y rhan a budd y cyfan, a'r olaf i drafodaethau llawn mor astrus ynghylch ystyr 'rheoli.'

Hyd yn oed pe gorchfygid y rhwystr hwn y mae'n rhaid i'r llywodraeth wynebu un arall. Yn ôl y cyfansoddiad ni ellir amddifadu person o fywyd, rhyddid, nac eiddo ar wahan i briod gwrs y gyfraith.' Y mae hyn yn rhwyster i ddeddfwriaeth daleithiol yn ogystal a deddfwriaeth gyfunol gan mai hawdd yw i lys di-gydymdeimlad ddehongli'r rheol yn gaeth. Ychydig yn ôl, yn Nhalaith Efrog Newydd gwrthodwyd Mesur Lleiafswm Cyflog i ferched yn gweithio mewn golchdai, ar y tir ei fod yn troseddu yn erbyn rhyddid. Y mae'n amlwg na chydymffurfiai'r ddeddf a'r dirgelwch cyfreithiol a adwaenir fel 'priod gwrs y gyfraith.' Ar y llaw arall yn yr un dalaith pleidiwyd deddf yn rheoli prisiau llaeth, er y gellid yn hawdd ddehongli hyn fel 'amddifadu gŵr o'i eiddo. Os ymddengys fel pe cynhwysai deddfwriaeth Americanaidd nifer o ddeddfau carbwl, rhaid cofio nad oes modd gwybod ymlaen llaw beth fydd rheolau'r gêm pan ddaw'r mater i sylw y Prif Lys. Anghyfreithlonodd y Prif Lys gymaint o raglen Roosevelt fel mai gwerthfawr a fyddai astudio swyddogaeth y sefydliad rhyfedd hwn ymhellach. Fel y dywedodd awdur Americanaidd, 'Y mae'n gwbl anealladwy i'r rhan fwyaf o dramorwyr y gall llys o naw o ddynion, trwy fwyafrif o un yn unig, anghyfreithloni mesur a effeithia ar fudd y genedl gyfan, a basiwyd gan gynulliad deddfwriaethol cynrychiolaethol, ac a arwyddwyd gan yr Arlywydd fel prif ymddiriedolwr Unol Daleithiau.'

Apwyntir y Prif Farnwr (Chief Justice) a'r wyth barnwr cysylltiol dros fywyd gan yr Arlywydd trwy gymeradwyaeth y Senedd. Ni nodir y nifer arbennig hwn yn y cyfansoddiad, a phe meddai Arlywydd ddigon o gefnogaeth yn y Senedd gallai greu barnwyr nes cael mwyafrif o blaid ei bolisi, yn union fel y gellir creu arglwyddi yn Lloegr. Ceisiodd Roosevelt fodd bynnag ymyrryd a'r Llys trwy bennu 70 fel oed ymneilltuo, eithr am unwaith yn ei yrfa camddehonglodd deimlad y wlad a gorchfygwyd ef ar un o'i fesurau mwyaf amhoblogaidd. Y mae i'r Prif Lys gysegredigrwydd arbennig ym meddwl. yr Americaniaid, yn rhannol am nad yw yn atebol i neb ac yn rhannol oherwydd y gwyddys mai barnwyr y Prif Lys yw'r unig rai a ymgeidw rhag llwgr-ymddygiad gwleidyddiaeth yn gyffredinol.

Rhoes marwolaethau ac ymddeoliadau fwyafrif yn y Prif Lys i Roosevelt bellach. Y mae hyn yn bwysig iawn oherwydd bod dyfarniadau'r Prif Lys, er yn gyfreithiol mewn ffurf yn wleidyddol o ran cynnwys yn fynych. Yn wir disgrifiwyd y Llys fel trydydd tŷ deddfroddol y wlad, heb unrhyw allu i gychwyn deddfwriaeth, eithr yn meddu gallu terfynol i'w gomedd. Dangosodd yr enghreifftiau a ddyfynwyd eisoes mor eang ac anneffiniol ydyw rhai o frawddegau allweddol Cyfansoddiad. Y mae'n amlwg nad pwynt o gyfraith ydyw dehongli 'priod gwrs,' 'budd cyffredinol,' 'bywyd, rhyddid ac eiddo, ond mater o athroniaeth wleidyddol, a gall hwn fod yn oleuedig neu yn adweithiol yn ôl argyhoeddiadau'r barnwyr ar y pryd.

Yn nhymor cyntaf Arlywyddiaeth Roosevelt yr oedd pum barnwr allan o'r naw yn Wladwriaethol (Republican) eu tuedd, ac un yn ddiduedd. Rhwng Mai 1935 a Mehefin 1936 gwrthododd y Prif Lys Fesur Addasiad Amaethyddiaeth a Gweinyddiad Adferiad Cenedlaethol, y ddwy brif ddeddf a basiwyd dros amaethyddiaeth a diwydiant, a thair neu bedair o ddeddfau eraill yn dwyn perthynas a'r rheilffyrdd, y diwydiant glo, a dyledion amaethyddol. Nid yw'n rhyfedd i'r Arlywydd anesmwytho. Yr oedd bwriadau tadau'r werin-wladwriaeth yn ddiau yn rhagorol, ond ar wahan i rwystro datblygiad mewn gweinyddiaeth, y mae'r Prif Lys yn dylanwadu yn andwyol ar ansawdd deddfwriaeth. Nid oes onid y diwygiwr mwyaf dygn a orfoda fesur cymhleth drwy'r Gynhadledd ac yntau. yn gwybod o'r gorau y gall gael ei anghyfreithloni yn ddi-rybudd yn ddiweddarach. Ar y llaw arall, gall yr aelodau llai cyfrifol swcro unrhyw fesur gan wybod yn ddiogel mai swydd y Prif Lys ydyw gosod pethau mewn trefn wedi hynny.

2. Y GYNHADLEDD.

Credir yn gyffredin fod angen egluro y cyfansoddiad ysgrifenedig a'r Prif Lys. Ar y llaw arall, ymddengys y Gynhadledd yn beth mwy cynefin inni, a thueddwn i feddwl am Dŷ'r Cynrychiolwyr fel y Tŷ Cyffredin a'r Senedd fel Tŷ'r Arglwyddi. Y mae hwn yn olygiad cywir ar y cyfan, eithr ag enwi un gwahaniaeth yn unig, y mae'r Senedd yn llawer mwy dylanwadol ar y rhan fwyaf o faterion na Thŷ'r Cynrychiolwyr. Y mae'r safle yn Lloegr o chwith yn hollol. Fe gynnwys y Tŷ 435 o aelodau a etholwyd o bob talaith ar sail poblogaeth. Fe'i hetholir am ddwy flynedd yn unig. Golyga hyn fod yn rhaid i bob Arlywydd gymryd cyfrif o etholiad hanner-tymor-hanner ffordd drwy ei dymor ef ei hun yn ei swydd. Ni fedd y Senedd namyn 96 o aelodau, dau o bob talaith. Etholir hwy am chwe mlynedd, traean ohonynt i ymneilltuo bob dwy flynedd. Ni thorrir y senedd gyfan i fyny byth. Rhydd hyn ynddo ei hun iddi nerth a gyfyd o barhad-peth na fedd y Tŷ.

Golyga'r etholiadau ysbeidiol hyn y gellir rheoli'r Tŷ, y Senedd a'r Arlywyddiaeth gan bleidiau gwahanol ar yr un pryd, gyda chanlyniadau anochel. Enghraifft enwog o hyn ydyw'r cyfnod o 1874-1896 pryd nad oedd tair adran y llywodraeth o dan reolaeth yr unrhyw blaid am fwy na phedair blynedd o'r ddwy flynedd a'r hugain. Diddymwyd o'r diwedd y 'lame duck sessions,' pan barhai'r cynrychiolwyr a orchfygwyd yn Nhachwedd i ddeddfwriaethu tan fis Mawrth. Fe olyga'r etholiadau mynych, fodd bynnag, a gynhelir ar adegau penodedig yn annibynnol ar gyflwr amgylchiadau cyhoeddus, nad yw meddyliau cynadleddwyr ar fusnes cyhoeddus am un flynedd o bob pedair, neu am gyfnod o dri i chwe mis rhwng y ddwy flynedd. Ffawd yr etholiadau sydd ar ddyfod ydyw prif destun eu diddordeb.

Y mae cyfnod eisteddiad y Tŷ yn ystod y ddwy flynedd mor fyrr, a'i ddylanwad ar y gallu gweithredol, fel y gwelir, mor fychan, fel nad yw nemor fwy na pheiriant deddfwriaethu heb fawr urddas. Y mae'r Senedd yn llawer mwy dylanwadol. Disgyblir hi yn llai ar linellau pleidiol; y mae pob Seneddwr yn ei ystyried ei hun yn fath ar Gynrychiolydd o'i Dalaith ei hun. Y mae cymaint o batroniaeth ei dalaith yn ei ddwylo yn rhinwedd ei swydd, fel na ddibynna ar ei arweinwyr am ffafrau. Nid anesmwythir arno gan etholiadau a gall pwyllgorau'r Senedd archwilio gweithrediadau'r llywodraeth wrth eu hamdden heb gael eu didrwyddedu fel y digwydd yn hanes pwyllgorau'r Tŷ bron cyn iddynt. ddechrau ar eu gwaith.

Gall Seneddwr fynegi ei feddwl yn weddol rydd ar faterion cartrefol ac yn fwy rhydd fyth ar faterion tramor, ac yn wir fe wna hynny. Os anghytuna'r Senedd a'r Arlywydd gall ei fychanu trwy wrthod cadarnhau ei benodiadau ar gyfer swyddi, a rhaid yw i bob cytundeb tramor a sylweddolir gan yr Arlywydd a'r Ysgrifennydd Gwladol gael ei gadarnhau gan fwyafrif o ddwy ran o dair o'r Senedd. Yn rhinwedd eu didoliad llwyr oddiwrth y gallu gweithredol y mae'r ddau Dŷ yn rhydd oddiwrth unrhyw gyfrifoldeb dros weithrediadau'r llywodraeth, ac ni feddant yr ataliad gwerthfawr a gwyd o sylweddoli y dichon iddynt ryw ddydd orfod amddiffyn eu geiriau eu hunain.

Y gwahaniaeth mwyaf tarawiadol wrth gwrs rhwng sistem seneddol America ag eiddo Lloegr yw'r ffaith nad yw gweinidogion y cabinet yn America—oherwydd y didoliad y cyfeiriwyd ato eisioes yn eistedd yn yr un o'r ddau Dŷ, ac ni ddeilliant o angenrheidrwydd o'r Gynhadledd o gwbl. Ni all yr Arlywydd gynnig deddfwriaeth. Rhaid iddo gael arweinydd y blaid i wneuthur hynny drosto. Eithr unwaith yr â deddf drwodd ni fedd y Gynhadledd unrhyw afael arni wedi hyn. Ni ddaw gweinidogion y cabinet i'r Gynhadledd i'w holi nac i egluro'u polisi, er y dichon iddynt yn nes ymlaen gael eu galw i'w amddiffyn, post facto, o flaen pwyllgor o'r Senedd. Gall yr Arlywydd ddod yn bersonol i ddarllen ei anerchiad, eithr ffurf yn unig ydyw hyn ac ni chymer unrhyw ran bellach yn y gweithrediadau.

Gellir dychmygu teimladau yr aelod seneddol cyffredin pe byddai'n rhaid iddo weithio o dan amodau'r Gynhadledd. Byddai ei ymdeimlad o oferedd ei waith yn fwy nag ydyw eisioes pe byddai'r cabinet cyfan y tuallan i'w ddylanwad, pe gwyddai y gallai gwaith ar fesur suddo i ddiddymdra oherwydd rhagfarn affwysol un barnwr oedrannus, a phe ni ellid trafod y rhan fwyaf o'i ddiddordebau gwleidyddol gan y llywodraeth ganol o gwbl oddieithr trwy ystryw, eithr eu gadael yn nwylo 48 o gorffolaethau deddfwriaethol isradd a phob un ohonynt â rhyddid i wneuthur fwy neu lai yn ôl eu dewis.

Pe byddai gwella cyflwr deddfwriaeth gyffredinol yn brif amcan y Gynhadledd byddai'r sefyllfa yn wir dorcalonnus. Ond nid dyna berwyl y mwyafrif o'r aelodau. Daw'r rhan fwyaf ohonynt i Washington i sicrhau gymaint ag a allant i'w Talaith. I hyn yr etholir hwy, ac ar eu llwyddiant neu eu methiant mewn sicrhau cynorthwy a gwelliannau cyhoeddus y dibynna eu siawns am ail-etholiad gan mwyaf. Er dyddiau rhannu'r tiroedd rhydd, edrychir ar y llywodraeth gyfunol fel perchennog y cornucopia cenedlaethol. Ar wahân i gynorthwy nid oes gan y rhai sydd mewn awdurdod nemor ddim i'w gynnig i'r aelodau; o ganlyniad y mae disgyblaeth bleidiol a'r 'faril borc' yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd.

Os metha aelod a bodloni pleidleiswyr un dalaith, ni all chwilio am lwyddiant mewn un arall. Rheolir etholiadau America yn gaeth gan 'reol lleoliad' a glyma ddyn i lawr i'w dalaith ei hun a hyd yn oed i'w ardal gynhadleddol ei hun. Nid oes 'seddau diogel' i'w rhoi i'r aelod haeddiannol ond anffodus a fethodd gael ei ail-ethol. Y mae dymuniadau ei bleidleiswyr ei hun, gan hynny, yn holl-bwysig i'r aelod cyffredin, a'u buddiannau hwy yw ei ddiddordeb cyntaf—ac olaf.

Arwain y llyffetheiriau lleol hyn i ddylanwadau ardalol mewn gwleidyddiaeth a gorfodir yr Arlywydd i lywio cwrs gofalus rhwng gwahanol hawliau cystadleuol. Y mae'n bosibl i un o'i fesurau gwerthfawrocaf fynd yn llong-ddrylliad nid oherwydd i'r Tŷ ei anghymeradwyo, nac yn wir oherwydd i'r Tŷ deimlo nemor ddim ynghylch y mater y naill ffordd na'r llall, ond oherwydd teimlo o rhyw gynrychiolydd o'r Deheudir pell fod gormod o'r cyfraniad at Afonydd a Phorthladdoedd yn mynd i'r trefydd ar fordir Lloegr Newydd. Gall y cynrychiolydd hwn gasglu ynghyd nifer o gynrychiolwyr o gyffelyb deimlad a phenderfynu 'dysgu gwers i'r Arlywydd,' er y gall hyn fod yn groes i fudd y wlad yn gyffredinol ac yn gryn rwystr i gynnydd gwerthfawr yn y rhaglen weinyddu.

Yn y geiriau olaf hyn gorwedd un allwedd i ddirgelwch gwledyddiaeth America. Fel rheol y mae rhaglenni etholiadau yn ogoneddus o amhendant. Unwaith y byddo'r etholiad drosodd, ymsefydla'r pleidiau wrth eu hen waith, sef, a defnyddio'r idiom lafar, bargaining, lobbying and log-rolling. Diddordebau cyffredin a chydbwysedd grym, yn hytrach na chefnogaeth i raglen ddeddfwriaethol gyffredin ydyw egwyddor unoliaeth o fewn y pleidiau. Gadewir y gwaith o gynhyrchu'r rhaglen hon i'r Arlywydd gyda chymorth ei gabinet, a rhaid iddo berswadio, swcro a bygwth y Gynhadledd i'w derbyn.

3. YR ARLYWYDD A'I GABINET

Y mae galluoedd yr Arlywydd ar un olwg yn ehangach ac eto ar olwg arall yn gyfyngach nag eiddo Prif Weinidog. O fewn cylch y gyfundrefn gyfreithiol y maent yn ehangach oherwydd yr awdurdod uniongyrchol mwy sydd ganddo dros bob gweinyddu, gan gynnwys penodiad y dynion a gymhwysa ei bolisi. Rhaid wrth gydsyniad y Senedd cyn penodi i rai swyddi, ond gall yr Arlywydd benodi ei ddynion ei hun i lu o swyddi gweinyddol eraill, gan gynnwys llawer sydd ymhell islaw gradd y Cabinet. Pan newidio llywodraeth, newidir nid yn unig aelodau'r Cabinet ond llysgenhadon a phrif swyddogion y Gwasanaeth Sifil. Ar ffyn isaf ysgol y Gwasanaeth Sifil cydnabyddir egwyddor yr alwedigaeth a'r duedd ydyw ei mabwysiadu ar ryngau uchaf yr ysgol hefyd. Ond tra phery'r berthynas bresennol rhwng yr Arlywydd a'r Gynhadledd y mae'n bur annhebyg y gwelir ymwrthod ag ystyriaethau gwleidyddol wrth benodi i'r swyddi uchaf. Cyn belled a bod a fynno cymhwyso polisi, y mae'n naturiol i'r Arlywydd ddymuno sicrhau cydweithwyr a fo'n frwdfrydig o'i blaid ac yn deyrngar iddo.

Wrth ddewis ei Gabinet, chwilia'r Arlywydd yn fynych y tuallan i gylch aelodau'r Gynhadledd. Y mae gan y wlad yr hyn a elwir yn rheol yr ardal.' Golyga hyn na all llawer o'r dynion galluocaf mewn bywyd cyhoeddus gael eu hethol i sedd os digwydd iddynt fod yn y lleiafrif yno, oherwydd ni chaniateir iddynt fynd i le arall. Pwysleisio rheol gyffredinol a ddarfu Roosevelt felly, pan greodd ei Dryst Ymenydd' (Brains Trust) yn nyddiau cynnar ei weinyddiaeth. Chwiliodd am yr ymenydd yng nghynteddau'r prifysgolion yn hytrach nag ar lwyfannau gwleidyddiaeth. Gwnaeth hynny'n bur aml a phwysleisio felly bwysigrwydd yr elfen bersonol. Ei gabinet ef ydyw, a'i weinyddiaeth ef i gymhwyso'r hyn a ystyria'n bolisi arbennig iddo'i hun.

Pan eilw'r rhaglen am ddeddfau newydd y mae'n rhaid i'r Arlywydd droi at y Gynhadledd. Cyfyngedig yw ei alluoedd yn y cylch hwn. Nid efe ydyw Arweinydd y Tŷ, ac os digwydd i'r Gynhadledd fod yn elyniaethus, ni all fygwth etholiad arnynt. Pa beth bynnag a ddigwydd, rhed y Gynhadledd i ben ei thymor. Ni all yr Arlywydd gychwyn deddfwriaeth. Gall atal unrhyw fesur, ond gall mwyafrif o ddwy ran o dair yn y ddau dŷ ei basio. Pa beth bynnag a ddigwydd, y mae'n rhaid i'r Arlywydd atal yr holl fesur. Ni all docio rhai adrannau a chadw'r lleill. Sut felly y gall. yr Arlywydd drafod y Gynhadledd? Yn rhannol trwy ddylanwad personoliaeth ac yn rhannol trwy benodiadau doeth. Am y ddwy flynedd gyntaf, gall ddibynnu ar Gynhadledd gyfeillgar, oherwydd araf y daw'r trai ar frwdfrydedd yr etholiad, ac effro yw'r disgwyliadau am ffafrau oddi ar ei law. Ynghanol y tymor, a thrwy etholiadau, newidir ansawdd y Gynhadledd; sycha ffynhonell y ffafrau a chyfyd drain ar ei lwybrau. Cydnebydd pawb i Roosevelt drafod y Gynhadledd yn ystod ei dymor cyntaf gyda medrusrwydd mawr. Diwygiodd ei Brif Bost Feistr, Farley, ei adran, gan ei throi'n 'beiriant effeithiol a golygodd deddfwriaeth y Fargen Newydd (New Deal) liaws o benodiadau cyfunol newydd oedd o'r fantais fwyaf iddo. Talodd sylw mawr i'r gwaith o gadarnhau ei ddilynwyr yn y wlad gan wybod yr effeithiai hyn ar y Gynhadledd. Gafaelodd ei arwyddeiriau, 'y Fargen Newydd' 'y Gŵr a Anghofiwyd', yn nychymyg dynion cyffredin, ac, fel yr Arlywydd cyntaf i feistroli techneg y Radio, gwnaeth ddefnydd llawn o hyn yn ei 'sgyrsiau'r aelwyd a'r genedl.' Digwyddai'r awdur fod yn Efrog Newydd ar ddiwrnod seremoni cyflwyno Roosevelt i'r Arlywyddiaeth, ac erys atgof byw am ddylanwad ei anerchiad di-gythrwfl, calonnog, hyderus ar dyrfaoedd a syrthiasai i afael un o'r methiannau mwyaf a fu yn hanes banciau unrhyw wlad.

Modd bynnag, cafodd Roosevelt ergydion pur gas yn etholiad 1936, oherwydd er iddo gael mwyafrif gwerinol da, yr oedd llawer o'r rhai a ddychwelwyd yn erbyn y Fargen Newydd. Nid oeddynt uwchlaw elwa ar gyd-aelodaeth ym mlaid yr Arlywydd a bod yn gwbl barod i'w wrthwynebu wedi'r etholiad. Un o anawsterau gwleidyddiaeth America yw nad yw'r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid yn glir, e.e., bod y naill ar y Dde a'r llall ar y Chwith. Hyd yn ddiweddar, cyfrifai daearyddiaeth ac ardal yn fwy nag egwyddorion, ac yr oedd gan y ddwy blaid eu hadran Dde a Chwith. Caed aml i Wladwriaethwr rhyddfrydig yn llawer mwy rhyddfrydig na'r Gwerinwr ceidwadol. Rhwystr mawr ar ffordd Roosevelt a fu'r ffaith iddo geisio cymhwyso polisi cenedlaethol, gan ddibynnu ar gymorth gwleidyddol gwŷr na feddyliodd erioed o'r blaen yn nhermau 'cenedl' a 'dosbarth', ond yn hytrach yn nhermau'r Misisipi, peithdir y Gorllewin, etc.

Ni laesodd yr ymdrech rhwng Roosevelt a'r Gynhadledd am funud, fel y dangoswyd pan gollodd ar fater Gwahardd Allforio. Gwir iddynt ail ystyried y dyfarniad, ond gwelir sut y gall y fath ddigwyddiad osod rhwystrau ar ffordd pob polisi, yn enwedig wrth ddelio â materion tramor lle y gall cyflymdra olygu popeth. Heddiw gwelir Roosevelt ar ei gyfyng gyngor pa un a wyneba etholiad am y trydydd tro ai peidio-safle y gwrthododd Washington ei wynebu—a thystia hyn gryfed y pery nifer ei ddilynwyr drwy'r wlad. Nid ei bersonoliaeth yn unig a gyfrif am hyn, ond gwelir fod y Fargen Newydd yn wahanol i raglenni'r hen bleidiau, a'i fod yn simbol o'r cyfnewidiadau sylfaenol a ddigwyddodd ym mywyd America yn ystod y blynyddoedd o flaen ac wedi dymchweliad 1929. Arbenigrwydd mawr Roosevelt ydyw iddo sylweddoli'n gyflym ddyfned ydoedd y cyfnewidiadau hyn a'r angen am fesurau trwyadl newydd i'w cyfarfod.

4. Y FARGEN NEWYDD.

Cyn y gellir canfod ystyr y Fargen Newydd y mae'n rhaid deall y cyfnewidiadau a ddaeth dros y gyfundrefn economaidd yn America. Bu adeg pan adwaenid America fel gwlad y cyfleusterau euraid. Rhoddwyd y garreg rwystr gyntaf ar y ffordd pan gaewyd y ffin tua diwedd y ganrif ddiwethaf. Hyd nes y gwnaed hyn gallai'r llywodraeth agor llwybr ymwared o ddyryswch economaidd trwy gynnig rhoddion o dir rhydd. Cysurwyd y dyn cyffredin fod cyfle iddo yntau yn y Gorllewin. Ac yn ddiweddarach, pan ehangai ffiniau economaidd America'n gyflym, gallai unrhyw ŵr o allu ac ynni gredu bod ganddo cystal siawns a'r un i ennill cyfoeth ac ond odid i grynhoi ffortiwn. Wedi'r rhyfel diwethaf, ymddangosai fel petai llwyddiant materol yn rhan sefydlog o'i bywyd, ond yn 1929 wele ddymchweliad mor sydyn llwyr nes peri i'r Americanwr cyffredin weled yn glir fod y ffin economaidd hithau wedi ei chau am byth ac nad oedd rhagolygon uwch i'r gweithiwr a'i blant na pharhau i ennill ychydig o gyflog drwy gydol oes—a hynny ar yr amod bod ganddo waith ar ei gyfer.

Nod amgen y dirwasgiad hwn, o'i gymharu ag argyfyngau economaidd blaenorol, oedd ei lwyredd. Nid cyfyngedig mohono nac i ardal na diwydiant. Dirwasgiad gwlad-lydan ydoedd, a gwelwyd rhwng deuddeg a phymtheg miliwn o weithwyr yn ddiwaith mewn gwlad a rifai'i phoblogaeth tua 130 miliwn. Am y tro cyntaf, teimlai'r di-fraint nad dynion anffodus oeddynt mwyach, eithr mai cymdeithas oedd yn gyfrifol am eu cyflwr, ac nad oedd gobaith iddynt hyd nes y newidid y drefn gymdeithasol. Deil llawer i goleddu syniadau'r hen gyfnod, a gwelir mwy o'r rhyddfrydwr radicalaidd na'r sosialydd-chwaethach Marcsydd yng nghyfansoddiad Roosevelt yntau, ond y mae'n eglur fod yr hen raniadau De yn erbyn y Gogledd neu'r Dwyrain yn erbyn y Gorllewin yn diflannu, a'r tlawd yn erbyn y cyfoethog, a'r meddianwyr yn erbyn y difeddiant ydyw patrwm y rhaniadau erbyn hyn. Tra gallech ddal i feddwl bod gennych chwi a'ch plant gyfle da i esgyn i radd gymdeithasol y meddianwyr, gwan oedd yr ysgogiad i ymladd yn eu herbyn. Trwy gyfyngderau'r dirwasgiad goleuwyd llygaid y lliaws a safant wrth y drws bellach, gan guro'n daer. Ni ellir deall y mesurau a fabwysiadwyd dan y Fargen Newydd ond yn y cefndir hwn. Tair "R" Roosevelt oedd 'Recovery, Relief, Reform,' ac er mwyn eu hyrwyddo troes ei sylw at fancio, ffarmio a diwydiant yn gyntaf, ac wedyn. at geisio gwella sefyllfa'r diwaith a swcro busnes i gefnu ar ei islder ysbryd trychinebus.

Y mae cyflwr anosbarthus y banciau pan ddechreuodd Roosevelt ar ei waith y tuhwnt i ddisgrifiad. Aethai lliaws ohonynt yn fethdalwyr, a gorfodwyd llu eraill ohonynt i gau'r drysau. Dengys y mesurau a luniwyd mai sicrwydd yn hytrach na llwyddiant a fyddai arwyddair newydd bywyd cymdeithasol America. Cyfyngwyd ar alluoedd y bancwyr a'r cyfnewidwyr stociau, a gwelodd mawrion Wall Street iddynt gyfarfod â gŵr meistrolgar. Symudwyd canolfan Bwrdd yr Adnoddau Ffederal (Federal Reserve Board) o Efrog Newydd i Washington, ac yswiriwyd â gwarant swyddogol yr adneuon (deposits) a feddai'r banciau a oedd yn aelodau o Gyfundrefn yr Adnoddau Ffederal.

Yr oedd cyflwr ffarmio mor drychinebus â bancio. Cafodd y ffermwyr amseroedd da dros ben yn ystod y rhyfel, ond wedyn, ni chyfranogasant yn y llwyddiant cyffredinol a syrthíasant ar gyfnod drwg. Yr oedd y rhan fwyaf ohonynt mewn dyled mor fawr ac yn talu llogau mor uchel arno nes eu hanalluogi yn gyfangwbl i wynebu'r dirwasgiad cyffredinol. Nid oedd ganddynt o'u blaenau ond gweld gwerthu'r ffermydd a'r stoc dros eu pennau, a'u troi hwythau i'r ffordd. Nid oedd arian ganddynt. Cyfnewidient. nwyddau yn y siopau a'r marchnadoedd, ac yr oedd cyflwr y tir, fel canlyniad i ddwy genhedlaeth neu dair o ffarmio afradlon anghyfrifol, yn gwbl ddiffrwyth.

Cynllun cyntaf Henry Wallace (yr Ysgrifennydd Amaeth egniol a benododd Roosevelt) oedd trefnu'r Gyfundrefn Addasu Amaeth. Taflwyd y cynllun allan gan yr Uchel Lys, ond pasiwyd deddfau eraill gyda'r amcan o godi prisoedd amaethyddol trwy gyfyngu ar gynhyrchiant. Oherwydd y gostyngiad yng ngwerth y dolar, cododd prisoedd eraill, ond rhoddodd y mesurau eraill beth ysgafnhad i'r ffermwyr, yn enwedig gyda'u llogau. Gwnaeth y llywodraeth wasanaeth gwerthfawr trwy dderbyn y cyfrifoldeb am lawer o'r dyledion, gan drefnu llogau is arnynt a'u cyfrif fel dyledion dros dymhorau maith. Gan ddilyn esiampl Iwerddon o ddileu tenantiaid, ymha le bynnag yr oedd hynny'n bosibl, ceisiasant brynu ystadau a ffermydd pan nad oedd y perchenogion yn byw arnynt a'u hail-osod i eraill. Aeth yn gyfrifol hefyd am 635,000 o deuluoedd oedd yn byw ar diroedd mor wael na ellid elw ohonynt. Cododd dai newydd i lawer; trefnodd gynllun gofalus i wella'r tiroedd; i godi safon iechyd addysg ac i hyrwyddo cydweithrediad amaethyddol. Gŵyr y sawl a ddarllenodd "Grapes of Wrath" (Steinbeck) a llyfrau tebyg, am y tlodi affwysol a'r rheibio ar ddynion oedd yn nodweddiadol o'r De, a chymaint oedd yr angen am y mesurau hyn.

Ni fu'r mordwyo mor esmwyth i Roosevelt wrth geisio llywio llong diwydiant. Trwy'r Ddeddf Genedlaethol ail-gyfodi Diwydiant ceisiodd wella amodau gwaith trwy drefniadau gwahanol ar gyfer pob diwydiant. Ymdrechodd y Cadfridog Johnson yn wrol o blaid y cynlluniau, ond yr oedd y dasg yn ormod iddo ac ni allwyd cymhwyso'r mesurau ar ôl yr holl drefnu gofalus a fu arnynt. Nid oedd amheuaeth i'r llywodraeth dderbyn cysur mawr pan gyhoeddwyd y ddeddf yn anghyfreithlon gan yr Uchel-Lys yn 1935. Ond nid ofer y bu'r holl gyhoeddusrwydd a gafodd amgylchiadau diwydiant, a chafodd yr Undebau Llafur hwb anghyffredin trwy'r caniatad a roddwyd i gyd-fargeinio. Eglurwyd hyn ymhellach a'i gadarnhau yn Neddf Wagner. Yn 1932 rhifai aelodau'r Undebau Llafur tua dwy filiwn neu dair ar yr eithaf, a Chyfundeb Americanaidd Llafur (American Federation of Labour) oedd eu prif gyfundrefn. Syniadau ceidwadol a goleddai a chadwai lygaid yn bennaf ar gwmni detholedig y gweithwyr medrus a'r crefftwyr. Blinodd John L. Lewis ar ddulliau "merchetaidd" yr hen Gyfundeb ac ymneilltuodd ohono, efe a'i Undeb—Undeb y Glowyr. Ffurfiodd Bwyllgor Cyfundrefnu Diwydiant (Committee of Industrial Organisation). Dangosodd wroldeb a chydynrwydd eithriadol, gan ymladd y cyrff diwydiannol mwyaf, megis Cyfarwyddwyr Ford, y Gorfforaeth Ddur, Moduron Cyffredinol, &c. Troesant i'w ymladd yn llythrennol â nwy dagrau, bomiau a gynnau. Ar waetha'r cyfan, y mae ganddo bellach dros bedair miliwn yn ei Gyfundrefn Ddiwydiannol. Dangosodd ei fod yn hollol wahanol i'r hen Gyfundeb trwy gymryd diddordeb uniongyrchol mewn gwleidyddiaeth. Cefnogodd Roosevelt yn 1936, ond tueddu i oeri y mae'r gefnogaeth bellach.

Prif broblemau eraill Roosevelt oedd diweithdra ac yswiriant cymdeithasol. Bu ei gynlluniau ar gyfer y blaenaf bron mor lluosog â thywod mân y môr, ond gwnaed ymdrechion taer iawn i drefnu gwaith i bobl, a buont yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol hefyd. Cymeradwyodd pawb Theatr y Bobl a'r gwersylloedd ar gyfer dynion ieuainc a drefnwyd gan yr Urdd er Amddiffyn Dinasyddion (y Civilian Conservation Corps). Yn y Ddeddf er Diogelu Cymdeithas, cynhwysodd drefniadau ar gyfer Pensiynau'r Hen, Yswiriant Diwaith, darpariadau ar gyfer yr afiach, yr anghenus a'r dall, oherwydd o'r braidd y gwnaed hyn o'r blaen gan yr awdurdodau cyhoeddus. Ond y mwyaf nodedig o'i holl arbrofion cymdeithasol yw Awdurdod Dyffryn y Tennessee, a haedda bennod iddo'i hun.

Yr elfen olaf yn rhaglen y Fargen Newydd ydyw Cyllid. Nid arbedwyd arian, ond yn hytrach tywalltwyd ef yn helaeth er mwyn y gwelliannau, y gweithiau cyhoeddus a'r ad-adeiladu, gan obeithio gweled olwynion busnes yn ail ennill eu cyflymder arferol. Ond pan beidia'r llywodraeth ffederal wario dirywia busnes ac, yn y cyfamser, cynhydda'r ddyled yn gyson. Ni ellir gwadu i ymdrechion Roosevelt i helpu pawb beri i rai ohonynt weithio'n groes i'w gilydd. Cŵyn gwŷr busnes ydyw y buasai'n well petae heb ymyrryd a bod y cyfyngiadau arnynt sydd yn y Fargen Newydd fel meini melin am eu gyddfau. Cyhoedda'r radicaliaid eithafol yn hy bod methiant yn anocheladwy, oherwydd nid oes cyfaddawd ymarferol rhwng cymdeithas gyfalafol a delfrydau sosialaidd sut bynnag. Cwestiwn y dydd ydyw a fydd i'r Fargen Newydd barhau, h.y., a fydd i Roosevelt wynebu trydydd etholiad. Gŵyr pawb y gellir mai y tuallan i America y setlir y fath gwestiwn.

5. Y BERTHYNAS AG EWROP.

Daw'r ystyriaeth uchod o'r sefyllfa wleidyddol gyffredinol yn yr Unol Daleithiau a ni yn naturiol at astudiaeth fanylach o agwedd ar wleidyddiaeth sy'n berthynasol iawn ar hyn o bryd—problem anghyfranogiaeth, neutralaeth, America. Byth er pan anogodd Washington, yn ei Anerchiad Ffarwel, i'r Americaniaid i osgoi ymddyrysu ym mhroblemau Ewrop, bu nid yn unig yn axiom ddiplomataidd, ond hefyd yn un o'r hanner dwsin syniadau gwleidyddol sylfaenol a ddysgid i bob Americanwr da, y dylai America sefyll draw oddi wrth amgylchiadau gwledydd ereill. Newidiwyd y polisi hwn beth gan ddatganiad yr Arlywydd Munroe yn 1823, a wnaeth integriti holl wladwriaethau America Ladinaidd, yn ogystal a Gogledd America, yn fater diddordeb yr Unol Daleithiau. Fel gwerin-lywodraeth fechan yn ymdrechu am unoliaeth fewnol, yr oedd yn bosibl i safle cynnar America ei gwneud yn werin gwyddbwyll yn rhyfeloedd Ewropeaidd y cyfnod, a neilltuaeth, yn ddiamau, ydoedd y polisi gorau. Ni phrofodd neilltuaeth, fel yr ydoedd, yn gwbl lwyddiannus, a daeth yr Unol Daleithiau i ryfel â Phrydain yn 1812. ynghylch hawliau marsiandïaeth môr. Tyfodd yr Unol Daleithiau trwy eu datblygiad eithriadol yn y ganrif ddiwethaf yn un o wledydd cryfaf y byd, eithr fe erys seicoleg 'neilltuaeth,' a gall pob plentyn ysgol ddyfynnu rhybudd Washington.

Yn rhinwedd y rhan bwysig a gymerth America yn y rhyfel diwethaf a'i huchafiaeth ariannol ar ei derfyn, gallasai, pe dymunai, chwarae yn yr ugeinfed ganrif y rhan a chwaraeodd Lloegr yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyda rhyddid cyfatebol oddi wrth ymosodiadau tramor gallasai 'fantoli rhwng y pwerau,' yn anuniongyrchol gan mwyaf, ac estyn ar yr un pryd ei diddordebau masnachol ac ariannol dros y môr. Eithr yr oedd y byd yn fwy cymhleth yn 1919 nag ydoedd mewn blynyddoedd cynharach. Teimlai Americaniaid y gallasai gwladweinwyr Ewrop eu twyllo. Cuddiai delfrydiaeth Wilson yr elw posibl a ddeilliai i'r Unol Daleithiau o gymryd y lle blaen mewn materion tramor, ac yn 1920 penderfynwyd gadael Ewrop i'w thynged.

Cyfrannodd achosion ereill at y polisi hwn, ond nid oes. amheuaeth nad y prif achos ydoedd dychweliad pobl America. at yr egwyddor draddodiadol a adawsant yn ystod y rhyfel. Efallai eu bod bryd hynny yn wleidyddol anaeddfed, ac mai diogelach ganddynt ddilyn cyfarwyddiadau Tadau'r Gwrthryfel na gweithredu barn newydd eu hunain ar sefyllfa byd a newidiasai. Pa un bynnag am hynny, y mae'r egwyddor hon yn ffactor mor rymus ym mywyd America fel bod rhaid i bob Arlywydd gymryd cyfrif ohoni, sut bynnag y deall ef ei hun sefyllfa'r byd.

Bu'r duedd hon i gyfeiriad neilltuaeth yn gyfrifol am amryw gynigion ar ran yr Unol Daleithiau yn ystod y can mlynedd a hanner diwethaf i ddeddfu ar gyfer heddwch." Yn nyddiau cynnar y werin-wladwriaeth, ni fwriadai Jefferson, heddychwr cadarn a phroffesedig, ganiatau dynnu yr Unol Daleithiau i ryfeloedd Napoleon. Ni phetrusodd, fodd bynnag, fynegi'r gobaith y byddai i'r byd newydd "dewychu'n braf ar ffolinebau'r hen. "Gan mai felly y penodwyd gan ffawd," meddai yn nechrau'r rhyfel, ni allwn lai na gweddio y bydd i'w milwyr fwyta gryn lawer." Tra y dymunai gadw ymlaen yr ymddygiad ddiduedd tuag at y rhyfelwyr, yn ôl cyngor Washington, yr oedd yn llawn mor benderfynol a hynny o ddatgan hawl America i fasnachu â hwy, a gwrthwynebodd yn llym y cyfyngiadau y ceisiodd y rhyfelwyr eu gosod. Pan welodd, fodd bynnag, fod anghydwelediadau ynglŷn â hawliau anghyfranogiaeth yn arwain i wrthdarawiad, ceisiodd yn 1807, gyda mwy o resymeg nac o ddoethineb, gymhwyso Mesur Embargo cynhwysfawr. Gwelodd nad oedd sail ar dir rheswm i wahaniaethu rhwng amrywiol fathau o gontraband. "Un ai y mae pob marsiandiaeth a lesiai elyn yn anghyfreithlon, neu nid oes yr un felly." Gwahaniaeth gradd yn unig sydd rhwng nwyddau o amrywiol fathau. Ni ellir tynnu llinell rhyngddynt.

Ni newidiodd y Mesur Embargo ddim ar syniadau Ffrainc a Phrydain am anghyfranogiaeth, eithr fe leihaodd allforiaeth yr Unol Daleithiau o $108 miliwn i $22 miliwn, a bu mwy nag un dalaith—yn rhagweld ei thranc—yn trafod gwahaniad o'r cyfundeb yn agored. Dilynodd mesur llai eithafol, sef Mesur Gwrth-Gyfathrach, yn anghyfreithloni masnach â Phrydain a Ffrainc, eithr yn caniatau masnachu â phob gwlad arall. Parhau a wnaeth yr ymrafaelion a'r rhyfelwyr, fodd bynnag, ac o'r diwedd, yn 1812, cyhoeddodd yr Unol Daleithiau ryfel ar Brydain Fawr i brotestio hawliau anghyfranogiaeth. Methasai arbrawf heddwch' Jefferson. Y mae hanes y cyfnod hwn yn haeddu sylw, gan y dengys yn glir yr egwyddorion oedd ar waith yng nghyfnod anghyfranogiaeth America yn 1914-17, a'r egwyddorion a reola'r sefyllfa heddiw. Fe all mai ar draul dirywiad masnachol y pwrcesir heddwch, ac fe ddichon i'r bobl benderfynu fod y pris yn rhy uchel.

Beth a ddewisa'r bobl o dan Roosevelt? A oes unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng safle yr Unol Daleithiau heddiw a'u safle yn 1914? Y mae rhai gwahaniaethau pendant iawn mewn economeg a deddfwriaeth. Y mae'n ddiamau bod gwahaniaethau gwleidyddol hefyd, ond mai anodd yw eu mantoli.

Ni edy newyddiaduron Awst, 1914, unrhyw amheuaeth nad oedd, yn y taleithiau dwyreiniol, beth bynnag, gryn gydymdeimlad â'r Pwerau Cynghreiriol, ac atgasedd at ddulliau Ellmynaidd. Tyfodd y gwrthwynebiad hwn yng nghwrs y rhyfel. Fe'i swcrwyd gan bethau fel triniaeth y Belgiaid gan yr Almaen, yr anghaffael a barodd cynlluniau ysbiol yr Almaen, a thrychinebau diwydiannol yn America ei hun y bu gan Von Papen ac ereill ran ynddynt. Yr oedd Woodrow Wilson ei hun yn angerddol o blaid anghyfranogiaeth. Anwesai'r uchelgais o gyflafareddu heddwch ar derfyn y rhyfel. Gwyddai y golygai cymryd rhan yn y rhyfel golli gryn lawer o'i ddylanwad, ac efallai wanhau ei safle fel cyfryngwr yn anadferadwy.

Rhoes gynnwys pendant i athroniaeth neilltuaeth, athroniaeth oedd braidd yn negyddol. A chenhadaeth America fel heddychwr yr oedd a wnelo ac nid yn gymaint a'i diogelwch. Nid oes amheuaeth mai gyda'r Pwerau Cynghreiriol a'u safbwynt hwy ar fywyd yr oedd ei gydymdeimlad, eithr oherwydd hynny yr oedd yn fanwl ofalus i sylweddoli'r didueddrwydd llwyraf yn ei ymwneud â'r Almaen. Gwnaethpwyd hyn yn berffaith glir yn ddiweddarach gan y Cenad Ellmynig Bernstorff.

Dywedodd Wilson wrth y Senedd yn Awst, 1914, "Y mae'n rhaid inni fod yn ddiduedd mewn meddwl yn ogystal a gweithred, y mae'n rhaid ffrwyno pob sentiment yn ogystal a phob gweithrediad y gellid ei ddehongli fel hoffter mwy at un blaid yn yr ornest na'r llall." Mynegodd y genadwri hon drachefn a thrachefn, a gwnaeth bopeth yn ei allu i hyfforddi'r farn gyhoeddus yn ei syniad ef am ystyr anghyfranogiaeth. Credai fod America yn " sefyll ar wahan yn ei delfrydau," fod i'r "genedl a adeiladodd Duw genhadaeth benodedig fel cenedl gyfryngol y byd" i gynnal egwyddorion gweithredol arbennig a seiliwyd ar gyfraith a chyfiawnder. "Nid ceisio ymgadw rhag helynt yr ydym; ceisio yr ydym ddiogelu'r sylfeini y gellir ail-adeiladu heddwch arnynt."

Yn yr ysbryd hwn y cadwodd Wilson America allan o'r rhyfel hyd Ebrill, 1917, ddwy flynedd bron, sylwer, ar ôl y cynnwrf poblogaidd a ddilynodd suddiad y Lusitania.' Yn y diwedd fe'i gorchfygwyd gan yr Ellmynwyr eu hunain. Yr oedd un gwendid yn arfogaeth anghyfranogiaeth America. Yr oedd yn masnachu â gwledydd y byd. Ym marn rhai cymwys i wybod, y ffactor effeithiol a ddug America i mewn i'r rhyfel diwethaf, yn bendant, ydoedd polisi yr Almaen o ryfela diymatal gyda'r swbmarin. Peryglodd hyn yn fwriadol nid yn unig nwyddau America-gwnaeth y blocâd Prydeinig hynny-ond peryglodd linellau marsiandiaeth America hefyd. Bu ymrysonau cyson rhwng llywodraeth America a llywodraeth Prydain ynghylch rhyddid y moroedd. Yn wir, yr oedd y berthynas ddiplomataidd yn 1916 yn waeth o lawer rhwng y ddwy lywodraeth hon nag ydoedd rhwng yr Unol Daleithiau a'r Pwerau Canol. Ym mis Mai, 1916, rhoes yr Almaen sicrwydd i Wilson y rheolid rhyfela gyda'r swbmarin yn unol â deddf gydwladol. Yn Ionawr, 1917, penderfynodd Llywodraeth Ymherodrol yr Almaen mai mewn ymgyrch ddiymatal gyda'r swbmarin yr oedd eu gobaith gorau am oruchafiaeth.

Yr oedd hyn yn fwy nag y medrai America ei oddef. Yng ngeiriau'r Cwnsler Ellmynig yn Embasi Washington, mewn llythyr i'w lywodraeth, Ni fentrai unrhyw lywodraeth nac unrhyw blaid, heb gyflawni hunan-laddiad gwleidyddol, roi ffordd i'r Almaen ar y cwestiwn hwn wedi i America ddatgan mor bendant yr hyn, yn ei barn hi, a gyfansodda ei hawliau cydwladol. ni allai yr apostolion heddwch mwyaf selog oddef y cyhuddiad eu bod mewn ystyr wedi rhoddi trwydded i'r Almaen labyddio Americaniaid yn y dyfodol ben bwy'i gilydd." Rhoes Wilson ei Genadwri Rhyfel o flaen y Gynhadledd ar yr ail o Ebrill, 1917. Ni all rhwyg cyffelyb ddigwydd yn yr un ffurf heddiw. Pasiwyd mesurau yn yr Unol Daleithiau yn y blynyddoedd 1935-39 a olygai iddi ollwng gafael mewn gwirionedd ar ryddid y moroedd, ac ymddihatru yn wirfoddol oddi wrth unrhyw fasnach a allai ei dwyn i wrthdarawiad â gwledydd ereill. Dyma gyfnewidiad cyrhaeddgar mewn polisi, a phwysig iawn yw gweld sut y digwyddodd, a pha mor gyson y mae'n debyg o gael ei ddefnyddio.

Dylid cofio nad ymgadwodd America yn gwbl glir oddi wrth ymdrechion gweddill y byd i gyfeiriad "diogelwch cytûn" (collective security). Cymerodd ran mewn trafod diarfogiad ac awgrymodd yn glir, pe gellid cwblhau cytundeb i ddiarfogi, odid nad ail-ystyriai hithau ei safle fel gwlad anghyfranogol. Yr oedd Pact Briand-Kellog yn 1928 yn rhan ddeisyf-feddwl y cyfnod, eithr mor ddiweddar a 1932 atgofiodd Henry Stimson, Ysgrifennydd Gwladol o dan Hoover, ei wlad o'i rhwymedigaethau o dan y pact. Pan ddechreuodd y rhyfel yn Manchuria, fodd bynnag, a gwrthod o'r Pwerau Gorllewinol weithredu, ar waethaf cynnig Stimson i gydweithredu, gwnaethpwyd yn glir na ellid dibynnu ar y foeseg newydd mewn perthnasau cydwladol. Erbyn 1914 troesai Americaniaid oddi wrth ddiogeliadau cydwladol cyffredinol, ac ymroesant i ddeffinio eu safle eu hunain mewn perthynas â rhyfeloedd ereill i ddod.

Seiliwyd y ddeddfwriaeth a ddilynodd ar y rhagdyb mai diddordeb pennaf yr Unol Daleithiau ydoedd ymgadw rhag rhyfel. Y mae, wrth gwrs, yn agored i amheuaeth, a dweud y lleiaf, a yw hyn yn wir fel mater o ffaith, ac yn achos y rhyfel rhwng Sina a Siapan, dychwelodd yr Unol Daleithiau at wleidyddiaeth bwerol mor bell ag ochri gyda Sina, gan adael deddfwriaeth anghyfranogiaeth yn llythyren farw. Ni ddefnyddiwyd Mesur Anghyfranogiaeth oherwydd y golygai hynny, yn amlwg, gynorthwyo Siapan. Y mae amcan datganiedig y ddeddfwriaeth yn glir fodd bynnag. Y ddeddf gyntaf ydoedd Mesur Johnson, yn 1934, yn anghyfreithloni caniatau benthyciadau i unrhyw lywodraeth na chyflawnodd ei rhwymedigaethau blaenorol, gan gynnwys felly brif bwerau Ewrop. Dilynwyd hyn gan Fesur Angyfranogiaeth yn 1935, a ddiwygiwyd yn 1936, a ail-ddeddfwyd fel Mesur Anghyfranogiaeth 1937, ac a newidiwyd ymhellach yn Nhachwedd, 1939, i ail-gynnwys y cymalau yn ymwneud â thâl a cludiad' a dirymiad yr adran yn ymwneud ag Embargo ar Arfau Rhyfel. Nid oes a wnelo'r mesurau anghyfranogol hyn, fel eu gelwir, ddim oll âg anghyfranogiaeth mewn cyfraith gydwladol. Deddfau hunan-osodedig ydynt i gyfyngu masnach America ar adeg rhyfel. Gorchwyl hir a fyddai eu hastudio yn fanwl, eithr y rhain yw'r prif bwyntiau:—

Y mae'n anghyfreithlon wedi i'r Arlywydd hysbysu fod rhai gwledydd mewn cyflwr rhyfel,

(a) i longau America fordwyo yn amgylchoedd y rhyfel,

(b) i ddinasyddion America hwylio ar longau gwledydd ymladdol,

(c) cludo nwyddau a fwriedir ar gyfer gwladwriaethau ymladdol, ac i'r nwyddau adael yr Unol Daleithiau hyd oni throsglwyddir pob diddordeb ynddynt i'r pwrcaswyr,

(ch) i Americaniaid fenthyg er mwyn denu cyfraniadau at, neu bwrcasu, gwerthu neu gyfnewid rhwymedigiaethau (bonds) neu ddiogeliadau (securities) oddi wrth unrhyw wladwriaeth ymladdol neu berson yn gweithredu cyfryw, os trefnir wedi'r hysbysiad, gan eithrio yn wastad arian a fwriedir at amcanion dyngarol.

Gorffwysai Embargo ar Arfau ar y gwahaniaeth di-sail, a nodwyd gan Jefferson, rhwng yr hyn a elwir yn adnoddau rhyfel a nwyddau ereill llawn mor anhepgorol; tueddai i fod yn anfanteisiol hefyd i wneuthurwyr cynhyrchion gorffenedig. Fe'i dirymwyd yn rhannol oherwydd treiglo masnach gwneuthurwyr America i Ganada, ac yn rhannol oherwydd profi o ryfeloedd Ethiopia ac Ysbaen fod gwahardd allforiad nwyddau rhyfel yn cefnogi'r gwledydd a grynhoisai arfau eisoes, neu a allai eu cael o ffynonellau ereill. Y mae hunan-gyfyngiadau America, hyd yn oed wedi dirymiad yr Embargo ar arfau, yn gynhwysfawr iawn.

A yw yn debyg o lynu wrth y mesur hunan-ymwadol hwn, neu a ddiryma ragor eto? Dibynna hyn ar ddatblygiadau economaidd sy'n anodd eu rhagweld. Nid oes amheuaeth nad yw America yn llai dibynnol ar fasnach dramor heddiw nag ydoedd yn 1914. Tucdda polisi Roosevelt yntau mewn rhai agweddau pwysig i gyfeiriad hunan-ddigonolrwydd helaethach. Newidiodd cymeriad masnach allforol America a bu newid cyfatebol yn ei dylanwad. Lleihaodd allforiad cotwm yn arbennig o tua wyth miliwn a hanner o gydynau yn 1913 i bum miliwn a hanner yn 1937, a lleihaodd allforiad gwenith a blodiau o gant a phymtheg a deugain miliwn o Iwsielau yn 1913 i un miliwn ar hugain yn 1937. Y mae i hyn gryn bwysigrwydd gwleidyddol. Y mae cynrychiolwyr rhandiroedd gwenith a chotwm yn y Gynhadledd yn ffurfio cyfuniadau cydryw a dylanwadol. Y mae'r Senedd, yn arbennig, yn gŵyro yn drwm at ochr y taleithiau amaethyddol, a fedd gymaint o gynrychiolwyr â'r taleithiau diwydiannol llawer mwy poblog. Ni sieryd y ffatrïwyr a'r diwydianwyr, sydd fwyaf eu diddordeb yn y fasnach dramor, ag un llais, ac nid ydynt mor effeithiol yn wleidyddol. Rhwystrwyd yr amaethwr o'r Gorllewin Canol yn ddirfawr ar ôl ymehangiad diwydiannol y rhyfel diwethaf. Ni chwennych ef ailadrodd y broses.

Ar y llaw arall, nid oes amheuaeth na bydd byd busnes,' a fu yn anesmwytho o dan gyfyngiadau'r Fargen Newydd, yn edrych i gyfeiriad y rhyfel am gyfle i gyflenwi ei golledion. Ynganodd Roosevelt y rhybuddion pendantaf posibl yn erbyn yr aur ffôl' a ddeillia o ffyniant gau, eithr y mae ei safle wleidyddol ef ei hun yn bur ansicr, ac efallai y gorfodir ef i blygu i ddiddordebau byd busnes neu gael ei ddisodli ganddynt. Ni olygai hyn, wrth gwrs, yr ymunai erica â'r rhyfel o angenrheidrwydd fel gwlad ymladdol, ond fe allai roddi cynhorthwy sylweddol. Datgan Newton D. Baker, Ysgrifennydd Rhyfel yng Nghabinet Wilson, ei farn bendant na ddylanwadodd gwneuthurwyr adnoddau rhyfel a nwyddau ereill, nemor ddim ar benderfyniad yr Unol Daleithiau i ddod i mewn i'r rhyfel diwethaf. Mor ddiweddar â 1934, fodd bynnag, syfrdanwyd y farn gyhoeddus gan ddatguddiadau pwyllgor Nye a fu'n chwilio i mewn i wneuthuriad arfau: bydd y farn gyhoeddus yn bur amheus o unrhyw dwyll-resymeg o du byd busnes pan bleidia achos ffyniant America neu pan gymer ran pobloedd gorthrymedig Ewrop.

Dylid cofio wrth ystyried ymagweddiad Americaniaid at ryfel i'r haen efengylaidd ynddynt, a allasai ymateb i apêl 'rhyfel gyfiawn,' oddef dadrithiad llwyr fel canlyniad y rhyfel diwethaf. Y mae'r dadrithio hwn, wrth gwrs, yn un cyffredinol, eithr fe ddaeth i ran America yn gymharol ddiweddar. Bu'r cyfnod 1920-29 yn America yn gyfnod ffyniant mawr gartref a difrawder ynglŷn â materion tramor. Ni ddechreuodd America ddadansoddi cyn cyfnod y dirwasgiad. Nodwedd o'r blynyddoedd 1934-7, ac nid o gyfnod dengmlwydd yn gynharach fel yn Ewrop ydoedd yn dilyw llyfrau ar paham yr aethom i ryfel' yn America. Y mae'r ymarchwiliad hwn, gyda'i ddadleniad o ddelfrydiaeth, yn rhy agos at y rhai nad ydynt mewn perygl uniongyrchol iddynt dderbyn ddadleuon dros gyfranogi mewn rhyfel drachefn mewn tymer anfeirniadol.

Y mae llawer o Americaniaid yn drwgdybio Ewrop. Wedi'r cyfan, fe adawodd llawer o'u hynafiaid yr Hen Fyd mewn diflastod a chyrchu gwlad well. Er cymaint eu hatgasedd at y gwladwriaethau totalitaraidd, teimlant nad yw'r gweriniaethau uwchlaw beirniadaeth. Ni bu eu hymarweddiad hwythau yn ddifrycheulyd er y rhyfel diwethaf, ac y mae olion imperialaeth yn glynu wrthynt. Setlwyd problem Iwerddon, eithr fe erys India. Beth hefyd a wnant mewn Fersai arall? Amheua anobeithwyr, fel Charles A. Beard, prif hanesydd America, a all unrhyw wleidydd Americanaidd neu Ewropeaidd 'dacluso Ewrop,' felly, pa raid sydd i America wastraffu gwaed a chyfoeth?

Nid oes erbyn hyn gymaint grym mewn rhai syniadau a fu ar led yn America, megis y dylai'r Pwerau Cynghreiriol dalu eu dyledion rhyfel ac na werthfawrogwyd ymdrech America yn ddigonol yn y rhyfel diwethaf. Y mae i'r syniadau hyn eto beth dylanwad. Y mae teimlad dwfn, fodd bynnag, a adleisiwyd gan Roosevelt yn ei anerchiad ym Medi 21, 1939, mai dyletswydd America yw ymgadw rhag y terfysgoedd gwleidyddol sy'n amharu cynnydd mewn gwledydd ereill. Eithr fe newidiodd yr amseroedd er pan ddywedodd Henry Clay wrth Louis Kossuth yn 1848 mai "llawer gwell i ni, i Hwngari, ac i achos rhyddid, ydyw i ni, gan osgoi rhyfeloedd pellennig Ewrop, gadw'r lamp i losgi yn ddisglair ar y forlan Orllewinol hon." Ni ellir sicrhau llonyddwch trwy ddeisyf, a dysgodd America drwy'r dirwasgiad ein bod yn aelodau i'n gilydd. Y mae hon yn wers, fodd bynnag, na ddysg neb yn llwyr, a diau y rhydd tair mil o filltiroedd o weilgi, er ei dramwyo gan radio a llongau awyr, gryn deimlad o ddiogelwch.

Y mae'n rhaid cofio, yn olaf, gyflwr amgylchiadau yn America. Nid oes ganddi drefn ar ei thŷ ei hun. Y mae ynghanol cyfnewidiadau cymdeithasol ac economaidd chwyldroadol, ac nid yw mewn tymer i ymgymryd â beichiau ychwanegol. Ymddengys yn debyg, ar hyn o bryd, y gwrthyd hithau y beichiau hyn, fel y gwnaeth Ffrainc a Lloegr, am dymor mor hir ag y medr. Oni theimla fod perygl i America, bodlona ar gynhorthwy cyffredinol i'r Cynghreiriaid. Credir y carai 87 o bob 100 o Americaniaid weled y Cynghreiriaid yn ennill y dydd, eithr 29 yn unig o bob 100 a fodlona i America ymladd pe byddai'r Cynghreiriaid yn debyg o gael y gwaethaf. Efallai y newidia'r farn gyhoeddus fel yr â'r rhyfel rhagddo, ond yn y cyfamser ni allwn ddisgwyl i America wneud mwy na chadw allan o'r rhyfel ei hun heb fod yn hollol ddiochrog.

Amgylchiadau yn unig a ddengys ai doeth y cyfryw bolisi. Un ffactor anffodus yn y sefyllfa ydyw'r ffaith y dihysbyddir diddordeb America yn ystod y naw mis nesaf gan yr etholiad Arlywyddol. Gall tynged Ewrop ddibynnu ar ddamweiniau cydymdaro'r pleidiau Americanaidd. Pe na byddai'r etholiad mor agos, y mae'n debyg yr ymroddai Roosevelt yn fwy egnïol i gynorthwyo Gwlad y Ffin. Fe bery'r dylanwad afrwydd hwn ymhob cyfeiriad hyd Dachwedd, 1940. Bydd hysbysrwydd pendant erbyn hynny ai Roosevelt ynteu gŵr arall a lywodraetha'r Unol Daleithiau.

LLYFRAU I'W DARLLEN

"The American Political System" (D. W. Brogan).
"American Government and Politics" (Charles A. Beard).
"The American Leviathan " (Charles A. Beard and William Beard).
"Looking Forward" (Franklin D. Roosevelt).
"Roosevelt and His New Deal" (Stephen K. Bailey).
"Fundamental Issues in the United States" (E. A. Radice).
"Why We Went to War" (Newton D. Baker).
"Can America Stay Neutral?" (A. Dulles and Hamilton: Fish Armstrong).
"How Europe Made Peace without America" (Frank H. Simonds).
"The American World" (Edgar A. Mowrer).
"Blood is Cheaper than Water" (Quincy Howe).






Argraffwyd yng Ngwasg Gee




COLEG HARLECH



Syniwn amdanom ein hunain yng Nghymru ein bod yn werinwyr.

Heddiw hyfforddir dynion wrth y miloedd i ddefnyddio arfau rhyfel ond eglur yw nad oes na diogelwch na doethineb yng nghyngor pobl a fo'n arfog ac yn anneallus. Nid digon na gynau nac ymenyn na'r ddau ohonynt ychwaith!

Disgwylir i werinwyr fod yn bersonau, h.y. dynion yn rhodio'n rhydd a'r gallu i feddwl ganddynt. Gellir arwain anwybodusion gerfydd eu trwynau a'u heidio yn yrroedd.

Trwy wybodaeth y cynorthwyir dynion i fod yn "rhyddion yn wir" a'u cymhwyso i fod yn deilwng o'u rhyddid. Ceisia Coleg Harlech—yn ei ffordd ei hun—hyrwyddo'r gwaith hwn. Ynddo croesewir gweithwyr ein gwlad mewn cyrsiau blwyddyn, tymor ac ysgolion haf a'u ffurfio'n gymdeithas o bersonau a'u bryd ar ddarllen, myfyrio ac ymdrafod.

Anfoner at y Warden am hysbysrwydd pellach.

Nodiadau golygu


 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.

 

[[Categori:Roosevelt (Pamffledi Harlech)