Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu/Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu

Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu/Rhagair Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu

gan James Kitchener Davies


SWN Y GWYNT SY'N CHWYTHU

Heddiw
Daeth awel fain fel nodwydd syring,
Oer, fel ether-meth ar groen,
i chwibanu am y berth â mi.
Am eiliad, fe deimlais grepach yn f'ego,
fel crepach llwydrew ar fysedd plentyn
wrth ddringo sticlau'r Dildre a'r Derlwyn i'r ysgol;
dim ond am eiliad, ac yna ailgerddodd y gwaed,
gan wneud dolur llosg fel ar ôl crepach ar fysedd,
neu ether-meth ar groen wedi'r ias gynta'.
'Ddaeth hi ddim drwy'r berth.
er imi gael adnabod ei sŵn sy'n chwythu,
a theimlo ar f'wyneb.
lygredd anadl mynwentydd.
Ond y mae'r berth yn dew yn y bôn, ac yn uchel,
a'i chysgod yn saff na ddaw drwyddi ddim,
—dim byd namyn sŵn y gwynt sy'n chwythu.

Hy!
Ti sy wedi bostio erioed
nad oes arnat ti ddim ofn marw,
Ond dy fod ti yn ofni gorfod diodde' poen.
'Chest ti ddim erioed gyfle
i ofni na marw na diodde' poen,
—ddim erioed, gan gysgod y berth sy amdanat.
Do, do 'rwyt ti, fel pawb yn d'oedran di,
wedi gweld pobl mewn poen,
a gweld pobl yn marw—pobl eraill—
heb i'r gwynt sy'n chwythu dy gyrraedd di'n is nag wyneb y croen,
heb i ddim byd o gwbl ddigwydd y tu mewn i'r peth wyt ti.
I ti, peth iddyn' nhw, y lleill,
Yw diodde' poen a marwolaeth,
Yw pob bwlch argyhoeddiad, yn wir,
yn gywir fel actio mewn drama.
'Wyt ti'n cofio dod 'nôl yn nhrap Tre-wern
o angladd mam? Ti'n cael bod ar y set flaen gydag Ifan
a phawb yn tosturio wrthyt,—yn arwr bach, balch.

Nid pawb sy'n cael cyfle i golli'i fam yn chwech oed,
a chael dysgu actio mor gynnar.
Neu a wyt ti'n dy gofio di'n bymtheg oed
yng nghwrdd gweddi gwylnos Rhys Defi?
'Roedd llifogydd dy ddagrau di'n boddi hiraeth pawb arall,—
("ar dorri 'i galon fach" medden' nhw, "druan bach")—
a llais dy wylofain di fel cloch dynnu sylw;
Dim ond am fod hunandod hiraeth pobol eraill
yn bygwth dy orchuddio di, a'th gadw di y tu allan i'r digwydd.
'Roet ti'n actor wrth dy grefft, 'does dim dwywaith,
ac yn gwybod pob tric yn y trâd erbyn hynny.
O ydy, mae hi'n ddigon gwir, wrth gwrs,
na wnest ti fyth wedyn golli dagrau wrth un gwely cystudd
nac wylo un defnyn ar lan bedd neb
o gywilydd at dy actio "ham,"
a gormodiaith dy felodrama di dy hun, y tro hwnnw.
Onid amgenach crefft gweflau crynedig
a gewynnau tynion yr ên a'r foch,
llygaid Stoig, a gwar wedi crymu,—
mor gyrhaeddgar eu heffaith ar dy dorf-theatr di?
"O, 'roedd e'n teimlo, druan ag e, 'roedd e'n teimlo,
'roedd digon hawdd gweld, ond mor ddewr, mor ddewr."
Arwr trasiedi ac nid melodrama mwy—uchafbwynt y grefft,
a thithau heb deimlo dim byd
ond mwynhau dy actio crand, a chanmoliaeth ddisgybledig
y dorf o glai meddal dan dy ddwylo crochenaidd.
Na, 'ddaeth dim awelig i gwafrio dail dy ganghennau di,
chwaethach corwynt i gracio dy foncyff
neu i'th godi o'th bridd wrth dy wraidd.
'Ddigwyddodd dim byd iti erioed
mwy nag iti glywed sŵn y gwynt sy'n chwythu
y tu hwnt i ddiogelwch y berth sydd amdanat.

'Roedd tir Y Llain ar y gors uchel
sydd ar y ffin rhwng Caron-is-Clawdd a Phadarn Odwyn
yn goleddu o'r Cae Top i lawr at Y Waun,
a thu hwnt i'r Cae Top 'roedd llannerch o goed duon—
pinwydd a 'larch' tal—i dorri'r gwynt oer,
gwynt y gogledd.
Ac yna'r mân gaeau petryal
fel bwrdd chwarae draffts, neu gwilt-rhacs,
ac am bob un o'r caeau, berth.

'Y nhad a fu'n plannu'r perthi pella' o'r tŷ,—
perthi'r Cae Top a'r Cae Brwyn,—
a minnau'n grwt bach wrth ei sodlau
yn estyn iddo'r planhigion at ei law;
tair draenen wen a ffawydden,
tair draenen wen a ffawydden yn eu tro;
A'i draed e'n mesur rhyngddyn nhw ar hyd pen y clawdd.
a'u gwasgu nhw'n solet yn y chwâl bridd-a-chalch.
Yna'r weiro patrymus y tu maes iddyn nhw—
Y pyst-tynnu sgwâr o bren deri di-risgl
Wedi 'u sinco'n ddwfn i'r tir byw—
a minnau'n cael troi'r injan-weiro ar y post
tra fydde fe'n staplo,
a'r morthwyl yn canu'n fy nghlust dan y ffusto.
A minnau'n mentro ar y slei-bach
ddanfon telegram yn ôl tros y gwifrau tyn
i'r plant eraill y pen-draw i'r clawdd,
a nodyn y miwsig yn codi ei 'bitch'
wrth bob tro a rown i handlen yr hen injan-weiro.
'Nhatcu, meddai 'nhad, a blanasai'r Caeau Canol—
Cae Cwteri, Cae Polion, Cae Troi—
ond 'roedd cenedlaethau na wyddwn i ddim byd amdanyn' nhw,
ond ôl gwaith eu dwylo ar y Cae Lloi a'r Cae Moch,
wedi plannu'r coed talgryf boncyffiog rownd y tŷ.—
a gosod eirin-pêr yma a thraw yn y perthi.
'Roedd llun mewn llyfr hanes yn yr ysgol
o'r Sgwâr Prydeinig yn yr Aifft,
(neu Affganistan neu'r India, efallai,
man a arferai fod yn goch ar y map, 'ta beth.)
A rhes o gotiau coch ar eu boliau ar y llawr,
ail res y tu ôl iddi hi ar eu gliniau.
a'r drydedd res ar ei throed,
a'r cwbl yn saethu anwariaid melyngroen ar feirch yn carlamu
a gwneud iddyn' nhw dynnu'n ddi-ffael i'r chwith ac i'r dde yn eu rhuthr,
heb allu torri trwy rengoedd di-syfl y sgwâr mewn un man.
A dyna fu'r perthi i mi fyth ar ôl hynny,
rhengoedd o ddewrion yn cadw'r gwynt a'r corwyntoedd
rhag cipio cnewyllyn fy mod caer—fewnol fy Llain.
Ond nid anwariaid (er mor wyllt) ar feirch diadenydd
mo'r gwyntoedd, ond llengoedd o ysbrydion
yn codi, heb allu haltio yn eu rhyferthwy ysgubol,
yn grwn tros y perthi a thros frigau'r coed,
yn grwn tros Y Llain heb ysigo teilsen o'r to,

ac yna dri chae o dan y tŷ
yn disgyn trachefn i'r gors
i erlid y mwsog crin a gwlân y plu-gweunydd,
a'u plethu a'u clymu yn sownd yn y pibrwyn.
A dyna lle byddem ni'r plant
yn ddiogel mewn plet yn y clawdd tan y perthi
a'r crinddail yn gwrlid i'n cadw ni'n gynnes,
(fel plant bach y chwedl wedi i'r adar eu cuddio â dail.)
'D oedd yr awel oedd yn tricial trwy fonion y perthi
ddim yn ddigon i mhoelyd plu'r robin a'r dryw:
Ond uwch ben y perthi a'r coed, uwch ben y tŷ,
fry yn yr entrych, 'roedd y gwynt
yn twmlo'r cymylau, a'u goglais nes bo'u chwerthin gwyn
yn hysteria afreolus fel plant ar lawr cegin,
oni bydd gormod o'r chwarae'n troi'n chwithig yn sydyn
a gwynder y chwerthin yn cuchio, a duo,
a'r dagrau yn tasgu, a'r cymylau'n dianc
ar ras rhag y gwynt, rhag y goglais a'r twmlo,
yn dianc bendramwnwgl rhag pryfòc y gwynt—
y gwynt erlidus o'r tu allan i mi.
a minnau yn saff yn y plet yn y clawdd tan y dail
yn gwrando ei sŵn, y tu allan,
heb ddim byd yn digwydd y tu mewn i'r hyn wyf i
gan ofal a chrefft cenedlaethau fy nhadau
yn plannu eu perthi'n ddarbodus i'm cysgodi yn fy nydd,—
Dim—er imi fynnu a mynnu.

Ond chwarae teg 'nawr,
bydd di'n deg â thi dy hunan, a chyfadde
iti dreio dy orau i'th osod dy hun
yn nannedd y gwynt, fel y câi ef dy godi
a'th ysgwyd yn rhvdd o ddiogelwch dy rigol.
Fe ddringaist y ffawydden braffaf i'r brigyn.
ar dywydd teg yn yr haf
i redeg ras â'r gwiwerod trwy'r brigau ir, deiliog
gan fentro neidio ar eu holau o golfen i golfen;
a dringaist, y gaeaf, y boncyff noethlymun
i'r man 'roedd hi'n arswyd i'r llygad dy ddilyn
wrth ysgwyd ar y meinder fel brân ar y brigyn,
dy liniau a'th freichiau'n marchogaeth y pren
a'th lygaid ynghau gan yr ymchwydd syfrdan
fel babi yn cysgu'n ei grud gan y siglo.

Bydd di'n onest, 'nawr;
nid pawb sy'n mentro marchogaeth y gwynt,
y gwynt sy'n chwythu lle y mynno.

Mi est ti i lawr i Donypandy i'r Streic a'r Streic Fawr,
i'r carnifal jazz. a 'football' y streicwyr a'r plismyn,
at y ceginau cawl a'r coblera,
y ffeiriau sborion i Lazarus gornwydlyd,
gan helpu i ysgubo'r briwsion sbâr o'r bordydd i'r cŵn tan y byrddau,
gan arllwys cardodau fel rwbel ar y tipiau
neu hau basic-slag ar erddi 'allotment' o ludw
i dwyllo'r pridd hesb i ffrwythlonder sunthetig.
Yno roedd y perthi wedi syrthio a'r bylchau yn gegrwth
a'r strydoedd culion fel twndis i arllwys
y corwynt, yn chwythwm ar chwythwm,
i chwipio'r corneli a chodi pennau'r tai
a chwyrlio dynionach fel bagiau-'chips' gweigion
o bared i bost, o gwter i gwter;
y glaw-tyrfau a'r cenllysg yn tagu pob gratin
gan rwygo'r palmentydd a llifo drwy'r tai,
a lloncian fel rhoch angau'n y seleri diffenest;
a newyn fel brws-câns yn ysgubo trwy'r aelwydydd.
o'r ffrynt i'r bac a thros risiau'r ardd serth,
i lawr i'r lôn-gefn at lifogydd yr afon,—
y broc ar y dŵr du sy'n arllwys o'r cwm,
i'w gleisio a'i chwydu ar geulannau'r gwastadedd
yn sbwriel ar ddifancoll i bydru.
A dyna lle'r oeddit ti fel Caniwt ar y traeth,
neu fel Atlas mewn pwll glo
â'th ysgwydd tan y creigiau'n gwrthsefyll cwymp,
neu a'th freichiau ar led rhwng y dibyn a'r môr
yn gweiddi 'Hai! Hai!'
ar lwybr moch lloerig Gadara.
O do, fe heriaist ti ddannedd y corwynt
a dringo i flaen y pren a blygai i'w hanner
gan ysgytiadau'r tymhestloedd oni bu raid iti
suddo 'd'ewinedd i'r rhisgl a chau dy lygaid.
rhag meddwi dan ymchwydd dy hwylbren.
Cofia di,
'doedd dim raid iti, mwy na'r rhelyw o'th gymheiriaid,
ysgrechain dy berfedd i maes ar focs sebon

ar gorneli'r strydoedd a sgwarau'r dre:
peth i'w ddisgwyl mewn mwffler-a-chap oedd peth felly,
nid peth neis mewn coler-a-thei.
'Doedd dim taro arnat ti orymdeithio yn rhengoedd y di-waith,
dy ddraig-rampant yn hobnobio â'r morthwyl a'r cryman,
i fyny i Sgwâr y Petrys, i lawr Ynyscynon a thros y Brithweunydd,
heibio i'r Llethr-ddu at y Porth a'r Dinas
ac yn ôl tros Dylacelyn a thrwy Goed y Meibion
i gae'r Sgwâr, a'r gwagenni, a'r cyrn-siarad, a'r miloedd ceg-agored

Na!
'doedd dim raid iti
fentro'r Empire a'r Hippodrom tan eu sang ar nos Sul,
—di geiliog bach dandi ar domen ceiliogod ysbardunog
y Ffederasiwn a'r Exchange
ond mi fentraist,
a mentro ar lecsiynau i'r Cyngor tref a'r Sir
a'r Senedd maes-o-law
yn erbyn Goliath ar ddydd na ŵyr wyrth,—
y cawr sydd â phigion y swyddi yn enllyn ar dy fara
ond iti estyn dy dafell a begian yn daeog ddeheuig.
Wel na, a 'does arna' i ddim cywilydd cael arddel
bod yr ardd wrth y tŷ wedi'i phalu drwy'r blynyddoedd
a'i chwynnu yn ddygn nes bod y cefn ar gracio;
ond y pridd sydd yn drech na mi,—a'r confolfiwlws
fel y cancr yn ymgordeddu trwy'r ymysgaroedd
gan wasgu'r hoedl i'r gweryd, ewinfedd wrth ewinfedd ddiymod.
Po ddyfnaf y ceibiwn, cyflymaf y dirwynai'r
confolfiwlus nadreddog drwy'r chwâl,
gan ddringo pob postyn a llwyn tan fy nwylo
a thagu'r rhosynnau a'r ffa yn eu blodau
a dyrchafu eu clychau gwyn glân fel llumanau,
neu fel merched y gwefusau petalog
sy'n dinoethi eu dannedd i wenu'n wyn
heb fod chwerthin yn agos i'w llygaid, ond bustl yn y pyllau.
Fe fynnwn i gadw Cwm Rhondda i'r genedl
a'r genedl hithau yn ardd gan ffrwythlondeb.
"Pa sawl gwaith y mynaswn i gasglu dy gywion ond nis mynnit."
Ond roedd hi'n arial i'r galon gael clywed fforddolion tros glawdd yr ardd
yn fy nghyfarch—"Paid a'th ladd dy hunan, y gwirion;
rwyt ti'n gweithio'n rhy galed o fore hyd hwyr,

o wanwyn i hydre, a 'thâl pridd dy ardd iti ddim."
Yna wrth droi i'w rhodianna fe'u clywn:
"Mae ef fan yna'n ei ddau-ddwbwl, mor ffôl, mor ffôl."
A'r chwyn lladradaidd yn dwyn gwely ar ôl gwely
fel nad oedd dim ond un gwely glân heb ei ddifa,
fy aelwyd, fy mhriod a'r tair croten fach,—
yn Gymry Cymraeg ac yn falch fel tywysogesi.
Do, 'r wy'n adde imi dreio fy mwrw fy hun
i ddannedd y corwynt i'm codi ar ei adenydd.
a'm chwythu gyda'i hergwd lle mynnai
yn arwr i achub fy ngwlad.
Cans nid chwythu lle y mynno yn unig y mae'r dymestl,
ond chwythu a fynno o'i blaen lle y mynno:
"Pwy ar ei thymp ŵyr ei thw," meddwn innau.

O cau di dy geg â'th hunan-dosturi celwyddog
a'th hunan-fost seimllyd o ffals.
'Rwyt ti'n gwybod mai chwarae pen-ysgafn â gwiwerod
oedd llithro o golfen i golfen;
ac mai chwarae mwy rhyfygus oedd hofran yn y gwynt
fel barcut papur, a bod llinyn yn dy gydio di'n ddiogel wrth y llawr,
lle'r oedd torf yn crynhoi i ryfeddu at dy gampau
ar drapeze y panto a'th glownio'n y syrcas.
Nid marchogaeth y corwynt, ond hongian wrth fwng
un o geffylau bach y 'roundabout' oedd dy wrhydri,
ceffyl-pren plentyn mewn meithrinfa,
a sŵn y gwynt i ti'n ddim ond clindarddach miwsig recordiau peiriant sgrechlyd y ffair wagedd.
'Ddioddefaist ti ddim cymaint â chrafiad ar dy groen
wrth ganlyn gwiwerod y ceginau—y cawl a'r coblera,—
pan oedd dy gardodau di'n grawn yng nghlwy septig,
yn gornwydydd llidus, ar enaid trueiniaid y Means Test.
Y gorymdeithio banerog, yr huodledd a'r lecsiwna'n
ddim ond styntio dy awyrblan di wrth ddolennu dolennau
yn lle hedfan yn union i'th siwrne a'th hangar,
fel hedegwyr y pleidiau awdurdodedig.
"Petai e," medden' nhw, "yn hedfan yn syth at y nod, fel ni,
gan adael ei gwafars, fe âi e'n lled bell,—
fe ddôi swyddi ac anrhydedd a sedd yn y Senedd.
a chyfle i weithio yn gall tros Gymru
o'r tu mewn i'r unig Barti sy'n cyfri'.
"Ac fel mae e" meddai eraill, "fe gaean' ei geg e â swyddi maes o law,

a'i brynu e' fel y lleill â rhubanau."
'R oeddit tithau wrth dy fodd yn pryfocio'r corwyntoedd
gan ddanglo'n gellweirus i ddifyrru'r rabl geg-agored.
Dy rofio â rhaw-dywod a bwced glan-y-môr
yn yr ardd, gan sinachad y confolfiwlws
—cancr Seisnigrwydd sy'n cordeddu trwy Gymru—
'doedd hynny'n ddim byd ond siawns i glustfeinio am y clawdd
ar y fforddolion didaro mor fwyn yn dy alw di'n wirion;
ond 'chlywaist ti mo'u geiriau nhw wedi iddyn' nhw droi ymaith,
—mae'r Cymry'n rhy fonheddig i ddweud y gwir yn dy wyneb,—
"y ffŵl dwl, y lobyn, yr idiot" medden' nhw,
"mwy na all e' wneud fydd cadw un gwely yn lân
rhag y confolfiwlws,—fe dry ei aelwyd e'n Saesneg yn ei thro
fel ein haelwydydd ni i gyd pan ddaw'r plant i oed ysgol."
Ac felly y bydai hi, debyg iawn,
onibai ddyfod yr Ysgol Gymraeg i gynnal dy aelwyd yn dy le,
Mae rhuad y dymestl yn y pellter yn fiwsig
i'th glustiau pan fo'i sŵn hi yn chwythu.
Ond pwy ar ei thymp ŵyr ei thw, meddit ti.
Wel, nid ti, er dy fost a'th bitïo celwyddog a ffals . . . .
ond y mae yna un peth arall i'w ateb.

Oes, fe ddichon,
ond 'dwyt tithau a'th dafod papur-swnd,
rhasb dy feirniadu a ffeil dy anymddiried,
ond yn rhychio a sgraffinio sglein y polish ar gelfi gwirionedd.
"Atolwg, pa beth yw gwirionedd?"
O wynt y gwirionedd, tyrd yn dy rwysg a'th rym
i chwythu â'th ysbryd lle mynni
yw'r ateb i Beilat ac i tithau.
Mor debyg i stori atodiad
Ioan Efengylydd am Bedr
yn mynd i bysgota liw nos.
wedi blino ar addewid y Deyrnas na ddôi,
a'r Brenin tan gabl y tu allan i'r ddinas.
'Roedd pob troed tan ffenestr yr Oruwch-ystafell
yn dramp milwyr Rhufain, neu sŵn slei-bach
ysbiwyr yr Archoffeiriad, i'w gael yntau i'r ddalfa.
Er mor rhiniol y tair blynedd yn y cwmni rhyfeddol,
nes dyheu cael pabellu gyda'r Gweddnewid llachar;
eto mor anghyfrifol ym mlynyddoedd cyfrifoldeb, ac yn oedran gŵr
fai codi tŷ ar chimera awr iasber llencyndod.

Na, 'rwy'n mynd i bysgota, medd Pedr,
'nôl at y cychod a'r rhwydi, a'r môr anwadal-drofaus;
yno y mae sicrwydd diogelwch.
Fel llestri'r cwpwrdd-glas, rhy ddrudfawr i'w mentro.
ar ford y gegin bob dydd, yw'r cyffro adolesent, gan mor gain, mor gain.
A'r nos honno ni ddaliasant hwy ddim.
Dyna wyrth.
Bu trip, un ddunos, ar y môr heb y Cwmni'n y cwch
yn ddigon i'w dieithrio rhag ei nabod y bore ar y lan,
er gorfod troi adre yn waglaw fethiannus.
Beth tai'r rhwydi yn llawn a'r cwch tan ei sang gan eu pysgod!
Y nos honno
—er eu doniau cyfarwydd gyda chelfi eu crefft, ac arferion y môr—
ni ddaliasant hwy ddim, (O Wyrth!)
rhag llwyddo o Bedr i lithro yn slic
fel un o'i bysgod ef ei hun, o gledr y llaw a'i cynhaliai,
a throi i falchïo yng nghaniad y ceiliog.
Wrth wledda ar y wledd a baratoesid
a chyfanu'r Gymdeithas a'r cwmni,
Efe
a gymerth fara ac a'i rhoddes iddynt
yn sacrament,
a'r pysgod a ddaliasant yr un modd,—
pysgod eu profiad yn troi'n rhan o'r sagrafen
gyda'r bara a roddes Efe.
Yna'r holi
A wyt ti'n fy ngharu i'n fwy na'r rhai hyn,
yn twy na'th bysgod a'th rwydi,
yn fwy na haul-a-chawod cyfnewidiol mis Ebrill llencyndod?
Ai atynt hwy y mynnit ti droi yn awr dy sadrwydd; ac yn oedran gwr,—
at y diogelwch cyn y cyffro a'r ias,
cyn i sŵn y gwynt sy'n chwythu daro'n siarp ar dy glustiau?
Mae iti ddewis, Bedr, un dewis terfynol:
pan oeddit ti'n ieuanc fe'th wregysit dy hun
a rhodio y ffordd a fynesit;
ond pan elych di'n hen, arall a'th wregysa
ac a'th arwain y ffordd ni fynnit.
"Ond ymhle, a pha bryd y cyrhaedda' i ben siwrne ar dy gefn ffordd ddigysgod Di?"
"Ni pherthyn iti wybod na'r amseroedd na'r prydiau,
eithr canlyn di Fi."

A hyn a ddywedodd efe gan arwyddo
â pha fath angau y gogoneddai efe Dduw,
gan orchymyn i'r gwynt sydd yn chwythu
ei chwythu o'i flaen lle y mynnai.
Fe fuost tithau'n crefu a gweddïo
am brofiad fel un Pedr i'th godi ar flaen y gwynt,
iddo gael dy chwythu di eilchwyl i'r fedyddfaen
fel y dileid y dŵr bedydd ar dy dalcen
a'r enw Dyn a roid arnat,
ac y trochíd di yno ym medydd yr Ysbryd,
a rhoi enw sant yn dy galon.
A 'dyw waeth iti gyhoeddi hynny i'r bobol na pheidio!

Y Duw hwyrfrydig i lid a faddeuo fy rhyfyg
Yn pulpuda, yn canu emynau a gweddïo arno Ef,
a wisgodd amdano awel y dydd,
i ddyfod i oglais fy ais i'm dihuno o'm hepian.
Gofynnais am i'r gwynt a fu'n ymorol â'r sgerbydau
anadlu yn f'esgyrn sychion innau anadl y bywyd.
Eiriolais ar i'r dymestl nithio â'i chorwynt
garthion f'anialwch, a mwydo â'i glawogydd
grastir fy nhir-diffaith oni flodeuai fel gardd.
Apeliais à thaerineb heb ystyried—
heb ystyried (O arswyd) y gallai E 'nghymryd i ar fy ngair.
y gallai E 'nghymryd i ar fy ngair ac ateb fy ngweddi,
Ac ateb fy ngweddi.
Wrandawr gweddïau, bydd drugarog,
a throi clust fyddar rhag clywed f'ymbilio ffals,
rhag gorfod creu sant o'm priddyn anwadal.
Y Diymod heb gysgod cyfnewidiad un amser
na letha fi ag unplygrwydd ymroad,
ond gad imi fela ar grefyddolder y diletant,
o flodyn i flodyn yn D'ardd fel y bo'r tywydd.
Y Meddyg Gwell,
sy'n naddu â'th sgalpel rhwng yr asgwrn a'r mêr,
atal Dy law rhag y driniaeth a'm naddai
yn rhydd oddi wrth fy nghymheiriaid a'm cymdogaeth,
yn gwbl ar wahân i'm tylwyth a'm teulu.
Bererin yr anialwch,
na osod fy nghamre ar lwybr disberod y merthyr
ac unigrwydd pererindod yr enaid.

O Dad Trugareddau, bydd drugarog,
gad imi gwmni 'nghyfoedion, ac ymddiried fy nghydnabod,
a'r cadernid sydd imi yn fy mhriod a'r plant.
Y Cynefir â dolur, na'm doluria
drwy noethi'r enaid meddal, a'i adael wedi'i flingo.
o'r gragen amddiffynnol a fu'n setlo am hanner-can-mlynedd
yn haenan o ddiogi tros fenter yr ysbryd
na chai tywodyn anghysuro ar fywyn fy ego.
'Rwy'n rhy hen a rhy fusgrell a rhy ddedwydd fy myd,
rhy esmwyth, rhy hunan-ddigonol,
i'm hysgwyd i'r anwybod yn nannedd dy gorwynt.
Gad imi lechu yng nghysgod fy mherthi, a'r pletiau'n fy nghlawdd.
Frenin brenhinoedd, a'r llengoedd angylion wrth Dy wŷs yn ehedeg,
a gwirfoddolion yn balchio'n Dy lifrai—Dy goron ddrain a'th bum archoll—
paid â'm presio a'm consgriptio i'r lluoedd sy gennyt
ar y Môr Gwydr ac yn y Tir Pell.
Yr Iawn sydd yn prynu rhyddhad,
gad fi ym mharlwr y cocktails i'w hysgwyd a'u rhannu
gyda mân arferion fy ngwarineb
a'r moesau sy mewn ffasiwn gan fy mhobol.
Na fagl fi'n fy ngweddïau fel Amlyn yn ei lw,
na ladd fi wrth yr allor y cablwn wrth ei chyrn,—
ond gad imi, atolwg, er pob archoll a fai erchyll,
gael colli bod yn sant.
"Quo vadis, quo vadis," i ble rwyt ti'n mynd?
Paid â'm herlid i Rufain, i groes, â 'mhen tua'r llawr.
O Geidwad y colledig,
achub fi, achub fi, achub fi
rhag Dy fedydd sy'n golchi mor lân yr Hen Ddyn;
Cadw fi, cadw fi, cadw fi
rhag merthyrdod anorfod Dy etholedig Di.
Achub a chadw fi
rhag y gwynt sy'n chwythu lle y mynno.
Boed felly, Amen,
ac Amen.