Saith o Farwnadau/Mrs Grace Price, Watford

Y Parch William Davies, Castellnedd Saith o Farwnadau

gan William Williams, Pantycelyn


golygwyd gan David Morris, Capel Hendre

MRS. GRACE PRICE,
WATFORD, SIR FORGANWG,

Yr hon a fu farw Tachwedd 16, 1780, yn 37 mlwydd oed, wedi bod
yn briod â Chadben Price am ddeuddeg mlynedd.

WEDI addunedu ganwaith
Addunedau cedyrn cry';
Na alarwn 'rol neb dynion
Sydd o fewn y nefoedd fry;
Ond y newydd o Forganwg,
'Nynodd ynof alar-gân,
Cariad losgodd fy adduned,
Ac a'i gwnaeth yn ulw mân.

Ni feddyliais i fod cariad
Y fath gadwyn gadarn gre',
Ag a rwymai ddyfnder daear
Yn un clwm wrth uwchder ne',
Nes i angau ddod i Watford,
A dwyn perl oddiyno ma's,
Y ffyddlona' un i'r eglwys
Eto droediodd daear las.

Watford, Watford, trwm yw'th flinder
A disymwth daeth dy lo's,
Trow'd dy haf yn ddyfnder gauaf,
Trow'd dy foreu'n dywyll nos;
Newydd athrist lanwodd glustiau,
Tanu wnaeth fel môr ar led,
Trwy bob cangen faith o Gymru
Ag sy'n Iesu'n berchen cred.

Mae'r pregethwyr o bob doniau,
O bob graddau yn gytun,
Wedi tanu maes y chwedel,
Ladd o angau nefol ddyn;
Hi adawodd 'r oll a welir
Mewn tangnefedd pur a hedd,

Ac yn nghapel oer Caerffili
Rhow'd hi orwedd yn y bedd.

Hi orch'mynodd PRICE ei phriod,
Priod ffyddlon iddi erio'd,
I gadwraeth ac i ofal
Hollalluog ffyddlon Fod;
Ac hi aeth i g'ol y Priod,
Am ei bywyd roddodd iawn,
Ac a'i cliriodd o'i holl ddyled
Ar Galfaria un prydnawn.

'Roedd hi'n barod, 'roedd hi'n credu,
Wrth holiadau dwys eu sail,
Chwilio credu, chwilio eilwaith,
Chwilio'n gynta', credu'n ail;
Ond pan aeth i lan yr afon,
Gweled dyfnder maith y dwr,
Daliodd afael gref heb ollwng,
Mewn iachusol ddwyfol Wr.

Ac nis collodd megis HARFEY
Arno fyth o'i gafael gref,
Ond hi dreiddiodd i'r lan arall
Wrth ei ystlys gadarn ef;
Yn ei llaw yn ngrym y dyfroedd,
'Roedd 'spienddrych gloyw clir,
Trwyddo 'roedd hi'n gwel'd yn oleu
Wąstad maith y bywyd dir.

Ac wrth wel'd y wlad mewn golwg,
Hi ddechreuodd ar ei chân,
Angau'n bygwth, hithau'n swnio
'R anthem bur o hyd yn mla'n;
Oriau chwech cyn cael yr ergyd
Canu wnaeth fel hyn i ma's,
Pawb oddeutu'r gwely'n synu,
A rhyfeddu dwyfol ras.

"O Iachawdwr pechaduriaid,
Sydd â'r gallu yn dy law,
"Hwylia'm henaid," ebe hi, "'n fuan,
Tros y cefnfor garw draw:

Gad i'r wawr fod o fy wyneb,
Rho fy enaid llesg yn rhydd,
Nes i'r haulwen ddysglaer godi
Tywys fi wrth y seren ddydd."

Oddi rhwng ei ffryns yn wylo,
Aeth ei henaid pur i'r lan,
Ac angylion yn ei dderbyn,
Dan eu haden yn y fan;
Yno ei ddwyn trwy faith fyddinoedd
O gythreuliaid o bob rhyw,
A'i anrhegu'n bwrcas Iesu,
'N bur o flaen gorseddfainc Duw.

Dwy ar bymtheg mlwydd ar hugain
Ca'dd hi fyw yn myd y groes,
Wyth o hyny bu hi'n ffyddlon
I ddyoddef dwyfol loes;
Ac fel un o goed Paradwys,
Trwy'r holl ddyddiau yma cawn,
Bob rhinweddau ffrwythau bywyd,
Arni'n pyngo'n beraidd iawn.

Mae fy meddwl 'nawr yn crwydro,
Weithiau i'r dwyrain, neu i'r de;
'Mofyn WHITFIELD fry yn Llundain,
WHITFIELD yntau yn y ne';
'Mofyn GRACE PRICE draw yn Watford,
Cyfaill mwyn heb friw na phoen,
Gyda miliwn wrth yr orsedd
Wen yn moli'r addfwyn Oen.

Mi freuddwydiais mod yn rhodio
Neuadd Watford un prydnawn,
(Fe wna breuddwyd India a Lloegr,
Mon a Mynwy yn agos iawn;)
Ac im' gwrdd ag angau'n siglo,
Ac yn chwareu ei rymus gledd,
Wedi gyru'r wraig anwyla'
Lawr oddiyno i waelod bedd.

Mi ofynais pa'm trywanodd
Un yn anwyl oedd o hyd,

Gan ei phriod, gan ei theulu,
Gan yr eglwys, gan y byd?
Fod e'n greulon didrugaredd,
Fyn'd i'r baradwysaidd ardd,
Eglwys Iesu, tori oddiyno,
Un o'r blodau mwya' hardd.

Lle 'roedd mil, a mil drachefn,
O rai diffrwyth yn y byd,
Deillion, cloffion, gwywedigion,
Oedd yn chwyddo'r trethi o hyd;
Meddwon, lleiddiaid, afreolus,
Neu orthrymwyr, melldith ryw:
Gado rhei'ny wnaethost, angau,
Lladd y fenyw oreu'n fyw.

Fe'm hatebodd, minau'n crynu,
Arfaeth barodd hyn yn awr,
Nid wy'n sangu 'stafell wely
Ond wrth arch y nefoedd fawr;
Weithiau perir i mi dynu
Maes ar frys fy nghleddyf llym,
Taro'r plentyn heb drugaredd,
Hed ei ysbryd fry yn chwim.

Ond caiff cant a deg o flwyddau
Fyn'd tros goryn ambell un,
Er yn groes i bob dysgwyliad,
Cyn rhoi nghleddyf ynddo 'nglyn:
Ac fe berir im' rai prydiau,
Er y galar, er y cri,
Daro'r llencyn un ar hugain,
Ag fo'n dyfod idd ei fri.

Ar ol trefn nef gosodwyd,
Nid yn fyrach, nid yn hwy,
I ddyn fyw, ac i ddyn farw,
I gael iechyd, a chael clwy';
Nis gall physigwriaeth ddynol,
Nis gall meddyg îs y nen,
Estyn awr ar fywyd brenin,
Pan ddel arfaeth nef i ben.


Pan llefarodd angau felly,
Mi ddihunais o fy hun,
Ac mi welais mai nid addas
Pwyso dim ar fywyd dyn;
Myn y nefoedd fawr ei hamcan,
Fe ddwg Duw ei waith i ben,
Pe bai'r diluw 'n soddi'r ddaear,
Pe bai tân yn llosgi'r nen.

'Rwyf yn teimlo mai oferedd
Yw'r meddyliau sy'n y byd;
Adeiladu, harddu teiau,
Casglu cyfoeth mawr yn nghyd;
Caru gwraig a glynu wrthi,
Ymddifyru yn nhegwch gwedd,
Hono'n dianc mewn mynudyn,
Arna'i i lawr i waelod bedd.

Ond er hyny y mae hiraeth
Yn yr eglwys fawr yn nglŷn,
Ond yn benaf fel mae'n addas,
Yn 'mysgaroedd PRICE ei hun;
Colli gwraig wnaeth ef, a chymar,
Ffyddlon iddo pob peth trwy:
Ninnau goll'som fam yn Israel,
Mamaeth, heb ei bath hi mwy.

Ac am hyn rho'f ffordd i'm doniau,
Cariad sy'n fy ngyru 'mla'n,
Fel bwy'n canu mwy 'rwy'n wylo,
Fel bwy'n wylo mwy yw'r tân;
Trech yw'r cariad nag y diffodd,
Nid oes fflam i gael mor gref,
A chredadyn ar y ddaear
At ei gyfaill yn y nef.

Canu 'rwyf i'r wraig lareiddiaf,
Garedicaf un erio'd,
Ag a welodd bro Morganwg,
Er ca'dd bro Morganwg fod;
Y mae hiraeth trwy fy nghalon,
Prin 'rwy'n credu mai gwir yw,

Iddi fyn'd o Watford allan,
Bod hi yn Watford eto'n fyw.
Mi ddych'mygaf bod hi'r awr hon,
'R hyd y gerddi wrth fy nglun,
Megis JONES, yn dangos llysiau,
A dweyd enwau pob yr un;
Ysbrydoli pob blodeuyn,
Wrth ei liw ac wrth ei flas,
Nes gwneyd gardd heb wybod i mi,
Yn blanhigion dwyfol ras.

Dyma'r pinc, a thraw'r carnasiwn,
Dyma'r tulip hardd ei liw,
On'd yw rhai'n (fy mrawd) yn debyg
I rasusau nefoedd Duw?
Dacw'r lili beraroglaidd,
On'd ᎩᎳ hona megys gras:
Sydd yn perarogli'r ardal
Ddedwydd hono tyr ef ma's?

Mi debyga'i bod hi'n darllen,
A chrynhoi fy llyfrau 'nghyd,
Ac yn nodi'r hymnau hyny
Ag oedd fwya'n myn'd a'i bryd;
Neu ynte'n dangos hen bregethau,
A'r dalenau hyny ca's,
Wrth eu darllen, oleu'r nefoedd,
A rhyw ddwyfol nefol flas.

Mi debygaf, o flaen canoedd,
Mod i'n mhwlpud mawr y Gro's,
Yn pregethu, gyda'r awel,
Heb arwyddo dim o'r nos;
GRACE yn eistedd ar fy neheu,
Ac yn drachtio dyfroedd byw,
Ag o'wn i yn tywallt allan,
Wedi eu cael dan orsedd Duw.

Mi debygaf bod hi'n dangos
Addurn amryw liw a llun,
Cauadlen weithiodd hi yn wyryf
A'i nodwyddau bach ei hun;

Gwely i'r pregethwyr orwedd,
'Nol eu chwys a'u taith o bell:
Dychymyg yw, nid yw hi yma,
Mae mewn cwmni lawer gwell.

Mae'n rhaid credu iddi farw,
Ond mae f' ysbryd gwan yn un,
Gyda PRICE yn cyd-alaru,
PRICE ymddifad wrtho ei hun;
'Dyw hi ddim o fewn y gegin,
Nid oes heddyw swn ei thra'd,
Yn yr hâl nac yn y parlwr,
Mae o fewn y nefol wlad.

Gyda Cenic, Watts, a Harvey,
Whitfield, Luther fawr ei fri,
Jerom, Cranmer, Hus, a Philpot,
A merthyron nefol lu;
Myrdd o wragedd ddiangasant,
Trwy ddyfnderoedd dw'r a thân,
Oll o flaen y fainc yn canu
'R baradwysaidd nefol gân.

Mae pob dyn yn mhalas Watford.
'Nawr yn rhoi och'neidiau trwm,
Mae calonau pawb o'r teulu
Fel yr eira, fel y plwm:
Mae'r adeilad hardd fu ynddo,
Pob creadur yn gytun,
Yn cyd-riddfan ac och'neidio,
Hyd nod parot bach ei hun.

Yn y capel, tan yr allor,
Mae ei chorph mewn melus hûn,
Yno'n llonydd, 'dyw hi'n clywed,
"Teimlo, nac yn gweled dyn;
'Does na chylch, na thwrf, na therfysg,
Rhyfel, gwaedd, na daear-gryn,
Dim ond udgorn yr arch-angel,
All ei dodi ar ddihun.


Hi ddaw fynu gyda'r werin
Ddysglaer, berffaith, ddwyfol wiw,
Pwrcas gwerthfawr pen Calfaria,
Priodas-ferch lân fy Nuw;
Lawr o'r nef esgyna ei henaid,
Obry i waelod dwfn fedd,
Yna yn un mewn mawr lawenydd,
Ant i'r briodasol wledd.

A phe c'nygid iddi heddyw,
Fynydd eang yn Peru,
Am roi tro i neuadd Watford,
At ei hanwyl eto i fyw;
Pan o ffynon bywyd unwaith,
Yn y nefoedd yfodd GRACE,
Nis gall dim a welodd llygad,
Ar y ddae'r roi iddi flas.

Nid rhyw angladd oedd yn Watford,
Pan aeth gwraig rinweddol wiw,
I Gaerffili i gael ei chladdu,
Ar ol golwg dynolryw;
Ond priodas oedd ei hangladd,
Gwely priodas oedd ei bedd,
Er na welai pawb o honynt,
'Roedd angylion yn y wledd.

'Roedd seraphiaid yno'n gweini
Pan y rhow'd ei chorph i lawr,
A'r Messia ei hun yn gwenu,
Ar yr orsedd eang fawr;
Cherubim yn canu hymnau,
Tramwy mawr o'r ddae'r i'r nef,
A gorfoledd gan gerubiaid,
Ddianc bant o'r byd i dref.

Hi ymborthodd ar y manna,
O fan i fan yn hyfryd iawn:
Yma'r boreu o'r ffynon loyw,
O'r winwydden draw brydnawn;

Yn Llangan o dan y pwlpud,
'Roedd ei hysbryd, 'roedd ei thref,
Tra fai Dafydd yno'n chwareu
'N beraidd ar delynau'r nef.

Iesu'r testun, Iesu'r bregeth,
Iesu'r ddeddf, a Iesu'r ffydd,
Meddai JONES, a hithau'n ateb,
Felly mae, ac felly bydd!
Ac mae heddyw'n profi'r geiriau,
Ac yn dweyd, gwirionedd yw;
Nid oes dim dâl son am dano,
Ond Iachawdwr dynolryw.

O NATHANIEL, ffrynd y nefoedd,
Ffrynd yr eglwys fawr bob un,
Tithau gollaist, er dy alar,
O'th gariadau'r penaf ddyn;
Yfodd d' eiriau gyda phleser,
Bwyt'odd hwynt fel manna pur,
Ac a brofodd yn ei bywyd,
Bod dy athrawiaethau'n wir.

PRICE yr ynad, ti ge'st golled,
Rwymodd asthma ar dy 'stol,
Aeth dy ferch i ganol nefoedd,
Fe'th adawyd dithau 'nol;
Aros ronyn, trwy amynedd,
Yn y dyrys anial dir,
Ti gai gyda gwraig y cadben,
Ganu anthem cyn bo hir.

Mi wna 'ngoreu ar fod ei henw
'N swnio'n beraidd iawn i ma's,
Lawn mor belled ag mae Cymro,
'N berchen dwyfol nefol ras;
Fe gaiff Mon, a Fflint, ac Arfon,
Penfro, wybod mai gwir yw,
I Forganwg glodfawr esgor
Ar gredadyn uwcha' ei ryw.


WILLIAM WILLIAMS wnaeth y gwersi,
'R oedd yn ei charu'n fawr,
Ddechreu'r nos mewn fflam o hiraeth
Rho'dd ei bin 'sgrifenu lawr;
Ni orphwysodd ef ond rhedeg
Yn ddiaros yn y bla'n,
Nes oedd tri o'r gloch y boreu
Yn gwneyd terfyn ar y gan.






ABERTAWY: ARGRAFFWYD GAN ROSSER & WILLIAMS, HEOL FAWR.

Nodiadau golygu