Saith o Farwnadau/Y Parch H Davies, Penfro

Y Parch Lewis Lewis Saith o Farwnadau

gan William Williams, Pantycelyn


golygwyd gan David Morris, Capel Hendre
Y Parch William Davies, Castellnedd

Y PARCH. HOWEL DAVIES,
SIR BENFRO,

Yr hwn a fu farw Ionawr 13, 1770, yn dair ar ddeg a deugain oed.

PEGY, Pegy, paid ag wylo,
Am dy dirion addfwyn dad,
Dianc wnaeth ef o'r anialwch
Idd ei hen artrefol wlad;
Fe aeth drwy'r Iorddonen ddofn,
Ac mae heddyw'n frenin mawr,
Fath erioed na welodd llygad
Ei gyffelyb ar y llawr.


Ca'dd 'tifeddiaeth, ca'dd drysorau,
Ac fe gafodd enw mwy
Nag a fedd breninoedd isod,
Sy'n rheoli'r ddaear drwy;
Nid y llian gwyn na'r sidan,
Nid yr aur na'r perlau drud,
Ydyw'r gwisgoedd sy am ei enaid
Heddyw yn y nefol fyd.

Mewn gogoniant mae yn rhodio,
Ar balmentydd pur y nef,
Megis haul yn ei ecliptic,
Myrdd o angylion gydag ef;
Trwy 'spienddrych ffydd oleudeg
'Rwy'n ei wel'd yn eglur iawn,
Yn y wlad 'does haul na lleuad,
Nac un boreu na phrydnawn.

Collaist dad oedd well na thrysor,
Collaist dad ffyddlona'n fyw,
Nid tydi ga'dd golled fwyaf,
Mwy a gafodd meibion Duw;
'Rwyf yn clywed saith o filoedd
Yn och'neidio tua'r nen,
Ac yn dweyd, Beth ddaw o'r gorlan
Wasgaredig, sy heb ben?

Yn y Parke y mae'n bugail
Gledd yn nghledd ag angau glas,
Ac mae'r frwydr yn arwyddo
Bydd i angau gario'r ma's;
Gwraidd ei lygaid siriol sychodd,
Maent hwy'n syllu tua'r lan,
Fel pe baent yn edrych drosodd,
Ffordd â'r enaid yn y man.

Y mae'r tafod fu'n pregethu
Iachawdwriaeth werthfawr ddrud,
'Nawr yn dew, yn floesg, yn sychu,
Ac fel yn ymgasglu'n nghyd;
Fflem a lanwodd y pibellau
Oedd yn dwyn y gwynt i'r lan,

Ac mae natur hithau'n methu
Clirio lle i'r anal gwan.

Fe ddiangodd bywyd eisioes,
Bant o'i draed a'i freichiau'n nghyd,
Ac o fewn cilfachau'r galon
Mae yn llechu 'n awr i gyd;
Mae yn curo ar y castell
Ag ergydion diwyd llawn,
Ac fe faeddodd ein pen-bugail
Ar ddydd Sadwrn y prydnawn.

Y mae'r olwg ar yr angladd
Wedi'm dodi'n drist fy ngwedd,
Haner Sir i'm tyb sy'n eisiau,
Pan mae DAVIES yn ei fedd;
Ni alla'i ddim dyoddef edrych
Arno'n myned dan y don,
Heb fod hiraeth cryf a chariad
Yn terfysgu dan fy mron.

Gwelwch gwmp'ni ar ol cwmp'ni,
Yn ugeiniau ar bob llaw,
Oll yn wylo dagrau heilltion,
Yn ei gwrddyd yma thraw;
Yr hearse yn cerdded yn y canol,
Dyna'r arwydd pena' erio'd,
Ag a welodd gwledydd Penfro,
Fod rhyw ddrygau mawr i ddod.

Pwy sydd yn y coffin pygddu,
Trwm yn nghanol y fath lu?
Medd trafaelwyr ar y gefnffordd,
Rhei'ny'n synu hefyd sy;
HOWEL DAVIES ffyddlon gywir,
Bugail pedair eglwys fawr,
Sydd yn myn'd i fonwent Prengast,
Heno i orwedd yno i lawr.

Dacw'r coffin rhwng y brodyr,
Yn ei gario idd ei gell,
Ac mae 'i swn yn ngwaelod daear
Megis swn taranau pell;

Y mae'r bobl oll yn wylo,
Ac fe ddaliodd ysbryd gwan
Feibion Lefi, fel nas gallent
Ddim llefaru yn y fan.

O na chwympai dawn Elias,
Yn gawodydd pur i lawr,
Ar ryw Eliseus gonestaf,
Sydd rhwng cyrn yr arad' fawr;
Fel na chaffo crwydriaid Israel
Golli hyfryd lwybrau gras,
Ond pob gwr o lwynau Jacob
Idd ei ledio mewn a ma's.

Tyr'd fy awen, hêd i fynu,
I'r palasau o ddwyfol waith,
Ac i'r ddinas lle mae cariad
Yn palmantu'r heolydd maith;
Gofyn i'r angelion penaf,
Sut oedd Salem fawr ei bri
Pan ddaeth mwyn g'wilyddgar DDAVIES
Gynta' i mewn i'w muriau hi.

Uzziel dysglaer a'm hatebodd,
'Roedd ei enw yma i lawr
Cyn rhoi sylfaen i'r mynyddoedd,
O fewn rhol yr arfaeth fawr;
Dau ryw seraph oedd ei wylwyr,
Clyw a Sirius, loyw sain,
A'i hanesion o'r dechreuad
Gaem ni glywed gan y rhai'n.

D'wedent i ni fel y teithiodd,
Pan oedd yn ei iechyd gynt,
Mynwy, Dinbych, a Chaernarfon,
Môn, Meirionydd, a Sir Fflint;
Fel cyhoeddodd yr efengyl,
Gydag ysbryd bywiog, rhydd,
O Lanandr'as i Dyddewi,
O Gaergybi i Gaerdydd.

D'wedent ini fel y chwysodd,
Fry yn Llundain boblog lawn,

Wrth bregethu gair y deyrnas,
Weithiau foreu, weithiau nawn;
Bryste, hithau, oer derfysglyd,
Glywodd swn ei 'fengyl gref;
Môr a thonau, Ilif a storom,
Gurodd ganwaith arno ef.

Clywsom fel y gwrthwynebodd
Ef heresiau diried ryw;
Mellt a tharan oedd ei eiriau,
I elynion 'fengyl Duw:
Cywir yn ei egwyddorion,
Syml, gonest yn ei ffydd;
Elusengar yn ei fywyd,
Llwyr ddefnyddiol yn ei ddydd.

Rhodd ei Arglwydd arno ddyoddef
Amryw gystudd, amryw boen,
Fel y cai yr unrhyw fedydd
Ag a gafodd 'r addfwyn Oen;
Rhaid ei buro â chystuddiau,
Rhaid oedd diffodd pob rhyw flas
Ag oedd ar y cyfan welodd
Dan yr wybr deneu las.

Penderfynodd nefoedd oleu
Naill ai dwyn neu guro ei fryd
O bob tegan, o bob gwrthddrych,
Welodd llygad yn y byd:
Do, fe'i siomwyd ef yn hollol,
Nid y ddaear oedd ei le;
'Roedd y fainc am gael ei weled
Yma er's dyddiau yn y ne'.

Dwy o'i wragedd, yn mhlith myrddiwn
Ddaeth at borth y ddinas bur,
Idd ei roesaw i'r heolydd
Hyacinth a grisial clir;
'Nawr chwiorydd ydynt iddo,
A "fy mrawd" y galwant ef;
Nid oes gwreica, nid oes gwra,
Ddim drwy holl balasau'r nef.


Tyr'd i mewn, medd perffaith seintiau,
'Rwyt yn awr yn addas wiw
Fod yn nghwmni pur seraphiaid,
Ac i weled wyneb Duw;
Mae dy delyn aur yn barod,
Ac mae gwylwyr caerau'r ne'
Wedi dweyd yn awr er's oriau
Dy fod yn dyfod tua'r lle.

Ac mae'r nablau yma'n chwareu,
'R harpsicord, a symphon lawn,
Dulcimer, a'r delyn fwyna',
Yn gynar neithiwyr y prydnawn;
Pawb sy'n gorfoleddu'n gyson,
Angel, seraph, hefyd saint,
Weled glân etifedd bywyd
Heddyw'n gwisgo 'i freiniol fraint.

Hyfryd y llefarodd Uzziel!
Eto hiraeth oedd yn nglŷn,
Mi ruddfanais, ac a dd'wedais,
Heddyw collais werthfawr ddyn;
Un o gedyrn Israel gwympodd,
Un cadarnaf oll o'r rhif
A'm gadawodd yn y tonau
I ymdrechu a'r garw lif.

Edrych ydwyf ar y rhwydau
Daenwyd yma, daenwyd draw,
Maglau dyrys ar bob cefnffordd,
Ar bob llwybr, ar bob llaw;
Pob rhyw lwyn, a pherth, a d'rysni,
Pob rhyw ogof sydd yn llawn
O fwystfilod hyll yr olwg,
Rheibus, a gwenwynig iawn.

Ac anaml yw'r bugeiliaid
Sydd yn rhoddi rhybudd brau,
Pan fo'r arth, y llew, a'r llwynog,
At y defaid yn nesâu;
Pan fo erchyll gyfeiliornad,
Tanbaid fel ystorom wynt,

Gyda'u swn yn plygu 'u penau
'R deri cedyrn megys gynt.

F' enaid, taw, fe dry pob chwer'der
Yn felusder ar ryw ddydd;
Na thristâ, ond gorfoledda,
Wel'd carcharor caeth yn rhydd;
Enaid gafodd wres ac oerni,
A lewygodd ar ei daith,
Wedi lanio dros yr afon,
Mewn i dir y gwynfyd maith.

Nid yn ngerddi cryno'r Parke,
Dan och'neidio yma a thraw,
Mae'r offeiriad heddyw'n rhodio,
Ond yn ngardd Paradwys draw;
Nid y lemon, nid yr orange,
Pomgranad, na'r nectarine,
Ond pur ffrwythau pren y bywyd,
Mae'n ei ddodi wrth ei fin.

Nid y gwinwydd sy'n rhoi ffrwythau
I ddiodi cwmni'r nef,
Ond afonydd gloyw'r bywyd
Heddyw sy'n ei gwpan ef;
Mae yno amrywioldeb eang
O bob ffrwythau, heb ddim trai,
A phob dim sydd yn eu gwleddoedd
Sydd fyth fythoedd i barhau.

P'am galara'r Capel Newydd
Fod eu bugail yn y nef?
P'am bydd tristwch yn teyrnasu
Am ei fawr lawenydd ef?
Un sy'n llai i'r ddraig i'w demtio,
O'r rhifedi oedd o'r bla'n;
Fe aeth un i'r lan o'r dyfroedd
Dyfnion, yn ddiangol lân.

P'am gofidia Wystog addfwyn,
A'r holl Saeson gyda hwy?
Iesu ei hunan yw y meddyg,
Fe wna'r plaster faint y clwy';

Fe ddaw minteioedd o fugeiliaid,
Rhai o'r dwyrain, rhai o'r de',
Ac ni chaiff fod eisiau porfa
Fythoedd ar ei ddefaid E'.

Mi rof heibio'n awr alaru,
Gwelaf lwydd efengyl bur,
Cod o ludw Huss ryw Luther,
Concra Rufain cyn bo hir;
Fe gaiff DAVIES sy'n ei wisgoedd
Euraidd heddyw yn y nef,
Weled broydd penaf Penfro
Yn ymestyn ato ef.


Nodiadau golygu