Salm i Famon a Marwnad Grey/Marwnad Grey

Salm i Famon III Salm i Famon a Marwnad Grey

gan Thomas Grey


wedi'i gyfieithu gan John Morris-Jones
Geirfa

Marwnad a sgrifennwyd mewn
Mynwent Wledig

Cyfieithiad o gerdd Thomas Gray.[1]

CAN y ddyhuddgloch gnul i dranc y dydd,
Try'r araf yrr dan frefu dros y ddôl;
Yr arddwr adre'n blin ymlusgo sydd,
A'r byd i'r gwyll a minnau ad o'i ôl.

Diflannu'n awr mae gwedd lwydolau'r fro,
A dwys dawelwch drwy'r holl awyr sy,
Oddieithr am rŵn y chwilen chwyrn ei thro,
A'r tincian swrth a sua'r gorlan fry;

Oddieithr fod yn y tŵr eiddiorwg draw
Dylluan hurt i'r lloer yn udo'i chri
Am nebun tua'i lloches gêl a ddaw
I flino'i hen frenhiniaeth unig hi.

Draw dan y geirw lwyf a'r ywen ddu,
Lle tonna'r twyni braen mewn llawer man,
Pob un am byth o fewn ei gyfyng dŷ,
Ynghwsg y gorwedd disyml deidiau'r llan.

Awelog alwad peraroglau'r wawr,
Na dyar gwennol dan eu bargod hwy,
Na cheiliog croch, na chorn yn darstain gawr,
Nis deffry hwynt o'u hisel wely mwy.


Ni thywyn aelwyd iddynt mwy fwynhad,
Ni 'morol gwraig am hwyrol swyddi'r tŷ,
Ni red ei blant i brablu am ddychwel tad,
Neu ddringo'i lin am ran o'r cusan cu.

Mynych y plygai'r yd i'w gwanaf laes,
Y troes eu cwys y durol dir erioed;
Mor llon y gyrrent gynt eu gwedd i'r maes,
Mor swrth o dan eu hwrdd y crymai'r coed!

Uchelfryd na sarhaed eu buddiol waith,
Na'u mwyniant gwladaidd hwy, na'u dinod ffawd;
Na wened Mawredd yn ddirmygus chwaith
Pan glywo gofion byr a syml y Tlawd.

Holl ffrost herodraeth, rhwysg a gallu'r llawr,
Holl roddion golud a phrydferthwch gwedd,
Arhosant yr anocheladwy awr:
Nid arwain llwybrau Balchder ond i'r bedd.

Na fwriwch, Feilch, mai'r rhain ar fai a fu
Os Cof ni chyfyd arnynt feddfaen cain,
Mewn asgell hir a nenfwd rwyllog fry,
Lle chwydda mawl yr anthem gref ei sain.

All wrn lliwiedig neu fyw eilun fflwch
Adfer i'w thrigfa'r anadl wan a ffodd?
All llais Anrhydedd gyffro'r distaw lwch,
Neu Weniaith ryngu i'r clustrwm Angau fodd?


Yn y fan unig hon gall fod yn awr
Ryw galon gynt fu lawn o nefol dân,
Llaw allai lywio ymerodraeth fawr,
Neu ddeffro'r delyn i lesmeiriol gân.

Ond nid agorodd Dysg erioed i'r un
Mo'i dalen ferth o ysbail oesau fu;
Oer angen lethodd eu hardderchog wŷn,
A rhewodd dirion lif yr enaid cu.

Mae llawer gem o buraf belydr prid
Yn nhywyll ddwfn ogofau'r môr ynghêl;
Ac aml flodeuyn, na wêl neb ei wrid,
Ar anial wynt yn gwario'i anadl fel.

Gall fod rhyw ddinod Hampden glew ei fron
Wrthsafodd dreisiwr bach ei feysydd o,
Rhyw fud anenwog Filtwn, y fan hon,
Rhyw Gromwell a fu lân o waed ei fro.

Ond ennyn mawl seneddau astud brwd,
Di'styru bygythiadau gwae a gloes,
Tywallt helaethrwydd dros y tir yn ffrwd,
Darllen yn llygaid cenedl stori eu hoes,

Nis cawsant hwy. Eithr os bu brin eu rhad,
Cylch eu camweddau hefyd cyfyng yw;
Ni chawsant rydio lladdfa i orsedd gwlad,
Na bolltio pyrth tosturi ar ddynol ryw,


Na chelu'r gwir yn ing ei ymdrech ddrud,
Na diffodd gwrid cywilydd diwair dwys,
Na llwytho allor Moeth a Balchder byd
 safwyr dân o fflam yr Awen lwys.

Pell o amryson gwael y dyrfa ffôl,
Ni chrwydrodd eu deisyfiad sobr erioed;
Yn encil bywyd a'i gysgodol ddôl,
Cadwasant ar eu tawel hynt eu troed.

Eto fel na thremyger yma'u llwch,
Rhyw fregus goffadwriaeth a arhôdd;
A'i hodlau trwsgl a'i cherfwaith trwstan trwch
Erfyn ochenaid wrth fynd heibio'n rhodd.

Eu henw a'u hoed a ddyd anhyfedr Lên
Yma'n lle Clod a Marwnad yn goffâd;
A gwesgyr ogylch lawer testun hen
A ddysgo farw i ddifinydd gwlad.

Cans pwy 'n ysglyfaeth i fud angof prudd
Roes foddus ofnus fywyd heibio'n llwyr,
Adawodd gynnes ffiniau'r siriol ddydd.
Heb daflu'n ôl un drem hiraethus hwyr?

Ar ryw gu fron wrth fynd rhy'r enaid bwys,
A'r llygad fyn ryw ddafnau serch wrth gau;
Yn wir, rhy Natur lef o'r beddrod dwys,
A'r tanau gynt o'n lludw sy'n bywhau.


A thi, sy'n coffa'r distadl yn eu hun,
A thraethu'n hyn o gerdd eu hanes gynt,
Os Myfyr unig rywbryd a ddwg un
Cyffelyb it i holi am dy hynt,

Odid na ddywed rhyw hen wladwr brith,
"Mynych y'i gwelsom gyda'r gwawriad gwan
A chamau prysur yn gwasgaru'r gwlith
I gyfwrdd haul ar ben y rhostir ban.

"Dan y ffawydden bendrom acw sydd.
Yn gwau'i hen eres wraidd mor uchel draw
Yr ymestynnai'n ddiofal ganol dydd
I wylio'r ffrwd yn trydar ger ei law.

"Draw ger y coed, sy'n gwenu fel mewn gwawd,
Dan sibrwd ei wyllt dybiau yr ymdroes,
Yn awr yn llesg a gwan, fel truan tlawd,
Neu'n syn gan gur, neu seithug serch a'i groes.

Ryw ddydd mi a'i collais o'i gynefin fryn,
A cher y llwyn, a than ei ddewis bren;
Dydd arall ddaeth; ond ger y ffrwd, er hyn,
Nid oedd, na thua'r coed na'r fron uwchben

"Drannoeth, à galar gân a thristwch gwedd,
Gwelsom ei araf ddwyn drwy'r llwybr gerllaw.
Tyrd, darllen (ti a fedri) ar ei fedd
Y gerdd a gerfiwyd, dan y ddraenen draw."


Y BEDD ARGRAFF

Ar lin y ddaear y rhoes yma'i ben
Lanc oedd i Ffawd a Chlod yn ddieithr ddyn;
Ar eni hun ni wgodd Addysg wen,
A'r Pruddglwyf a'i meddiannodd iddo'i hun.

Mawr ei haelioni, pur ei enaid fu,
A'r Nefoedd fu cyn haeled wrtho ef:
A feddai oll, sef deigr, a roes i'r tru;
A fynnai oll, sef ffrind, a gadd o'r Nef.

Na chais ddatguddio mo'i rinweddau mwy,
Na thynnu o'u huthr aneddle feiau'i fyw,
(Lle mewn crynedig obaith y maent hwy
Yn gorffwys oll,) dan fron ei Dad a'i Dduw.



Nodiadau

golygu
  1. Elegy Written in a Country Churchyard—y gwreiddiol ar Wikisource
  Mae erthygl parthed:
Thomas Gray
ar Wicipedia