Salm i Famon a Marwnad Grey/Salm i Famon II
← Salm i Famon I | Salm i Famon a Marwnad Grey gan John Morris-Jones |
Salm i Famon III → |
II.
Ti'n uchaf a ddyrchafwyd—a'th gryfion
Alon a ddymchwelwyd;
A duw drud a hydr ydwyd—
Diau duw y duwiau wyd.
Asyriaid ac Eifftiaid gynt,
Yn ddilys y'th addolynt.
Merodach, duw mawr ydoedd,
Istar, hi, duwies dêr oedd;
Osiris, Isis, a Hor,
A rhyw ugain yn rhagor—
Nid yw'r un duw o'r rheini
Ond mal dim yn d'ymyl di.
Yr hen enwog frenhinoedd,
Diau dydi eu duw oedd.
Aml ryw deml i'r duwiau hyn,
Temlau, delwau adfeilynt;
Ac un waedd ddwys, ddwys, ddiseml,
Yrrid i'r duw o'i aur deml;
Sef oedd hon, "Moes feddiannau,—rho rwysg,
Rho oresgyn llwythau;
Dinasoedd, tiroedd, tyrau—
O Dduw, am lwydd i'w hamlhau!"
Ennill o hyd, ennill oedd
Hen anian y brenhinoedd;
Un duw, ac un dyhewyd,
Henwyr beilch—meddiannu'r byd.
I enwau duwiau dieithr
Ffrydia mawl hoff o'r deml, eithr
Nid yw hyn ddim ond enwi—
Tu ôl i'r teitl yr wyt ti.
Am ennyd awr, Famon, dos
Heibio i ael wemp Olympos;
Duwiesau sydd a Zeus hên
Yma'n llu mwyn a llawen:
Nosau a gwleddau, O'r glod!
Duwiau odiaeth eu duwdod.
Pa gred onest a estyn
Goreugwyr Groeg i'r rhai hyn?
Cred fod ced i'r rhai a'u câr,
Da dduwiau cnwd y ddaear;
Dal fod alaf o'u dilyn—
Heiniar y ddaear i ddyn,
A haul nef, a glaw hefyd,
A bwyd i bawb, a da byd.
Kroisos, y cu oreusant,
Fu'r mwyaf, blaenaf o'th blant;
Helaethaf ei alafoedd,
Cyfoethocaf, uchaf oedd.
Alexander goncwerwr,
Tydi gynt oedd tad y gŵr;
Mab Zeus, medd ef; addefwn;
Ti eisoes oedd y Zeus hwn.
Rhwyf daearfyd a'i wirfab—
Duw'r byd yn rhoi'i fyd i'w fab.
Pa dduw iôr pioedd arwain—ym mrwydrau
Ymerodrol Rhufain?
Ai Mawrth, anghenfil milain?
Ai Iau eu rhi? Neb o'r rhain.
Pwy ond ti ym mhob hynt oedd
I annog y byddinoedd?
Ysbryd y byd a'i bywhâi,
Ti i ennill a'u taniai,
A thi'n iôr yn llywio'r llu,
Drwy drachwant, draw i drechu.
Duw'r digonedd a'r meddiant
A bair, abl yw, wobr i'w blant.
Plotos pa elw yw iti
Dan d'enw dy hun d'enwi di ?
Deiliaid sydd yn adolwyn.
Dan bob rhith dy fendith fwyn-
Dy annerch dan enw Merchyr
Am fasnach elwach i wŷr,
Dan rith Ceres, dduwies dda,
A phryd denol Fortuna.
A geir o enwau gorwych
O gwrr y pantheon gwych,
Yr ucha'u gradd onaddunt,
Enwau teg arnat ti ŷnt.
Beth am dy uchel Elyn,
A'i hap Ef yn wyneb hyn?
Un genedl, yn ei gyni,
Feddai, ac-anufudd hi;
Anhydyn ac anwadal,
Addoli bu ddelwau Baal;
Troi'i hwyneb at y rheini,
A'i adaw Ef, ei Duw hi.
Yn gybyddion ddynionach.
Ymroi y bu mawr a bach;
Ei phlant gwâr yn gynnar gynt,
Dy ddelwau di addolynt.
Yn dyner Ef a'i denai,
Ymliw'n aml â hi a wnâi;
Taerion fu'i genhadon Ef
Arni droi'n hydrin adref.
Ond gwatwarwyd ei broffwydi, a'i deg.
Weinidogion ganthi;
Diystyrodd heb dosturi
Acen daer eu cenadwri;
Briwiodd, bwriodd hwy â beri
Brathog, ac ysgythrog gethri;
Ie'u diosg a'u llosgi—'n wen goelcerth
Fu'i cherth ddigrifwch hi.
Ond Ef, mad oedd.
Oediog ydoedd,
Di lid ei law,
Hir cyn taraw.
Dwys bwys ei bai
Oll ni allai,
Na'i gwŷn na'i gwâd,
Oeri'i gariad.
O'i ged wedi
Ei thost waith hi,
Hwn anfonodd
Ei Fab o'i fodd,
I'w throi i'w thref—
Wiwdda addef.
Ni bu'i hateb hi eto
Ond yr un a phob rhyw dro.
Os mathrwyd y proffwydi,
A'u dryllio hwnt drwy'i llaw hi,
Bu ran y mab yr un modd—
Caersalem a'i croeshoeliodd.
Yna'i diddig Iôr a ddigiwyd,
A llid Hwn yn deryll daniwyd
A'i lofr genedl au
Drwy'n byd o'r hen bau
I'w gyrrau wasgarwyd.
Ond ar led ein daear lydan
Od ai'r genedl draw o Ganaan,
Cafas ddïal mawr yr awran;
Rhoes ei hynni, rhoes ei hanian,
Yn llawn oll o hynny allan
It, a'i henaid hi ei hunan.
Yn dy demlau golau gwiwlan,
Wrth brif fyrddau'r aur a'r arian,
Y ceir hithau a'i hocr weithian,
O sêl y deml yn ysol dân.
Yn eu haddoliant santaidd
Llym iawn y traidd ei haidd hi:
Yma'n ei fyd Mamon fawr
A gad yn awr gyda ni.
O, fal y llifodd arni'th fendithion!
A'th dda y'i doniwyd uwch gobaith dynion;
A dirym wrhydri ymherodron
At amnaid ei dugiaid goludogion;
Yn eu rhodd hwy mae'r moddion—a'r darpar—
Llywir y ddaear â llaw'r Iddewon.
Atat, arglwydd arglwyddi,—anfonaf
Innau fy nhaer weddi;
Rho dy wên, dduw'r daioni,—
Tirionaf wyt, arnaf fi!