Stafell Gynddylan

Stauell Gyndylan ys tywyll heno,
Heb dan, heb wely.
Wylaf wers; tawaf wedy.


Stauell Gyndylan ys tywyll heno,
Heb dan, heb gannwyll.
Namyn Duw, pwy a’m dyry pwyll?


Stauell Gyndylan ys tywyll heno,
Heb dan, heb oleuat.
Etlit a’m daw amdanat.


Stauell Gyndylan ys tywyll y nenn,
Gwedy gwen gyweithyd.
Gwae ny wna da a’e dyuyd.


Stauell Gyndylan, neut athwyt heb wed,
Mae ym bed dy yscwyt.
Hyt tra uu, ny bu dollglwyt.


Stauell Gyndylan ys digarat heno,
Gwedy yr neb pieuat.
Wi a angheu, byr y’m gat?


Stauell Gyndylan, nyt esmwyth heno,
Ar benn carrec hytwyth,
Heb ner, heb niuer, heb amwyth.


Stauell Gyndylan, ys tywyll heno,
Heb dan, heb gerdeu.
Dygystud deurud dagreu.


Stauell Gyndylan ys tywyll heno,
Heb dan, heb deulu.
Hidyl vyn neigyr men yt gynnu.


Stauell Gyndylan a’m gwan y gwelet,
Heb doet, heb dan.
Marw vy glyw; buw mu hunan.


Stauell Gyndylan ys peithawc heno,
Gwedy ketwyr bodawc,
Eluan, Kyndylan, Kaeawc.


Stauell Gyndylan ys oergrei heno,
Gwedy yr parch a’m buei,
Heb wyr, heb wraged a’e katwei.


Stauell Gyndylan ys araf heno,
Gwedy colli y hynaf.
Y mawr drugarawc Duw, pa wnaf?


Stauell Gyndylan ys tywyll y nenn,
Gwedy dyua o Loegyrwys
Kyndylan ac Eluan Powys.


Stauell Gyndylan ys tywyll heno
O blant Kyndrwyn yn
Kynon a Gwiawn a Gwyn.


Stauell Gyndylan a’m erwan pob awr,
Gwedy mawr ymgyuyrdan
A weleis ar dy benntan.
Nodyn: Priodolir y gerdd hon i 'Heledd' yn y cylch o ganeuon 'Canu Llywarch Hen'.