Storïau o Hanes Cymru cyf I/Buddug

Caradog Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Dewi Sant

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Buddug (Boudica)
ar Wicipedia





BUDDUG

3.
Buddug
Brenhines Ddewr
.

1. Y mae gan y byd barch mawr i'r dewr, pwy bynnag a fyddo. Dyna pam y cofir geiriau Caradog o hyd.

2. Dyma stori eto am wraig ddewr o'r amser gynt, a gwraig yn arwain byddin hefyd.

3. Ni ddaeth Caradog yn ôl o Rufain. Yr oedd ofn ar bobl Rhufain ei roddi'n ôl i Gymru.

4. Ond aeth yr ymladd ymlaen yn y wlad hon wedi'r cwbl. Pe deuai pobl Rhufain i fyw yma, hwy a fyddai'r meistri, a'r Cymry'n weision. 5. Fel Caradog, ni fynnai'r Cymry blygu a bod yn gaeth i neb.

6. Yr oeddynt yn ddewr iawn, ond nid oedd hynny'n ddigon. Ni wyddent sut i ymladd gyda'i gilydd.

7. Yr oedd y Rhufeiniaid wedi dysgu hyn yn dda. Yr oeddynt yn ufudd i un oedd yn ben arnynt. Yr oedd eu harfau hefyd yn well nag arfau'r Cymry.

8. Yr amser hwnnw, pan na byddai pobl yn cyd-weld, neu pan fyddai un am gael tir y llall, aent i ymladd.

9. Hon oedd eu ffordd hwy o weld pwy oedd yn iawn. Y mae ffordd arall, ond y mae pobl wedi bod yn hir iawn cyn dysgu honno.

10. Daeth milwyr gorau Rhufain yma er mwyn ceisio ennill y dydd a mynd â'r wlad. Gwnaeth y Cymry eu gorau i'w cadw allan.

11. Ar ôl Caradog, gwraig oedd y capten dewraf a gafodd y Cymry. Buddug oedd ei henw. Yr oedd yn frenhines ar un rhan o'r wlad.

12. Yr oedd ei gŵr wedi marw, ac yr oedd ganddi ddwy ferch. Bu pobl Rhufain yn gas iawn tuag atynt.

13. "Dewch gyda mi, fy mhobl," ebe Buddug, "a gyrrwn hwy bob un allan o'n gwlad. Ein cartref ni yw Cymru."

14. Daeth y Cymry o bob rhan o'r wlad o dan ei baner hi. Ni welodd hyd yn oed bobl Rhufain neb erioed mor ddewr â Buddug.

15. Ond er dewred ydoedd, colli'r dydd a wnaeth. Yn lle byw i fod yn gaeth yn ei gwlad ei hun, cymerodd Buddug wenwyn, a bu farw.

16. Pe bai Buddug yn byw yn ein hoes ni, nid arwain pobl i ymladd a wnâi ond eu dysgu i wneud rhywbeth o werth yn y byd.

17. Ond yr oedd Buddug yn wraig ddewr. Yr oedd yn caru rhyddid ac yn caru ei gwlad.

18. Ar ôl ei marw hi bu pobl Rhufain yn ymladd â'r Cymry nes concro'r wlad o un pen i'r llall.

19. Yna daethant yma i fyw, a buont yma am bedwar can mlynedd.

20. Er iddynt ddwyn eu rhyddid, dysgasant lawer o bethau i'r Cymry. Y mae eu hôl o hyd ar y wlad hon.

Nodiadau

golygu