Storïau o Hanes Cymru cyf I/Charles o'r Bala

Griffith Jones Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Mari Jones

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Thomas Charles
ar Wicipedia





CHARLES O'R BALA

15.
Charles o'r Bala.
Ysgol Sul i Gymru.

1. Yn 1761 y bu farw Griffith Jones. Gadawodd lawer o arian ar ei ôl ar gyfer ei ysgolion, ond nid fel y trefnodd ef y gwnaed â'r arian, ac aeth yr ysgolion. i lawr o un i un.

2. Daeth dyn da arall i gario ymlaen waith Griffith Jones yn ei ffordd ei hun.

3. Yn ardal St.Clears, Sir Gaerfyrddin, heb fod ymhell o Landdowror, y ganed ef. Nid oedd ond prin chwe blwydd oed pan fu Griffith Jones farw.

4. Thomas Charles oedd ei enw. Yn y Bala y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Daeth yn ddigon enwog i gael yr enw "Charles o'r Bala."

5. Wedi bod yn yr ysgol yn Llanddowror, ac yn y coleg yn Rhydychen, penderfynodd Charles mai rhoddi addysg i'r bobl oedd ei waith mawr yntau i fod.

6. Nid ail-agor ysgolion Griffith Jones a wnaeth; yr oedd y rhai hynny wedi eu cau am byth. Sefydlodd ysgolion eraill tebyg iddynt.

7. Nid oedd digon o arian ganddo i gynnal yr ysgolion ei hun. Gorfu iddo fynd ar hyd y wlad i gasglu arian at y gwaith.

8. Yr oedd llawer o bobl fawr yn credu nad oedd eisiau rhoddi addysg i bobl gyffredin. Gwnaethant lawer i rwystro'r gwaith.

9. Gwelodd Charles yn fuan y gallai pobl o bob oed ddyfod at ei gilydd ar y Sul, pan na allent wneud hynny yn yr wythnos.

10. Felly sefydlodd yr Ysgol Sul.

11. Ar y cyntaf dysgid pobl a phlant i ddarllen ac ysgrifennu yn hon. Ar ôl hynny, dysgu darllen y Beibl a'i astudio oedd ei gwaith hi.

12. Rhodd fawr Charles o'r Bala i Gymru oedd yr Ysgol Sul. Yn fuan iawn yr oedd un gan bob capel ac eglwys trwy'r wlad.

13. Gydag amser daeth ysgolion eraill i wneud gwaith yr hen ysgolion bob dydd, ond y mae'r Ysgol Sul yn aros o hyd.

14. Y mae Ysgol Sul Cymru'n wahanol i Ysgol Sul Lloegr. Un i blant yn unig, ac i blant y tlodion yn bennaf, yw Ysgol Sul Lloegr.

15. Y mae pob oed a phob gradd yn mynd i Ysgol Sul Cymru. Y mae hon wedi gwneud mwy na dim arall i ddysgu gwerin ein gwlad ni.

16. Ysgrifennodd Charles o'r Bala lawer o lyfrau i helpu pobl i ddeall y Beibl. Darllenir hwynt heddiw.

17. Pan oedd Charles yn ddyn ieuanc, dywedodd un dyn mawr amdano, "Rhodd Duw i'r Gogledd yw Charles."

18. Felly y bu. Er ei eni a'i fagu yn Sir Gaerfyrddin, y Gogledd a gafodd fwyaf o'i wasanaeth. Ond y mae ei ôl ar Gymru gyfan.

19. Y mae'r Ysgol Sul yn fyw o hyd yn y De a'r Gogledd, ac yn gwneud gwaith da.

Nodiadau golygu