Storïau o Hanes Cymru cyf I/Dechrau Byw yng Nghymru
← Cynnwys | Storïau o Hanes Cymru cyf I gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Caradog → |
YR OEDD YN RHAID HELA O HYD
I.
Dechrau Byw yng
Nghymru.
Yn yr Ogof a'r Caban.
1. Amser pell iawn yn ôl, nid oedd y wlad hon fel y mae'n awr.
2. Nid oedd tŷ yma, nid oedd tref, nid oedd ŷd yn tyfu. Yr oedd pob lle a phob peth yn wyllt.
3. Yr oedd pobl y pryd hwnnw'n byw mewn ogofâu.
4. Helwyr oedd y bobl hyn, fel rheol, a cherrig oedd eu harfau. Byddent byw ar gig a ffrwythau gwyllt y coed.
5. Yr oedd yn rhaid hela o hyd, gan nad oedd y fuwch wedi ei dofi i roddi llaeth, ac ymenyn, a chaws, na'r ddafad i roddi cig a gwlân.
6. Pan ddeuai'r helwyr yn ôl, ceid gwledd o gig rhyw anifail.
7. Yna byddai'r dynion yn rhoi hanes yr helfa, a'r fam a'r plant yn sychu croen yr anifail o flaen y tân. Darn o'r croen hwn am eu canol oedd eu gwisg.
8. Sut y gwyddom ni am ffyrdd y bobl hyn o fyw? Yr ogof ei hun sy'n dywedyd yr hanes.
9. Mewn ambell ogof ceir o hyd gyllell garreg, blaen saeth, neu bicell, neu asgwrn anifail, neu asgwrn dyn.
10. Y mae rhai o'r ogofâu hynny i'w gweld heddiw ar draethau Gŵyr, Sir Forgannwg.
11. Daeth llawer math o bobl, of dro i dro, i'r wlad hon ar ôl pobl yr ogofâu.
12. Dysgasant drin y tir, a chodi ŷd; gwneud dillad o ddefnyddiau heblaw crwyn, a gwneud llwyau a dysglau pren.
13. Dysgodd rhai ohonynt bysgota â rhwyd ac â bach. Aent mewn cwch wedi ei wneud fel basged, a chrwyn drosto i gadw'r dŵr allan.
14. Corwgl yw enw'r cwch hwn. Un bach ysgafn iawn ydyw. Gwelir rhai tebyg iddo heddiw ar Afon Tywi ac ar Afon Teifi.
15. Yn fwy na dim, dysgasant wneud tai, nid tai fel ein tai ni, ond cabanau. Coed a chlai oedd y mur, a gwellt neu frwyn oedd y to.
16. Pan ddaeth pobl i ddysgu'r pethau hyn—dofi anifeiliaid, trin y tir, pysgota, a gwneud llestri—filoedd o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd bywyd Cymru fod yn fywyd gwahanol i fywyd pobl eraill.
17. Plant pobl yr ogof a phobl y caban ydyw'n cenedl ni heddiw—rhai'n bobl fach ddu, rhai'n bobl dal olau, rhai'n bobl dal ddu, a rhai'n bobl walltgoch.
18. Iaith y bobl hyn hefyd yw'n hiaith ni. Er hynny, nid oedd eu Cymraeg hwy yn debyg iawn i'n Cymraeg ni heddiw.
19. Nid oedd eisiau llawer o eiriau arnynt hwy, am na wyddent ond am ychydig o bethau. Byd bach oedd eu byd hwy.
20. Y mae'r iaith, fel y bobl, wedi datblygu o oes i oes. Ac y maent yn datblygu o hyd.