Storïau o Hanes Cymru cyf I/Gofyniadau
← Daniel Owen | Storïau o Hanes Cymru cyf I gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Geirfa → |
GOFYNIADAU AR Y GWERSI
I.
1. Pa hanes a geir o ambell ogof?
2. Enwch ddwy dref ar Afon Tywi, a dwy ar Afon Teifi.
2.
1. Pam y daeth y Rhufeiniaid i'r wlad hon?
2. Dangoswch sut yr oedd Caradog yn ddewr.
3.
Pam y concrwyd y Cymry gan y Rhufeiniaid ?
2. Pa les a wnaeth y Rhufeiniaid yn y wlad hon?
4.
1. Sut un yw Cymro iawn?
2. Beth a wnaeth y Saeson wedi dyfod yma?
5.
1. Pwy oedd Modred a Bedwyr?
2. Beth oedd Y Ford Gron?
6.
1. Sut y cafodd Hywel Dda addysg?
2. Pa le y mae Hen-Dŷ-Gwyn-ar-Dâf? Beth yw ei enw Saesneg?
7.
1. Pa bryd y daeth y Normaniaid i'r wlad hon?
2. Enwch ddeuddeg castell yng Nghymru.
8.
1. Pa waith da a wnaeth Yr Arglwydd Rhys?
2. Pam oedd eisiau gyrru'r Norman o Gymru?
9.
1. Beth a gollodd Cymru wrth golli Llywelyn?
2. Ym mha le y bu Llywelyn farw?
1O.
1. Am ba beth yr ymladdai Owen Glyn Dŵr?
2. Sut wlad oedd ef am i Gymru fod?
11
1. Sut ymladd a fu yng Nghymru ar ôl amser Owen Glyn Dŵr?
2. Am ba beth y crogwyd John Penry?
12
1. Pam y dywedir mai'r Beibl yw'r rhodd fwyaf a gafodd y Cymry erioed?
2. Beth a wyddoch am yr Esgob Morgan?
13.
1. Pwy oedd y Ficer Pritchard?
2. Beth oedd "Cannwyll y Cymry"?
14.
1. Sut rai oedd ysgolion Griffith Jones?
2. Pam y dywedir bod Griffith Jones wedi gwneud gwaith mawr?
15.
1. Beth a wnaeth Charles o'r Bala?
2. Beth yw gwerth yr Ysgol Sul?
16.
1. Sut y daeth Mari Jones i wybod y Beibl?
2. O ba le y cafodd hi arian i brynu un?
17.
1. Ysgrifennwch un o emynau Williams Pantycelyn.
2. Pam y peidiodd Williams â mynd yn ddoctor?
18.
1. Beth yw "gwaith cotwm," "peiriant nyddu," a "glofa"?
2. Beth a wnaeth Robert Owen?
19.
1. Pa ddau waith mawr a wnaeth Ieuan Gwynedd?
2. Sut y cafodd Ieuan Gwynedd addysg?
20.
1. Pa help a roes Hiraethog i'w gyd-genedl?
2. Beth oedd "Yr Amserau"?
21.
1. Beth oedd gwaith mawr Hugh Owen?
2. Pa le y mae Colegau Prifysgol Cymru?
22.
1. Pam y gelwir Henry Richard yn Apostol Heddwch?
2. Sut y mae ei waith yn dwyn ffrwyth?
23.
1. Beth oedd amcan bywyd Syr Owen M. Edwards?
2. Sut lyfr yw " Cymru'r Plant " ?
24.
1. Sut yr oedd Cranogwen yn ddewr?
2. Beth oedd amcan "Y Frythones"?
25.
1. Pam y mae'r Cymry'n hoff o waith Ceiriog?
2. Ysgrifennwch un pennill o'i waith.
26.
1. Enwch lyfrau Daniel Owen.
2. Rhoddwch dipyn o hanes bywyd Daniel Owen.