Storïau o Hanes Cymru cyf I/Hugh Owen
← Gwilym Hiraethog | Storïau o Hanes Cymru cyf I gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Henry Richard → |
HUGH OWEN
21.
Hugh Owen.
Prifysgol i Gymru.
1. Ar ôl i Griffith Jones a Charles o'r Bala farw, ni ddaeth neb arall i gario ymlaen yr ysgolion bob dydd" yng Nghymru.
2. Aeth yr ysgol Sul ymlaen yn iawn. Y mae hi'n aros hyd heddiw yn ein gwlad, ac wedi gwneud gwaith mawr.
3. Ond nid aeth yr ysgolion bob dydd" ymlaen yn hir. Yn fuan iawn nid oedd dim ond ambell ysgol yma a thraw ar hyd y wlad.
4. Er hynny, yr oedd rhai plant yn byw yng Nghymru'r amser hwnnw a fynnai ddysgu, ysgol neu beidio.
5. Daethant yn enwog ac yn ddysgedig wrth weithio'n galed.
6. Un o'r rhai hynny oedd Hugh Owen, mab i ffermwr tlawd yn Sir Fôn, a aned yn 1804.
7. Dysgodd ddigon i fod yn glerc yn Llundain. Ar ôl hynny, cafodd swydd bwysig arall yn y ddinas honno.
8. "Pam na ddeuai mwy o fechgyn Cymru i Lundain?" meddai wrtho'i hun. "Eisiau gwell addysg sydd arnynt."
9. Dyna a fu gwaith mawr Hugh Owen, trefnu gwell addysg ar gyfer plant Cymru.
10. Yr oedd ef yn gwybod yn well na'r un Cymro arall ar y pryd beth i'w wneud er mwyn cael ysgolion da i Gymru.
11. Yr oedd yn waith hir a chaled. Hugh Owen oedd yn arwain ac eraill yn ei helpu.
12. Ymhen amser, daeth cyfle am addysg i gyrraedd y plentyn tlotaf yn y wlad.
13. Er ei fod yn byw yn Llundain, ac yn dyfod ymlaen yn y byd, meddwl am les ei wlad a wnâi Hugh Owen o hyd.
14. Nid oedd ei waith ar ben eto. Wedi cael ysgolion, y cam nesaf oedd cael Prifysgol i Gymru.
15. Hugh Owen oedd y cyntaf i feddwl am hyn yr adeg yma. Galwodd nifer o bobl ynghyd i ystyried y peth.
16. Cyn hir prynwyd adeilad mawr ar lan y môr yn Aberystwyth i fod yn Goleg y Brifysgol.
17. Yr oedd yn rhaid cael llawer o arian i dalu am hwn. Aeth Hugh Owen i bob man trwy Gymru i gasglu'r arian.
18. Yr oedd pawb yn rhoi iddo,—un yn rhoi ceiniog, un arall swllt, un arall bunt. Yr oedd yn ddiolchgar am bob rhodd.
19. Nid iddo'i hun yr oedd yn eu casglu, ond er mwyn y plant a ddeuai ar ei ôl.
20. Am ei fod yn gweithio mor galed er mwyn eraill yr oedd pobl yn barod i'w helpu.
21. Yr oedd llawenydd mawr trwy Gymru pan agorwyd Coleg Aberystwyth yn 1873.
22. Erbyn hyn y mae tri choleg arall gan y Brifysgol yng Nghymru,—un ym Mangor, un yng Nghaerdydd, ac un yn Abertawe.
23. Y mae gan blant Cymru'n awr gystal cyfle am addysg â phlant unrhyw wlad.
24. Y mae llawer ohonynt erbyn hyn yn gwneud gwaith pwysig ymhob rhan o'r byd. Ni chânt mwy eu cadw'n ôl oherwydd diffyg addysg.
25. Hefyd y mae llu o bobl ieuainc o wledydd eraill yn dyfod i golegau Cymru bob blwyddyn am yr addysg dda a geir yno.
26. Gydag amser fe geir llyfrau Cymraeg a dynn sylw'r byd.
27. Y mae dyled plant yr oes hon yn fawr i'r rhai a fu'n gweithio mor galed i roddi iddynt eu breintiau.