Ci Hugh Burgess Straeon y Pentan

gan Daniel Owen

Tomos Mathias

Cwn

Y NOSON o'r flaen yr oeddwn yn sôn wrthot am gi Hugh Burgess. Creaduriaid rhyfedd ydyw cwn, a ci o ddyn ydyw hwnw nad ydyw yn ffond o gi. Marcia di beth ydwyf yn ddweyd wrthot yrwan — os gweli di ddyn a chas ganddo at gwn, mi ffeindi nad ydyw'r dyn hwnw ddim o'r sort oreu, a dweyd y lleiaf. P'run bynag am hyny, dyma i ti stori sydd cyn wired a'r pader. Flynyddau lawer yn ol, yr oedd yn byw yn Nyffryn Clwyd, yn agos i Landyrnog, ŵr a gwraig o'r enw, os ydwyf yn cofio yn dda, Pitar a Marged Jones. Yr oeddynt dal ffarm fechan daclus, ac yn gwneud yn burion. Yr oedd ganddynt un mab heb duedd

yn y byd ynddo at ffarmio, a gosodwyd ef am dymor mewn siop yn Rhuthyn. Awyddai y bachgen yn barhaus am fynd i Loegr, ac o'r diwedd, cafodd le yn un o siopau y boneddwr haelionus, Mr. Tait, Lerpwl, y sugar refiner. Yr oedd ewyrth, brawd i dad i'r bachgen hwn yn gapten llong, ac yn tradio rhwng Lerpwl a'r gwledydd tramor, a phan fyddai yn dychwelyd o'i siwrneion byddai ganddo yn gyffredin ryw anrheg i'r hogyn. Un tro with ddychwelyd o'r gwledydd pell, daeth y capten a chwb o Newfoundland dog i'w nai. Nid oedd y ci y pryd hwnw fawr fwy nag ysgafarnog. Yr oedd yr hogyn yn byw allan, fel y dywedir, hyny ydyw, mewn lodging, ac yn meddwl y byd o'r ci bach, ac yn ei fwydo ac yn ei barchu oreu y gallai er mwyn ei ewyrth, y capten. Ysgrifenodd, wrth gwrs, at ei rïeni i Ddyffryn Clwyd am y rhodd werthfawr a gawsai gan ei ewyrth. Ychydig oedd cyflog y bachgen, ac yr oedd y ci yn bwyta pob peth o'i flaen, a thyfodd yn greadur hardd, mawr, yn mron yn gymaint a llew. Wedi talu am ei fwyd a'i letty, yr oedd pob dimai oedd gan y bachgen wed'yn yn myn'd am fwyd i'r Newfoundland, ac nid oedd ganddo geiniog i'w rhoi yn y casgliad yn y capel. Yr oedd y ci yn ei fwyta yn fyw, ac eto ni fynasai am y byd ymadael âg ef, am mai rhodd ei ewyrth ydoedd. Ni wyddai pa beth i'w wneud. Ond yn y man, penderfynodd pan gyntaf yr elai gartref, y cymerai у ci gydag ef, ac y gadawai ef yno am na fyddai i'w rïeni wybod am ei gadw. Ac felly y gwnaeth. Cafodd yr hogyn ganiatad i fyn'd adref ar ddydd Gwener, gyda gorchymyn iddo ddychwelyd ddydd Llun, a chymerodd Lion, gydag ef — dyna oedd enw y ci. Dotiai pawb at y ci, ac yr oedd ei balfau fel palfau llew yn union, a dydd Sadwrn a'r Sul yr oedd cryn edrych ar Lion. Dydd Llun a ddaeth, pryd yr wedd yn rhaid i'r bachgen ddychwelyd gyda'r tren cyntaf, a chlymodd Lion i fynu yn un o'r ystablau. Cyn cychwyn am Lerpwl y bore hwnw, newidiodd yr hogyn ei drywsers, a gadawodd ei hen drywsers wedi ei lapio yn daclus ar gadair yn yr ystafell y bu yn cysgu ynddi. Rywbryd yn y prydnawn gollyngwyd Lion yn rhydd. Chwiliodd yma ac acw am y bachgen, ond, wrth gwrs, yr oedd ef erbyn hyn yn Lerpwl. Wedi chwilio pob twll a chornel aeth Lion i'r llofft lle y buasai y bachgen yn cysgu, a chymerodd y trywsers a adawyd ar y gader yn ei geg, ac ymaith ag ef er gwaethaf pawb. Cyn y nos, yr oedd Lion wedi cyrhaedd y siop lle y gwasanaethai y bachgen, sef yn nhop James Street, Lerpwl, a'r trywsers yn ei geg. Ac yr oedd у ci a'r trywsers yn berffaith sych. Tybid fod Lion wedi gwylio yr adeg yr oedd y pacet yn Birkenhead yn myn'd drosodd, a'i fod, yn ddigon digywilydd, wedi croesi yr afon heb yr un tocyn. Pan glywodd Mr. Tait hanes y ci, prynodd ef gan yr hogyn, a bu yn ei feddiant am lawer o flynyddoedd.

Dyma iti stori arall. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi dweyd wrthot ti o'r blaen fy mod yn gydnabyddus â theulu Mr. Roberts, Queen's Road, Lerpwl. Bu Mr. Roberts farw yn gyd-marol ieuanc, gan adael gweddw ac amryw blant ar ei ol, ond mewn sefyllfa led gysurus Yr oedd gan y teulu hwn eto ryw berthynas yn tradio efo'r gwledydd pell, a dygodd yntau gi Newfoundland i un o'r plant. Sultan, os wył yn cofio, oedd ei enw, ac yr oedd rhywbeth mor fawr a brenhinol yn ngolwg y ci, fel yr oedd yr enw yn eithaf priodol arno. Nid oedd neb wedi gweled dim tuedd at fryntni ynddo, ac os byddai cwn bach yn cyfarth arno, edrychai gyda diystyrwch boneddigaidd arnynt. Meddyliai y teulu gymaint o hono fel y byddai yn cael gorwedd ar y mat o flaen y tân yn y parlwr gan nad pwy a fyddai yn bresenol. Edrychid ar Sultan gyda pharch gan lawer o bregethwyr arferent fyn'd i dy Mrs. Roberts, ac yr oedd yntau yn adnabod holl weinidogion y Methodistiaid yn Lerpwl, ac yn hynod o gyfeillgar efo Mr. Henry Rees. Pan elai Sultan efo un o'r teulu i lawr y dref, os digwyddent gyfarfod Mr. Rees, rhoddai Sultan ei drwyn oer yn ei law, a dwedai gŵr Duw, – "Wel, Sultan, bach, sut yr wyt tithau heddyw? Os bu ennid erioed gan gi yn nghylch abred, yr ydw i'n meddwl yn siwr mae gynot ti bu o;" ac edrychai Sultan gyda'i lygaid mawr yn llygaid disglaer y gweinidug, cystal a dweyd, "Thank you, Mr. Rees."

Ond un o gyfeillion penaf y teulu caredig yn Queen's Road, oedd Mr. E. P—, un o flaenoriaid y capel yr oeddynt yn aelodau ynddo. Byddai Mr. P— yn ymweled â hwy ddwy waith neu dair bob wythnos, ac yr oedd Sultan ac yntau yn eithaf ffryndiau. Un noswaith, aeth Mr. P— yno, ac yr oedd Sultan yn gorwedd yn llabwst mawr ar y mat fel arfer, ac yn haner cau ei lygaid, ac yr oedd yr holl deulu gartref. Ond yr oedd gan Mr. P— y noson hono ffon yn ei law, peth na welwyd ganddo erioed o'r blaen gan y teulu a phan oedd, cyn eistedd, yn ysgwyd llaw efo Mrs. Roberts a'r plant, dechreuodd un o'r genethod y'smalio âg ef, gan ddweyd ei fod yn mynd yn hen, ac yn gorfod cael ffon. O fregedd, cododd Mr. P— y ffon uwch ei phen fel pe buasai am ei tharo, pryd y neidiodd' Sultan i fynu, ac y rhuthrodd i'w wddf gan ei daflu ar ei gefn ar lawr, ac oni bai i'r holl deulu ymaflyd yn y ci, 'does dim amheuaeth na fuasai wedi ei dynu yn llardiau. Yr oedd Sultan wedi meddwl fod Mr. P— am daro y ferch, a neidiodd y foment hono i'w hamddiffyn. Cafwyd trafferth fawr i gael y ci i'r buarth cefn, ac yr oedd Mr. P a'r teulu wedi dychrynu yn enbyd. O hyny allan, rhwymwyd Sultan wrth gadwen yn y buarth cefn, å dyna oedd yn rhyfedd, pryd bynag y deuai Mr. Pugh i'r tŷ, er ei fod yn dyfod trwy ddrws y ffrynt, gwyddai y ci y foment hono ei fod yno, ac yr oedd yn mynd yn gynddeiriog am gael d'od yn rhydd. Parodd hyn i Mr. P— gadw, oddiyno, yn wir, yr oedd ganddo arswyd myn'd i'r heol. Yn hytrach na cholli cwmni Mr. P—, saethwyd Sultan, er mor anhawdd oedd gwneud hyny wrth feddwl am ei ffyddlondeb.

Dyma i ti stori arall ryfeddach, ond yn ddigon gwir, achos mi glywais y bobl eu hunain yn adrodd yr hanes, ac yn Lerpwl y bu hyn hefyd. Yr oeddyt yn adnabod Foulkes bach, y teiliwr? Wel i ti, yr oedd chwaer i Foulkes wedi priodi gweithiwr cyffredin yn Lerpwl, ac yr oeddynt yn byw mewn stryt lle yr oedd llawer o dai gweithwyr, a thipyn o ffordd oddiwrth y dociau. Jones oedd enw y dyn. Buont yn byw yn lled gysurus am rai blynyddau, ond heb gynilo dim. Yn y man aeth busnes yn isel, a thaflwyd Jones allan o waith. Bu yn segur am wythnosau, ac yr oedd ef a'r wraig yn mron llwgu. Elai Jones allan bob dydd i chwilio am rywbeth i'w wneud, a dychwelai o hyd gyda chylla a phoced wâg, oddigerth ambell dro y byddai wedi digwydd taro ar hen gyfaill a chael ychydig geiniogau ganddo. Yr oedd wedi gwneud hyn am gymaint o amser fel yr oedd wedi glan laru ar fywyd, a dwedodd wrth y wraig un diwrnod, pan nad oedd ganddynt geiniog yn ty, na gwlithyn i'w fwyta, — "Dai ddim allan eto, mi fyddaf farw wrth y pentan." Crefodd y wraig arno arno i wneud un cais arall, gan ddweud wrtho fel cymhelliad, y gallai daro ar gyfaill, os na chai waith. Wedi llawer o grefu, aeth Jones allan wed'yn, am y tro olaf, fel y credai. Aeth drwy un stryt a thrwy yr ail, a phan oedd yn myn'd'ar hyd y drydedd, sylwodd fod clamp o gi ardderchog yr olwg yn ei ddilyn. Ceisiodd gan y ci fynn'd yn ol, ond ni wnai — dilynai ef i bob man lle yr elai Toc, cyfarfyddodd rhyw Gymro ef. tebyg i ddyn y môr, yr hwn a edrychodd yn fanwl ar y ci, ac ebe fe, — "Hwdiwch, ffrynd, ydi'r ci yna ar werth? a beth ydi'r pris?" Ni wyddai Jones sut i ateb, rhag ofn mai y gŵr oedd ei pia. Ond wedi ystyried moment, ebe fe, "Wel, y mae'n o anodd 'madel a'r ci, ond yr ydw i'n bur dlawd heddyw." "Mi rof i chi ddwy bunt amdano heb chwaneg o siarad," ebe'r gŵr. " O'r gore," ebe Jones. "Fy enw ydyw Capten Thomas, a dowch a fo i'r llong Margaret Ann yn mhen yr awr," ebe'r Capten. Ac felly yr aeth Jones rhwng ofn a gobaith, a thalwyd y ddwy bunt iddo. "Beth ydyw ei enw?" gofynai y Capten pan oedd Jones yn cychwyn ymaith. "God-sent," ebe Jones. Enw rhyfedd arw ar gi," ebe gŵr y môr. "Eithaf priodol, serch hyny," ebe Jones. Aeth Jones adref yn llawen, a chyn i'r ddwy bunt ddarfod, yr oedd wedi cael gwaith cyson. Ond dyma y darn rhyfeddaf o'r stori, — Yn mhen oddeutu deng mis, yr oedd Jones, rhwng saith ac wyth o'r gloch y nos, yn cymeryd ei dê ar ol d'od o'i waith, pryd y clywai ef a'r wraig rywun neu rywbeth yn crafu y drws. Agorodd y wraig y drws, a dyna God-sent i mewn, ac yr oedd ei falchder yn ddibendraw. Wrth gwrs, cafodd groesaw mawr gan Jones a digon o fwyd, ond hwn oedd y tro cyntaf i'r wraig weled y ci. Deallodd Jones fod Margaret Ann wedi dyfod i'r porthladd, ac wedi gorphen ei bryd ac ymdwtio, aeth i ymorol am Capten Thomas. Wedy dod o hyd i'r Capten, dwedodd Jones yr holl hanes wrtho, ac yr oedd wedi synu yn fawr, ac yn falch iawn o gael y ci yn ol, a rhoddold sofren drachefn i Jones, a dwedodd, — "Nid rhyfedd i chwi alw y ci yn God-sent, ffrynd." Mae y stori yn berffaith wir i ti, er nad wn i ddim sut i'w sbonio. Hwyrach i'r ci gamgymeryd Jones am ei berchenog. Ond nid ydyw hyny yn debyg. A pha fodd y daeth i'r stryt ac at y tŷ yr oedd Jones yn byw ynddo yr ail dro? Y peth tehycaf gen i ydyw i Dduw roi tro yn menydd y ci er mwyn i Jones a'i wraig gael tamaid a'u cadw rhag llwgu.