Straeon y Pentan/Doli'r Hafod Lom
← Cynwysiad | Straeon y Pentan gan Daniel Owen |
Nid wrth ei Big y mae Prynu Cyffylog → |
STRAEON Y PENTAN
——————
Doli yr Hafod Lom
"WEL," ebe F'ewyrth Edward, "yr wyt ti erbyn hyn yn ddigon hen i mi sôn wrthot ti am ryw bethau na fuaswn i ddim yn meddwl am sôn am danynt ryw dair neu bedair blynedd yn ol. Yr wyf yn dallt dy fod dithau yn dechreu cerdded y llwybr a gerddais inau, ac a gerddodd agos i bawb o'r hîl ddynol, oddieithr ambell hen lanc a anwyd yn hen lanc. Mae'n debyg (ac edrychodd F'ewyrth arnaf gyda chil ei lygad, a gwridais inau at fôn fy ngwallt) dy fod yn credu yn dy galon na fu neb erioed yn debyg i Mary Jones, y Pant, ac y bydd yn anmhosibl i ti byth fedru caru neb arall. Pwy ond Mary, meddi di, fedrai wneud i ti fethu cysgu a methu bwyta? pwy ond y hi fuasai yn peri i ti fod yn barod i aberthu pobpeth er ei mwyn? a pheri i ti ddymuno fod y peth yma a'r peth arall, ac, yn wir, wneud i ti feddwl y gallet ti farw drosti? Paid a siomi dy hun. Hwyrach yr aiff y clefyd drosodd yn y man, ac daw o atat ti eto ymhen yr rhawg yn nglŷn â rhywun arall, ac na feddyli di y pryd hwnw fwy am Mary Jones, y Pant, nag am Malen, y forwyn yma. Mi wranta dy fod yn meddwl mai dy fodryb Beti oedd yr unig gariad a fu gen i? Dim peryg! Y hi oedd yr olaf, a'r oreu, mi gredaf.
Ond am Doli, yr Hafod Lom, yr oeddwn yn mynd i sôn. Wn i ddim yn y byd mawr sut y cafodd y ffarm yr enw Hafod Lom, achos yr oedd hi yn llai llom na'r rhan fwyaf o ffermydd yn y gymdogaeth. Yr oedd y tŷ ar dipyn o godiad tir, ac yn gwynebu haul y bore, ac yr oedd gardd fawr o flaen ei ffrynt. Tu ol i'r tŷ yr oedd buarth mawr, ac ar y naill ochr iddo yr oedd y stablau, a'r tai allan. Yn un pen i'r buarth yr oedd llyn mawr dwfn, a dŵr glân gloew yn rhedeg yn feunyddiol iddo yn un pen, a fflodiart yn y pen arall lle y gellid gollwng y dŵr allan, neu ei storio fel y byddai yr angen. Amlwg ydoedd ar y clawdd cadarn oedd o'i gwmpas fod rhywun yn yr hen amser wedi cymeryd trafferth fawr i wneud y llyn, ac yr oedd yn gaffaeliad mawr i'r tŷ, achos un o'r pethau mwyaf manteisiol yn nglŷn â ffarm, lle mae llawer o benau, ydyw digonedd o ddŵr. pur. Tu ol i'r stablau yr oedd yr ydlan, a thu ol i hono yr oedd llwyn o goed. Gellid myn'd i'r tŷ ddwy ffordd, sef ar hyd y llwybr oedd yn myn'd o'r tyrpeg i'r drws, ac hefyd ar hyd llwybr oedd yn myn'd drwy y llwyn coed, ac heibio ochr bellaf y llyn a thros y fflodiart. Anaml y cerddai neb y llwybr hwn yn y nos, am nad oedd yn ddiberygl syrthio i'r llyn, ac yr oedd y dŵr yn ddwfn iawn, fel y dwedais, yr ochr hono iddo. Yr oedd y tŷ yn fawr a hen ffasiwn, a'r ystafelloedd yn helaeth, ac yn llawn mwy cysurus na'r cyffredin yn y dyddiau hyny. Wel, y mae genyt ddrychfeddwl go lew yrwan, pa fath le oedd yr Hafod Lom.
Gair neu ddau, yrwan, fel y dywed y pregethwyr, am y tenant, sef Richard Hughes, fel yr wyf fi yn ei gofio pan oeddwn yn llanc. Dyn main tal oedd Richard, bob amser yn gwisgo côt a gwasgod lwyd, a chlôs a getars o gesimïar goleu. Main oedd Richard o'r top i'r gwaelod. Yr oedd ei goesau yn fain, ac o herwydd nad oeddynt yn neillduol o sythion, a'r clôs â'r gêtars yn ffitio yn dụn, yr oedd cryn oleu rhyngddynt, ac yn gwneud i un feddwl, wrth edrych arnynt, nad gorchwyl hawdd a fuasai i'w perchenog ddal porchell neu lwdn mewn adwy. Yr oedd ei wyneb drwyddo yn fain — ei drwyn yn fain, ei ên yn hirfain, ac o herwydd ei fod wedi colli ei ddanedd, ac yn shafio ei wyneb yn lân oddigerth rhyw fodfedd wrth dop ei glustiau, yr oedd ei safn yn pantio yn o sownd, a'i ên a'i drwyn yn myn'd yn agosach cymdogion bob blwyddyn. Ond yr oedd un peth llydan yn perthyn i Richard, sef ei het, yr hon a fyddai bob amser a choryn isel a chantel mawr iddi, ac yn ymddangos yn rhy helaeth iddo o lawer, ac yn pwyso mor dost ar ei glustiau nes troi hem arnynt. Yr oedd Richard yn cael y gair ei fod yn gyfoethog iawn. Ddymunwn i ddim dweyd ei fod yn gybydd, ond yr wyf yn ddigon siwr ei fod yn hoff o arian, mor hoff fel yr oedd yn anmhosibl ei berswadio ond yn anfynych i ymadael a dim o honynt. Wedi i mi ddweyd fod Richard Hughes yn flaenor Methodus, a fod ganddo dipyn o wich yn ei lais, mi fydd genyt idea go lew eto am denant yr Hafod Lom.
Dynes landeg, siriol a charedig, oedd gwraig yr Hafod, sef Dinah Hughes, ond anfynych y byddai yn cael cyfleustra i ddangos ei charedig rwydd ond yn absenoldeb Richard. A byddai y tlodion yn gwybod hyny yn dda, ac yn gwylio yr hen ŵr yn myn'd i'r farchnad neu i'r capel, cyn meddwl am fyn'd i'r Hafod. Yr oedd gwraig yr Hafod gryn lawer ieuengach na'i gŵr. ac yn cadw ei hoed yn well. Doli oedd eu hunig epil, ac yr oedd yn un o'r genethod harddaf a challaf a fu erioed ar ledr. Yr oedd yn dal a lluniaidd, ac yr oedd ganddi wyneb fel pictiwr. Er hyny, yr oedd yn hynod ddifalch, ac yn agos iawn at bawb, fel y dwedir. Ni fyddai fawr wahaniaeth yn ei gwisg a gwisgoedd merched eraill is o lawer eu sefyllfa na hi. Ond dwedai rhai mai ei thad oedd yn gwrthod dillad crand iddi, ac hwyrach fod gwir yn hyny. Mi glywais ei mam yn dweyd un tro y byddai Doli pan yn cael dilledyn newydd yn gorfod ei gadw yn hir cyn ei wisgo; ac yna os llygadai ei thad y dilledyn pan wisgai Doli ef y tro cyntaf, a dechreu tuchan am y gwastraff, dwedai'r fam "Be haru chi, Richard? ond ydi hwn ene gan yr eneth er's gwn i pryd; lle buoch chi tan 'rwan heb ei weled?" Yna prynai Dinah Hughes ddilledyn newydd arall i Doli cyffelyb, pan y gwyddai fod Richard wedi colli ymddiried yn ei lygaid. Prun bynag, pa beth bynag a wisgai Doli'r Hafod, yr oedd hi yn moedro penau y rhan fwyaf o lanciau y gymdogaeth; ac yr oedd ambell un, mi gredaf, wedi arall eirio, ddwy linell olaf yn yr hen benill adnabyddus, ac yn eu mwmian rhwng cyrn yr arad, ac yn mohobman –
Mi af oddi yma i'r Hafod Lom,
Er fod hi'n drom o siwrne;
O na chawn yno ganu cainc,
Ac eistedd ar fainc y simdde!
Y gwir ydoedd, fod amryw o honom wedi haner dyrysu am Doli, ac nid oedd y ffaith fod ei thad yn gyfoethog, ac mai Doli oedd ei unig epil, yn lleihau dim ar ein clefyd. Frank Price, yı Hendre Fawr, Dafydd Edwards, y saer, a minau oedd yr unig rai a gai fymryn o gefnogaeth gan Doli. Ystyrid teulu yr Hendre yn bobl barchus a lled gefnog, ac yr oeddynt yn Eglwyswyr selog; ac yr oedd Frank yn fachgen digon smart, ond ei fod dipyn yn wyllt a digrefydd Ond mi welais i yn fuan mai Dafydd Edwards, y saer, oedd ffafryn Doli, a mi rois fy nghardiau yn tô, ac yn fwy boddlon am mai Dafydd oedd y dyn, ac nid Frank. Yr oedd Dafydd yn aelod eglwysig, ac yn fachgen crefyddol a da, ac yn hynod olygus. Ond dyna oedd yn rhyfedd, er fod Richard Hughes yn flaenor, mab yr Hendre oedd ei ffafryn ef. Rhoddai bob croesaw i Frank pan ddeuai i'r Hafod; ond ni feiddiai Dafydd, druan, ddangos ei wyneb yno. Beiai pobl y capel yr hen Richard yn fawr am ei fod yn croesawu bachgen digrefydd i geisio am law ei ferch, a dwedent mai ei gariad at arian oedd rheswm am hyny, ac eto credai pawb, yr wyf yn meddwl, fod gwreiddyn y mater gan Richard Hughes, y blaenor. Ond ni allasai holl gyfoeth y byd dynu serch Doli oddiar Dafydd Edwards, a safai yr eneth yn uwch yn syniad y gymydogaeth o'r herwydd. Yr oedd yr ystori hyd yr ardal; ac yr oedd yn ddigon gwir, mi gredaf, fod Doli yn cael byd garw efo'i thad, am ei bod yn caru Dafydd, y saer, ac yn gwrthod gwneud dim â mab yr Hendre Fawr.
Pa fodd bynag — a dyma ydi'r stori-un noson yr oedd yr hen Richard wedi myn'd i'r capel, a Dafydd, yn gwybod hyny, wedi myn'd i gyfarfod Doli at benor y llwybr oedd yn myn'd drwy y llwyn coed y soniais am dano. Pan fyddai Doli yn myn'd i gyfarfod Dafydd, byddai bob amser yn cymeryd Twm, rhyw gi bach chwerw i'w chanlyn, yr hwn os clywai y mymryn lleiaf o drwst a ddechreuai chwyrnu, ac yna byddai Dafydd a Doli yn gallu ymwahanu cyn i neb eu gweled. Ond y noson hono yr oedd y ddau wedi ymgolli yn gymaint yn yr ymgom, neu ynte yr oedd y ci yn adnabod sŵn у troed oedd yn dyfod i lawr y ffordd, fel na ddarfu iddynt sylwi fod neb yn agosau nes oedd yr hen Richard yn eu hymyl. Yr oedd yn noswaith lled dywell, ond can gynted ag y deallodd Doli mai ei thad oedd yno, rhedodd drwy y coed, ac ebe'r hen ŵr —
"Dafydd, wyt ti yma eto? Sawl gwaith yr ydw i wedi dweyd wrthot ti am beidio d'od ar ol yr eneth yma? Waeth i ti un gair na chant, chei di byth moni tra bydd fy llygaid i'n agored."
Y foment hono clywodd y ddau ysgrech dorcalonus ac fe ddarfu i'r ddau adnabod y llais. Rhuthrodd Dafydd ar hyd y llwybr tua'r llyn, a'r hen ŵr yn ei ddilyn oreu y gallai. Yr oedd y noson yn dywell, fel y dywedais, ond tybiodd Dafydd, er ei fod yn gynhyrfus, ac ymron allan o'i bwyll fod rhywun wedi croesi y llwybr cyn iddo gyrhaedd y llyn. Yr oedd Dafydd yn nofiwr diail, ac fel dyn gwallgof, neidiodd i'r llyn, ac ymbalfalai yn y tywyllwch am Doli, ond i ddim pwrpas am fynud neu ddau. Yr oedd yr ysgrech wedi cyrhaedd yr ystablau lle yr oedd y llanciau yn porthi yr anifeiliaid, ac mewn ychydig funudau yr oedd y gweision oll gyda'u lanterni ar ymyl y llyn, ac fel y dwedodd un o'r llanciau wrthyf wedyn — pan daflodd y lanterni eu goleu ar y llyn, y peth cyntaf a welodd oedd Dafydd wedi cael gafael yn Doli ac yn dal ei phen uwchlaw'r dŵr, a chlywodd ei geiriau olaf—"O Dafydd bach, yr ydw i'n boddi." Dygwyd Doli i'r lan a chariwyd hi i'r tŷ. Nid oedd wedi marw, ond o herwydd anwybodaeth pobl sut i drin rhai yn y cyflwr hwnw, bu Doli druan farw ymhen ychydig fynudau. Pan oedd yn marw yr oedd yn sefyll uwch ei phen ei thad a'i mam, Dafydd, y saer, a mab yr Hendre fawr. Pa fodd y daeth Frank yno ar y fath adeg ni wybu neb byth, ac nid wyf finau yn dewis dweud fy opiniwn.
Achosodd yr amgylchiad lawer o boen a siarad yn y gymydogaeth. Yr oeddwn er's tro byd yn ymwelydd mynych a'r Hafod Lom, ac yn bur ffryndiol â Doli ac â'i thad â'i mam. Euthum yno dranoeth ar ol y ddamwain, ac ni welais yn fy mywyd y fath ofid a thorcalon. Cyn i mi ymadael ebe'r hen Wr, Richard Hughes, wrthyf —
"Edward, wnei di ofyn i Dafydd, y saer, ddod i'r claddu?"
Synais ei glywed yn dweyd hyny wrth gofio am ei elyniaeth at Dafydd, a da oedd genyf gario y genadwri.
Yr oedd yr holl ardal ymron wedi dyfod i gladdu Doli, ac yn ol yr arferiad y pryd hwnw ar gladdedigaeth, yr oedd yn yr Hafod gryn fwyta ac yfed. Drwy fy mod yn dipyn o ffafryn yn yr Hafod yr oeddwn yno yn un o'r rhai cyntaf ddiwrnod y claddu. Ychydig cyn yr amser yr oedd yn rhaid "codi'r corff," a chychwyn tua'r fynwent, yr oeddwn gyda Richard a Dinah Hughes mewn ystafell ar ein penau ein hunain cheisiwn eu cysuro oreu y gallwn, ond yr oedd eu galar, fel y gallet ti feddwl, yn arteithiol. Edrychodd Richard drwy y ffenestr i'r buarth ar y dyrfa fawr oedd wedi dyfod i gladdu Doli, ac ebe fe wrthyf —
"Ai nid Dafydd ydi hwn acw sydd ar ei ben ei hun yn mhen draw y buarth?"
Dwedais inau mae ïe.
"Gofyn iddo ddod yma," ebe fe.
Euthum ar unwaith a dygais ef i mewn. Nid anghofiaf yr olygfa byth. Pan ddaeth Dafydd i mewn torodd yr hen wr i lawr yn lân, ac ni fedrodd ddweyd gair am yr rhawg. Wedi i'r gafod fyn'd drosodd, ebe fe, — ac y mae ei eiriau yn swnio yn fy nghlustiau y fynud hon —
"Dafydd, O! Dafydd, mae Duw wedi fy nharo — wedi fy nharo rhag fy namio i! Y ti oedd pia Doli — ïe, y ti oedd ei phia hi, ac wrth dreio dy robio di o honi mi collais hi am byth! Dafydd," — a gosododd yr hen ŵr ei ben ar ysgwydd lydan Dafydd — "y mai i i gyd oedd o, a mae Duw wedi fy nharo!" ac wylodd yn hidl. "Dafydd," ychwanegodd, "gaf i bwyso ar dy fraich di ar y ffordd i'r fynwent?"
Dwedodd Dafydd y cwbl drwy wasgu llaw yr hen ŵr gofidus, a synodd pawb weled Richard Hughes yn cerdded yn mraich Dafydd, y saer, tua'r fynwent.
Bu llawer o siarad ac amgrymu dan eu danedd ymhlith y cymdogion ar ol hyn. Pa un ai yn ddamweiniol ai fel arall y cyfarfyddodd Doli a'i diwedd, ni wybu neb byth. Yn fuan ar ol hyn ymunodd mab yr Hendre Fawr â'r fyddin, a lladdwyd ef yn India'r Dwyrain. Ni bu Richard Hughes byth yr un dyn. Fu o ddim byw yn hir ar ol hyn; ond tra y bu o byw, 'doedd dim arwydd arno ei fod yn caru arian, a mi ddiweddodd ei oes yn un o'r dynion mwyaf cymwynasgar a llaw agored yn y wlad. Yr oedd pobl yn dweyd fod Richard Hughes, yr Hafod Lom, wedi gadael yn ei ewyllys olaf swm go dda o arian i Dafydd, y saer, ond wn i ddim oedd hyny yn wir. Ond mi wn hyn, na ddaru Dafydd byth garu neb arall ar ol colli Doli — mi fu farw yn hen lanc ac yn dda arno," ebe Fewyrth Edward.