Straeon y Pentan/Wiliam y Bugail
← Y Gweinidog | Straeon y Pentan gan Daniel Owen |
Ci Hugh Burgess → |
William y Bugail
Yn cofio hanes William y Bugail? Ydw debyg, fel bydase wedi digwydd ddoe, ebe F'ewyrth Edward. A hanes rhyfedd ydi o hefyd. Un o'r dynion harddaf a welaist erioed
oedd William; yr oedd dros ddwy lath o daldra, ac o gyfansoddiad cryf a chadarn. Yr oedd o hefyd yn cael ei gyfrif yn mhlith ei gymndogion yn un o'r dynion mwyaf dewr a diofn a ellid ei gyfarfod mewn blwyddyn. A da i William oedd hyny, achos yr oedd ei alwedigaeth yn gofyn iddo weithiau fod hyd y mynyddoedd bob adeg o'r nos, ac ar bob math o dywydd. Bugail mewn gwirionedd oedd William, ac os byddai rhyw anghaffael ar y defaid, ni wnai gerwindeb y tywydd beri iddo esgeuluso dim arnynt. Peryglodd ei fywyd ddegau o weithiau er mwyn hen ddafad neu oenyn diwerth ynddynt eu hunain. A mi fyddaf yn meddwl fod Duw yn cymeryd yn garedig ar ddyn am bethau felly — mae yna rywbeth dwyfol mewn mentro bywyd er mwyn cadw bywyd. Wel, yr oedd William yn caru merch yr Henblas, ac ar fin myn'd i'w briodi. A geneth landeg anwêdd oedd Susan yr Henblas, yr wyf yn ei chofio yn dda, ac wedi i William roi ei fryd arni, nid gwiw oedd i neb arall feddwl am dani o ofn William, achos, fel y dwedais, yr oedd William yn ddyn nerthol ryfeddol, er ei fod, am ddim a glywais, yn hollol ddiniwed, ac ni chlywais erioed ei fod yn meddwi nac yn arfer geiriau drwg. Yr oedd o'r pentre, lle yr oedd William yn byw, i'r Henblas dair milltir neu ychwaneg, ac yr oedd y ffordd dros y mynydd. Ond elai William i edrach am Susan ddwywaith neu dair yn yr wythnos, waeth be fyddai y tywydd.
Un noswaith yr oedd oedfa i fod yn y capel ganol yr wythnos, ac agos bob amser pan fyddai rhywbeth yn y capel ar noson waith, fe fyddai yn arferiad gynon ni, meibion a gweision ffarmwrs, i fyn'd at y capel ryw chwarter awr cyn amser y moddion, er mwyn cael ymgom a chlywed y newydd. Yr oedd cryn feio ar yr arferiad, ond yr oedd rhywbeth i'w ddweyd drosto — anaml ond ar adegau felly y byddem yn cael cyfleustra i weled ein gilydd, am ein bod yn byw ar gryn wasgar. Wel, fel y dywedais, yr oedd oedfa i fod yn y capel ar nos Fercher, ac yr oedd amryw o honom fel glaslanciau wedi hel at y capel dipyn cyn yr amser. Yr oedd yn nogwaith rewllyd a lled oleu, ac wedi i ni fod yn ymgomio tipyn, pwy a welem yn dyfod tuag atom o gyfeiriad y mynydd, ond William y bugail. Pan ddaeth atom fe ddaru i ni gyd sylwi ei fod yn edrach braidd yn gynhyrfus, a mi ofynais iddo a oedd rhywbeth wedi digwydd i'r defaid, ac ebe fynte, a dyma ei eiriau i ti bob gair, —
"Nag oes, ddim, Edward, ond wyddoch chi be, mi weles beth rhyfedd ofnadwy wrth ddod dros y gefnen ene. Mi wyddoch nad ydw i ddim yn ofnus, ond pan oeddwn i'n dod i lawr yr ochr ene, mi ddois mewn moment i dwllwch fel y fagddu, — fedrwn i ddim gweld fy llaw. Ddaru mi ddim dychrynu, a mi eis ymlaen trwy y twllwch a mi ddois i'r goleuni wedyn, a mi sefes i edrach yn ol, a mi welwn gwmwl du, hir, ac isel, ac yn wastad ar ei dop fel top gwal neu wrych wedi ei dorri yn lefel. Wrth ddal i edrach arno mi welwn, yn y man, dyrfa o bobl fel gorymdaith tu draw i'r cwmwl. 'Doedd dim ond eu pennau a'u sgwyddau yn y golwg i mi, ac er eu bod yn ymddangos yn fy ymyl bron, 'doeddwn i ddim yn nabod un o honyn nhw. Yr oeddwn yn gweld y bobl yn symud ymlaen a'r cwmwl hefyd, a thoc mi sylwais fod pedwar o ddynion yn mhen blaen y cwmwl yn cario arch ar elor, ac yr oedd un dyn tu ol i'r elor ar gefn ceffyl, a mi adwaenes o ar unwaith — John Roberts y Foty oedd ar gefn ei geffyl du. Mi safes yn edrach nes aeth y cwmwl a'r bobl dros yr afon ar hyd y ffordd i'r Llan, nes i mi golli golwg arnynt."
Yr oedd stori William yn rhyfedd iawn i ni i gyd, ac i neb yn fwy nag iddo ef ei hun, ac yr oeddym yn credu pob gair o'r stori, oblegid dyn perffaith eirwir oedd William y bugail. Wrth ei weled wedi cynhyrfu cymaint, mi ddwedais wrtho yn ysgafn mai rhagarwydd o'i briodas oedd y weledigaeth, ac aethom i'r capel a William gyda ni. Ond y mae y peth rhyfedd yn ol Yn mhen yr wythnos i'r nos Fercher hono yr oedd wedi bod yn bwrw eira yn lled drwm, ond yn ffyddlon i'w gyhoeddiad aeth William y bugail dros y mynydd i'r Henblas i edrach am Susan. Ni arosodd yn hir efo'i gariad, oblegid cofiai am y siwrnai oedd ganddo ar y fath noswaith. Toc wedi iddo adael yr Henblas, dechreuodd fwrw eira yn enbyd, a throdd yntau i dafarn i aros i'r gawod fyn'd drosodd. Ni chafodd ond un gwydriad, —ni byddai byth yn cymeryd mwy nag un, — oblegid dyn cymedrol a sobr iawn oedd William. Wrth ei gweld yn dal i fwrw, penderfynodd gychwyn gartref, — yr oedd yn berffaith gyfarwydd â'r mynydd, ac wedi bod arno ddegau o weithiau ar dywydd gwaeth, meddai. Ond ni chyrhaeddodd William byth ei gartref yn fyw. Cafwyd ef drannoeth wedi marw yn yr eira. Erbyn hyn cofiai yr hogiau stori William wrth giat y capel, a rhyfedden wrth feddwl am y peth. Yn mhen ychydig ddyddiau, yr oeddwn i ac amryw o'r hogiau oedd yn gwrando stori William, yn ei gladdedigaeth, a phrin y medrem anadlu pan welsom nad oedd neb yno ar gefn ei geffyl ond John Roberts y Foty. Torodd Susan yr Henblas ei chalon toc ar ol hyn, a bu farw o'r dicâu. Sut y sboni di beth fel stori William y bugail, nid wn i ddim, ond y mae mor wir a mod i yn eistedd yn y gader yma, ac y mae amryw yn fyw heddyw sydd yn cofio y peth cystal a minau, ebai F'ewyrth Edward.