Tanchwa yn Cilfynydd

Tanchwa yn Cilfynydd

gan Anhysbys

Explosion at Cilfynydd

TANCHWA YN CILFYNYDD.

279 WEDI EU LLADD.

Prydnawn Sadwrn, Mehefin 23, 1894, ychwanegwyd un arall at rhestr hir tanchwaoedd Deheudir Cymru. Saif Pwll yr Albion, Cilfynydd, oddeutu dwy filldir oddiwrth Pontypridd. Agorwyd y pwll yn 1887, a chyflogid oddeutu 1,600 o weithwyr yno. Pan oedd y gweithwyr nos i lawr yn dilyn eu goruchwylion, oddeutu pedwar o'r gloch, clywyd ergyd caled iawn, a gwelwyd colofn o fwg yn esgyn o'r pwll, Credid ar y cyntaf fod un o'r boilers tanddaearol wedi myned, ond cyn hir gwelwyd mai rhywbeth mwy difrifol ydoedd. Aeth parti i lawr ar unwaith i wneyd ymchwiliad, ac yn mhen dwy awr cafodd un-ar-bymtheg eu codi yn fyw. Bu farw naw o honynt wedi hyny. Credir fod 279 wedl eu lladd. Cafodd 11 eu claddu heb wybod pwy oeddynt. Nid oes un wybodaeth am achos y taniad.

Eto, mae yr angel creulon
Wedi disgyn ar ein gwlad,
Ac y mae yn agos dri chant
'Nawr yn gorwedd dan ei draed;
Tref Cilfynydd sydd yn wylo
Dan yr ergyd sydyn, drom,
Gwragedd, a phlant bach amddifad
Cwyno maent y foment hon.


Gweithwyr Albion gartref aethant
Prydnawn Sadwrn, oll yn llon,
Gweithwyr nos aeth lawr yn gynar
Heb un ofn dan eu bron;
Ond yn sydyn dyma ergyd
Yn adgrynu drwy'r holl dref,
Ac mae cwmwl dew ac araf
Yn ymestyn tua'r nef.

Beth sy'n bod? A'i Tanchwa eto?
Yn rhy wir yr oedd y gair,
A wnawd brys i fyn'd i edrych
Beth a wnaeth yr ergyd taer;
Ar ben y pwll bu torf yn aros
Tra yr oriau'n araf ffoi
Gwragedd, plant, a pherthynasau
Yn nglwm galar wedi eu cloi.

Dacw rai yn do i fyny,
Wedi llosgi ond yn fyw,
Os daw pawb i fyny'n ddiogel
Mawr y clod a fydd i Dduw!
"Un-ar-bymtheg gafodd ddianc,
Marw yw y lleill i gyd."
O! mor brudd y fath newyddion
Rhoddwyd i synedig fyd.

Daeth ymchwilwyr 'nol i adrodd
Am y ddifrod welsant hwy,
Ac i adrodd am y meirwon
Yno'n gorwedd dan eu clwy';
Gwnaeth y tân a'r tawch eu gwaethaf,
Gan ddinystrio ar bob llaw,
Dyma frwydr a enillwyd
Eto gan erch Frenin Braw!

Trwy y nos bu dyfal weithio,
A thra'r haul yn codi'n llon,
Dim ond cyrff yn d'od i fyny!—
Pryd un Sul mor brudd â hon?
Gwragedd yno'n ofnus wylo,
Am anwyliaid wedi myn'd;
Duw y Net fo'n gysur iddynt,
Cadarn noddfa, ac yn ffrynd.

Nodiadau

golygu
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.