Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill (testun cyfansawdd)

Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill (testun cyfansawdd)

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Morris Davies (Meurig Ebrill)
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader


HANES

TEITHIAU A HELYNTION

MEURIG EBRILL,

GYDA

"DILIAU MEIRION,"

O DDOLGELLAU I GAERLLEON-GAWR, BIRKENHEAD, LLYNLLEIFIAD, A MANCEINION; A'I DDYCHWELIAD YN OL DRWY SIROEDD A THREFYDD GOGLEDD CYMRU, YN Y FLWYDDYN 1854-55.

PRIS CHWE CHEINIOG

Y Wasg Omeraidd

DOLGELLAU: ARGRAFFWYD GAN C. JONES

RHAGYMADRODD.

AT y Beirdd a'r Llenorion yn gyffredinol:— Bydded hysbys i chwi oll nad annturias gymeryd y gorchwyl mewn llaw o gyhoeddi hanes fy nheithiau gyda'r "Diliau," heb gael cesiadau ar a chymhelliadau i wneud hyny gan rai [???] cyfeillion caredig yn Nghymru a Lloegr; ac [???] yn llyfr bychan, yr un blygiad a'r "Diliau" fel y gallont eu rhwymo yn nghyd, os dewisant hyny. Felly gwneuthum eu dymuniad, ac wele ef yn awr [???] yn llyfr bychan am chwe cheiniog yr un i bawb a ewyllysio ei bwrcasu. Bum yn bur ochelgar rhag rhoddi cymaint ag un sill o'i fewn a roddai achos [???] i un gradd na sefyllfa o ddynion beth bynag. A hyderaf y caiff llawer bleser wrth ei ddarllen, gan fod ynddo gymaint o amrywiaeth, rhwng rhyddiaeth, prydd[???] a barddoniaeth; ac mae yn dra thebyg mai dyma y llyfryn olaf i mi roddi yn y wasg byth mwyach.

Eich gostyngedig ewyllysiwr da,
MEURIG EBRILL
Dolgellau, Tachwedd 12ed, 1855.

TEITHIAU A HELYNTION

Meurig Ebrill, gyda "Diliau Meirion."

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

RHAGBAROTOADAU yr hen Fardd wrth gychwyn i'r daith gyntaf gyda "Diliau Meirion":—

'Rwyf weithian yn arfaethu,—mewn dwnad
Myn'd unwaith o Gymru,
I Loegr lân, at liwgar lu,
O hen geraint wy'n garu.

Mae'n werth i mi ymnerthu,—a myned
I'w manwl ddosbarthu,
Rhwng cyfeillion, ceinion, cu,
Pur anwyl, a wna'u prynu.

Er gwaeth, neu er gwell, o dref Ddolgellau,
Allan o berygl, dydd llun y borau,
Yn ol fy sclawg, frydiawg fwriadau,
Cerddaf, nid oedaf, heb ddim newidiadau,
Yr ddilys ŵron i Ddol-y-serau;
Gwnaf gadw 'n fanylaidd gyda fy "Niliau,"
Pur odiaeth ddarpariadau,—i'r daith hon
A wneis yn dirion, drwy anhawsderau.

Cyrhaeddas i Ddolyserau erbyn dau o'r gloch y boreu, aethum at yr ystablau ar ffrwst, a gwelwa Mr. Hugh Lewis, y Pedrolfenwr, a'r gweision ereill, yn prysur wisgo'y gêr am y meirch porthianus, saith o honynt mewn rhifedi, cyffelyb o ran nerth a maintioli i'r elephantiaid, i'm tyb i. Ym mhen ychydig fynudau cychwynwyd hwynt at y Bedrol fen fawr dromlwythog oedd yn aros dan warchodaeth y ci mawr, gerllaw y brif-ffordd, ac wedi eu bachu wrthi, a helpio yr hen Feurig i'r gwely esmwyth oedd wedi ei barotoi iddo dan y gysgodlen, ac i'r gyrwr campus gydio yn ei fflangell, ar un ysgydwad iddi wele y meirch yn dechreu carlamu fel hyddod gwylltion, nes oedd tân yn gwreichioni o'r cerrig eu traed; yna cyfansoddais yr englynion canlynol:—

Saith o Feirch, hafeirch, hyfion,—yn tynu
Naw tunnell mor rhwyddion;
A chymaru ŷch mawrion,
Dilesg ffawd, i lusgo ffon.

Meirch heini, mawrwych hynod—o gedyrn
Y'nt i gyd, hawdd canfod;
Rhai troediawg, rhythrawg dan rhôd,
Cymalawg fel Camelod.

Tynent mor chwyrn nes tanio,—y cerrig
O'u cyrau wrth brancio,
Tra hir y cedwir mewn co,'
Eu gorwych nerth di guro.

Gyrydd campus rhagorol,—hŷ lywiwr,
Yw Hugh Lewis nerthol;
Nid rhyw feddwyn, ffalswyn ffôl,
A chroesaidd ddyn echrysol.

Aethom yn mlaen felly ar ffrwst heibio i Ddrws-y-nant, ac i ben y Garneddwen, cyn i'r dydd wawrio arnom, a chyrhaeddasom yn fuan i Lanuwchllyn; erbyn hyny yr oedd yn bryd i'r meirch gael gorphwys ychydig, ac i gael dognau o borthiant hefyd, ac o ganlyniad, disgynais yno o'r bedrolfen, a cherddais ar fy nhraed i'r Bala, a throsis i mewn i Westy y Bwl; cefais yno groesawiad caredig gan Mrs. Davies, y wraig barchus sydd yn cadw y Gwesty, gyda ei theulu, ac mae yn debyg mai dyma y pryd y gwnaethym yr englynion sydd yn argraffedig yn "Niliau Meirion", yr ail ran, tu dalen 32. Llyma hwynt etto i'w gweled.

"Nid lle dwl yw Bwl y Bala—menyn
Geir mewn mynud yma,
A bir, a chaws, a bara,
Llaeth a dwr, lle eitha' da.

Gwraig ddestlus, hwylus, hoywlon,—am orchwyl,
A merched cariadlon;
A thêg yw coffa'r waith hon,
Am rinwedd y morwynion.


Rhai eirioes, o'r rhyw orau,—disoriant
A siriol wynebau;
Haeddant dan rhod, glod, yn glau,
Gwiwrwydd, mewn mwyndeg eiriau."

Cychwynasom o'r Bala yn brydlon, a chyrhaeddason i Gorwen erbyn tywell nos, pan y daeth Mr. William Pugh, perchenog y meirch a'r bedrolfen fawr, o hyd i ni. Buom yn gorphwys yno enyd yn y Gwesty, a'r meirch yn yr ystablau, ond cychwyn oedd raid wedi hyny ganol nos, a chyrhaeddasom i Langollen cyn dydd; dadfachiwyd y meirch a rhoddwyd hwynt yn Ystablau y "Cambrian," (Gwesty newydd Mr. William Jones,) ac aethom ninau i'r Gwesty i gael lluniaeth, a gorphwyso hofyd nes gwawria y dydd. Cawsom groesaw mawr yno, gan fod Mr. a Mrs. Jones yn enedigion o Ddolgellau. Cyfansoddais ddeuddeg englyn i'r "Cambrian", gwel "Diliau Meirion", ail ran, tudalen 37, rhoddaf dri o honynt ar lawr yma:—

"Cambrian têr, porth y Berwyn,—ei gelwir.
A golwg pur ddillyn
Sydd arno, pan delo dyn
I'w neuadd, tyr ei newyn.

Maethlon wresogion seigiau,—yn helaeth
I iawn hilio'r byrddau,
O waith cogydd, clodrydd clau,
Ddwys gludir yn ddysgleidiau.

Gleiniog welŷau glanwaith,—i orwedd
Ga arwyr wrth ymdaith;
Ni wel neb wyneb unwaith,
Gwelw llwyd, drwy gael gwely llaith."

Ond pan wawriodd y dydd, bachwyd y meirch wrth bedrolfen drachefn, a chychwynasom tua Rhiwfabon, gan fod yn rhaid bod yno erbyn unarddeg o'r gloch y boreu hwnw; aethom ran o'r ffordd yn y bedrolfen, ond dymunai. ar Mr. Pugh gael cenad i ddysgyn, a cherdded ar fy nrhaed. gan fy mod yn meddwl erbyn hyn y cawn weled cryn lawer o ryfeddodau yn y parthau hyny o'r wlad, lle mae cymaint o weithydd, bron o bob math, yn cael eu dwyn yn mlaen, Bu Mr. Pugh mor ostyngedig a chyd—gerdded a fi i ben y daith, sef i Rhiwfabon; ond yn uniongyrchol wedi i ni ddisgyn, gwelwn fŵg a thân yn dyrchafu i'r wybren, fel pe buasau yr holl ardal yn myned yn golcerth ufelaidd ar unwaith yna gofynais i Mr. Pugh, pa le oedd y fan hono, atebodd fi yn ddi—oedi mae Acerfair oedd y lle, yna edrychais yn fanol o'm cwmpas, a gwelwa luaws o ffwrneisiau, a'u ffumerau yn cyrhaedd bron i'r cymylau, a dechreuais brydyddu yn y fan, fel hyn:—

Acer Fair, can' pair sy'n poeri—gwreichion,
Yn groch i'r wybreni;
Mae tân a mŵg i'm golwg i,
Hynod, yn mhob cwr o honi.

A'i tân noeth Etna, weithion—a welaf
Yn ulw echryslon?
Ni charai un iach wron,
Fyw yn hir, yn y fan hon.

Yna aethom yn mlaen ar ol y meirch a'r bedrolfen, a gwelwn le arall gerllaw y ffordd yn llawn o fŵg a thân a gwreichion erchyll; dywedodd Mr. Pugh wrthyf mai Rhosllanerchrugog oedd y lle hwnw, yna dechreuodd yr awen gydio yn ei gwaith drachefn, fel hyn:—

Lle enbyd, myglyd, maglog,—erasawl,
Yw Rhosllanerchrhigog;
Lle atcas, gwrthgas, i'r gôg,
A'r êos a'i chân rywiog.

Ond etto mae'n rhaid attal—y genau,
Rhag goganu'r ardal;
Nid yw'n lle certh, serth, a sâl,
I'r difost weithiwr dyfal.

Lluoedd sydd yma'n llywio,—yn ffyrnig
Caiff pob ffwrnais danio;
Ereill o'u bodd sy'n cloddio,
'Nmhell o'u gwlad, yn mhyllau gio.


Cedyrn ddynion sy'n codi,—'n ofalus
Filoedd o dunelli,
Mewn chwys, mae'n hysbys i ni,
O'r Glo iawn i goleuni.


Wel, erbyn hyn yr oedd yn rhaid i ni frysio myned yn ein blaenau, ond methasem ddyfod o hyd i'r wêdd fawr nes y daethom i Rhiwfabon Station, ac erbyn i ni gyrhaedd yno, dyma un o brif ryfeddodau y byd yn dechreu dyfod i'r golwg, sef un o'r cerbydau tanllyd a rhuadwy, na welswn yr un o honynt o'r blaen. Golwg ddychrynadwy iawn a gefais arno y tro cyntaf, beth bynnag, yn pwffian yn waeth na'r ysbryd drwg a welodd yr hên Ddafydd Ddu Hiraddug, ugeiniau o flynyddoedd yn ol. Ofnais fyned yn mlaen efo y Train cyntaf, beth bynnag, ond penderfynais fyned gyda yr ail, a phan ddaeth yr awr benodol iddo ddyfod, aethum i'r Booking Office, a gofynais pa faint oedd y fare am fyned gyda y Train hwnw i Lynlleifiad; telais iddynt eu gofyniad, a chefais docyn ganddynt; gyda hyny dyma'r trwst mawr, a'r pwffian ofnadwy gan y Train yn dyfod i mewn i'r Station, a safodd yn llonydd yn y fan. Yna dechreuais innau hel fy nghodau yn nghyd, ac aethum i un o'r cabanod mor fuan ag y medren, ond y mynud yr eisteddais i lawr, dyma y wich fawr allan, a'r pair terwedig yn pwffian yn ddychrynadwy, a dechreuoddy Train gynhyrfu yn aruthrol, a ffwrdd ag ef gyda chyflymdra annirnadwy, feddyliwn i. Ar y ffordd, yn rhyw le, gwelwn Gottage prydferth ar y llaw chwith, a gwaeddais allan yn groch yn iaith y Saeson fel hyn, "Stop for a moment, I want to draw a sketch of that Cottage;" "Phw! Phw! Pho! Stop, indeed; no, I will not stop if the Emperor of Russia gave me command to stop." Wel, wel, ebai finnau, "Go on, go on; never mind, never mind, perhaps I shall see the Cottage again, sometime or other," a chyfansoddais yr englynion canlynol allan o law, llyma hwynt:—

Chwyrn Gerbyd, tanllyd, wyt ti—ymwylltiawg,
Fel mellten cyflymi;
Ewyllysgar y llusgi,
A diboen iawn, dybiwn i,


Dy nerth sy'n fwy anferthol,—na dreigiau
Dirwygus tanbeidiol;
Dyfais a grym y diafol,
Noeth deyrn erch nith dry yn ol.

Tania'n well, a dôs bellach,—heb oedi,
Yn bedwar cyflymach,
I ben y daith, pe bai feithach,
A gâd ni i gyd yn iach.

Ond i fod yn fyr, yn mhen ychydig o fynudiau ar ol hyn, dyma'r holl Beiriant mawr yn sefyll yn llonydd ar unwaith; yna gofynais i ryw sais oedd yn y caban, yn mha le yr oeddym, atebodd fi yn garedig "We are now at Birkenhead Station, and we must make haste to get out, and run, that we may be in time for the next Packet for Liverpool," yna dechreuais hwylio fy holl daclau allan, a ffordd a fi ar ol y dorf drwy ryw borth cyfyng, a gwelwn bawb yn rhoi dwy geiniog ar ryw fwrdd bychan, wrth fyned trwodd, fel pe buasant yn offrwm i'r person wrth gladdu y marw; ond cefais wybod wedi hyny mai tal i'r Packet ydoedd, am ein cludo i Lynlleifiad. Beth bynag aethum i lawr gynta gallwn at y Packet, a'm holl gydau mawr gyda mi, fel Dic Aberdaron. Yr oedd erbyn hyn yn dywell nos, a phan aethum ar fwrdd y Packet cefais hyd i ryw drwnk, ac eisteddais arno, gan fachu yn ofalus yn fy ysgrepan, a'r cydau oedd genyf yn dal y "Diliau," rhag ofn i ryw ladron diffaeth eu lladrata oddi arnaf, ond yn mhen ychydig dyma ryw sais neu wyddel brych yn dechreu llefaru yn awdurdodol dros ben wrthyf yn saesoneg, fel hyn, 'rwyf yn meddwl, "Move from there, old Welshman, for I want that Trunk taken away", yna yr atebais inau yn oreu ac y medrwn fel hyn, "I do not know where to move among a lot of Blackguards like these", ond yn y fan dyma y Packet wedi cyrhaedd at y Pierhead, a'r holl dorf oedd ar ei bwrdd yn brysio am y cyntaf i fyned i'r lan, ond sefais i yn llonydd yn fy lle, nes yr aeth pawb allan o honi, ond y dwylo oedd yn perthyn iddi yn unig, yna dechreuais innau wynebu tua'r lan, ond nis gwyddwyn yn y byd pa le i fyned, gan fy mod yn hollol ddieithr yn Llynlleifiad; ond fel yr oedd yr hap yn oreu, gyda fy mod yn rhoddi fy nhraed ar y Pierhead, pwy, meddwch chwi, oedd yn fy nerbyn yno, ond fy mab Morris, Dywedais wrtho, Fy mab, ti ddaethost mewn amser da, yr oeddwn bron a digaloni, yn dlawd tost, cyn dy weled ti. Cymerodd ran o fy maich, ac arweiniodd fi i letty cysurus, yn Pall Mall, meddau ef; gan fy mod mor flinedig, a'i dŷ yntau mor bell, dymunais gael llettya yn agos ir Pierhead, ac wedi myned i'r tŷ a chael lluniaeth ac ymgysuro gronyn, cyfarwyddwyd fi i ystafell wely oedd ar cenawr uchel. Cysgais ychydig, a deffroais ryw bryd yn y nos, a dechreuais feddwl yn mha le yr oeddwn, cofiais i fy mab ddweyd mai Pall Mall oedd enw y lle yma, yna dechreuodd yr awen adfywio gronyn, a gwnaethym yr englyn canlynol yn ddioedi, llyraa ef:— Llettya mewn lle tawel, a wnaethym Yn eithaf diogel; Mewn plu mân, yn min Pel Mel, Ar iachus nenawr uchel. Ond cofiais yn y fan i mi glywed lawer gwaith cyn hyny, mai hen heol ddrewllyd a phuteinllyd dost oedd Pall Mall, a gwnaethum y ddau englyn canlynol yn ddioedi fel hyn:——

Yn ŵr dewr, pan wawrio'r dydd,—y boreu
Heb aros yn llonydd,
Mi godaf, rhedaf, a rhydd
Yr hwyliaf drwy'r heolydd.

Af at fy mab, lle caf gaban—gonest,
Ac amgenach trigfan;
Mae'n llawn pryd, o fawlyd fan
Drewllyd, i mi droi allan.

Pan wawriodd y boreu, prysurais godi o'r gwely, a daethum i lawr ar ffrwst, ac wedi i mi dorymprydio, cyflogais ryw Sais i gludo fy ysgrepan,ac i'm cyfarwyddo i Bedford Street, Toxteth Park, lle yr oedd fy mab yn cartrefu; ond pan ddaethom allan i'r heol, dyma drwst dychrynadwy i'w glywed, gan gertwyni, a cherbydau yn chwyrnellu, nes yr oedd y palmentydd yn gwreichioni, a'r gyrwyr yn llawn mor ynfyd a Jehu, hen lofrydd y wraig felldigedig hòno gynt, sef Jese— bel, a'i holl hiliogaeth, na waeth ganddynt yru ar draws dynion, na pe gyrant ar draws llyffaint; ac nis gwyddwa pa un ai o'n blaen, ai o'm hol yr oedd y perygl mwyaf, ond aethom yn ein blaenau heb gael dim niwed, trwy filoedd o drigolion, oeddynt yn gwibio yn ol ac yn mlaen yn ddiorphwys. Ha! eba ti ynwyf fy hun, nid mor hawdd yw hwylio drwy heolydd Llynlleifiad ac y dychymygais i y boreu cyn codi o'r gwely, ac wrth sylwi ar y fath gyniwair parhaus oedd byd yr heolydd mawrion, ceisiais gyfansoddi tri neu bedwar o englynion fel hyn:—

Trigolion sy'n gwau trwy 'u gilydd,—gwibiant
Fel gwybed aflonydd;
Trwst didawl, arswydawl sydd,
Yn manu ar ein menydd.

Gwibiedig feirch a cherbydau—echrys,
A ddychryn galonau;
Mewn cymysg, derfysg didau,
Dyrwygant megys dreigiau,

Yn mlaen a'r meirch mileinig,—er gweled
Rhai gwaelion methiedig,
Ar eu traws mewn dygnaws dig
Y gyran fel mân gerig.

Gwelais fod achos gwylio,—yn fanwl
Gan fynych graff dremio,
Rhag cael gen rwygwyr o'u co,'
Un adeg fy niweidio.

Oud beth bynag cyrhaeddais i a fy arweinydd, drwy y dorf, a'r twrf, a'r terfysg mawr, yn lled rwydd ar y cyfan, i dŷ fy mab, ac yno y cymerais fy mhrif gartref, tra bum ya aros yn Llynlleifiad. Aethym y Sabbath cyntaf ar ol dyfod i'r dref, gyda fy mab Morris i gapel y Parch. Dr. Raffles, i wrando arno yn pregethu, ac i weled y gynulleidfa fawr a glywais son lawer gwaith am dani cyn hyny, a fyddai yn arfer dyfod yno i wrando, ac ni chefais fy siomi chwaith; yr oedd pregeth y Doctor yn gyson, ac yn efengylaidd, mor bell ac yr oeddwn i yn gallu ei deall, beth bynag, a'r gynulleidfa yn canu yn soniarus, ac yn rheolaidd dros ben. Meddyliais yn y fan am y cantorion ardderchog oeddynt yn y deml fawr yn Jerusalem, yn amser Solomon, pan ydoedd yn ei goniant mwyaf, a theulu Asaph, a meibion Cora yn blaenori gyda y corau gogoneddus, a'u boll offerynau yn clodfori Duw Israel. Tybiwn fod y Salm hono yn cael ei rhoddi allan i'r gynulleidfa gan Solomon ei hun,

"Caereslem lân, ein dinas ni,
Ei sail sydd ynddi ei hunan;
A'i phobl sydd ynddi yn gytun,
A Duw ei hun, a'i drigfan."

Ac hefyd,

"Ewch, ewch o amgylch sion sail,
Ei thyrau adail rhifwch;
Ei chadarn fur, a'i phlasau draw,
I'r oes a ddaw, mynegwch."

Peth bynag, methodd fy nhymerau a dal heb dywallt dagrau o lawenydd, wrth wrando ar y gynulleidfa yn canu mawl, a meddyliais mor orfoleddus y bydd yn y baradwys nefol, pan fydd yr holl saint wedi dyfod at eu gilydd, i gyd ganu yr anthem dragwyddol i Dduw a'r Oen, heb un anwyldeb, na llesgedd yn eu plith am dragwyddoldeb. Pan ddaethum allan o'r capel, ac edrych ar yr adeilad prydferth, a'r lle iachus sydd o'i gwmpas, rhoddais yr enw newydd yma arno, sef "Paradwys Llynlleified", gan ei fod yn ymddangos i mi y lle prydferthaf yn yr holl dref fawr hono.

Ar ol i mi drigo ychydig o ddyddiau yn nhy fy mab Morris, darthum yn fuan yn gydnabyddus a rhai o ddeaconiad Capel Bethel, Bedford Street, sef Mr. Robert Price, Gas Works Mr. George Owen; a Mr. Edward Jones. Ond yn benaf oll, daethum yn gydnabyddus a'r Parchedig Thomas Pierce, gweinidog yr Eglwys Annibynol yn Bethel; cefais ganddo ef a'i wraig barchus dderbyniad croesawgar, a drws agored i alw pryd y mynwn, tra bum yn aros yn Llynlleifiad, a thybiwyf nad anghofiaf garedigrwydd a thiriondeb Mr. a Mrs. Pierce, a'u plant tuag ataf, "tra anadl yn troi ynof," hefyd yr wyf yn meddwl yn ddiysgog fy mod i a Mr. Pierce yn debyg i Dafydd a Jonathan, yn caru y naill y llall yn ddirngrith, ac y gallwn ymddiriad ein holl gyfrinach i'n gilydd, heb ddim perygl y gwna y naill fradychu y Hall mewn geiriau na gweithredoedd. Nid pawb a geir felly yn y dyddiau hyn, osywacth. Cefais hefyd lawer o gyfeillach a'r Parch. William Rees, (Gwilym Hiraethog), ai deulu; y Parchedig Mr. Thomas, Birkenhead, Parchedig Mr. Thomas, Tabarnacl; ac hefyd lawer o bleser a hyfrydwch yn nghymdeithas Mr. Joseph Thomas, (Josephus Eryri,) y Meddyg Mesmeryddol campus, sydd yn preswylio yn No. 2, Seymour Street, London Road; a chan faint ei ddealldwriaeth a'i gywreinrwydd i iachau anhwylderau corphorol, a meddyliol dynion yn gyffredinol, cyfansoddais yr englynion canlynol iddo, a llyma hwynt i bawb a ewyllysio eu gweled a'u darllen:—

"Chwi ffrostus ddigus feddygon—gwaelaidd,
Sy'n gwilio rhai cleifion,
Dyneswch, brysiwch, ger bron,
Am unwaith yn wyr mwyn.

Minau a nodaf iwch' mewn mynydyn
Feddyg rhagorach a ddylach ddilyn,
Cu ŵr deallus, cywir a dillyn—
Gweithia ef iawnder er gwaethaf undyn,
Iachâu anhwylderau dyn,—ni fethau,
Tra dewr cyweiria o'r traed i'r coryn.

Treiddiawl brif ddoctor addas,—dieisiawr
Ydyw Ioseph Thomas,
A'i gamp a 'hed o gwmpas,
Nid ofna bwll dwfn na bas.

Bernwch yn deg heb wyrni,—oes hoffach
Iosephus Eryri;
Pwy yn awr, drwy'n pauau ni,
Ar y gwr wna ragori?

Un ydyw wyr yn odiaeth,—hoff ethawl
Effeithiau mesmeriaeth.

A gweini meddyginiaeth,
Gain wech i ugeniau wnaeth

Difyrus y gwna adferyd,—y cleiſion
O'u clwyfau anhyfryd;
Dwg hwy ’nol ei freiniol fryd
I lewychus ail iechyd.

Da iawn Ioseph ceiff weld yn dynesu,
Gwn yn ddiaital rai gweinión o'i ddeutu,
Amryw nifer ga’dd eu mawr anafu,
Nid am biblis[1] dibris i'w dadebru,
Ond coeliant, nid iawn celu, mai peirian'
Da hylif anian, a'u deil hwy i fynu.

Mae Ioseph yn medru mesur,—doniau
Pob dynol greadur;
Trwy ei ffraeth wybodaeth bur,
Un ytyw wyr eu natur.

A'i beiriant gwna bybyrwaith—a miloedd
Ganmolant ei effaith,
Fe rydd iachâd wiwfad waith
I rai yno ar unwaith .

Meddyg mawr, pen cawr y cerri,—oesawl
Yw Ioseph uchelfri,
A doehbwr goreu'i deithi ,
Ydyw o neb adwaen i.

Hawddgar a thringar wrth raid—â'i ddyfais,
E ddofa wallgofiaid,
Pair i loesion parłysiaid,—ffoi ymaith,
A chwyd hwy eilwaith i iechyd telaid.

Mae'n addas i drin 'menyddiau,—a gwreiddiawg
Arwyddion y penau,

Chwal anhwylder gwywder gau
Sy'n aros ar synwyrau.

Ffyniant i Ioseph anwyl,—ymloned
Aed yn mlaen a'i orchwyl;
Am iechyd a hyfryd hwyl,"
Brysiwch yn llu i'w breswyl.

Mr. Richard Parry, Islington, hefyd, a gefais yn gyfaill caredig dros ben; ac wrth ganfod cymaint o'i garedigrwydd a'i haelioni, gwnaethym yr enuglyn canlynol iddo:

Gwr mwynaidd. puraidd yw Parri—cyfaill
Gwneir cofio'i haelioni;
Mae'n awr bum mil am wn i,
Soniant am ei 'luseni.

Mr. Thomas Owen a fu yn arweinydd a chyfaill caredig i mi, a dywedais fel y canlyn am dano:—

Y sywiol Thomas Owen—a gefais
Yn gyfaill diabsen,
Haeddai glod a bod yn ben
Llywyddwr lle'r pwll addien.

Cefais hefyd Mr. J. Lloyd, yr Argraffydd, a'i deulu, yn gyfeillion caredig a chroesawgar; ond gwell i mi ymattal bellach, o herwydd fod yn Llyulleifiad lawer o ugeiniau o gyfeillion parchus a ddangosasant eu caredigrwydd a'u hewyllys da i mi tra bum yn aros yn eu mysg. Pe bawn yn eu henwi o un i un, chwyddai fy ysgrifi gryn gyfrol o faintioli. Ond i fod yn fyr, ar ol i mi ddyfod yn gydnabyddus ag amryw gyfeillion caredig yn y dref, aethym i weled rhai o'r rhyfeddodau mawrion a ganfyddir mewn amrywiol fanau yno a'r cwmpasoedd; sef y llongau mawrion a bychain oeddynt yn angori ar afon Mersey, ac ereill yn y dociau—tybiwyf fod yno filoedd o honynt o bob maintioli, yn ddigon a pheri i ddyn dyeithr fel fi feddwl fod holl longau y byd wedi cael eu crynhoi yn nghyd at eu gilydd—eu bod yn un o brif ryfeddodau y greadigaeth fawr. Wedi i mi dremio ar y llongau am gryn yspaid o amser, aethym i edrych y Gasworks, a'r ermygau llifio, a'r Waterworks, a gweithfa y deillion o'r ddau ryw, sef bechgyn a genethod oeddynt yn dysgu gwneyd pob math o gywreinwaith yn hynod o gampus (yn ol fy marn i), Yna aethym i weled danghosfa pob math o fwystfilod, pysgod, ac adar o bob rhywogaeth. Nid oes diwedd, bron, ar ryfeddodau Llynlleifiad. Ond i beidio a bod yn rhy faith;—wedi i mi dreul— io rhai misoedd yn Llynlleifiad, arfaethais fyned i Mancenion i ymweled â fy mab Evan a'i deulu. Cychwynais o'r Station ryw foreu efo'r ail Drain, a chyda iddo bron symud dyma fi wedi myned i le mor dywyll a thywyllwch yr Aipht am a wn i. Hynod mor ddisymwth y daeth y cyfnewidiad, bron ar darawiad llygad o'r goleuni i'r tywyllwch. Dyna lle yr oeddwn yn llechu ac yn myfyrio, gan ddysgwyl bob eiliad cael dyfod i'r goleuni; ac yn mhen y pum munud dyma M. mewn tir goleu. Yna gwaeddais allan yn iaith y Saeson, Now, Gentlemen, we have come out of darkness, and we are born again. Yn cyfansoddais yr englynion canlynol yn ddioedi:—

Mawl i Dduw am oleu ddydd,—'rwy' weithian
Yn wr eithaf dedwydd;
Yr ager yw'r cry' rwygydd,
Tan y ser i'n tynu sydd.

Tanio wnel i'n tynu ni,—a llamed
Yn llymach na milgi;
Cyrhaedd i dref y cawri,
Mewn un awr ddymunwn i.


Ac yn mhen awr a chwarter yr oeddwn wedi cyrhaedd i Manchester Station. Daethym allan o'r caban ar ffrwst, a chyflogais rhyw Wyddel i'm cynorthwyo i gario fy ysgrepan, a'm cyfarwyddo i dy fy mab yn Hulme. Cefais dderbyniad croesawgar ganddo ef ac Elizabeth fy merch-yn-nghyfraith, ac yno y cartrefais tra bum yn Mancenion. Aethym boreu Sabboth gyda fy mab a fy merch-yn-nghyfraith i gapel y Parchedig Robert Evans (Trogwy o Fon), i wrandaw arno yn pregethu, a chefais lawer iawn o gyfeillach âg ef tra yr arosais yn Mancenion. Bu yn arweinydd ffyddlon i mi at gyfeillion ereill drwy yr holl dref fawr bron i gyd. Gan iddo fod mor garedig a chymwynasgar i mi tros amser fy arhosiad yno, arfaethais gyfansoddi ychydig o englynion iddo fel hyn:—

Yn iraidd fel yr hen Aaron—fedrus
Oedd dafodrydd berson,
Triga fyth Trogwy o Fon,
Mewn cynydd yn Mancenion.

Bydd glodwych, orwych wron,—gwiw nodwedd,
A gweinidog ffyddlon;
Gwawrio dan nefol goron
Wna dy waith, yn nhŷ Duw Iôn.

Ymwria a'th ddoniau mawrion,—deffro
Rai diffrwyth yn Sion;
Y saint gorau'n llwythau llon,
Gei felly'n bur gyfeillion.

Gwilia a chymer galon,—ag enill
Ganuoedd yn ddysgyblion;
Rhai gweithgar, breingar ger bron,
A selawg ddewisolion.

Gochel ddichellgar guchiau,—erchyllaidd
Archiollwyr teimladau;
Bydd dringar wrth glodgar glau,
Foddolion rhydd feddyliau.

Gweithia ar g'oedd, pregetha'r gair,—bydd daer,
Bydd dirion ŵr diwair;
Gwna dy ran heb ofu anair,
'N mhob modd fel cenad Mab Mair.

Bydd dyfal a gofalus,—a thrwyadl
Mown athrawiaeth iachus;
Dal yr iawn, didola'r ûs,
A brwd araith bryderus.

Dysga bob enaid fo'n disgwyl—wrthyt,
Ymuertha i'r gorchwyl;
Yn llawn cariad, harddfad hwyl,
Trig yna, Trogwy anwyl.


Cefais lawer o gyfeillach a charedigrwydd gyda'r Parchedigion canlynol; sef Richard Jones, gweinidog yr Annibynwyr yn Cartside Street, Mr. Owen, gweinidog y Bedyddwyr, Rowland Hughes, gweinidog y Wesleyaid, ac yn neillduol Owen Jones, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd. Gwr mawr mewn gwirionedd ydyw Mr. Jones fel pregethwr, cyfieithydd, ac areithydd, bron heb ei fath; ac hefyd y mae yn wr siriol, dirodres, a diragfarn, yn rhoddi parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus, ac yn gymwynasgar i'w israddolion pan eu gwelo mewn angen am gynorthwy. Gwnaeth waith campus a gorchestol wrth gyfieithu llyfr y Parchedig Baptist Noel. Gresyn os oes rhai o'r llyfrau hyny yn aros ar ei law eto heb eu gwerthu; y maent yn drysor gwerthfawr, a dylai pob Cymro a Chymraes rhyddfrydig sydd yn medru darllen, ac yn cashau hen ddefodau llygredig ymdrechu eu pwrcasu yn ddioedi.

Gwelais lawer o ryfeddodau yn Mancenion—y Factories lle y mae yr holl weithydd cottwm, a miloedd o feibion a merched yn gweithio ynddynt; ond ni arosais ond pymtheg-nos yno, gan fy mod wedi arfaethu dychwelyd yn ol yn fuan i Lynlleifiad, a phrysuro oddiyno adref i Gymru.

Wedi ffarwelio gyda'm perthynasau a'm cyfeillion, dychwelais gyda'r train cyntaf yn ol i Lynlleifiad, yn iach a llwyddiannus. Yna aethym i ymweled a'm cyfeillion oll sydd yno ac yn Birkenhead; ac wedi i mi ffarwelio â phawb o honynt, eisteddais i lawr yn nhŷ fy mab Morris, a gwnaethym gynllun o fy nhaith tuag adref trwy siroedd a threfydd Gogledd Cymru; a chyfansoddais yr englynion a ganlyn allan o law, a llyma hwynt oll i bawb a ewyllysiont eu gweled a'u darllen." Pan ddaeth y dydd apwyntiedig i ben, dechreuais fel hyn:—

Heddyw heb un cyhuddiad—yn f'erbyn,
Neu fyrbwyll orfodiad;
Trof allan i lydan wlad,
Lawn lleufer o Lynlleifiad.

Pur hawdd af o'r Pierhead,—heb oedi
Mewn tanbeidiawl Backed,
Dan addysg Duw a'i nodded,
I barth gwyn hardd Birkenhead,

Trof eilwaith trwy ofalon,— oddiyno
I ddinas Caerlleon,
Caf'wyllys da cyfeillion
Croesawgar, hawddgar, yn hon.

O Gaer yn frysiawg wron,—i Fagilit
Af drwy fwg a gwreichion;
Coeliaf mai cyfaill calon,
Hyf i mi, fydd Hwfa Mon.

Tra phoenus at Dreffynon—cyfeiriaf,
Lle caf' wir gymdeithion;
Io'n Machno wuna'm llywio'n llon
At arwyr, hynod dirion.

Teulu llon tirion Victoria—anwyl
Yno a'n croesawa;
Sef Ieuan diddau a da,
Wr weddus, a'i wraig wiw-dda.

Gwedyn i'r Wyddgrug odiaeth—y llusgaf,
Tu llesgaidd gan hiraeth
Am wel'd Beirddion, ffriwlon, ffraeth,
A noddwyr awenyddiaath.

Andreas, fwyn-was o Fon,—geir yno,
Ac Arauwr Meirion;
Pleidwyr heirdd i'r Beirdd o'r bôn,
A gwreiddiawl hygareddion.


Gwrol, nerthol, ddi nych,—fy helynt,
Af eilwaith i Ddinbych;
At Ddewi fawr, hen gawr gwych
Dinorwig, a'i wraig dyner-wych.

Caf groeso yno enyd,—a dilyth
Dawelwch i'm hysbryd;
A'r teulu yn gwenu i gyd,
Hafal o'm deutu hefyd.

Oddi yno'n syth i Ruthyn—y cerddaf
I gael cwrdd heb ddychyn
A John Robert, ddoeth-bert ddyn
Deallus, a Bardd dillyn.

Yna'n llawn sel dychwelaf—i y Rhyl
Tua'r hwyr os medraf;
Ac aros un wythnos wnaf
Yno, mewn lle dianaf.

Diamau hyny o dymor—diddan,
Y prydyddaf ragor,
A llonaf lawer llenor,
Mwyn a mad, yn min y mòr.

Pan gyrhaeddais Rhyl, aethym i letya i'r Dudley Arms Family and Commercial Hotel, opposite the entrance to the Railway Station. Cefais le cysurus a heddychlon dros ben yno. Ac yn yr yspaid y bum yn aros yn Rhyl, cefais hamdden i alw gyda rhai gwyr enwog a pharchus sydd yn preswylio yn y dref brydferth hono, sef y Parch. Aaron Francis (Aaron Mochnant), a Iorwerth Glan Aled, a fy nghydwladwr Mr. John Reinallt. yr adeiladydd campus. Darfu y tri wyr hyn, yn nghydag ereill, ddangos llawer o'u caredigrwydd a'u hewyllys da i mi at fy hyrwyddo i werthu'r Diliau, yn enwedig yr olaf o'r tri a enwyd. Tra bum yn aros yno, byddwn yn hoffi myned yn lled fynych i rodio glân y mor; ac ar ryw ddiwrnod nodedig pan ydoedd yn orllanw, gwelwn dorfeydd o foneddion, yn feibion a merched, yn cerdded yn araf at y cabanod prydferth oedd yno wedi eu gosod yn bwrpasol iddynt, i ddiosg a gwisgo eu dillad pan fyddont yn myned i ymdrochi yn y môr. Hynod mor foneddigaidd ac ardderchog yr oeddynt yn rhodio yn ol ac yn mlaen yn mreichiau eu gilydd cyn myned i'r cabanod i ddiosg eu gwisgoedd porphoraidd a sidanaidd, Yna ceisiais gyfansoddi tri neu bedwar o englynion, fel y canlyn:—

Mae Rhyl ar lan môr heli,— yn gampus,
Fan gwympawg i'mdrochi;
Ond gwilied neb o'n gwlad ni
Feddwl myn'd yno i foddi.

Mae'n lle glân, diddan, a da,—arbenig
I'r bonedd rodiana;
I'r Rhyl wynebu yr ha',
Mae cantoedd am y cynta'.

Y gwiwlwys deg ewelon,—olynol,
I loni'r trigolion;
A dardd o gyrchfa y dòn,
Drwy y deraidd dre' dirion.

Ceir yno waith cywreinion,—hoff lysoedd
A ph'lasau dillynion;
Ni seiliodd hen oesolion
Un dre' fach harddach na hon.

Yna daeth yr amser apwyntiedig i ben, ac yr oedd yn rhaid i mi fyned yn fy mlaen yn ol fy nghyullan, a chyfansoddais yr hyn a ganlyn wrth ymadael:

O'r Rhyl y difyr hwyliaf—i Gonwy,
Yn gynar cyrhaeddaf;
Oddiyno hyn addunaf,
Ar ffrwst i Lanrwst yr af.

Mi neidiaf mewn munudyn,—i noddfawr
Aneddfa Caledfryn,
Sydd ar siriol freiniol fryn,
Diffraidd uwch ben y dyffryn.

Caf yno mewn cu fwyniant,—am ddeuddydd
Ymddyddan heb soriant;

Caf wersi'n ddigoegni gant,
A hoff urddawl hyfforddiant,

Yn y dref hono hefyd—fe allai
Caf gyfeillach hyfryd
A Beirdd gwâr, breingar eu bryd,
Mawr rinwedd, am ryw enyd.

Trebor Mai fe saif pob sill —o'i fedrus
Wiw fydrau cywir-sill;
Dyn enwog ydyw'n ynill
Gwên y byd pan gano b'ill,

A'r addfwyn deg arwydd-fardd—gwir hoffus
Yr argraffydd digardd;
Sion arfog, hen synnwyr-fardd,
Gofrestraf, yn buraf bardd.

Eang luniwr englynion,—cywreiniaf
O'n coronog feirddion;
Daw astud fil o dystion,
Rydd wiw-rwydd sicrwydd, yw Sion.

Galwaf yn Abergele—a Cholwyn,
Wrth ddychwelyd adre';
A Bangor fawr, dryst-fawr dre',
Lawn mwyniant ar lan Mene.

Yn y ddinas dda hono—mae'r
Esgob Mawr ei rwysg yn trigo,
Olynydd Paul 'ferthol yw fo,
A doniawl olynwyr dano.

A'r hybarch Ddoctor Robert—fwyneiddiawl
Foneddwr di gwfert;
Prif ddiwygiwr, pur-wr pert,
Lyw hirben uwchlaw Herbert.

Robyn Wynn hydyn awdwr,—geir yno
N gywreiniawl archenwr;
A pherffaith lanwaith luniwr
Englyn da yn nglan y dwr.

Arosais yn Mangor bedwar diwrnod; ac ar un boreu cefais gyfaill caredig i'm cyfarwyddo i fyned i edrych Pont Menai, ac aethym yn galonog ar hyd-ddi dros yr afon fawr i sir Fôn. Yn awr gallaf ddywedyd fy mod wedi sangyd ar gwrr yr ynys hynafiaethol hono; ond nid aethym ond ychydig o latheni iddi, dychwelais yn ol yn lled ddiseremoni, heb gyfansoddi cymaint ag un llinell iddi, gan y gwyddwn fod lluaws o englynion campus wedi eu gwneyd yn flaenorol. Pan gyrhaeddais Bangor Uchaf, aethym i ymweled â Mrs. Williams, gweddw y diwaddar fardd godidog, Mr. R. Williams (Robert ab Gwilym ddu o Eifion), a chan fy mod i a hithau wedi ein geni a'n magu yn yr un plwyf, cefais dderbyniad croesawgar ganddi, a da genyf allu dywedyd fod yr hen wraig yn edrych yn dda ac yn drefnus dros ben, a phob ymddangosiad fod ganddi ddigon o gyfoeth i dreulio gweddill ei hoes yn annibynol fel boneddiges anrhydeddus. Ac wrth ymadael â hi, cyfansoddais yr hyn a ganlyn:—

Hir iechyd yn Mangor Ucha'—i'r geinwech
Wraig anwyl ddi draha;
Gweddw Robert, doeth-bert fardd da,
Ab Gwilym, por meib Gwalia.

O Feirion dirion y daeth,—i Eifion,
Dan ofal rhagluniaeth;
Dyna'r fan, hoff rian ffraeth,
Ddiw'radwydd, ca'dd úr odiaeth.

Gwraig ddoethgar, hawddgar, yw hon,—ei harddwch
A urddodd fro Eifion;
Bangor deg, ar freindeg fron,
Yw'r orawr mae'n byw'r awr'on.

Yn ei henaint mae'n hynod—gariadus,
A gwridog i'w chanfod;
Haeddai 'n awr ryglyddfawr glod,
Peraidd gan fydrydd barod.

Ar daith o oror y dón,—dewch unwaith
Yn chwaneg i Feirion;
Gan bawb drwy'r wlad hardd-fad hon,
Coeliwch, cewch groeso calon.


Wedi hyny ymadewais o Bangor, a dywedais yn ddioed fel y canlyn:—

Hwyliaf oddiyma'n hoywlon,—draw a fi
I dre' fawr Caernarfon;
Tariaf yn mysg cantorion
Dan haul dri diwrnod yn hon.

Gwed'yn nid teg yw oedi—'n rhagor,
Rhwygaf rhwng clogwyni;
Tua Meirion freinion fri,
'N wrol cyn i'r hin oeri.

Tariaf un-nos mewn tref enwog, —hynod
A'i henw Porth Madog;
Dedwydd Borth beidd godidog—sef Emrus
A Ioan weddus, dau awenyddog.

Yna mewn bâd yn union,—hynt einoes,
Anturiaf drwy'r afon;
I Harlech wech ar frech fron,
Pwynt tra mawr, pen tre' Meirion.

Gadael Harlech wnaf gwed'yn,—a ffrystiaf
Rhwng fforestau'r dyffryn,
I'r Bermaw a'm dwy law'n dynn,
Ar ymylau'r aur melyn.

Brysiaf i'm dedwydd breswyl,—oddi yno
Yn hawdd iawn 'rwy'n disgwyl,
Ynot Dolgellau anwyl,
Cyd a f' oes y cadwaf Wyl.

Ond wedi cyrhaedd adref, a chyfarch gwell i'm cyfeillion yn Nolgellau, deallais yn fuan na thalai i mi gadw gwyl yn hir iawn, gan fod genyf lawer o leoedd eto i ymweled a hwynt, i'r dyben o gasglu arian y "Diliau" oedd wedi eu dosbarthu hyd Ogledd a Deheudir Cymru. Ac ar ryw fore ddechreu yr wythnos, cychwynais i'm taith tua Llanegryn a Thywyn Meirionydd. Wedi cyrhaedd o honwyf uwch ben dyffryn prydferth, ac afon Dysyni yn ymarllwys yn araf drwyddo i'r môr, gwelwn graig fawr ardderchog gyferbyn â mi yr ochr draw i'r dyffryn, yr hon a elwir Craig y 'Deryn. Tybiwyf ei bod yn un o'r hynotaf yn Nghymru. Mae hi yn nodedig felly yn misoedd Mai a Mehefin, pan y bydd pob math o adar bron yn dyfod yno i nythu; a bydd y fath drwst gan leisiau yr hen adar a'u cywion nes y bydd preswylwyr yr ardal yn cael merwino eu elastiau wrth wrando eu crochnadau. Eisteddais i lawr, a chyfandoddais yr englynion canlynol iddi allan o law:

Craig wech glaer, yn crogi uwch glyn,—swynol
Hen Ddysyni ddillyn;
Craig fras ar wedd caerog fryn,
Crug dŵr yw Craig y Deryn.

Craig serth yn llawn prydferthion— lle heidia
Llu o hediaid mawrion
Rhyw grachod dinod at hon
Yw gorfawr greigiau Arfon.

Er bod ger bron yn Meirionydd—gannoedd
O geinion greig celfydd.
Ar bob craig fawr, seith-fawr sydd,
Unbenes yw hon beunydd.

Rho'i her all Craig y Deryn—i'r creigiau
Sy'n crogi uwch Penllyn;
Ei dull-wedd sy'n fwy dillyn,
Na'r Gader fawr ger llaw'r llyn.

Mae'n eres loches lachar—a moethus
I bob math o adar,
Rhai geirwon, gwylltion, a gwar,
T'rawiadol yn cyd-drydar.

Y cr'yr glas gwagfras, a'r gigfran—rheibus,
A'r hebog, a'r 'sguthan,
A'r grawciog afrywiog fran,
A llawer hen ddallhuan.

Y pybyr eryr eirian—a'r cogau
A'r cegog farcutan;
A'r byflwnc adar aflan,
Gryn fil a geir yn y fan.
Eu crog luosog leisiau—mawr hynod
Sy'n merwino clustiau;
Trigolion y bur-lon bau
Grych neidiant gan grochnadau.

Dyma'r fan daw'r mulfranod—i nythu
A nhwythau'r gwylanod;
Deunaw rhyw o dan y rhod
Fynychant i'r fan uchod.

Y dryw bach wrth hir droi'i ben—hoff antur
Aiff yntau i ryw agen,
Lle nytha—nis ofna sen
Y bigog rwth biogen.

Hithau y falch fwyalchen—a'r fronfraith
Fireinfrwd ei chrechwen,
Ddaw yno i byncio uwchben,
Fel adar hyfawl Eden.

Dyna ddarluniad union—o'r gywrain
Ragorol graig dirion;
Gwylied pob bardd o'i galon
Roi geiriau cas i'r graig hon.

Wedi gorphen yr englynion, prysurais i lawr i waelod y dyffryn, a chyfeiriais ar hyd heol wr lydan at blas Peniarth, i ymweled a'm cyfaill ffyddlon Mr. Evan Rowlands, Goruchwyliwr W. W. E. Wynne, Ysw., A. S. dros Sir Feirion. Mae Mr. Rowlands yn llenorydd campus, a phleidiwr gwresog i bob Cymdeithas a fo'n tueddu at lesoldeb a rhyddid gwladol ac eglwysig. Mae ef a'i wraig yn debyg i Abram a Sara, a'r hen batrieirch dwyreiniol gynt, yn lletygar a chroesawgar i bregethwyr, beirdd, a llenorion, a phawb o nodweddiad addas a ddigwyddo alw gydag ef. Cefais yma le tawel, cysurus, a llawer o hyfrydwch yn ei gymdeithas. Deallwyf ei fod yn wr dysgedig. beirniad craffus ar bob peth a gymer dan ei sylw, ac yn llywodraethu ei dy yn dda, ac yn dwyn ei blant i fynu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Boreu dranoeth, wedi torymprydio gyda'r teulu, aethym gyda fy nghyfaill i weled ansawdd y fferm, a gwelwn ganddo nifer mawr o ddynion mewn gweirglodd fawr, yn cloddio ffosydd dyfnion ar ei thraws a'i hyd, ac yn rhoddi pibau pridd wedi eu crasu yn eu gwaelodion, i gario y dwfr allan o honi, i'r dyben o'i sychu a'i diwyllio, a'i gwneyd yn dir da, yn lle ei gadael fel yr oedd, yn debyg i weirglodd fy modryb Cati. Ha! ebai fi wrthyf fy hun, mae Mr. Wynne yn gallach na miloedd o berchenogion tiroedd sydd yn Nghymru beth bynag, am ei fod wedi dewis gwladwr deallus yn arolygydd ar ei diroedd a'i goedwigoedd, yn lle dewis rhyw Dwrneiod, a chrach-fasnachwyr, na wyddant ddim mwy am ddiwyllio tiroedd a meithrin coedydd, nag a wyddai Twm Fawr a fyddai yn cludo sacheidiau o wlân ar ei gefn yn Nolgellau gynt. Mae sychu a diwyllio corsydd nid yn unig yn llesiant i'r amaethwr, ond hefyd yn iechyd i'r ardaloedd. Tybiwyf mai da fyddai i holl berchenogion tiroedd gymeryd Mr. Wynne yn batrwn yn hyn, a gwario eu harian i ddiwyllio eu tiroedd, a gwneyd adeiladau gweddus i'w tenantiaid, yn lle cadw gormodedd o gwn hela, a dylyn dawns-chwareufaoedd, a gwleddoedd annghymedrol." A gellir dweyd yn ddiofn, pe yr ymroant i wellhau eu tiroedd diffrwyth, y byddai hyny yn galondid ac yn fendith iddynt. Brysied y boreu y cymer hyn le. Ond i fod yn fyr. Wedi tremio am gryn amser ar y dynion gweithgar gwnaethym yr englyn canlynol iddynt:

Rhai gwiwlwys am wneyd rhigolau—ydych
'Rwy'n adwaen eich campau;
Gwnewch fawn-dir a brwyn-dir brau,
Ar redeg, yn dir ydau.


Yna dychwelais at y palas gyda'm cyfaill; ac wedi ciniawa, cyfansoddais yr englynion a ganlyn iddo ef a'i deulu caredig;

Mynwesawl gymwynasydd—yw Rowlands,
A gwr hael-wych beunydd;
Dewr ethol lywodraethydd,
Cariadlon, rhadlon, a rhydd.

Llênydd coeth, dillynaidd cu, — a hybarch
Ohebydd diballu;
A llongar wr llawen-gu,
Llawn o barch-ei well ni bu.

Siriol amaethydd seirian,—goludog,
A gwladwr mwyneiddlan;
Un enwog o iawn anian,
A gwych gyfnerthwr y gwan .

I Rowlands fawr ei alwad,— a'i deulu,
Dihalog a gwastad;
Boed llwyddiant a mwyniant mad,
Teilwng heb un ataliad.


Gwedi hyny ymadewais, ac aethym drwy bentref Llanegryn, i fynu i Ty'n-llan, i ymweled â Mr. a Mrs. Lewis, Dyma y fan y ganwyd y farddones gampus hòno Ellen Egryn, a'i chwaer hynaf hi yw y wraig gariadus sydd yn byw yno yn awr . Cefais dderbyniad caredig ganddynt hwy fel teulu . Wedi cyflwyno fy niolchgarwch iddynt, aethym i Dyddyn y Blaidd, i gyfarch gwell i'r hen batriarch, Mr. Lewis Hartley a'i wraig fwynaidd. Ar ol i mi orphwys ac ymddyddan am y naill beth a'r llall, daeth yr hen fardd a chryn gyfrol o Bryddestau i'r bwrdd o'i waith ei hun. Tybiwyf fod yn rhai o honynt radd fawr o gywreinrwydd, addewais fyned yno am ddeuddydd neu dri i edrych drostynt, a'u hadolygu . Pwy a wyr na fydd i'r hen fardd eu hargraffu yn llyfr cyn pen hir? Gwedi diolch iddynt am eu croesawiad, aethym yn ol i Lanegryn, a galwais gyda Mr. John Williams, pregethwr doniol gyda'r Annibynwyr yn awr. Wedi ffarwelio âg ef, aethym yn mlaen i Waterloo Place, y Cottage hardd lle y mae y Parch. J. Owen, gwein— idog yr Annibynwyr, yn byw. Tybiwyf fod llawer yn wy— bodus i Mr. Owen bron fyned yn hen lane cyn cael gwraig ond achubodd y blaen cyn myned felly, a phriododd Miss Griffiths, merch G. Griffiths, ysw., Cae'rberllan, Llanmihangel-y-penant, Meirion. Gan iddo fod mor gall a chymeryd gwraig, cyfansoddais y tri englyn hyn iddo ar eu priodas:

Rheolaidd belydr haulwen—dywynodd
O dan y ffurfafen;
Gwiwdod parch rydd godiad pen
O newydd i John Owen,

Gwraig rasol, siriol, seirian,—a di lyth,
O deulu Cae'rberllan;
Er fflweb, dedwyddwch diddan,
Dda rodd, a gafodd i'w ran.

Llwyddiant a ffyniant hoff anwyl—iddynt,
A hedd yn eu preswyl;
Mewn gwynfyd a hyfryd hwyl,
Eirioes hyd ddydd eu harwyl.

Ymadewais oddiyno, ac aethym ar hyd y brif—ffordd, tua Thowyn, a throais ar y llaw ddeau i amaethdy mawr a elwir Celmi, preswylfod Mr. John Davies. Hen lane mewn gwir— ionedd yw efe, wedi cyrhaedd gwth o oedran, ac yn cael gair da gan bawb. Tybiwyf na thramgwydda neb o breswylwyr yr ardal pe dywedwn ei fod yn un brif ddynion y wlad o amgylch; yn gymwynasgar a thirion wrth bawb. Wrth ym— adael, gwnaethym yr englyn canlynol iddo:

Hen lanc teg, mwyn, di wegi,—a difyr
Yw Davies o'r Celmi;
Dweyd a wnaf nad adwaen i
Ei lawnach o haelioni.

Gadewais fy nghyfaill, ac aethym yn mlaen dros afon Dysyni i gwrr dyffryndir prydferth Towyn Meirionydd, a chyrhaeddais yn fuan i Bryncrug, a galwais wrth fyned heibio gyda Mr. E. Evans, athraw dysgedig yr ysgol Frutanaidd, yr hwn sydd yn wr ieuanc hynaws, yn haeddu ac yn cael parch gan yr holl ardalwyr, am roddi esampl dda o flaen ei ddysgyblion, heblaw eu dysgu yn y gwahanol gelfyddydau. Gwelwyd hyny yn eglur yn yr arholiad diweddaf arnynt. Y mae ei ddull addfwyn a boneddigaidd yn brawf ei fod yn gymwys iawn i'w swydd. A chan faint ei gymwysderau athrawyddol, cyfansoddais dri englyn iddo.

Aruthrawl gywir athro, yw—Iorwerth,
Ei arwedd sy'n tystio,
Fe rydd ei dalent fawr o
Addurn prydferthawl iddo.

Agwedd ei ysgollheigion,—a'u moesau
Sydd rymusol dystion;
Fod Iorwerth brydferth ger bron,
Yn gawraidd enwog wron.

Dringed Iorwerth yn fardd gwerthfawr,—difefl
Uwch law Dafydd Ionawr;
A gwên addfwyn gynydd-fawr, Y
n glodrydd ben mydrydd mawr.

Wedi hyny ymadewais, ac aethym yn mlaen i'r Dolau Gwyn, i ymweled â Mr. a Mrs. Lewis, a'u mab Gwilym. Arosais yno ddiwrnod a noswaith, yn cael croesaw mawr, a hyfrydwch o weled y melinau, yr ermyg ddyrnu, y meirch, y defaid tewion, a'r gwartheg. Wedi gweled y pethau hyn, diolchais iddynt am eu hynawsedd, ac aethym ar hyd y ffordd tua Thywyn. Pan ddaethym yn agos i'r Hen Dŷ, troais i ymweled â Mr. Humphreys sydd yn byw yno. Cefais lety cysurus a chroesaw ganddo ef a'i wraig, Boreu dranoeth, wedi torymprydio, aethym gydag ef i edrych ansawdd ei dyddyn, a gwelwn ei fod yn deall trefn amaethyddiaeth yn dda. Tybiwyf y gellir dywedyd yn ddibetrus am dano, ei fod ef yn lled agos a dyfod i fynu i'r cymeriad awnw, bod ganddo le i bob peth, a phob peth yn ei le ei hun. Wrth ymadael, gwnaethym ddau englyn iddo ef a'i, deulu fel hyn:

Hugh Humphreys eres wron,—y wiwrwydd
A siriol amaethon,
Gwladwr hawddgar, llachar llon,
A llenydd doeth-gall union.

Yma heb gel y gwelwch,—iawn deulu,
'N dilyn lletygarwch;
Gwraig addien, hoff lawen, fflwch,
Hyddestl, a phlant mewn heddwch,

Wedi diolch iddynt am eu croesawiad, cyfeiriais ar draws y maesydd nes cyrhaedd y Ty Mawr, preswyl y bardd awenyddol Mr. E Evaus (Ieuan Ebrill). Yma y cefais dderbyniad caredig, Y peth cyntaf a dynodd fy sylw yno oedd yr ermyg ddyrnu campus oedd newydd ei gosod i fynu ger y ty Tybiwyf fod yn iawn i mi grybwyll ddarfod iddo ragori ar ei gymydogion yn ngwneuthuriad yr ermyg hon, gan iddo ei gwneyd i'r elfen ddwfr weithredu i'w throi yn lle y meirch, Bellach cant orphwys oddiwrth y llafur hwn. Y mae yma hefyd ermygau corddi; ac y mae hyn yn dangos fod diwygiad mawr yn cymeryd lle yn y dyddiau hyn, ac arwyddion fod teimladau o dosturi yn mynwesau yr amaethwyr tuag at eu morwynion gweithgar Yn awr gallant ar ol rhoi y llaeth yn y fuddau, a gollwng y dwfr ar yr olwyn, eistedd i lawr i orphwys, a chymeryd y Bibl neu lyfr hymnau, neu ryw lyfr buddiol arall, a dysgu allan o honynt, fel y byddont yn debyg o fod yn famau dysgedig erbyn yr elont i'r sefyllfa briodasol, ac yn alluog i ddwyn eu plant i fynu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd o'u mebyd, fel Timotheus gynt, yr hwn a ddysgwyd gan ei nain Loes, a'i fam Eunice, a disgwyliwn fod athrawon ac athrawesau campus yn cael eu magu y dyddiau hyn. Hwyrach nad anfuddiol fyddai crybwyll yma cyn gorphen y frawddeg hon, fod merch Mr. a Mrs. Evans, sef priod hynaws Cadben G. Dedwydd, o'r Abermaw, yn agos i'w thymp ar ei chyntafanedig pryd hyny, a dymunais gael clywed pan gymerai hyny le. Cefais fy nghais, ac enw y dyn bach hefyd, a gwnaethym yr englynion canlynol i'w hanfon iddynt allan o law, a llyma hwynt.

Ganwyd bachgenyn gwenawl,—a dinam,
O dyner wraig siriawl,
Mae ei enw'n ddymunawl,
Llewelyn gwiw-ddyn mewn gwawl.

Ar gynydd y del Llewelyn—rywiog,
Wyr Ieuan bardd Tywyn,
A da ollawl fab dillyn—
Dedwydd,—daw'n dderwydd o ddyn.

Onid aeth Ieuan yn daid—eleni,
Hyn a lona'i enaid;
Oi lin cu'n ddi len y caid—
Teilwng etifedd telaid.

Mal ei daid yn mlodau 'i oes,—ymwriad,
Yn lladmerydd eirioes,
A bardd treiddgar, fwyngar foes,
Tra enwog trwy ei einioes.

Hir einioes gaffo'i rieni—anwyl,
I'w union hyfforddi;
Dan nawdd Duw Iôn raslon Ri,
Rheded i wir fawrhydi.

Felly ffarweliais â Mr. Evans y tro hwn, ac aethym i dref Towyn i ymweled â'm hen gyfeillion sydd yno. Gelwais yn gyntaf gyda Mr. W. W. Jones (Gwilym o Fon), lanc prydferth a chroesawgar, a llenor campus, a masnachydd cyfrifol, Rhoddais gyngor iddo i ymorol am wraig hawddgar a darbodus, cyn iddo heneiddio, ac addawodd yntau yn bwyllog y cymerai fy nghyngor o dan ei ystyriaeth. Wrth ymadael gwnaethym y ddau englyn hyn iddo:—

Gwilym o Fôn sy'n athronydd—doethaidd,
A dethawl fasnachydd,
Cyn pen hir bernir y bydd,
Yn hyfawl eon ofydd.

Un mawr yn Nhywyn Meirion,—yw Gwilym,
Fel y gwelir weithion;
Dir nad oes, eirioes wron,
Mwy pur na Gwilym ap Io'n.

Aethym oddiyno at Mr. Robert Jones (Robin Awst), y fferyllydd; gwr darllengar a chroesawus ydyw, ac y mae wedi dangos ei gallineb drwy gymeryd gwraig, a hono fel gwin wydden ffrwythlawn. "Gwych, Mr. Jones," ebai fi, "chwi a wnaethoch yn ddoeth briodi cyn myned yn hen lanc," a gwaaethym y ddau englyn hyn iddo ef a'i wraig wrth ymadael a hwynt:

Robin Awst arab onestydd,—gwiwrwydd
Sy'n gywrain fferyllydd,
Mawr enw yn Meirionydd,
Heb dawl sy iddo bob dydd.

Cofier fod ei wraig hefyd,—dda'i 'madrodd
Yn medru'r gelfyddyd;
Myn hon y gwaelion i gyd,
O fachau hen afiechyd.

Oddiyno acthym at y Meddyg Philips a'i deulu. Yno y lletya y Parch. Isaac Thomas, gweinidog yr Annibynwyr, gwr ieuanc gobeithiol, a phregethwr doniol ydyw. Y mae yn debyg o fyned ar hyd llwybr yr hen lanciau, a rhoddais gynghor pwyllog iddo yntau hefyd i ymorol am gydmares bywyd yn ddioedi bellach—

Sef gwraig rasol, dduwiol dda,
Siriol, mor ddoeth a Sara;
Un hylaw, ddistaw. ddwysdeg,
Heb grychni, brychni, na breg;
Un hynaws, nid mewn henoed,
Gynil, iach, un ganol oed;
Un barchus, hoenus, heini',
Grefyddol, o freiniol fri;

Un dda'i gair, un ddigyrith,
Un dirion, radlon, ddi rith;
Un fedrus, ddiynfydrwydd,
Gymedrol wrth reol rwydd;
Un wiw-gu o iawn agwedd,
Gywir, hoff, a garo hedd;
Un ddoeth, a werchyd yn dda,
Is ei gwr, heb segura;
Un lariaidd, nawsaidd, ddi nac,
Dewised fy mrawd Isaac.

Dyna i chwi, pa gyfri' gwell, Yn llawnion, ugain llinell. Addawodd y bwyllog yn gwnai hyny. Rhwydd hynt iddo wneyd felly.

Tybiwyf fod Mrs. Philips yn eithaf batrwn iddo chwilio am un i'w hefelychu, gan fod ynddi dri pheth, modd bynag, o rinweddau a berthynant i wraig dda; sef, glendid a phrydferthweh; synwyr naturiol cryf; a gras Duw yn ei henaid. Hyderaf mai un o'r nodweddiad hwn a gaiff fy hen gyfaill.

Gelwais wedi hyny gyda Mr. D. Davies (Dewi ap Dewi), y dilladydd, bardd a llenorydd campus; a chan ei fod yn wr mor athrylithgar a gwybodus, rhoddais iddo y titl newydd o Dewi fardd. Cadfan. Gelwais wedi hyny gydag amryw bersonau ereill, gan gyfwyno fy niolchgarwch iddynt am eu caredigrwydd, ac aethym ar frys yn ol drwy bont Dysyni, a chyrhaeddais erbyn hanner dydd i Rhoslefain, i gyfarfod Evan Lewis, cludydd o Ddolgellau i Dowyn, a daethym yn ei fenn adref erbyn tywell nos, a gorphwysais am rai wythnosau yn fy mhabell fy hun; ond gwelais cyn hir na wnai mo'r tro i mi aros gartref yn hwy, gan fod genyf lawer o arian dyledus am y "Diliau" heb eu casglu. Penderfynais gymeryd taith arall drwy Dalyllyn a Choris, ac i Fachynlleth, a chychwynais ben boreu oerllyd fis Ionawr, a gelwais mewn gwesty a elwir Minffordd, saith milldir oddi- cartref. Cefais yno dderbyniad caredig gan Mr. a Mrs. Edwards. Yr oeddwn bron rhynu erbyn cyrhaedd yno; ac wedi cael lluniaeth ac ymdwymno, dywedais fel hyn:

Yn Minffordd heb ddim anffawd,—ces araul
Le cysurus hynawd;
Bwyd maethlon, a phurion ffawd,
A'm dewis o bum' diawd,

Yna aethym gyda Mr. Wm. Owen, goruchwyliwr Owen Owens, ysw., i Ddolffanog, lle y cefais dderbyniad crossawgar hyd y boreu Diolchais iddynt, ac aethym drwy Goris ar hyd y rhew a'r eira mawr, a chyrhaeddais Aberllyfeni, ac ymwelais à Mr, R. Hughes, goruchwyliwr y cloddfeydd llechi sydd yno, i ddiolch iddo am ei haelfrydedd yn dewis ac yn cymwyso llech ardderchog i'w rhoddi yn gofgolofn i Ieuan Gwynedd yn addoldy y Brithdir, gerllaw Dolgellau, lle y gosodwyd hi i fynu yn drefnus ar y cwrr gogleddol yn y capel, a hyderir y bydd ar gael yn mhen canrifau eto. Cyfansoddais yr englynion a ganlyn iddo am ei hynawsedd:

Robert Hughes arabwr têg—a moesawl,
Gymwysodd lêch gareg,
Un liwgar, freingar ddi frêg,
A gweddus i ei goddeg.

Lluniwyd hi mewn dull iawn wedd.—yn golofn
Gu wiwlwys ddisgleirwedd,
Er coffhad rhawg o hoff wedd,
Ein gwanar Ieuan Gwynedd.

Tawel gwnaeth Robert Owen,—wych biliwr,
Ei chaboli'n drylen;
A thorodd bob llythyren
Yn fflur eiriau pur i'r pen.
 
Y rhadawl gerfiwr hydyn,—a'i gweithiodd
Hi'n goethaidd a dillyn;
Chwi gewch glod hynod am hyn,
A dirfawr barch diderfyn.

Gwedi hyny ffarweliais àg ef, a dychwelais yn ol i Goris, ac aethym i letya i westy mawr y Braich Coch, Cefais yno le cysurus a didramgwydd hy dranoeth, gan Mr, a Mrs. Williams, a gwnaethym yr englyn hwo iddynt.

Gwesty'r Braich Coch sy'n lloches—odiaethol,
I deithwyr di rodres,
Cânt ddistaw groesaw a gwres,
Ar eira a hin oer eres.

Yna aethym ar ffrwst i Machynlleth. Wedi cyrhaedd yno troais i dŷ Mr. H. M. Pugh, y fferyllydd, ac arosais yno am rai ddyddiau, yn cael croesaw da ganddo ef a'i wraig . Ymwelais âg amryw gyfeillion caredig ereill yn ystod fy arhosiad yno, rhy faith i'w henwi. Ac ar ryw foreu, pan oeddwn yn edrych ansawdd y dref, cyfansoddais yr eng lynion dylynol:

Machynlleth difeth a fu — drwy'r oesoedd
Heb dreiswyr i'w mathru;
Cawri dewrion, ceinion, cu,
Moethus, ga’dd yma'u maethu .

Lle uthrawl dan y llethrau — yw'r dre ' hon
Dra hynod ei chonglau;
Tref orlawn ar burlawn bau,
O feithion hynafiaethau.

Y Maen Gwyn yw man y gwânwr,—gwarsyth
A gwersyll gorchfygwr;
Gorsedd uchel rhyfelwr,
Glân deg, sef Owain Glyndwr.

Gwiwrwydd fwrdeisdref gywrain,—a hwylus
Deg heolydd llydain,
A hen gerfaidd, goethaidd gain,
Swmerawg b'lasau mirain .

Llenwyr a beirdd dillynion, —mygedawg,
Yma godir weithion;
Rhai treiddgar, llachar, a llon,
Ar dda sail urddasolion,


Wedi hyny penderfynais gymeryd taith i Lanbrynmair, gan na fum yno erioed; a cheisiais ddynwared pryddestwyr yr oes hon wrth ysgrifenu hanes fy nhaith, gan ddechreu fel hyn:

Ar ddiwrnod oer fis Ionawr, heb un braw,
I'ın taith yr eis o dref Machynlleth draw;
Yn mlaen a fi ar nen y cerbyd mawr,
Hyd at Dy’nrhos, heb feddwl neidio i lawr;
Pan welais groesffordd ar y ddehau law,
A hono'n lân, heb arni laid na baw,
Crochfloeddio wnes, fel dyn mewn pryder dwys,
Gan fod y peth i mi o gymaint pwys, —
"Gerbydwr mwyn, atebwch fi mewn gair,
Ai hon, yn wir, yw'r ffordd i Lanbrynmair?"
Atebai'r gwr yn siriol ac yn llon,
"Y briffordd iawn i Lanbrynmair yw hon."
I lawr ar frwst y daethym yn ddifroch,
A ffwrdd a fi trwy bentre'r "Comins Coch,"
Ac yn fy mlaen rhwng gelltydd llawn o goed,
Na welswn i yr un o rhei'ny erioed.
Cyfarfum ddyn, a holais hwnw toc,
"Pa faint o ffordd sydd etto i westy’r Cock ?"
"O ewch yn mlaen, na chym’rwch ronyn braw,
Mae'r gwesty mawr yn agos iawn gerllaw;"
Ac felly 'roedd, a dweyd y gwir i chwi,
Rhoes geiriau'r gwr galondid mawr i mi,
A chyrhaedd wnes, cyn pen yr hanner awr
Brydnawn y dydd, i westy'r Ceiliog mawr .

Bellach, gwell i mi geisio dynwared rhyddieithwyr, heb na sain nac odl, nac un math o gynghanedd. Pan ddaeth ym i'r gwesty, troais i ystafell eang ar y dde, a gofynais am dê, a chefais beth bron ar drawiad llygad . Gwyddwn fy mod yn hollawl ddyeithr i bawb o'r teulu: ond, gan wired a'r pader, dyma sî allan mai " Meurig Ebrill" ydoedd y gwr dyeithr oedd yn yr ystafell . Nis gwn pa fodd y daethant i wybod oni ddarfu iddynt arogli y Diliau oedd genyf mewn ysgrepan gerllaw . Ond, i fod yn fyr, ar ol i mi yfed tê, aethym i edrych ansawdd y tŷ, yr ystablau, y cerbyd-tai, y meirch, a threfn y gweision a'r morwynion. Gwelais fod pawb oll yn cyflawni eu swyddi yn anrhydeddus wrth orchymyn eu meistr a'u meistres, a hyny gyda'r ufydd— dod a'r parodrwydd mwyaf. Eisteddais i lawr yn yr ystafell, a neidiodd yr awen i'w helfen ei hun, a chyfansoddais yr englynion canlynol yn ddioedi:—

Hen breswyl anwyl enwog—a gwastad,
Yw gwesty y Ceiliog;
Caiff Bardd dyddan, glân ei glog,
Groesaw o flaen tân gwresog.

Yn y Cock heb un nacâd,—caredig
Ceir odiaeth groesawiad,
Gwledd feithrinawl, fuddiawl, fâd,
A gwin, yn ddioganiad,

Gwr yw Llwyd hawddgar a llon—diwgus
Mae degau o dystion;
A'i dyner briod union,
Gwraig landeg, hardd-deg yw hon.

Plant iachus hoenus hynod—mawr rinwedd,
A morwynion gwiwglod;
A gweision wedi'u gosod
I bob swydd yn rhwyld dan rhod.

Meirch tewion, loywon liwiau,—a chywrain
Wych eirioes gerbydau;
A gyrwyr o'r rhai gorau—
Nid meddwon pengeimion gau.

Cig yn fwyd mewn cegin fawr—a siwgwr,
A phob seigiau gwerthfawr;
Dewisol dŷ dieisawr,
I bawb oll, yw hwn bob awr.

Yna cefais gymhelliad taer gan Mr. a Mrs. Lloyd i aros yno y noson hòno a thranoeth, ac addewid y cawn lety a bwyd yn rhad gyda rhwyddineb. Yna atebais fy mod wedi arfaethu myned i'r Diosg i ymweled â'r hen Griffith Risiart o'r Ddol-gam, ac yn benddifaddau i ymweled â'r Gwir Barchedig Samuel Roberts, un o brif wroniaid yr oes fel pregethwr, bardd, a rhyddieithwr. Yna diolchais iddynt am eu caredigrwydd, a chychwynais tua'r Diosg: cefais gyfaill i'm hyfforddi nes daethym ar gyfer y tŷ, a dangosodd i mi bontbren yn croesi yr afon. Erbyn mynel ati, yr oedd mor llithrig a'r gwydr gan rew ac eira: meddyliais yn y fan am y diwdddar Richard Jones, Llwyngwril, yr aethai ef ddeng milldir o gwmpas yn hytrach na myned ar hyd-ddi: pa fodd bynag aethym i ar hyd-ddi yn ddiogel trwy ymaflyd yn y ganllaw, a cherddais hyd heol union nes cyrhaedd at borth y tŷ. Curais y ddor, a phwy debygwch chwi a ddaeth i agor ond yr hen Samuel ei hunan (nid rhyw "ddrychiolaeth" fel hwnw a ddaeth at ddewines Endor). Wedi cyfarch gwell yr i'n gilydd, cefais wahoddiad at y tân, lle yr oedd yr holl deulu wedi ymgrynhoi yn nghyd gan erwinder oerfel. Sylwais eu bod yn ateb i'r darluniad a roddir o rai yn y sefyllfa hono, sef tŷ, a thân, a theulu dedwydd. Dyna yr olwg a gefais arnynt. Yn uniongyrchol dechreuasom ymddyddan am y naill beth a'r llall, a'r cwbl eto mewn rhyddiaith. Yn mhen ychydig meddyliais y dylaswn gyfansoddi rhai llinellau barddonol; a phenderfynais na thalai i mi gymeryd y mesurau caethion, gan fod fy nghoelbren wedi disgyn yn mhlith pleidwyr y mesurau rhyddion. Bum enyd cyn penderfynu pa fesur rhydd a gymerwn i gyfansoddi ychydig bennillion arno, ond daethym i benderfyniad o'r diwedd mai "Bryniau'r Werddon" a gymerwn. Canodd yr hen Feirdd lawer arno yn gampus.

'Rwy'n gweled teulu selog, mawreddog, ger fy mron,
I gyd yn rhai meddylgar, myfyrgar, llachar. llon;
A "Gruffydd Risiart" beunydd sy'n llywydd yn y lle,
Hen athro cadarn, treiddgar, dyfeisgar, ydyw fe.

Mae ganddynt drefn reolaidd a boneddigaidd iawn,
I gael goleuo'u gilydd yn llwyr ar gynydd llawn;
Gofynion ac atebion yn gyson, heb un gwall,
Geir yno mewn gwirionedd, a gweddus agwedd gall.


Gwr mawr yw "Gruffydd Risiart" a chanddo reswm cry',
A'i wraig sydd bur gariadlon a thirion yn ei thŷ—
Hi geidw iawn lywodraeth yn odiaeth a dinam,
Yn dystion ceir morwynion a gweision y Ddolgam.

Mae Gruffydd yn ddiwygiwr a theg gynlluniwr llon,
Y treiswyr mawr eu trachwant frawychant ger ei fron:
Pob hen ddefodau gwarthus fe'u dengys nos a dydd,
A phob anghyfiawnderau yn nod i'w saethau sydd.

Ewch rhagoch, Gruffydd Rhisiart, fel rhyswr mawr ei fri.
Cewch filoedd o'r gwerinos i bleidio'ch achos chwi;
Boed llwyddiant ar eich llafur yn eglur is y nen,
Ymladdwch a gorchfygwch, ac na arswydwch sen.

Yn awr ni drown yn wrol, wrth reol dda a threfn,
At Samuel fwyneiddlon, sy'a galon ac yn gefn:
Mae ef yn wir offeiriad o bur agweddiad gwiw,
Da bylwydd wr dihalog, a doeth weinidog Duw.

Ei eiriau sy'n ddihareb mewn purdeb ac mewn pwyll,
A'i ymddygiadau cyson sydd dirion a didwyll;
Mae'n fardd a ffraeth dlarlithydd, a rhifydd mewn mawrhad
Pregethwr a duweinydd, a gwir ladmerydd mad.

Mae llawer iawn yn credu, ac yn mynegu 'n awr,
Y gwnai ef aelod campus yn Senedd Prydain Fawr;
Ceir ynddo gymhwysderau, mae hyny'n olau i ni,
Uwch law rhyw Doriad taeog, afrywiog, a difri.

Ond beth bynag am hyny, gellir dywedyd yn ddibetrus ei fod yn llenwi y cylchoedd y mae yn troi ynddynt yn bresen ol yn anrhydeddus. Ac hefyd am ei breswylfod dywedaf—

Mae yma deulu dedwydd a llonydd yn eu lle,
Nid hawdd cael man dyddanach, anwylach dan y ne',
Er hyny ar fy nhrafael ymadael raid i mi
Ddydd Llun y boreu bellach, a chanu'n iach i chwi.

Yna wedi i ni swpera, a gwneuthur pob peth yn weddaidd ac mewn trefn, arweiniwyd fi i yatafell lle yr oedd gwely o fâ-blu, a dillad dau wely arno, i'm cadw rhag yr oerfel. Bore dranoeth (y Sabboth) wedi i ni dorymprydio, aethom gyda'r hen Samuel i'r Hen Gapel i wrando arno yo preg— ethu, ac yn yr hwyr i Talerddig, ac yn ol i'r Diosg at y teulu. Yna aethom i orphwys hyd y bore. Cyfodasom yn brydlon; ac wedi i ni dorymprydio, dywedais fy mod ar gychwyn i'm taith, er fod y teulu yn crefu yn daer arnaf aros yno ddeuddydd yn hwy; ond myned oedd raid, a dywedais fel hyn,—

Ffarwel gyfeillion oll yn awr
Trwy'r annedd fawr ar unwaith,
'Rwy'n disgwyl cael ar fyr heb roch
Dychwelyd atoch eilwaith.

Yna brysiais tua'r Wynnstay Arms Hotel, i gyfarfod y llythyr-gerbyd, a chefais drwydded gan Mr. Lloyd i fyned ar ei nen i Fachynlleth, trwy'r rhew a'r eira mawr. Cyrhaeddasom yno mewn yspaid byr. Aethym i dŷ Mr. H. M. Pugh, fferyllydd, lle cefais dderbyniad croesawgar fel arferol. Rwyf yn awr yn cyflwyno fy niolchgarwch gwresocaf iddo ef a Mrs. Pugh, ei briod hawddgar ac anrhydeddus.

Terfynaf yn bresenol, gan ddymuno daioni i bawb, ac yn neillduol i'r rhai sydd a'u drysau yn agored i groesawu yr hen Feurig ar ei deithiau gyda "Diliau Meirion." Pan gyrhaeddais adref o'r daith hon, cyfansoddais y penillion dylynol, ar yr hen fesur "Bryniau'r Werddon."

Mae arnaf ddirfawr rwymau diamau nos a dydd,
I ganmol fy Nghreawdwr a'm pen Rheolwr rhydd;
Yr hwn o'i fawr drugaredd a'i hir amynedd maith,
Roes i mi nerth ac iechyd, yn byfryd ar fy nhaith.

Er bod i mi elynion, rhai chwerwon, creulon, croes,
Yn chwalu ac yn chwilio am le i ddifuddio f'oes;
Mae genyf hefyd ffyddlon gyfeillion mwynion mad,
Rhagorol wŷr a garant fy llwyddiant a'm gwellad.


Hen olwyn fawr rhagluniaeth wrth dirion arfaeth Duw,
Yn hylaw a'm cynhaliodd drwy uniawn fodd yn fyw;
Er amled oedd y maglau a rhwydau o bob rhyw,
Ce's ddychwel mewn tawelwch a diogelwch gwiw.

'Rwyf heddyw'n benderfynol, mae'n ddefosiynol swydd,
Mydryddu cân ysbrydol wrth reol berffaith rwydd;
O foliant i'm Creawdydd, Pen-llywydd nef a llawr,
Yr hwn sydd wedi farbed â'i nodded hyd yn awr.

Ni ddichon dyn oedrauus, anfedrus fel y fi,
Byth lunio mewn myfyrdod un teilwng glod i ti,
Sydd gadarn Dduw aufeidrol, a nerthol Dri yn Un,
Yn mhell uwch law gwybodaeth a dealldwriaeth dyn.

Cerubiaid a Seraphisid, anwyliaid pur y nef,
Ymgrymant mewn gorchwyledd o flaen ei orsedd Ef,
Gan guddio eu hwynebau—rho'nt eu coronau i lawr
Wrth draed yr Iôr tragwyddol sydd yn anfeidrol fawr.

Gan hyny deffro f'enaid, yn danbaid nos a dydd,
Goruchel f'o dy grechwen ar danau'r awen rydd,
Yn seinio cân gysonaidd a pharadwysaidd don,
O glodydd cyflwynedig i'r bendigedig Ion.

Yr Arglwydd mawr ei allu sydd yn teyrnasu'n wir,
Efe yw Llywydd cyfion, eithafion môr a thir;
Ac hefyd ceir, mae'n eglur, aneirif deulu'r nef,
Yn plygu mewn ufudd-dod, dan ei awdurdod Ef.

Mae dyled ar ddynolion yn gyson oll i gyd,
Glodfori Llywodraethwr, a Barnwr mawr y byd;—
Mae'n deilwng o anrhydedd, y parch a'r mawredd mâd,
A hyny yn ddiddiwedd er clod i'w ryfedd râd.

Boed i mi gael fy nerthu, a'm dysgu yn ddi dawl,
I eirio cân soniarus o barchus fedrus fawl;
I'r Brenin mawr tragwyddol, anfeidrol y nef wen,
Y byddo'r holl ogoniant, a'r moliant byth, Amen.

Ionawr 20, 1855.MEURIG EBRILL.



[Gan fod genyf gyfnod rhoddaf yr hyn a ganlyn yn chwanegiad at hanes y "Teithiau."]

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Gwylliaid Cochion Mawddwy
ar Wicipedia

AWDL Y BARWN OWEN A GWYLLIAID COCHION MAWDDWY.

Anfonwyd yr Awdl fer hon i gystadleuaeth yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn Dinas Mawddwy, Awst yr 2fed, 1855, dan ffug enw (Ieuan Du'r Bilwg), a'r feirniadaeth arni oedd yn debyg hyn, os wyf yn cofio yn dda: "Ieuan Da'r Bilwg, Awdl fer gampus o ran barddoniaeth, ond ei bod yn rhy fer mewn cyferbyniad i'r lleill a ddaethant i law; ac hefyd mae yr bur dafod-ddrwg, yn galw'r gwylliaid yn rhai llenog a ac yn a chweiniog ac yn ddiawliaid. Gwir i'r awdwr arfer y geiriau yma, ac nid am eu galw yn ol ychwaith, oblegyd ei fod yn tybio yn gryf, eu fod yn arfer llechu mewn tyllau ac ogofeydd yn y coedwigoedd. nad allai eu crwyn na'u dillad fod yn lân iawn; ac hefyd am eu gweithredoedd gellir dweyd yn ddibetrus eu bod yn ddieflig a bwystfilaidd i'r eithaf. Am fyrdra yr Awdl, bydded hysbys i bawb a ewyllysio wybod, mai tri diwrnod a gafodd yr awdwr i'w chyfansoddi, gan fod yr amser wedi rhedeg bron i'r pen cyn iddo feddwl cyfansoddi dim ar y testyn. Llyma hi fei ei danfonwyd i law y beirniad, heb un nod nac acen i drwsio dim ar y farddoniaeth.]

Deffro: fawen gymen gu,
I fad rwyddaidd fydryddu;
Esgyn a threiddia'n wisgi
Hyd eatrych i freinwych fri.
Dyrcha, cwblha dy orchwyl
Yn gerddgar, mewn hawddgar hwyl;
Na âd mewn modd niweidiol,
Yr un lythyren ar ol;
Olrheinia, rhestra'r awr hon,
Y cuchiawg Wylliaid Cochion;
A'r g'lanasdr mawr gelynol
A wnaent dri chan-mlwydd yn ol.

Mae'r hanes hwn mor hynod,—e gredir,
Nes gwrido mewn syndod;
Drwy holl Gymru, na bu'n bod
Y fath afrwydd faith ddifrod.


Gorthrechawl, dreisiawl drawsion,—weis bawach
Na'r Sebeaid creulon;
Dig'wilydd daeog alon,—llawn bariaeth,
Llu o rywogaeth waetha'r lloerigion.

Gwallus gynddeiriog wylliaid,—au hantur
Tu hwnt i'r Caldeaid;
Lladron anferth, certh eu caid,
Mwy denawl na'r Midianiaid

A ddaethant mal goddeithiaid—uffernawl
A ffyrnig wallgofiaid;
I'r wlad hon yn hyfion haid,
I reibio'n waeth na 'Rabiaid.

Mintai o ddrygiawg heriawg ddybirod,
Llu anhygar 'run fath a llwynogod:
Mileiniaid rhuthrawg, lleuawg, fel llewod;
Cenawon—amryw megys cwn Nimrod;
Gweis diafol gas eu defod,—melldigawl,
A chroes feginawl, echrys fwgauod.

Gwarthus, ryfygus fagad—o frydiawl
Hy' fradwyr didoriad;
Câd farus, a'u cyd-wriad
Oedd tyru i lethu'r wlad.

Eu prif wersyll erchyll hwy,
Meddynt, oedd cwmwd Mawddwy;
Fel gwaed-gwn a gwyll-gwn gau,
Llechasant mewn llochesau.
Addug chwiw ladron oeddynt,
Tri gwaeth na gwŷr Troia gynt;
Crwydriaid na bu gwylliaid gwaeth,
Llin wiberod, llawn bariaeth.
Dyliaid o amryw dalaeth,
Fel rhyw hid ddiriaid a ddaeth
Yn fyddin fawr anfoddawl,
Dan faner hell, dywell, diawl;
A rhyw flaidd, drymaidd, dremynt,—mor giaidd
A llew diornaidd, yn llyw du arnynt.


O'u tyllau hwy aent allan—yn ffrostus,
Gwnaent ffrystiawl gyflafan;
Gan geisio rheibio i'w rhan
Oludoedd Mawddwy lydan.

Segurwyr gwancus awyddus oeddynt,
Dreigiau anheilwng, drwg iawn eu helynt;
Ellyllon eiddig oll, ell o naddynt;
G'lanastra faidd, noethaidd, a wnaethynt;
Llywio a baeddu'a mhob lle y byddynt;
Y gwartheg gorau'n ddegau a ddygynt,
A'r diadellau o'r marau mynynt;
Ieir, gwyddau, byddod, a bychod bachynt,
A diogel eu dygynt,—i'w sarphaidd
Byrth hainrudd i ymborthi arnynt.

Och ynfydion trawsion trwch,—rheibiedig
Deulu amsiddig a dilonyddweb.

Ysgarthion, poerion pob pau,
A chwyddog ddrwg fucheddau;
Gwedi bod mewn gŵyd a bâr,
Yn eu hagwedd anhygar.
Yn difa fel rhyw bla blwng,
Dyheullyd a diollwng;
Gelynol fu'r galanas
A wnaethynt fel corwynt câs,
Nes oedd y wlad bron suddaw
Gan uthrol ddifrifol fraw.

Ond drwg mewn helynt rhy-gas
Y ceidw diawl ei wydiawl was;
Felly rhai'n, darwain wnai dydd
Du hynod eu dihenydd;
Ha'r cigyddion! budron, bas,
Iddynt daeth diwedd addas.

Rhoi hysbysiaeth a gwybodaeth,
I'r llywodraeth, wnaed o'r lladron;

Er cael odiaeth waredigaeth
O'u hir fariaeth a'u harferion:

Cafwyd banerawg, wirfoddawg fyddin
O filwyr nerthol, breiniol y brenin,
Rhyfelwyr clodfawr, cieisawr iesin,
A chadfridogiaid, debriaid dibrin,
Gwŷr o ddiadlam, hen gawraidd Edlin;
Boneddion hylwydd, gwiwrwydd, a gwerin,
Gorfyddwyd, trechwyd mewn trin—y Gwylliaid
Grymus ysgythiaid, a'u gormes gethin.

Cadarn farnwr cu odiaeth,
Heb orn yn ddewr, i'w barnu ddaeth,
Ar yr ynfyd wŷr anferth,
Rhoddodd gadarn, gollfarn gerth.

Mewn iaith bendant, heb walliant, yn bwyllog,
A geiriau manwl, treiddgar, a miniog,
Y Barwn Owain, a'u bwriai'n euog
Ormesiaid ciaidd, llychwinaidd, chweiniog,
Llu o afrwyddion fradwyr llofruddiog,
Barbariaid glythion, gwehilion halog,
Crychion ysbeilwyr crachog,—drygionus
Genawon gwydus, ail i gwa gwaedog.

Crogwyd cant dan warantau,—i'w gorfod
O gerfydd eu gyddfau;
Ac yn ffosydd, corsydd cau,
I'r hen faeddod rho'en' feddau.

Ffodd rhyw haid o'r Gwylliaid gau
I'w ffaidd ddrewllyd ffauau
Ger llaw'r ffordd, fel gosgordd gas
O daerion fleiddiau diras.

Ymguddio yno enyd,
Mewn llidiog, afrywiog fryd;
A wnaeth y gweilch annethawl,
Sef gweision digllon y diawl,

Fel rheibus a gwancus gwn,
A bwriad i ladd y Barwn;
Gwylio wnaent nes y gwelen' o
Mewn tabar yn myn'd heibio
O'r llwyn, i Drefaldwyn fawr,
Fel ynad a gwiw flaenawr,
I gu weinyddu' n addas
Ei swydd gerth, geinferth heb gas
Yn y llys, hysbys fu'i hynt
Ddiweddaf, rywfodd iddynt.
Och! ysywaeth, daeth y dydd
I'r prydferth, fawrnerth farnydd,
Ar ei farch, yn llawn parch pur,
Drwy wiwglod yn dra eglur,
Ddyfod, Ow! syndod yw sôn,
I lanerch ei elynion.
Rhuthro dan wthio wnaethynt,
Llu'r fall, heb pall, o bob pwynt,
In genawon egniol,
Fel hen eirth o'i flaen a'i ol,
 Rho'es y gâd frathiad drwy fron
Yr anwyl farnwr union.

Gwedi hyn heb ronyn braw,
Y diawliaid olchai'u dwyław
Yn ei waed, mewn drwg nwydau,
Oh'r creulon, gigyddion gau!

Ow! y Barwn pybyrwedd,— y gwron
A garai dangnefedd,
Gwanar uchelaf Gwynedd,
Dien bôr, ro'ed yn y bedd,

Cyrchwyd pan gwelwyd y gwall
Fanerog fyddin arall,
O wisgi gawri gwrol,
Da drwy nerth, a didroi'n ol;
I lwyr ddinystrio yn lân
Y dieflig wylliaid aflan.


Nodiadau

golygu
  1. Pelenau y crâch feddygon
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.