TELYN FUD

WELAIS un ymhlith y defaid
Derfyn hafaidd ddydd;
Gwelais degwch rhos bendigaid
Ar ei ieuanc rudd;
Canai'r chwa wrth fynd a dyfod
Rhwng y grug a'r dail;
Canai yntau'n ddiarwybod
Gydai lais di-ail.
Gwelais ef yng ngŵyl ei henfro
Gynt yn canu cân,
Gwelais wedyn ei arwisgo
 llawryfau glân;
Clywais sŵn ei lais yn torri,
Fin alloraur Iôr,
Megis sŵn ewynnau lili
O tan wynt y môr.
Wedyn gwelais ef yn edwi
Tan y barrug gwyn,
Ambell islais pêr yn torri
Tros ei wefus syn;
Yna gwelais ddyfod trosto
Olau'r machlud drud;
Hithau'r gân am byth yn peidio
Ar ei wefus fud.
Sefais wrth ei fedd un hwyrddydd,
Bedd y gobaith glân
Wybu londer plant y mynydd,
Wybu ganu cân;
A phe medrwn torrwn innau
Ar ei feddfaen fud
Ddarlun telyn gydai thannau
Wedi torri i gyd.
Hedd Wyn

Bywgraffiad golygu

Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (1887-1917). Roedd yn dod o Drawsfynydd Sir Feirionydd ac yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ef enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, ond yr oedd wedi ei ladd chwe wythnos yng nghynt mewn brwydr yn Ypres a dyna pam y gelwir yr Eisteddfod honno yn Eisteddfod y Gadair Ddu.

Gweler arall golygu