Telyn Dyfi/Cyflafan Bethlehem
← Y Gofwy Barnol | Telyn Dyfi gan Daniel Silvan Evans |
Heddyw ac Efory → |
V. CYFLAFAN BETHLEHEM.
'Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rahel yn wylo am ei phlant; ac ni fynai ei chysuro, am nad oeddynt.'—Matt. ii. 18.
AETH llais gorfoledd Iudah'n brudd;
Ni ddyrch y cerddor lawen lef;
A thelyn y prophwydi sydd
Yng nghrog wrth orsedd aur y nef.
Taen tynged drom dros Bethlehem,
Mae'n llif o waed ei glynoedd hi!
Anobaith yn ei phyrth a drem,
A thrwyddi traidd wylofus gri!
Y baban tlws a wên ar fron
Ei dirion fam yn nechreu'r dydd :
Cyn hwyr hun is y marwol don,
Yn oer ei fron, yn welw ei rudd!
Alaethwch, famau! gwae a'ch todd;
Difrododd llaw y creulawn chwi:
Eich plant nid ynt! oer fedd a'u clodd,
A'u gwaed a chwydd y tonnawg li!
Nid ydynt! ond at fintai lân
Seraphim gwlad anfarwol hoen
Eu hyspryd ffoes, i chwyddo cân
Ardderchog lu merthyri'r Oen.