Telyn Dyfi/Myfi a Bechais

Cyfododd Crist yr Arglwydd Telyn Dyfi

gan Daniel Silvan Evans

Yr Esgyniad


XLIV.
MYFI A BECHAIS.

'Pechais, Arglwydd, pechais . . . . maddeu i mi,
O Arglwydd, maddeu i mi.'—Gweddi Manas.

MYFI, O Arglwydd, bechais,
Trugarog ydwyt Ti;
I ormod rhysedd rhedais,
O maddeu, maddeu i mi;
Dwg Di fy nhraed i ryddid,
I ryddid meibion Duw,
A chynnal fi A'th Yspryd,
A digon, digon yw.

Dy Enw ydyw Cariad,
Nid cariad ond Tydi,
Dy Briod Fab traddodaist
O gariad drosom ni;
Maddeuant i bechadur
Gan neb ond Ti nid oes;
Dilea fy nghamweddau,
Er mwyn haeddiannau'r Groes.
J.H.S.E.


Nodiadau

golygu